English

Mewn byd digidol lle mae technoleg yn rhan annatod o lawer o agweddau ar ein bywydau bellachl, mae’n hanfodol en bod yn cefnogi ein plant a phobl ifanc i ddatblygu’n unigolion sydd â sgiliau digidol cadarn. Mae cadernid digidol yn ymwneud â’r angen i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a strategaethau er mwyn i blant a phobl ifanc allu:

  • rheoli eu profiad ar-lein yn ddiogel ac mewn modd cyfrifol
  • nodi a lliniaru risgiau er mwyn cadw’n ddiogel ar-lein
  • deall pwysigrwydd defnyddio ffynhonellau dibynadwy a defnyddio sgiliau meddwl beirniadol i adnabod gwybodaeth ffug a chamarweiniol
  • gofyn am help pan fo angen hynny arnynt
  • dysgu o’u profiadau a gwella o brofiad pan fo pethau’n mynd o chwith
  • mynd o nerth i nerth a manteisio ar y cyfleoedd y mae’r rhyngrwyd yn ei gynnig.

Mae meithrin cadernid digidol yn ein plant a’n pobl ifanc hefyd yn dibynnu ar gadernid ein teuluoedd a’n cymunedau. Mae’r cynllun Hwb yn anelu at ddarparu’r adnoddau, yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf i ddysgwyr, teuluoedd, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr, er mwyn meithrin a gwella’u cadernid digidol.


Mae cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein yn hanfodol bwysig. Rydym yn benderfnol o hybu defnydd diogel a chadarnhaol o’r byd ar-lein i blant, pobl ifanc, teuluoedd, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr. 

Mae’n parth Cadw’n ddiogel ar-lein wedi ei lunio i gefnogi diogelwch ar-lein mewn addysg ar draws Cymru. Mae’n darparu cyfres helaeth o adnoddau dwyieithog cyfredol, canllawiau Llywodraeth Cymru a dolenni at ffynonellau cymorth pellach ar ystod o faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein.

Yn ychwanegol, mae Cadw’n ddiogel ar-lein yn gartef i adnoddau dwyeithog sydd wedi eu creu neu eu datblygu ar y cyd â phartneriaid allweddol, megis yr SWGfL, NSPCC, Common Sense Media a’r Asianantaeth Troseddu Cenedlaethol.


Mae’r term seiberddiogelwch yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut y gallai unigolion a sefydliadau leihau’r risg o ymosodiadau seiber. Prif ddiben seiberddiogelwch yw sicrhau bod y dechnoleg sy’n cael ei defnyddio gennym (dyfeisiadau fel cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar) a’r gwasanaethau yr ydym yn eu defnyddio ar-lein yn cael eu diogelu rhag cael eu dwyn neu’u difrodi. Rydym yn storio llawer iawn o wybodaeth bersonol a sefydliadol ar ddyfeisiadau a gwasanaethau, ac mae gwarchod yr wybodaeth hon rhag cael ei gweld gan rhywun heb awdurdod yn hanfodol. Bydd Cadw’n Ddiogel ar-lein yn:

  • darparu canllawiau a chefnogaeth i ysgolion er mwyn iddynt weithredu dulliau seiberddiogelwch cadarn, sy’n sicrhau cydymffurfedd â rheoliadau a safonau
  • codi ymwybyddiaeth o arferion gorau a hyfforddiant mewn seiberddiogelwch ar gyfer dysgwyr ac ymarferwyr addysg yng Nghymru.
  • ceisio meithrin talent, a hybu cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau anghenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn seiberddiogelwch i ddysgwyr o Gymru.

Bob tro yr ydym yn mynd ar-lein, boed hynny i chwilio am wybodaeth, siopa, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu i anfon e-byst, rydym yn rhannu gwybodaeth amdanom ni ein hunain. Mae rhannu ein data yn ein helpu i gael mynediad at wybodaeth, defnyddio gwasanaethau a chadw cysylltiad â’n teuluoedd, ffrindiau a’n cymunedau. Er hynny, eich data chi yw’ch data chi ac mae’n eiddo i chi. Mae cyfraith diogelu data yn bodoli er mwyn sicrhau bod data pawb yn cael eu defnyddio yn y ffordd gywir ac yn gyfreithlon. Mae cael sgiliau digidol cadarn yn cynnwys deall:

  • pam mae fy nata yn bwysig?
  • pwy sy’n defnyddio fy nata personol a pham?
  • sut alla i ddiogelu fy nata ar-lein?
  • beth yw fy hawliau o dan gyfraith y Deyrnas Unedig/Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â data personol?