English

Caiff cyfrifon Hwb ar gyfer holl staff a dysgwyr yr ysgol eu creu'n awtomatig pan fydd y data defnyddwyr gofynnol yn cael ei gofnodi yn System Gwybodaeth Rheoli (MIS) eu hysgol h.y. SIMS neu Ganolfan Athrawon, a chleient darparu data Hwb wedi’i weithredu’n llwyddiannus.

Mae'n hanfodol bod ysgolion yn sicrhau bod y data yn eu MIS yn gywir ac yn gyfredol.

Gelwir cyfrifon ar gyfer llywodraethwyr, rhanddeiliaid addysg eraill a rhai gwasanaethau ysgol e.e. argraffu, nad ydynt yn cael eu creu'n awtomatig o'r data yn MIS yr ysgol, yn 'gyfrifon nad ydynt yn MIS' a gellir eu creu â llaw ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb gan hyrwyddwr digidol ysgol neu weinyddwr Hwb sefydliad.

Bydd gan fyfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) gyfrifon ‘rhagarweiniol’ cyfyngedig a grëwyd gan eu darparwr, ond efallai y bydd ysgolion lleoli hefyd yn dymuno creu cyfrifon staff dros dro nad ydynt yn MIS ar gyfer myfyrwyr AGA.

Adnoddau pellach

Canllawiau i ysgolion roi’r strategaeth rheoli gwybodaeth ar waith

Bydd cyfrifon Hwb ar gyfer dysgwyr newydd yn cael eu creu'n awtomatig pan fydd o leiaf y meysydd data canlynol yn cael eu poblogi yn System Gwybodaeth Rheoli (MIS) eu hysgol h.y. SIMS neu Ganolfan Athrawon.

 

Enw'r maes

Nodiadau

Cyfenw cyfreithiol

 

Mae enwau defnyddwyr a chyfeiriadau e-bost Hwb yn cael eu creu o gyfenw cyfreithiol ac enw cyntaf cyfreithiol y defnyddiwr.

Nodyn pwysig: ni fydd unrhyw newidiadau a wneir i enw dysgwr yn MIS yr ysgol ar ôl creu cyfrif Hwb yn diweddaru yn awtomatig yn system Hwb nac unrhyw systemau sy'n dibynnu ar ddata Hwb e.e. Asesiadau Personol. Mae dwy opsiwn i ysgolion eu hystyried: 

1.    Os yw dysgwr yn dymuno neu os yw'n ofynnol iddo gael ei adnabod wrth enw arall, dylai ysgolion benderfynu fesul achos p'un ai i newid enw arddangos y dysgwr a/neu enw defnyddiwr y dysgwr yn y Porth Rheoli Defnyddwyr Hwb ai peidio.   

Os cynhyrchir enw defnyddiwr newydd, cynhyrchir cyfrinair cyfrif newydd a chyfeiriad e-bost @hwbcymru.net hefyd, ond cedwir cyfeiriad e-bost cyfredol y dysgwr fel alias i sicrhau bod negeseuon yn cael eu hailgyfeirio i'r cyfeiriad e-bost newydd. Bydd y dysgwr yn parhau i allu cael gafael ar eu gwaith ysgol, negeseuon e-bost ac adborth ac adroddiadau asesu personol ac efallai y bydd ei enw blaenorol yn dal i fod yn weladwy iddo mewn cofnodion hanesyddol.

2.    Os oes gan ddysgwr hunaniaeth newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyswllt gael ei chadw rhwng y cofnod gwreiddiol a newydd y disgybl, mae canllawiau pwysig ar gael (gweler yr adran Rhif Unigryw’r Disgybl 'Plant mewn perygl' yn yr adran 'Canllawiau i ysgolion roi’r strategaeth rheoli gwybodaeth ar waith’). Bydd creu cofnod newydd i’r disgybl yn MIS yr ysgol yn hwyluso creu cyfrif Hwb newydd ar gyfer y dysgwr ac yn dileu unrhyw ddolen i'w gyfrif Hwb presennol.

