English

Cynulleidfa a awgrymir: staff ysgol, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Consol Google Admin yw’r man lle y gallwch chi reoli eich Chromebooks a dyfeisiau eraill a reolir. Gallwch ei ddefnyddio i osod gosodiadau a chyfyngiadau dyfais, defnyddio apiau ac estyniad, ffurfweddu cysylltiadau rhwydwaith a mwy.

Er mwyn gallu defnyddio consol Google Admin, ewch i: https://admin.google.com


Trefnir dyfeisiau a defnyddwyr yn Unedau sefydliadol (Organsiational Units). Mae 4 uned sefydliadol (OU), gyda phob un wedi'u rhannu'n hierarchaeth o ranbarthau, awdurdodau lleol ac ysgolion.

  • Dyfeisiau
  • Llywodraethwyr
  • Staff
  • Myfyrwyr

Gellir creu OUs ychwanegol ar y canghennau Dyfeisiau (Devices), Staff a Dysgwyr (Learners) yn unig. Gall hyn ganiatáu i wahanol bolisïau dyfeisiau ac apiau gael eu cymhwyso i wahanol ddyfeisiau neu defnyddwyr.

Ychwanegu Unedau Sefydliadol (OUs) Dyfais

  1. Ewch i Organisational units
  2. Chwiliwch am yr OU i greu OU plentyn ynddo
  3. Cliciwch ar y + ar y rhes OU o dan y gangen Devices
  4. Rhowch enw a disgrifiad ar gyfer yr OU hwnnw
  5. Cliciwch Create

Ychwanegu Unedau Sefydliadol (OUs) Defnyddiwr

  1. Ewch i Organisational Units
  2. Chwiliwch am yr OU Staff neu Learners ar gyfer eich ysgol
  3. Dewiswch yr OU Staff neu Learners i greu OU plentyn ynddo
  4. Cliciwch ar y + ar y rhes OU o dan y gangen Staff neu Learners
  5. Rhowch enw a disgrifiad ar gyfer yr OU hwnnw
  6. Cliciwch Create

 

Gwybodaeth

Unwaith y cânt eu creu, dim ond tîm Hwb all olygu neu eu dileu uned sefydliadol. Cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb am gymorth gyda hyn hwb@llyw.cymru / 03000 25 25 25.

Symud defnyddwyr i Uned Sefydliadol sydd newydd ei chreu

Ar ôl i chi greu OU o fewn OU Dysgwyr (Learners)  neu Staff (Staff) ar gyfer eich ysgol, gall Pencampwyr Digidol symud defnyddwyr i'r OU honno.

  1. Ewch i Users
  2. Chwiliwch am yr OU lle mae'r defnyddwyr yr ydych am symud yn preswylio ynddo
  3. Dewiswch y defnyddwyr yr ydych am eu symud
  4. Dewiswch y gwymplen “More” ar frig y dudalen a dewis “Change organisational unit
  5. Dewiswch yr OU newydd yr ydych yn dymuno i'r defnyddwyr hynny breswylio ynddo a chlicio parhau
  6. Dewiswch Confirm i gadarnhau'r symud.

 

Gwybodaeth

Os yw'r uned sefydliadol yn cael ei greu y tu allan i gangen Staff (Staff) neu Ddysgwr (Learners), bydd unrhyw ddefnyddwyr sy'n cael eu symud i'r OU yn cael eu symud yn ôl i'w lleoliad gwreiddiol gan y gwasanaeth darparu.

 


Mae gweinyddwyr Hwb consortia, gweinyddwyr Hwb ALlau a hyrwyddwyr digidol ysgolion yn gallu defnyddio consol Google Admin gyda'r un hawliau, ond maent yn cael eu cwmpasu i weld yr unedau sefydliadol priodol yn unig.

Er enghraifft, dim ond yr OUs ar gyfer eu hysgol y bydd hyrwyddwr digidol ysgol yn eu gweld, tra bydd gweinyddwr awdurdod lleol yn gweld lefel uwch sy'n cynnwys yr holl ysgolion yn yr awdurdod lleol hwnnw.

