English

Bydd dysgwyr sy’n newid ysgol yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig ar ôl iddyn nhw gael eu cofnodi ar System Rheoli Gwybodaeth eu hen ysgol fel dysgwyr sydd wedi ymadael, a’u hychwanegu at y gofrestr ar System Rheoli Gwybodaeth eu hysgol newydd.  Rhaid i’r Cleientiaid Darparu gael eu rhedeg yn llwyddiannus yn y ddwy ysgol.  Defnyddir Rhif Unigryw’r Disgybl i adnabod dysgwyr yn y system.

Cyn dechrau’r broses o drosglwyddo’ch cyfrif Hwb o’ch ysgol flaenorol i’ch ysgol newydd, noder y canlynol:

  • Meddyliwch a ydych chi am gadw unrhyw negeseuon e-bost, ffeiliau, adnoddau ac ati rydych chi wedi’u cadw yn eich cyfrif Hwb newydd. Os felly, gofalwch eich bod wedi cadw copïau i leoliad arall cyn dechrau’r broses hon. Mae hyn oherwydd os yw’ch cais yn cael ei gymeradwyo a’r broses drosglwyddo wedi’i chwblhau, bydd eich cyfrif newydd yn cael ei ddadactifadu ac yna’i ddileu ar ôl 12 mis.
  • Bydd yn rhaid i SIMS neu weinyddydd Canolfan Athrawon yn eich ysgol flaenorol fod wedi ychwanegu dyddiad gadael i’ch cofnod staff yn System Gwybodaeth Reoli’r ysgol.
  • Bydd yn rhaid i SIMS neu weinyddydd Canolfan Athrawon yn eich ysgol newydd fod wedi creu’ch cofnod staff yn System Gwybodaeth Reoli’r ysgol a chynnwys eich dyddiad cychwyn a’ch cod staff.
  • Bydd yn rhaid i gleientiaid darparu Hwb fod wedi’u cynnal yn llwyddiannus yn y ddwy ysgol.
  • Bydd angen y canlynol arnoch gan hyrwyddwr digidol Hwb yn eich ysgol newydd:
    • Eich enw defnyddiwr a chyfrinair mewngofnodi Hwb newydd.
    • Rhif AdAS eich ysgol flaenorol.

!Gellir dod o hyd i rifau AdAS ysgol yn y Rhestr gyfredol o ysgolion ar wefan Llywodraeth Cymru

  1. Ewch i https://hwb.llyw.cymru/ a mewngofnodwch i’ch cyfrif Hwb NEWYDD.
  2. Cliciwch ar Rheoli defnyddiwr.
  3. Byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi eto fel mesur diogelwch ychwanegol.
  4. Rhowch eich enw defnyddiwr a chyfrinair eto a chliciwch ar Mewngofnodi.
  5. Cliciwch ar y dudalen Fy Mhroffil ar ochr dde uchaf y dudalen.
  6. Ar y dudalen Eich Manylion, cliciwch ar y botwm Trosglwyddo Cyfrif ar yr ochr dde uchaf.
  7. Cam 1 o 3 – Rhowch Rif AdAS eich Ysgol Flaenorol (7 digid). Os yw’n gywir, bydd enw’ch ysgol flaenorol yn arddangos yn awtomatig.
  8. Rhowch Enw Defnyddiwr Hwb eich Ysgol Flaenorol, h.y. y cyfrif rydych chi am ei drosglwyddo o’ch ysgol flaenorol i’ch ysgol newydd.
  9. Cliciwch ar
  10. Cam 2 o 3 - Mae blwch negeseuon yn cael ei lenwi ymlaen llaw gyda nodyn at bennaeth eich ysgol flaenorol, ond gallwch bersonoli’r nodyn gyda neges bersonol.
  11. Ticiwch y blwch i gadarnhau manylion pennaeth eich ysgol flaenorol.
  12. Cliciwch ar
  13. Cam 3 o 3 - Gwiriwch y wybodaeth sy’n cael ei harddangos ac os ydych chi am fwrw rhagddi, cliciwch ar Cyflwyno.

Bydd e-bost yn cael ei anfon i’ch Pennaeth ysgol flaenorol yn gofyn i gymeradwyo neu wrthod eich cais. Byddwch yn derbyn e-bost awtomatig i’ch cyfrif Hwb newydd yn eich hysbysu o’r canlyniad. Os yw’ch cais wedi’i wrthod, does dim yn rhaid i chi wneud unrhyw beth arall a dylech barhau i ddefnyddio’r cyfrif Hwb sydd wedi’i greu yn eich ysgol newydd.

