English

DARLLENWCH DELERAU’R POLISI HWN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R WEFAN

Beth sydd yn y Polisi hwn?

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn diffinio defnydd priodol ac amhriodol o’n Gwefan ac yn nodi’r safonau cynnwys sy’n gymwys pan fyddwch yn lanlwytho cynnwys i’n Gwefan, yn cysylltu â defnyddwyr eraill ar ein Gwefan, yn cysylltu â’n Gwefan, neu’n rhyngweithio â’n Gwefan mewn unrhyw ffordd arall.

Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni

Mae https://hwb.llyw.cymru ac https://hwb.gov.wales (y Wefan) yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru ("Ni").

I gysylltu â ni, anfonwch ebost i hwb@llyw.cymru neu ysgrifennwch atom yn:

Yr Uned Dysgu Digidol, Yr Is-adran Dysgu Digidol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

Drwy ddefnyddio ein Gwefan rydych yn derbyn y telerau hyn

Drwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn telerau’r polisi hwn ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy.

Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, peidiwch â defnyddio ein Gwefan.

Sylwer bod Telerau’r Wefan hefyd yn gymwys i’ch defnydd o’n Gwefan.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i delerau’r polisi hwn

Mae’n bosibl y byddwn yn diwygio’r Polisi Defnydd Derbyniol o bryd i’w gilydd.  Bob tro y byddwch yn dymuno defnyddio ein Gwefan, darllenwch y telerau hyn i wneud yn siŵr eich bod yn deall y telerau sy’n gymwys ar y pryd.

Defnydd gwaharddedig

Caniateir i chi ddefnyddio ein Gwefan at ddibenion cyfreithlon yn unig.  Ni chewch ddefnyddio’n Gwefan:

  • Mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol;
  • Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw ddiben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus;
  • At ddibenion masnachol heb gael trwydded gennym ni i wneud hynny (neu gan ein trwyddedwyr, fel y bo’n berthnasol);
  • At y diben o niweidio neu geisio niweidio pobl ifanc o dan oed mewn unrhyw ffordd;
  • I anfon, derbyn, lanlwytho, lawrlwytho, defnyddio neu ailddefnyddio’n fwriadol unrhyw ddeunydd nad yw’n cydymffurfio â’n safonau cynnwys isod;
  • I drosglwyddo, neu beri anfon unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo na ofynnwyd amdanynt neu na chawsant eu hawdurdodi neu unrhyw ffordd arall debyg o geisio cael rhywbeth gan rywun (sbam);
  • I fynd ati’n fwriadol i drosglwyddo unrhyw ddata, anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys feirysau, ceffylau pren Troea, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg a gynlluniwyd er mwyn cael effaith andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol;
  • I greu cronfa ddata o unrhyw fath, neu i storio’r wefan (yn ei chyfanrwydd neu yn rhannol) mewn cronfeydd data i’w defnyddio gennych chi neu unrhyw drydydd parti neu i ddosbarthu unrhyw wefannau cronfeydd data sy’n cynnwys y wefan gyfan neu ran ohoni.

Rydych hefyd yn cytuno i wneud y canlynol:

  • Peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu unrhyw ran o’n Gwefan yn groes i ddarpariaethau’r telerau defnyddio.
  • Peidio â chael mynediad heb ganiatâd, ymyrryd, difrodi neu amharu ar:
    • unrhyw ran o’n Gwefan;
    • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith y mae ein Gwefan wedi’i storio arno;
    • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu ein Gwefan; neu
    • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i unrhyw drydydd parti neu’n cael eu defnyddio gan unrhyw drydydd parti.

Drwy weithredu’n groes i ddarpariaethau’r adran hon, gallech fod yn cyflawni troseddau dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau gorfodi cyfraith perthnasol am unrhyw achos o’r fath a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddweud wrthyn nhw pwy ydych chi. Mewn achos o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan yn dod i ben ar unwaith.

Sut allwch chi ddefnyddio deunydd ar ein Gwefan

Mynediad dros dro sy’n cael ei ddarparu i’r Wefan ac rydych yn cydnabod nad ydych yn cael unrhyw hawliau na thrwyddedau yn y wefan neu i’r wefan a/neu’r Cynnwys ar wahân i’r hawl gyfyngedig i ddefnyddio’r wefan yn unol â’r polisi hwn (neu’r Telerau Defnyddio) ac i lawrlwytho yn unol â’r telerau a nodir yn yr adran hon.

Gallwch lawrlwytho tudalennau o’n gwefan cyn belled:

  • eich bod ond yn lawrlwytho a/neu’n argraffu copïau o’r wefan neu’r Cynnwys at ddibenion addysgol, ac ar yr amod bod y lawrlwythiadau neu gopïau printiedig hynny ond yn cael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru;
  • eich bod yn cadw pob hysbysiad hawlfraint ar y cyfryw lawrlwythiad a/neu gopi printiedig ac yn cadw at delerau’r cyfryw eiriad a hysbysiad;
  • nad ydych yn addasu’r papur na chopïau digidol o unrhyw ddeunyddiau rydych wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, ac nad ydych yn defnyddio unrhyw ddarluniadau, ffotograffau, fideo neu ddilyniannau clywedol nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun sy’n mynd gyda nhw;
  • eich bod yn cydnabod ein statws ni (neu unrhyw gyfrannwr a enwir) fel awduron cynnwys ar ein Gwefan.