Gwybodaeth

Mae defnyddwyr Google Admin wedi dirprwyo mynediad i gyflawni'r tasgau priodol. Dim ond i dîm Hwb y mae rhai lleoliadau, megis y rhai sy'n effeithio ar y tenant cyfan, ar gael.


Dyfais sy'n rhedeg system weithredu Chrome Google yn lle Windows neu MacOS yw Chromebook. Dyluniwyd Chromebooks i'w ddefnyddio'n bennaf tra'u bod wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd, gyda'r rhan fwyaf o apiau a dogfennau yn y cwmwl.

Gall Chromebooks weithio mewn 'modd ciosg' lle nad ydynt yn rhan o barth nac yn cael eu rheoli, ond ni argymhellir hyn. Rydym yn argymell y dylai pob ysgol gofrestru eu Chromebooks.

Gellir cofrestru a rheoli Chromebooks drwy'r parth hwbcymru.net Mae manteision hyn yn cynnwys:

  • caniatáu i ddefnyddwyr fewngofnodi'n uniongyrchol i'r Chromebooks gyda manylion Hwb (sy'n golygu eu bod wedi mewngofnodi i'r porwr ac apiau Hwb yn uniongyrchol).
  • ennill y gallu i reoli a gorfodi polisïau dyfeisiau sydd wedi'u gosod yng nghonsol Google Admin, gan gynnig gwell mesurau diogelwch.

Gall ysgolion weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid Google i brynu trwyddedau rheoli dyfeisiau a chofrestru Chromebooks ar barth hwbcymru.net

Mae tri opsiwn cofrestru ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru:

  • Prynu a chofrestru Chromebooks newydd

    Mae ysgolion yn prynu Chromebooks a thrwyddedau rheoli dyfeisiau gan bartner Google i'w cofrestru ar barth hwbcymru.net

    Y broses ar gyfer ysgolion:

    1. Mae'r ysgol yn caffael Chromebooks a thrwyddedau rheoli dyfeisiau.
    2. Mae partner Google yn cofrestru'r Chromebooks.
    3. Mae Chromebooks yn cael eu cludo i'r ysgol yn barod i'w defnyddio.
  • Cofrestru Chromebooks nad ydynt yn cael eu rheoli

    Mae angen i ysgolion sydd â Chromebooks nad ydynt yn cael eu rheoli ac sy'n dymuno eu rheoli ar barth hwbcymru.net brynu trwyddedau rheoli dyfeisiau gan bartner Google.

    Y broses ar gyfer ysgolion:

    1. Mae'r ysgol yn caffael trwyddedau rheoli dyfeisiau.
    2. Mae'r ysgol yn trefnu i brawf prynu gael ei anfon i Ddesg Wasanaeth Hwb (hwb@llyw.cymru <mailto:(hwb@llyw.cymru>).
    3. Mae Desg Wasanaeth Hwb yn darparu cyfrif cofrestru
    4. Mae dyfeisiau yn cael eu cofrestru ar Hwb gan ddefnyddio'r cyfrif a ddarperir

    Rhaid ailosod dyfeisiau cyn eu cofrestru gyda Hwb.

  • Trosglwyddo trwyddedau rheoli dyfeisiau Chromebook

    Ysgolion sydd â Chromebooks wedi'u cofrestru ar barth ar wahân i hwbcymru.net sy'n dymuno trosglwyddo.

    Y broses ar gyfer ysgolion:

    1. Mae Google admin mewn parth ar wahân i hwbcymru.net yn cofnodi cais am gymorth gyda Google i drosglwyddo trwyddedau
    2. Mae'r ysgol yn trefnu i brawf trosglwyddo gael ei anfon i Ddesg Wasanaeth Hwb (hwb@llyw.cymru).
    3. Mae Desg Wasanaeth Hwb yn darparu cyfrif cofrestru
    4. Mae dyfeisiau yn cael eu cofrestru ar Hwb gan ddefnyddio'r cyfrif a ddarperir

    Rhaid dad-ddarparu dyfeisiau o'r parth ar wahân i hwbcymru.net a'u hailosod cyn eu cofrestru gyda Hwb.