Cofnod a RhUD newydd yn MIS yr ysgol yw'r unig ffordd o sicrhau nad yw enw a chyfeiriad e-bost blaenorol y dysgwr bellach yn gysylltiedig â nhw yn system Hwb a’r system asesiadau personol. 

Cyn creu cofnod newydd ar gyfer disgybl, dylai ysgolion ddeall beth mae hyn yn ei olygu yn system Hwb a’r system asesiadau personol h.y. colli ffeiliau ysgol, negeseuon e-bost ac adborth ac adroddiadau asesu personol hanesyddol. Fodd bynnag, ni ddylai enw blaenorol y dysgwr fod yn weladwy iddynt mwyach.


Enw cyntaf cyfreithiol

 

Yn union fel 'Cyfenw cyfreithiol' uchod.


RhUD

[Rhif Unigryw’r Disgybl]

 

Rhaid i ddysgwr gael RhUD parhaol neu ei ychwanegu at ei gofnod yn MIS yr ysgol er mwyn creu neu drosglwyddo cyfrif Hwb rhwng ysgolion. Nid yw'r RhUD yn cael ei storio, ond ei amgryptio yn lle hynny. 

Ni ellir creu cyfrifon dysgwyr o RhUD dros dro.


Rhif derbyn

Mae'r rhif hwn yn unigryw i'r dysgwr yn ei ysgol bresennol yn unig.


Dyddiad derbyn

Mae cyfrif Hwb yn cael ei greu unwaith y bydd dyddiad derbyn dysgwr wedi'i ychwanegu at ei gofnod MIS ac mae cleient darparu data Hwb wedi’i weithredu’n llwyddiannus.

Noder: Nid yw cyfrif Hwb yn cael ei greu'n awtomatig ar gyfer dysgwyr mewn grwpiau cyn derbyn / grwpiau newydd.

Gwybodaeth

Rhestrir gwybodaeth bersonol y mae ysgolion yn ei rhannu â Llywodraeth Cymru drwy gleient darparu data Hwb yn hysbysiad preifatrwydd Hwb.

Pan fydd staff yn cael eu hychwanegu at System Rheoli Gwybodaeth yr ysgol (e.e. SIMS neu Teacher Center), bydd cyfrifon Hwb yn cael eu creu ar eu cyfer yn awtomatig.

Pan fydd staff yn symud o un sefydliad i’r llall, mae’n bosib parhau i ddefnyddio’r cyfrif a oedd yn bodoli’n barod. 

Dim ond gweinyddwyr Hwb a Phencampwr Digidol yr ysgol sy’n gallu creu cyfrifon Llywodraethwyr.

Mae gan bob llywodraethwr hawl i gael cyfrif Hwb, sy’n eu galluogi i ddefnyddio adnoddau fel Office 365, gan gynnwys cyfeiriad e-bost @hwbcymru.net.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Llywodraethwyr.
  3. CliciwchYchwanegu defnyddiwr newydd +.
  4. Bydd rhybudd yn ymddangos: “Ydych chi’n siwr?  Bydd cyfrifon staff a dysgwyr yn cael eu creu'n awtomatig yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd yn System Rheoli Gwybodaeth eich ysgol.  Defnyddiwch y nodwedd hon ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn cael eu cynnal yn eich System Rheoli Gwybodaeth yn unig. Noder: bydd angen i chi reoli unrhyw gyfrifon defnyddwyr nad ydynt yn rhan o'r System Rheoli Gwybodaeth eich hunan.”
  5. Cliciwch Rwy’n deall i fwrw ymlaen (neu glicio Mynd yn ôl i ganslo’r gorchymyn).
  6. Teipiwch enw cyntaf a chyfenw y llywodraethwr yn y meysydd perthnasol, a naill ai:
    • Teipio cyfrinair o’ch dewis chi (ar yr amod ei fod yn cadw at bolisi cyfrineiriau Hwb h.y. cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr).
    • Clicio Cynhyrchu Cyfrinair Dysgwr Cynradd (gair wedi’i ddilyn gan rifau).
    • Clicio Creu Cyfrinair (cymysgedd ar hap o rifau a llythrennau bach a mawr).
  7. Cliciwch Ychwanegu Defnyddiwr.
  8. Bydd y cyfrif defnyddiwr yn ymddangos yn y rhestr Gweld Llywodraethwyr o fewn yr awr nesaf.

