English

Mae Yubo, neu 'Yellow' yn flaenorol, yn ap cyfryngau cymdeithasol ffrydio byw sydd â’r nod o gysylltu defnyddwyr â diddordebau tebyg, gan ddatblygu cyfeillgarwch yn hytrach nag ennill dilynwyr. Drwy ddefnyddio 'Tags' diddordeb, mae defnyddwyr yn cael eu cysylltu ag eraill, gyda'r opsiwn i ddod yn ffrindiau. Mae'r defnydd amlwg o ffrydio byw ar y platfform yn boblogaidd gyda phobl ifanc, gan ei fod yn galluogi i hyd at ddeg o ddefnyddwyr sgwrsio gyda'i gilydd yn yr un swyddogaeth ffrydio byw, ble bynnag yn y byd maen nhw. Mae'r ap yn annog defnyddwyr i chwarae gemau gyda'i gilydd hefyd, er mwyn helpu i ddatblygu cyfeillgarwch. Yubo yw un o'r platfformau cyfryngau cymdeithasol cyntaf i ddefnyddio technoleg adnabod wynebau i helpu i wirio oedran ei ddefnyddwyr, ac mae ganddo dros 60 miliwn o ddefnyddwyr.


Y sgôr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Yubo yw 13.

Mae Yubo yn gwirio oedran ei ddefnyddwyr gan ddefnyddio technoleg adnabod wynebau a'r ap Yoti.

Mae wedi cael sgôr oedran o 17+ ar yr Apple App Store a 'Parental guidance' ar Google Play Store.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Nod Yubo yw i'w ddefnyddwyr wneud ffrindiau yn hytrach nag ennill dilynwyr, sy'n apelio at bobl ifanc gan ei fod yn seiliedig ar ryngweithio mewn bywyd go iawn. Mae'r ap yn galluogi ei ddefnyddwyr i ddod o hyd i ffrindiau newydd drwy ddefnyddio 'Tags', sy'n cysylltu pobl â diddordebau tebyg. Gall defnyddwyr ffrydio'n fyw gyda nifer o ffrindiau a threulio amser gyda'i gilydd fel petaen nhw yn yr un ystafell. Gallan nhw chwarae gemau gyda'i gilydd hefyd. 


  • Bydd proffil defnyddiwr yn cael sylw ar frig yr adran 'Online', gan ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr eraill ddod o hyd i'w gyfrif a gwneud ffrindiau newydd.

  • Lle gall defnyddwyr weld proffiliau defnyddwyr eraill a sweipio i'r dde i'w hychwanegu neu i'r chwith i beidio â'u hychwanegu fel 'Friends’.

  • Dyma lle gall defnyddwyr ffrydio'n fyw ar eu pennau eu hunain neu gyda hyd at ddeng defnyddiwr arall.

  • Yma, gall defnyddwyr anfon negeseuon testun yn ystod ffrwd fyw.

  • Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr siarad yn breifat â'u ffrindiau yn yr ap. Gellir gwneud hyn drwy sgwrs testun neu sgyrsiau ffrydio byw gyda chysylltiadau dethol.

  • Mae defnyddwyr yn dewis y 'Tags' mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw i ddod o hyd i ffrindiau eraill ar yr ap sydd â diddordebau tebyg.

  • Defnyddir y nodwedd hon pan fydd defnyddwyr am gyflwyno eu ffrindiau i ddefnyddwyr eraill ar y platfform.

  • Mae'r nodwedd hon yn helpu i wthio eich ffrwd fyw i frig y ffrwd i annog mwy o ddefnyddwyr i ymuno.

  • Celf ddigidol y gallwch chi ei chasglu a'i hanfon at ffrindiau ar Yubo yw 'Pixels'. Mae rhai defnyddwyr yn eu hanfon fel anrhegion at eu ffrindiau neu'n eu hanfon at eu hoff ffrydwyr byw ar y platfform.

  • Mae hyn yn cyfeirio at yr arian yn yr ap y gall defnyddwyr ei brynu i'w wario ar 'Boosts', 'Spotlights', 'Pixels' a 'Turbos’. Gellir prynu YuBucks gan ddefnyddio arian go iawn drwy brynu pethau yn yr ap, neu gellir eu hennill bob tro mae defnyddiwr arall yn anfon 'Pixel' atoch chi.

  • Gwasanaeth tanysgrifio sy'n galluogi defnyddwyr i wneud 'Swipe' ar fwy o ddefnyddwyr i gael nodweddion ychwanegol fel 'Spotlights' a 'Boosts’.

  • Gwasanaeth tanysgrifio drytach na 'Power pack' sy'n galluogi defnyddwyr i ddatgloi mynediad i bob rhan o'r ap. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr weld eu hanes sweipio, ymddangos yn gyntaf ar yr adran sweipio ac anfon negeseuon at bobl cyn dod yn ffrindiau.