Pan fydd Chromebook yn cael ei gofrestru i gonsol Google Admin, fe'i gosodir yn awtomatig yn yr OU cywir ar gyfer yr ysgol neu'r awdurdod lleol. Rheolir hyn gan y cyfrif cofrestru a ddefnyddir.

Gellir symud y dyfeisiau hyn i ddyfais OU wahanol i gael polisïau gwahanol, neu i gymryd camau eraill arnynt megis analluogi, dad-ddarparu neu ailosod.

Gwybodaeth

Gellir rheoli Chromebooks Unigol drwy glicio arnynt ar y rhestr o ddyfeisiau neu drwy chwilio amdanynt ym mar chwilio Google Admin. Gellir gweld a/neu olygu gwybodaeth ychwanegol ar ddyfais unigol, megis asedau neu leoliad.

    1. Ewch i Devices > Chrome > Devices
    2. Chwiliwch am OU sy'n cynnwys y ddyfais/dyfeisiau
    3. Chwiliwch neu hidlwch ymhellach os oes angen
    1. Ewch i'r rhestr o ddyfeisiau fel uchod
    2. Dewiswch y blwch ticio wrth ymyl y ddyfais/dyfeisiau
    3. Dewiswch yr eicon Move yn y gornel dde uchaf
    4. Chwiliwch am yr OU targed
    5. Cliciwch Move
  • Mae angen dad-ddarparu i dynnu'r ddyfais oddi ar gonsol Google Admin. Heb ddad-ddarparu yn gyntaf, bydd y ddyfais yn dal i fod wedi'i chofrestru hyd yn oed ar ôl ei hailosod.

    1. Ewch i'r rhestr o ddyfeisiau fel uchod
    2. Dewiswch y blwch ticio wrth ymyl y ddyfais/dyfeisiau
    3. Cliciwch yr eicon Deprovision Selected devices yn y gornel dde uchaf
    4. Dewiswch yr opsiynau priodol
    5. Cliciwch Deprovision

Gellir creu polisïau ar unrhyw lefel uned sefydliadol i ffurfweddu gosodiadau neu gyfyngiadau ar y dyfeisiau neu'r defnyddwyr o fewn yr OU, ac fe'u hetifeddir gan OUs y plant.

Ar gyfer gosodiadau defnyddiwr, mae angen i chi greu polisi ar yr OUs defnyddiwr eich bod am dderbyn y gosodiadau hynny. Er enghraifft, os ydych chi am i bob defnyddiwr yn yr ysgol gael tystysgrif, mae angen i chi ei hychwanegu at yr OU Staff a'r OU Myfyrwyr.

Gellir defnyddio polisïau dyfeisiau Chrome i reoli gosodiadau sy'n berthnasol i ddyfais Chromebook neu Neverware. Mae gosodiadau dyfais yn berthnasol i unrhyw un sy'n defnyddio'r ddyfais honno.

Rhybudd

Rhaid ffurfweddu polisïau dyfeisiau Chrome ar uned sefydliadol yn y gangen Devices.

Gellir creu polisïau dyfeisiau lluosog ar OUs dyfeisiau ar wahân i ddarparu set wahanol o ffurfweddau. Bydd dyfeisiau yn derbyn y polisi a ddyrennir i ba bynnag OU y mae ynddi, felly gellir ei symud i OU arall i dderbyn polisi gwahanol.

Er enghraifft, gallech greu polisi 'modd ciosg' ar OU 'dyfais ciosg', fel bod unrhyw ddyfais a osodir yn yr OU honno wedi'i chloi fel dyfais ciosg.