Mae gweinyddwyr Hwb mewn Awdurdodau Lleol a Chonsortia Addysg Rhanbarthol yn gallu mynd ati i greu cyfrifon ar gyfer staff mewnol.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Rheoli Defnyddwyr Dim MIS yr Awdurdod Lleol.
  3. CliciwchYchwanegu Defnyddiwr newydd +.
  4. Teipiwch enw cyntaf a chyfenw y defnyddiwr yn y meysydd perthnasol, a naill ai:
    • Teipio cyfrinair o’ch dewis chi (ar yr amod ei fod yn cadw at bolisi cyfrineiriau Hwb h.y. cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr).
    • Clicio Cynhyrchu Cyfrinair Dysgwr Cynradd (gair wedi’i ddilyn gan rifau).
    • Clicio Creu Cyfrinair (cymysgedd ar hap o rifau a llythrennau bach a mawr).

Mae meysydd dewisol ar gyfer Sefydliad, Teitl Swydd, E-bost Gwaith a Rhif Cyswllt ar gael (a fydd yn eich helpu i adnabod y defnyddiwr ar ôl i’r cyfrif gael ei greu).

  1. CliciwchYchwanegu Defnyddiwr.
  2. Bydd y cyfrif defnyddiwr yn ymddangos yn y rhestr defnyddwyr o fewn yr awr nesaf.

Darperir cyfrifon SSO AGA drwy ddarparwyr AGA ar ddechrau cyrsiau AGA.
Dim ond Drwy Hyrwyddwr Digidol ysgol arweiniol, Hyrwyddwr Digidol yr ysgol arweiniol a gweinyddwyr Hwb y gellir creu cyfrifon ysgol aysg.
Mae gan bob myfyriwr AGA hawl i gael cyfrif Hwb, sy'n rhoi mynediad iddynt at offer, adnoddau, staff a disgyblion yn eu hysgol leoli.

Creu cyfrifon defnyddwyr ‘Dim-MIS’

Fel Pencampwr Digidol gallwch greu cyfrif defnyddiwr ‘Dim-MIS’ â llaw ar gyfer athrawon dan hyfforddiant. Peidiwch â chreu cyfrifon ‘Dim-MIS’ ar gyfer unrhyw staff na dysgwyr sydd wedi’u rhestru ar eich MIS gan y bydd hyn yn arwain at ddyblygu cyfrifon.

I greu cyfrif defnyddiwr Dim-MIS, cliciwch ar y gwymprestr ‘Gweld Defnyddwyr’ a dewis ‘Gweld Dim-MIS’. Bydd yn dangos rhestr i chi o’r cyfrifon defnyddwyr Dim-MIS presennol yn eich ysgol. Yna gallwch ddewis ‘Ychwanegu Defnyddiwr Newydd’ i greu’r cyfrif.

Bydd angen i unrhyw gyfrifon defnyddwyr Dim-MIS y byddwch yn eu creu gael eu rheoli â llaw.

Analluogi cyfrifon defnyddwyr ‘Dim-MIS’

Pan bydd defnyddiwr Dim-MIS yn gadael eich ysgol, bydd angen i chi analluogi eu cyfrif â llaw. I wneud hyn, cliciwch ar y gwymprestr ‘Gweld Defnyddwyr’ a dewis ‘Gweld Dim-MIS’. Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol a chlicio ‘Gweld Manylion’. Cliciwch ar y gwymprestr ‘Rheoli Defnyddiwr’ a dewiswch ‘Analluogi’.