Os ydych yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n Gwefan yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan yn dod i ben ar unwaith, ac mae’r dewis gennym i fynnu eich bod yn dychwelyd neu’n dinistrio unrhyw gopïau rydych wedi’u gwneud o’r deunyddiau.

Safonau cynnwys

Mae’r safonau cynnwys hyn yn gymwys i unrhyw ddeunydd rydych yn ei gyfrannu i’n Gwefan (Cyfraniad).

Rhaid cydymffurfio â’r Safonau Cynnwys o ran meddylfryd yn ogystal ag yn llythrennol. Mae’r safonau’n gymwys i’r Cyfraniad cyfan ac i bob rhan o unrhyw Gyfraniad.

Byddwn ni’n penderfynu, fel y gwelwn orau, a yw Cyfraniad yn groes i’r Safonau Cynnwys ai peidio.

Rhaid sicrhau bod Cyfraniad:

  • Yn gywir (os yw’n nodi ffeithiau).
  • Yn ddidwyll (os yw’n mynegi barn).
  • Yn cydymffurfio â’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru ac mewn unrhyw wlad y mae’n cael ei anfon ohoni.

Rhaid sicrhau nad yw Cyfraniad:

  • Yn difenwi neb.
  • Yn anweddus, yn dramgwyddus, yn gas nac yn rhy danllyd.
  • Yn hybu deunydd o natur rywiol.
  • Yn hybu trais.
  • Yn hybu gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol nac oed.
  • Yn torri hawlfraint, hawliau cronfa ddata neu nod masnach unrhyw berson arall.
  • Yn debygol o dwyllo rhywun.
  • Yn torri unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i drydydd parti, megis dyletswydd contract neu ddyletswydd cyfrinachedd.
  • Yn hybu unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.
  • Yn ddirmyg llys.
  • Yn fygythiol, yn cam-drin neu’n torri ar lonyddwch rhywun arall, neu’n achosi dicter, anhwylustod neu orbryder diangen.
  • Yn debygol o aflonyddu, tramgwyddo, codi cywilydd, dychryn neu wylltio rhywun arall.
  • Yn ffugio bod yn rhywun arall, neu’n camgyfleu eich hunaniaeth neu eich cysylltiad ag unrhyw berson.
  • Yn rhoi’r argraff bod y Cyfraniad yn deillio oddi wrthym ni er nad yw hynny’n wir.
  • Yn cefnogi, yn hybu, neu’n annog unrhyw barti i gyflawni unrhyw weithred anghyfreithlon neu droseddol, neu gynorthwyo i gyflawni gweithred o’r fath, megis (er enghraifft yn unig) torri rheolau hawlfraint neu gamddefnyddio cyfrifiadur.
  • Yn cynnwys datganiad rydych yn gwybod neu’n credu, neu bod gennych sail resymol i gredu, bod aelodau o’r cyhoedd y mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi iddynt, neu y bydd yn cael ei gyhoeddi iddynt, yn debygol o’i ddeall fel anogaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol neu gymhelliad arall i gomisiynu, paratoi neu gychwyn gweithredoedd terfysgol.
  • Yn cynnwys unrhyw hysbysebu nac yn hybu unrhyw wasanaethau neu ddolenni gwe i wefannau eraill.

Mae gennym hawl i ddileu unrhyw beth rydych yn ei bostio ar ein Gwefan os ydym yn credu nad yw’r postiad yn cydymffurfio â’r safonau cynnwys a nodir yn y polisi hwn.

Torri’r polisi hwn

Pan fyddwn yn credu bod achos o dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn wedi digwydd, byddwn yn gweithredu fel sy’n briodol yn ein barn ni. 

Mae peidio â chydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn golygu mynd yn groes i’r Telerau Defnyddio sy’n rhoi caniatâd i chi ddefnyddio ein Gwefan, a gallai olygu ein bod yn cymryd pob un o’r camau isod neu unrhyw rai ohonynt:

  • Diddymu eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan ar unwaith, dros dro neu yn barhaol.
  • Tynnu unrhyw Gyfraniad sydd wedi cael ei lanlwytho gennych i’n Gwefan i lawr ar unwaith, dros dro neu yn barhaol.
  • Rhoi rhybudd i chi.
  • Dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn am ad-daliad o’r holl gostau ar sail indemniad (gan gynnwys costau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol, ond nid yn gyfyngedig i hynny) sy’n deillio o'r achos o ddiffyg cydymffurfio.
  • Datgelu’r gyfryw wybodaeth y teimlwn ei bod yn rhesymol bod ei hangen, neu fel sy’n ofynnol dan y gyfraith, i awdurdodau gorfodi cyfraith.

Rydym yn eithrio ein hatebolrwydd am unrhyw gamau a gymerir gennym mewn ymateb i weithredu’n groes i’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r camau y gallem eu cymryd wedi’u cyfyngu i’r rhai a ddisgrifir uchod, a gallwn gymryd unrhyw gamau arall y credwn yn rhesymol eu bod yn briodol.

Cyfreithiau pa wlad sy’n gymwys i unrhyw anghydfod?

Mae’r telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiad, yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr fel y’u cymhwysir yng Nghymru.

Mae’r ddau ohonom yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr sy’n eistedd yng Nghymru awdurdodaeth lwyr i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o’r telerau hyn neu sy’n gysylltiedig â hwy.