Etifeddir gosodiadau nad ydynt wedi'u nodi'n benodol mewn polisi o'r polisi uwch.

I weld, diwygio neu greu polisi dyfais:

  1. Trwy'r brif ddewislen, llywiwch i Devices > Chrome > Settings > Device
  2. Chwiliwch a dewiswch yr OU perthnasol yr ydych am gymhwyso'r polisi
  3. Ffurfweddu'r gosodiadau – gallwch chi chwilio am osodiad penodol gan ddefnyddio'r opsiwn Search or add a filter
  4. Cliciwch Save

I gael rhagor o wybodaeth am y gosodiadau sydd ar gael mewn polisi dyfais Chrome, gweler erthygl cymorth Google - https://support.google.com/chrome/a/answer/1375678?hl=en-GB

Cymhwysir polisïau Chrome ar gyfer defnyddwyr pan fydd defnyddiwr yn mewngofnodi i ddyfais Chromebook neu Neverware, neu borwr Chrome – cymhwysir y polisi waeth beth fo rheolaeth y ddyfais.

Mae rhai gosodiadau defnyddiwr cyffredin yn cynnwys hafanau, nodau tudalennau a reolir neu bapur wal ar gyfer dyfeisiau a reolir.

Gwybodaeth

Nid yw polisïau defnyddwyr ar gael ar gyfer Google Admins. Gellir gwneud cais i Ddesg Wasanaeth Hwb i newid unrhyw osodiadau defnyddiwr. Cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb am gymorth gyda hyn hwb@llyw.cymru / 03000 25 25 25.

Gellir ffurfweddu dyfeisiau Chromebooks a Neverware i ganiatáu sesiynau gwesteion a reolir, sy'n golygu y gall defnyddiwr fewngofnodi i'r ddyfais heb gyfrif a gallu defnyddio rhai polisïau a chyfyngiadau.

Mae'r gosodiadau sydd wedi'u ffurfweddu mewn sesiwn gwesteion a reolir yn debyg iawn i osodiadau defnyddiwr, ond dim ond i'r cyfrif 'gwestai' sy'n defnyddio'r ddyfais y maent yn berthnasol.

Rhybudd

Rhaid ffurfweddu sesiynau gwesteion a reolir ar uned sefydliadol yn y gangen Devices.

Galluogi, analluogi neu ffurfweddu sesiynau gwesteion a reolir

  1. Ewch i Devices > Chrome > Settings > Managed Guest Sessions
  2. Dewiswch yr OU sy'n cynnwys y dyfeisiau
  3. Newidiwch y gosodiad ar gyfer Managed guest session
  4. Ffurfweddwch unrhyw osodiadau ychwanegol
  5. Cliciwch Save

Ni chaiff unrhyw ddata ar y ddyfais eu cadw yn ystod sesiynau gwesteion a reolir. Gall y defnyddiwr fewngofnodi i Hwb o hyd a chadw gwaith yn ei Google Drive neu ei OneDrive drwy borwr gwe Chrome.

Rhybudd

Rhaid neilltuo estyniadau diwedd apiau i'r ddyfais OU i fod yn hygyrch yn y sesiwn gwesteion a reolir. Efallai na fydd rhai apiau neu estyniadau yn gweithio'n iawn gan fod angen cyfrif defnyddiwr i fewngofnodi.

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r sesiwn gwesteion a reolir, cyfeiriwch at erthygl cymorth Google - https://support.google.com/chrome/a/answer/3017014?hl=en-GB

Gellir sicrhau bod argraffyddion lleol a rhwydwaith ar gael ar ddyfeisiau Chromebook neu Neverware heb fod angen Google Cloud Print. Gellir defnyddio'r rhain mewn perthynas â defnyddwyr neu ddyfeisiau.

