English

Bydd cyfrifon Hwb ar gyfer staff a dysgwyr yn cael eu hanalluogi’n awtomatig pan fyddan nhw’n cael eu cofnodi fel rhai sydd wedi ‘ymadael’ ar System Rheoli Gwybodaeth yr ysgol (e.e. SIMS neu Teacher Center).   

Rhaid i gyfrifon defnyddwyr myfyrwyr AGA, Consortia Addysg Rhanbarthol, awdurdodau lleol a llywodraethwyr ysgol gael eu hanalluogi gan weinyddwr Hwb neu Bencampwr Digidol yr ysgol.

Pan fydd dysgwr yn gadael yr ysgol ac yn cael ei gofnodi fel rhywun sydd wedi ‘ymadael’ ar System Rheoli Gwybodaeth yr ysgol (e.e. SIMS neu Teacher Center), bydd ei gyfrif yn cael ei analluogi yn awtomatig y tro nesaf y bydd y Cleient Darparu yn cael ei redeg yn llwyddiannus. 

Pan fydd aelod o’r staff yn gadael yr ysgol ac yn cael ei gofnodi fel rhywun sydd wedi ‘ymadael’ ar System Rheoli Gwybodaeth yr ysgol (e.e. SIMS neu Teacher Center), bydd ei gyfrif yn cael ei analluogi yn awtomatig y tro nesaf y bydd y Cleient Darparu yn cael ei redeg yn llwyddiannus. 

Os bydd llywodraethwr yn gadael corff llywodraethu’r ysgol, rhaid i weinyddwr Hwb neu Bencampwr Digidol fynd ati i analluogi ei gyfrif yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Llywodraethwyr.
  3. Chwiliwch am y llywodraethwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Dadweithredu.
  6. Bydd rhybudd yn ymddangos: “Ydych chi’n siwr eich bod am ddadweithredu y cyfrif defnyddiwr hwn?
  7. Cliciwch Ie i fwrw ymlaen (neu Canslo i ganslo hyn).

Os bydd defnyddiwr sydd ddim yn defnyddio’r System Rheoli Gwybodaeth yn gadael yr ysgol, rhaid i weinyddwr Hwb neu Bencampwr Digidol fynd ati i analluogi ei gyfrif yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r Porth Rheoli Defnyddwyr.
  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr > Gweld Dim MIS.
  3. Chwiliwch am y llywodraethwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Term chwilio fel y bo’n briodol e.e. teipiwch y cyfenw a chlicio Chwilio.
  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde o fanylion y defnyddiwr).
  5. Cliciwch Rheoli’r Defnyddiwr > Dadweithredu.
  6. Bydd rhybudd yn ymddangos: “Ydych chi’n siwr eich bod am ddadweithredu y cyfrif defnyddiwr hwn?
  7. Cliciwch Ie i fwrw ymlaen (neu Canslo i ganslo hyn).

Os bydd myfyriwr AGA (nad yw'n MIS) yn gadael ysgol cyn cwblhau ei leoliad, rhaid i Hyrwyddwr Digidol neu weinyddwr Hwb ddefnyddio eu cyfrif eich hun yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.

Rhaid iddynt hysbysu'r myfyrwyr AGA am hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfle i gael gwared ar unrhyw gynnwys y maent am ei gadw.