  • Bydd y nodwedd hon yn rhoi hwb i'ch proffil ar yr adran 'Swipe' am 30 munud. Bydd hyn yn sicrhau bod eich proffil yn fwy gweladwy, gan roi'r gallu i ddefnyddwyr wneud mwy o ffrindiau ar yr ap. Gellir prynu'r nodwedd hon gan ddefnyddio YuBucks.

  • Lle gall defnyddwyr anfon ceisiadau ffrind a derbyn neu wrthod ceisiadau ffrind gan eraill.  Mae defnyddwyr yn sweipio i'r dde i dderbyn ceisiadau ffrind neu i'r chwith os nad ydyn nhw am fod yn ffrindiau.

  • Gall defnyddwyr chwarae gemau gyda'i gilydd yn ystod ffrwd fyw.


Mae llawer o'r cynnwys sy'n digwydd ar Yubo drwy'r swyddogaeth 'Live', sy'n golygu y gall fod yn anodd ei gymedroli. Er bod y platfform yn dweud ei fod yn monitro cynnwys mewn amser real, nid yw’n gallu canfod yr holl gynnwys amhriodol bob amser nac ymateb ar unwaith. Mae pob defnyddiwr yn gallu ysgrifennu 'Bio' ar gyfer ei broffil. Unwaith eto, mae'r platfform yn honni ei fod yn eu sganio am gynnwys amhriodol ond ni ddylid dibynnu ar hyn yn unig fel mesur diogelu. Mae swyddogaeth negeseua yn Yubo hefyd, lle gall eich plentyn weld cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus neu gynnwys aeddfed. Er mwyn helpu i reoli amlygiad eich plentyn i gynnwys amhriodol, argymhellir ei fod ond yn derbyn ceisiadau ffrind ar y platfform gan ffrindiau mae'n eu hadnabod, yn hytrach na dieithriaid.  Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai eich plentyn weld cynnwys amhriodol o hyd gan gysylltiadau y mae'n eu hadnabod.

Mae Yubo wedi cynnwys rhai gosodiadau diogelwch i helpu i ddiogelu defnyddwyr iau ar y platfform rhag rhannu gwybodaeth bersonol, ond hefyd rhag derbyn ceisiadau amhriodol mewn sgyrsiau preifat. Bydd rhybudd naid yn ymddangos os bydd defnyddwyr iau yn ceisio rhannu manylion personol, gan eu hannog i feddwl yn ofalus am gynnwys eu negeseuon.  Os bydd unrhyw ddefnyddiwr yn ceisio gwneud ceisiadau amhriodol mewn sgyrsiau preifat, bydd rhybudd naid yn cael ei anfon, a byddan nhw'n cael eu blocio rhag rhannu'r cynnwys hwnnw.

Pan fydd defnyddiwr yn creu cyfrif Yubo am y tro cyntaf, mae gofyn iddo ddewis o leiaf bum 'Tag' neu beth mae ganddo ddiddordeb ynddyn nhw o restr wedi'i phoblogi ymlaen llaw. Gofalwch fod eich plentyn wedi dewis pynciau sy'n addas ar gyfer ei oedran a'i gam datblygu er mwyn lleihau'r risg y bydd yn agored i gynnwys a allai fod yn anaddas iddo.

I greu cyfrif Yubo, rhaid i bob defnyddiwr ychwanegu ei ddyddiad geni a rhannu llun ohono'i hun. Gan weithio mewn partneriaeth â Yoti, ap adnabod wynebau, mae Yubo yn gwirio oedran pob defnyddiwr. Drwy wneud hynny, mae cyfrifon ar Yubo yn cael eu didoli i bobl dros 18 oed ac o dan 18 oed, gyda giatiau oedran yn cael eu defnyddio i greu cymunedau ar wahân ar y platfform. Dylai hyn helpu i gyfyngu ar y risg y bydd eich plentyn yn cysylltu â rhywun sy'n hyn nag ef. Mae defnyddio technoleg adnabod wynebau i wirio cyfrifon yn cyfyngu ar allu defnyddwyr i greu cyfrifon ffug hefyd, gan esgus bod yn rhywun dipyn yn iau neu'n hyn nag ydyn nhw. Mae'n ofynnol i unrhyw gyfrifon lle nodir anghysondebau gan Yubo, neu gyfrifon mae defnyddwyr eraill wedi tynnu sylw atynt ar y platfform, lawrlwytho'r ap Yoti i wirio pwy ydyn nhw gan ddefnyddio ID ffurfiol, fel pasbort. Mae gan bob cyfrif sydd wedi'i wirio eicon melyn ar ei broffil. Mae defnyddio technoleg adnabod wynebau i wirio oedran yn wahaniaeth sylweddol i lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill nad ydyn nhw'n gwirio oedran eu defnyddwyr.