Gwybodaeth

Gallwch greu proffil Wi-Fi ar wahân ar gyfer y ddyfais a'r defnyddiwr. Fel hyn, byddai'r ddyfais yn cysylltu ag un rhwydwaith tra byddai'r defnyddiwr yn cysylltu ag un gwahanol unwaith y byddai wedi mewngofnodi.

    1. Ewch i Devices > Chrome > Printers
    2. Chwiliwch am yr OU sy'n cynnwys y defnyddwyr neu'r dyfeisiau
    3. Cliciwch ar y botwm +
    4. Cliciwch ar ADD PRINTER
    5. Rhowch fanylion yr argraffydd - defnyddiwch 631 ar gyfer y port ac ipp/print ar gyfer y path, er y gall hyn amrywio gyda gweithgynhyrchwyr argraffyddion
    6. Cliciwch ADD PRINTER

    Rhaid rhannu argraffyddion i ddyfais neu ddefnyddiwr cyn iddynt ddod ar gael.

    1. Cliciwch ar yr argraffydd yn y rhestr
    2. Dewiswch yr opsiwn priodol, yn dibynnu ar a yw'r argraffydd wedi'i neilltuo i OU defnyddiwr neu ddyfais
    3. Cliciwch Save

    Gellir ychwanegu argraffyddion mewn swmp hefyd drwy ddewis Upload printers yng ngham 4 a lanlwytho ffeil CSV.

    1. Ewch i Devices > Chrome > Printers
    2. Chwiliwch am yr OU gyda'r argraffydd penodedig
    3. Dewiswch y blwch ticio wrth ymyl yr argraffydd(ion) sydd i'w dileu
    4. Cliciwch ar yr eicon bin yn y gornel chwith uchaf, yna DELETE i gadarnhau
    1. Ewch i Devices > Chrome > Printers
    2. Chwiliwch am yr OU gyda'r argraffydd penodedig
    3. Cliciwch ar yr argraffydd i'w olygu
    4. Diwygiwch y manylion yn ôl y gofyn

Gellir defnyddio polisïau rhwydwaith i wthio proffiliau Wi-Fi i ddefnyddiwr neu ddyfais. Gallwch hefyd bennu cyfyngiadau eraill ar Chromebooks megis caniatáu cysylltiadau â rhwydweithiau Wi-Fi wedi'u ffurfweddu yn unig.

Gellir defnyddio proffiliau Wi-Fi mewn perthynas ag OUs y defnyddiwr neu'r ddyfais, ac fe'u hetifeddir gan OUs y plentyn.

    1. Ewch i Devices > Network
    2. Chwiliwch am yr OU sy'n cynnwys y dyfeisiau neu'r defnyddwyr
    3. Dewiswch Create WI-FI network
    4. Dewiswch y blwch ticio ar gyfer Chromebooks (drwy ddefnyddiwr) os ydych chi'n neilltuo'r proffil i OU defnyddiwr, neu Chromebooks (drwy ddyfais) os ydych chi'n neilltuo'r proffil i OU dyfais
    5. Rhowch fanylion y rhwydwaith Wi-Fi
    6. Cliciwch Save
    1. Ewch i Devices > Network
    2. Chwiliwch am yr OU sy'n cynnwys y dyfeisiau neu'r defnyddwyr
    3. Cliciwch ar Wi-Fi
    4. Cliciwch ar y proffil Wi-Fi a ddymunir
    5. Golygwch y manylion Wi-Fi, neu cliciwch REMOVE i'w ddileu

Gellir neilltuo tystysgrifau i ddefnyddwyr i'w defnyddio ar Chromebooks, dyfeisiau Neverware neu borwyr Chrome. Gan fod tystysgrifau wedi'u neilltuo i'r defnyddiwr, dim ond pan fydd y defnyddiwr yn mewngofnodi y maent yn berthnasol ac maent yn annibynnol ar y ddyfais a ddefnyddir.

