English

Sefydliad nid-er-elw ac elusen gofrestredig yw’r Internet Watch Foundation (IWF) sy'n bodoli i ddileu deunyddiau cam-drin plant yn rhywiol o'r rhyngrwyd.

Yn 2021, Llywodraeth Cymru oedd y llywodraeth gyntaf i ddod yn aelod o'r IWF. Mae aelodaeth Hwb wedi’i hadnewyddu ar gyfer 2022-23, a bydd yr aelodaeth hon â’r IWF bellach yn rhan hanfodol o waith Hwb am flynyddoedd i ddod. Mae’r aelodaeth yn cadarnhau ein hymrwymiad i gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, yn cyfrannu at yr her gyson i ddileu deunyddiau sy’n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol ar-lein yn fyd-eang, ac yn sicrhau bod gwasanaethau cymorth yr IWF yn parhau i gefnogi dioddefwyr.

Rydym hefyd wedi cydweithio â’r IWF i gefnogi eu hymgyrchoedd a sicrhau bod gwybodaeth ac adnoddau ar gael yn Gymraeg. Yn seiliedig ar ddata IWF 2020, nod ymgyrchoedd Gurls Out Loud a Home Truths yw grymuso merched a rhybuddio rhieni am y risgiau a achosir gan y rhai sy’n cam-drin yn rhywiol drwy feithrin perthynas amhriodol ar-lein. 

Ysgrifennodd Prif Swyddog Gweithredol yr IWF, Susie Hargreaves OBE, erthygl i Hwb a gafodd ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2021. Mae’r erthygl i’w gweld o dan adran 'Barn yr arbenigwyr' ar wefan Hwb.

Atal cam-drin plant yn rhywiol ar-lein - ein gwaith gyda'r IWF

 

Barn yr arbenigwyr - Susie Hargreaves OBE, Prif Weithredwr yr IWF

Darllenwch yr erthygl hon i gael gwybod mwy gan Susie Hargreaves OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF) am ei rôl o ran gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ledled y byd a'r ymchwil y tu ôl i'w hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.

Gwybodaeth bellach