English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Nid yw llawer iawn o'r cynnwys sydd ar y rhyngrwyd yn briodol i blant neu bobl ifanc a gall rhywfaint ohono fod yn sarhaus, gall beri gofid neu gall fod yn anghyfreithlon hyd yn oed. Wrth i blant a phobl ifanc wneud mwy ar-lein, mae posibilrwydd cynyddol y byddan nhw’n dod ar draws cynnwys amhriodol. Gall hyn amrywio o iaith eithaf coch i fideos anghyfreithlon hynod gignoeth. Gall plant ddod ar draws y cynnwys hwn yn ddamweiniol neu'n fwriadol drwy beiriannau chwilio neu drwy ddefnyddio apiau/gwefannau cyn iddyn nhw gyrraedd yr oedran a argymhellir. Gall hyd yn oed cynnwys newyddion fel delweddau rhyfel beri gofid i rai plant neu bobl ifanc.

Dywedodd Ofcom fod 30% o blant 8-15 oed yng Nghymru yn dweud eu bod wedi gweld cynnwys pryderus neu gas ar-lein (Children and parents: media use and attributes report 2021).

Gall gweld cynnwys amhriodol gael effaith negyddol a pharhaol ar blentyn neu berson ifanc. Mae'n bwysig cefnogi plant i reoli eu profiad ar-lein er mwyn lleihau'r risgiau o weld rhywbeth niweidiol.

Rhybudd

Gellir riportio cynnwys sarhaus neu gynnwys sy'n peri gofid fel cam-drin ar-lein neu fygythiadau, hunan-niweidio neu gynnwys yn ymwneud â hunanladdiad neu sylw rhywiol diangen i Riportio Cynnwys Niweidiol (Saesneg yn unig). 

Rhybudd

Gellir riportio delweddau neu fideos amhriodol neu rywiol o rywun rydych chi'n credu sydd dan 18 oed, yn ddienw i'r Internet Watch Foundation (Saesneg yn unig).  

Adnoddau dysgu ac addysgu