Rhybudd

Mae tystysgrifau'n seiliedig ar ddefnyddiwr a rhaid eu cymhwyso i OU defnyddiwr

    1. Ewch i Devices > Network
    2. Chwiliwch am yr OU sy'n cynnwys y defnyddwyr
    3. Dewiswch CREATE CERTIFICATE
    4. Enwch y dystysgrif a'i lanlwytho
    5. Dewiswch y blwch ticio wrth ymyl Chromebook o dan Certificate Authority os yw'n briodol – defnyddir hyn yn gyffredin ar gyfer arolygiad SSL ar hidlydd gwe
    1. Ewch i Menu> Devices > Network
    2. Chwiliwch am yr OU sy'n cynnwys y defnyddwyr
    3. Cliciwch ar Certificates
    4. Hofrwch dros y dystysgrif darged a chliciwch Delete

    I ychwanegu tystysgrif newydd yn lle'r hen un, mae angen i chi ddileu'r un presennol ac ychwanegu un newydd.


Cyn y gellir gosod ap neu estyniad, bydd angen i Hyrwyddwr Digidol ei gymeradwyo i'w ddefnyddio. Gall ap gael ei neilltuo gan Hyrwyddwr Digidol neu weinyddwr Hwb hefyd, yna bydd yn gosod yn awtomatig yn eich porwr Chrome neu eich Chromebook a reolir. Cyfeiriwch at Bolisi Preifatrwydd Hwb cyn defnyddio unrhyw apiau.

Rhybudd

Mae apiau ac estyniad, gan gynnwys apiau Android, yn seiliedig ar ddefnyddwyr felly mae'n rhaid eu cymhwyso i OU y defnyddiwr

Rhybudd

Bydd neilltuo ap Google yn rhoi caniatâd iddo gael gafael ar wybodaeth ar y ddyfais y mae wedi'i osod arno, megis nodau tudalennau neu leoliad y defnyddiwr, heb ganiatáu i'r defnyddiwr terfynol ei adolygu na hyd yn oed ei analluogi.

    1. Ewch i Menu > Devices > Chrome > Apps and extensions
    2. Ehangwch y gangen am Staff neu Students a dewiswch yr OU rydych angen ymgeisio’r ap neu estyniad i.
      Awgrym: Os ydych yn dewis OU yr ysgol (Rhif DfES) bydd yn ymgeisio’r ap i bob sub-OU
    3. Cliciwch ar y + melyn yn y gornel waelod chwith, a dewiswch Add from Chrome Web Store
    4. Gan ddefnyddio'r bar chwilio, chwiliwch am yr estyniad a ddymunir yn Chrome Web Store.
    5. Cliciwch Select wrth ymyl yr estyniad perthnasol.
    6. Cadarnhewch fod y Polisi Gosod wedi'i osod i Allow Install
    7. Cliciwch y togl i alluogi Include in Chrome Web Store
    8. Cliciwch SAVE
    1. Gallwch gymeradwyo ap neu estyniad gan ddilyn y camau a amlinellir uchod.
    2. Gyda'r ap perthnasol wedi'i ddewis, newidiwch y polisi gosod drwy glicio'r saeth i lawr a dewis Force install
    3. Cliciwch Save
    1. Ewch i Devices > Chrome > Apps and extensions > Users and Browsers
    2. Ehangwch y gangen a dewis yr OU ble mae’r ap neu estyniad wedi neilltuo
    3. Dewiswch i amlygu’r ap neu'r estyniad perthnasol.
    4. Cliciwch yr eicon 'bin' ar yr ochr dde
    5. Cliciwch Save
    1. Ewch i https://chrome.google.com/webstore a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.
    2. Chwiliwch am yr estyniad cymeradwy gan ddefnyddio'r bar chwilio (yn y gornel chwith uchaf).
    3. Ar yr estyniad perthnasol, cliciwch Add to Chrome.
    4. Yna, bydd ffenestr naid yn ymddangos yn amlinellu beth fydd yr estyniad hwn yn gallu ei wneud yn eich porwr. I barhau, cliciwch Add extension. Fel arall, gallwch glicio Cancel.
    5. Yna, bydd eicon ar gyfer yr estyniad hwnnw yn ymddangos ar frig eich porwr. Cliciwch ar yr eicon i ddefnyddio'r estyniad.

