English

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu defnyddio Hwb.

Defnyddio’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun lithro oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio’r bysellfwrdd
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio darllenydd sgrin
  • ymestyn sesiynau terfyn amser wrth fewngofnodi

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydyn ni’n gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • mae rhai delweddau a ddefnyddir ar y safle yn cynnwys testun
  • nid yw rhai elfennau wedi’u labelu’n gywir
  • mae peth o’r cynnwys mewn fformat PDF ac nid yw’n gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • mae rhai tudalennau yn defnyddio priodweddau ansafonol a allai achosi i rai porwyr ddarllen y dudalen yn anghywir, neu nid yn unol â’r bwriad
  • mewn rhai rhannau o’r wefan, bydd angen diweddaru cyferbynnedd y lliw

Beth ddylech chi ei wneud os nad ydych chi’n gallu cael mynediad at rannau o’r wefan hon

E-bostiwch hwb@llyw.cymru os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille. Rhowch wybod pa fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol, rhowch wybod i ni beth yw’r dechnoleg honno.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydyn ni wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydyn ni’n bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: hwb@llyw.cymru. Gallwch hefyd gysylltu â ni ar y ffôn neu drwy'r post.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ffordd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth a Chynghori ar Gydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, a hynny yn sgil yr achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys nad yw’n hygyrch wedi’i amlinellu isod gyda manylion:

  • lle mae’n methu’r meini prawf llwyddo
  • y dyddiadau arfaethedig ar gyfer datrys y problemau

Nid yw elfennau pob tudalen yn ddisgrifiadol. Mae hyn yn groes i WCAG 2.4.6.

Nid yw testun y ddolen yn hysbysu defnyddwyr o newid cyd-destun bob tro. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1 2.4.4.

Nid yw’r penawdau ar rai tudalennau mewn trefn resymegol. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1. 4.1.1.

Mae rhai tudalennau yn defnyddio priodweddau ansafonol a allai achosi rhai porwyr i ddarllen y dudalen yn anghywir, neu nid fel y bwriadwyd. Mae hyn yn groes i WCGAG 2.1. 4.1.1.

Mae diweddariadau fersiwn sylweddol i’r cymwysiadau sy’n cynnwys rhai o’r methiannau profi hygyrchedd hyn ar blatfform Hwb wrthi’n cael eu datblygu. Mae’r eitemau a restrir uchod yn cael sylw fel rhan o’r diweddariadau hyn. Bydd y cymwysiadau wedi’u diweddaru yn cael eu cyhoeddi rhwng mis Awst 2022 a mis Mawrth 2023. Ar ôl cwblhau’r holl ddiweddariadau a’u rhyddhau i’r amgylchedd byw, bydd y methiannau hygyrchedd hyn yn cael eu datrys.

Hygyrchedd Adnoddau

Mae adnoddau a chynnwys gwybodaeth ar y platfform hwn yn cael eu creu gan ystod eang o gyfranogwyr. Rydyn ni’n argymell bod yr holl gyfranogwyr yn cynnal profion hygyrchedd ar eu cynnwys cyn ei lanlwytho ar Hwb. Os ydych chi’n gweld unrhyw gynnwys nad yw’n bodloni’r gofynion hygyrchedd, dywedwch wrthym a byddwn yn hysbysu’r sawl wnaeth greu’r cynnwys.

Trwy hyrwyddo’r gofyniad i gynnwys fodloni safonau hygyrchedd, rydyn ni am i’r holl gynnwys newydd fodloni gofynion hygyrchedd.

PDFs a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd y byddwn yn eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hyn yn hygyrch. Er enghraifft, nid yw rhai ohonyn nhw:

  • wedi’u marcio mewn ffordd sy’n galluogi darllenwyr sgrin i’w deall
  • wedi cael eu tagio’n gywir, er enghraifft dydyn nhw ddim yn cynnwys y penawdau iawn
  • wedi’u hysgrifennu mewn Cymraeg Clir neu mewn Saesneg syml

Mae rhai o’r rhain yn ddogfennau hanesyddol a dydyn nhw ddim yn hanfodol i ddarpariaeth ein gwasanaethau. Mae’r mathau hyn o ddogfennau wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw gynlluniau i’w gwneud yn hygyrch.

Os oes angen i chi gael mynediad at wybodaeth mewn dogfen o’r fath, cysylltwch â ni i ofyn am fformat amgen.

Sut wnaethom ni brofi’r wefan hon

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Tachwedd 2021. Cynhaliwyd y prawf gan DigInclusion. Rydyn ni’n profi datblygiadau ychwanegol y tu allan i'r adolygiad o’r safle cyfan  pan gaiff nodweddion newydd eu rhyddhau i ddefnyddwyr.

This website was last tested in November 2021. The test was carried out by DigInclusion.

  • Dosbarthiadau
  • Digwyddiadau
  • Rhwydweithiau
  • Newyddion
  • Rhestrau Chwarae
  • Proffil
  • Adnoddau
  • Chwilio

Profwyd:

  • prif blatfform ein gwefan, sydd ar gael yn hwb.llyw.cymru

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni’n gweithio'n galed i wella hygyrchedd Gwasanaeth Hwb, gan roi mesurau ar waith i sicrhau bod pob defnyddiwr, waeth beth fo’i alluoedd, yn gallu ymgysylltu'n llawn a llywio'r platfform yn ddidrafferth.

Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Medi 2021.

Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 29 Medi 2023.