Os yw’ch cais wedi’i gymeradwyo, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  1. Ewch i https://hwb.llyw.cymru/ a mewngofnodwch i’ch cyfrif Hwb NEWYDD.
  2. Cliciwch ar Rheoli defnyddiwr.
  3. Byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi eto fel mesur diogelwch ychwanegol.
  4. Rhowch eich enw defnyddiwr a chyfrinair eto a chliciwch ar Mewngofnodi.
  5. Ar y dudalen Dangosfwrdd Staff Ysgol, yn y faner uchaf ‘Mae’ch cais trosglwyddo cyfrif wedi’i adolygu’, cliciwch ar y ddolen Gweld Cais.
  6. Ar y dudalen Statws Trosglwyddo Cyfrif, ystyriwch a ydych chi am fwrw rhagddi neu ganslo’ch cais trosglwyddo cyfrif.
    1. Os ydych chi’n clicio ar y botwm Parhau i drosglwyddo, byddwch yn cael eich allgofnodi yn awtomatig o Hwb. Mae’r broses bellach wedi’i chwblhau’n llwyddiannus a dylech ddefnyddio’r cyfrif Hwb sydd wedi’i drosglwyddo i fewngofnodi unwaith eto.
    2. Os ydych chi’n clicio ar y botwm Canslo Cais, does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall a dylech barhau i ddefnyddio’r cyfrif Hwb a grëwyd yn eich ysgol newydd.

Does dim modd symud cyfrifon llywodraethwyr.

Ni chynigir symud cyfrifon ar gyfer myfyrwyr AS oherwydd nifer y myfyrwyr a'r lleoliadau bob blwyddyn. Dylai pob myfyriwr ACH lawrlwytho'r holl ddata angenrheidiol cyn diwedd pob lleoliad.

  • Gofynnwch i'ch awdurdod lleol roi gwybod i dîm Hwb am yr ysgol newydd cyn gynted â phosibl.

    Bydd dysgwyr sy'n symud i'r ysgol newydd yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig yn Hwb pan fydd eu cofnod ar System Gwybodaeth Reoli (MIS) eu hen ysgol yn nodi eu bod wedi gadael a'u bod yn ddisgybl cofrestredig yn system MIS eu hysgol newydd. Rhaid rhedeg y cleientiaid darparu'n llwyddiannus yn y ddwy ysgol. Caiff dysgwr ei adnabod yn y system drwy ei rif unigryw, sef Rhif Unigryw'r Disgybl (RhUD).

    Ni fydd cyfrifon Hwb staff sy'n symud i'r ysgol newydd yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig. Os yw aelod o staff wedi symud o un ysgol i ysgol arall a bod gan y person hwnnw gyfrif Hwb eisoes y mae eisiau ei gadw, anfonwch gais drwy e-bost at hwb@llyw.cymru. Bydd Desg Gymorth Hwb yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig gan leoliad blaenorol y defnyddiwr cyn prosesu cais o'r fath.

    Rhowch wybod i dîm Hwb, drwy’r ffurflen hon, am unrhyw ysgolion newydd yn eich awdurdod lleol, a hynny o leiaf hanner tymor cyn iddynt agor. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i sicrhau bod yr ysgol newydd ar Hwb a'i bod yn rhedeg cleient darparu AWE.

  • Gofynnwch i'r awdurdod lleol roi gwybod i dîm Hwb am yr uno cyn gynted â phosibl.

    Bydd dysgwyr sy'n symud i'r ysgol newydd yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig yn Hwb pan fydd eu cofnod ar System Gwybodaeth Reoli (MIS) eu hen ysgol yn nodi eu bod wedi gadael a'u bod yn ddisgyblion cofrestredig yn system MIS eu hysgol newydd. Rhaid bod y cleientiaid darparu wedi'u rhedeg yn llwyddiannus yn y ddwy ysgol. Caiff dysgwr ei adnabod yn y system drwy ei rif unigryw, sef Rhif Unigryw'r Disgybl (RhUD).

    Caiff staff sy'n symud o ysgol sy'n cau i'r ysgol newydd eu trosglwyddo'n awtomatig yn Hwb yn dilyn proses paru cyfrifon a gynhelir gan yr awdurdod lleol a thîm Hwb.

    Rhowch wybod i dîm Hwb, drwy'r ffurflen hon, am unrhyw ysgolion yn eich awdurdod lleol sydd wedi uno, a hynny o leiaf hanner tymor cyn i'r ysgol newydd agor. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i sicrhau bod yr ysgol newydd ar Hwb a'i bod yn rhedeg cleient darparu AWE.

    Bydd dysgwyr sy'n symud i'r ysgol newydd yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig yn Hwb pan fydd eu cofnod ar System Gwybodaeth Reoli (MIS) eu hen ysgol yn nodi eu bod wedi gadael a'u bod yn ddisgyblion cofrestredig yn system MIS eu hysgol newydd. Rhaid rhedeg y cleientiaid darparu'n llwyddiannus yn y ddwy ysgol. Caiff dysgwr ei adnabod yn y system drwy ei rif unigryw, sef Rhif Unigryw'r Disgybl (RhUD).

    Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi'r staff sy'n symud o'r ysgolion sy'n cau i'r ysgol newydd ac yn trefnu i'w cyfrifon Hwb gael eu trosglwyddo i'r ysgol newydd.