    Dileu estyniad

    1. De-gliciwch ar yr eicon ar gyfer yr estyniad perthnasol yn eich bar offer porwr Chrome > Cliciwch Remove from Chrome.
    2. Cliciwch Remove.

    Diffodd estyniad

    Rhoi'r gorau i ddefnyddio estyniad dros dro:

    1. De-gliciwch ar yr eicon ar gyfer yr estyniad perthnasol yn eich bar offer porwr Chrome > Cliciwch Manage extensions.
    2. Fe welwch chi 'dogl' glas tuag at frig y dudalen gyda'r gair 'On' ar yr un llinell ag ef. Cliciwch ar y 'togl' hwn i ddiffodd yr estyniad.

    Sylwer: Ni all y defnyddiwr terfynol ddiffodd na dileu estyniadau sydd wedi'u gosod. Rhaid i Hyrwyddwr Digidol neu weinyddwr Hwb wneud hyn drwy borth Google admin.

  • Os ydych chi'n hyrwyddwr digidol yn eich ysgol neu'n weinyddwr Hwb yr awdurdod lleol, gallwch alluogi apiau Android ar gyfer eich dyfeisiau.

    Dilynwch y camau hyn i alluogi apiau Android ar gyfer eich sefydliad.

    1. Ewch i Devices > Chrome > Apps & extensions > Users and browsers
    2. Ehangwch y gangen am Staff neu Students a dewiswch yr OU rydych angen ymgeisio’r ap neu estyniad i.
      Awgrym: Os ydych yn dewis OU yr ysgol (Rhif DfES) bydd yn ymgeisio’r ap i bob sub-OU
    3. Ar y dde eithaf, cliciwch y gocsen gosodiadau ar gyfer Additional settings
    4. Ar gyfer apiau Android ar Ddyfeisiau Chrome, dewiswch Allow
    5. Cliciwch Save.

    Nodwch: Y gosodiad diofyn yw bod apiau Android yn cael eu lawrlwytho a'u gosod bob tro y mae defnyddiwr yn mewngofnodi i'r ddyfais.

    I newid yr ymddygiad hwn, newidwch y gosodiadau mewngofnodi i Sign-in settings : User data = Do not erase local user data - gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar gyfer hyn o dan Gosodiadau Dyfais. Bydd hyn yn caniatáu i'r ffeil (APK) gael ei storio yn lleol a’i osod pan fydd defnyddiwr newydd yn mewngofnodi ac ni fydd angen ei hail-lawrlwytho bob tro. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y bydd hyn hefyd yn defnyddio storfa’r ddyfais wrth i broffiliau defnyddwyr gael eu cadw ar y ddyfais.

     

  • Cyn gosod apiau Android ar ddyfeisiau Chrome, rhaid i chi ddilyn y canllaw yn gyntaf ar sut i alluogi apiau Android a Google Play a reolir.

    Ar ôl eu galluogi, dilynwch y camau hyn i osod apiau Android.

    1. Ewch i Devices > Chrome > Apps & extensions > Users and browsers
    2. Ehangwch y gangen am Staff neu Students a dewiswch yr OU rydych angen ymgeisio’r ap neu estyniad i.
      Awgrym: Os ydych yn dewis OU yr ysgol (Rhif DfES) bydd yn ymgeisio’r ap i bob sub-OU
    3. Cliciwch Add + yn y gornel dde isaf, yna Add from Google Play
    4. Chwiliwch am yr ap yr hoffech chi ei reoli a chlicio arno.
    5. Cliciwch Select i dderbyn hawliau'r ap ar ran eich sefydliad, cliciwch Accept.

I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb: Hwb@llyw.cymru | 03000 25 25 25.