Nod Yubo yw cysylltu defnyddwyr ar y platfform sydd â diddordebau tebyg. Mae defnyddio'r nodwedd 'Swipe' yn golygu bod defnyddwyr yn sweipio i'r dde i'w hychwanegu fel ffrind, yn seiliedig ar eu proffil yn unig. Drwy gysylltu â phobl sydd â diddordebau tebyg, mae potensial i ymdeimlad ffug o ymddiriedaeth gael ei sefydlu rhwng defnyddwyr, gyda'r dybiaeth eu bod yn ffrindiau oherwydd eu bod yn hoffi'r un pethau. Mae'r gofyniad i ddod yn 'Friends' ar yr ap cyn y gallwch chi anfon neges a sgwrsio yn ddryslyd i ddefnyddwyr iau, gan fod yna dybiaeth eu bod yn ffrindiau cyn iddyn nhw ryngweithio â'i gilydd. Siaradwch â'ch plentyn am yr hyn sy'n gwneud ffrind ac anogwch ef i gysylltu â ffrindiau all-lein yn yr ap, yn hytrach na phobl nad yw'n eu hadnabod.  Trafodwch y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddo ac i riportio unrhyw un sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.  

Os oes gan eich plentyn ei gyfrif Yubo ei hun, mae'n bwysig i chi ac ef fod yn ymwybodol o'r hyn y mae'n ei rannu mewn negeseuon a ffrydiau byw, a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod unrhyw gynnwys maen nhw'n ei bostio ar-lein yn gadael ôl troed digidol. Atgoffwch eich plentyn y gall unrhyw un gymryd ciplun o neges neu recordio ffrwd fyw a'i rhannu'n eang ar blatfformau eraill. Siaradwch ag ef i'w helpu i ddeall beth sydd a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu a thrafodwch y gwahanol ffyrdd y gall amddiffyn ei hun. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan y gall gael ei gopïo a'i ail-bostio'n rhwydd heb yn wybod iddo, a gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd.

Mae gan yr ap ei arian ei hun yn yr ap o'r enw 'YuBucks' y gall defnyddwyr ei brynu, ei ennill a'i ddefnyddio yn yr ap.  Gall defnyddwyr brynu 'YuBucks' gan ddefnyddio arian go iawn a gallan nhw eu hennill pan fydd defnyddwyr eraill yn rhoi 'Pixels' iddyn nhw am ymgysylltu â ffrydiau byw. Yna, gellir defnyddio 'YuBucks' i brynu gwahanol nodweddion yn yr ap fel 'Boosts' a 'Turbos' (ceir diffiniadau llawn o'r nodweddion hyn yn yr adran 'Nodweddion allweddol a therminoleg' yn y canllaw hwn). Siaradwch â'ch plentyn am brynu pethau yn yr ap i gadarnhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau yn yr ap. Gallwch chi osod y gosodiadau prynu pethau yn yr ap perthnasol ar ei ddyfais hefyd.

Mae gan Yubo wahanol opsiynau uwchraddio y gallwch chi dalu amdanyn nhw hefyd, sy'n galluogi defnyddwyr i ddatgloi nodweddion ychwanegol fel 'Swipe history' ar yr ap. Mae llawer o nodweddion yn yr ap yn ceisio annog defnyddwyr i uwchraddio.   Gall hyn fod yn apelgar iawn i ddefnyddwyr brwd sydd am brofi'r nodweddion ychwanegol. Atgoffwch eich plentyn bod opsiynau uwchraddio a thanysgrifio’n ffordd arall o geisio cadw defnyddwyr ar y platfform a gwneud arian.


  • Nid oes unrhyw osodiadau penodol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr wneud eu cyfrif yn breifat.

    I 'Hide from swipes' (bydd hyn yn atal defnyddwyr eraill rhag anfon ceisiadau ffrind atoch chi):

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau.
    • Sgroliwch i 'Swipe settings' a symudwch dogl yr opsiwn 'Hide from swipe' i'r safle ymlaen.
  • Mae rhai gosodiadau ar gael ar Yubo i reoli rhyngweithiadau a chynnwys.  Gofynnir i ddefnyddwyr rannu eu lleoliad wrth lawrlwytho'r ap hefyd. Argymhellir nad yw defnyddwyr iau yn rhannu eu lleoliad a'u bod yn gwrthod yr opsiwn hwn.

    I reoli cysylltiadau:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau.
    • Chwiliwch am 'Safety and privacy' a dewiswch 'Contacts’.
    • Symudwch dogl yr opsiwn 'Don’t let others find you by your phone’ i'r safle ymlaen.
    • Diffoddwch yr opsiwn i 'Manage access to contacts’.

    I alluogi 'Message filter' (i amddiffyn defnyddwyr rhag negeseuon amhriodol):

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau.
    • Chwiliwch am 'Safety and privacy’ a sgroliwch i ‘Personalization and data’.
    • Dewiswch 'Safety' a symudwch y togl 'Message filter’ i'r safle ymlaen.

    I ddiffodd gosodiadau lleoliad:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch y ddewislen 'Settings'.
    • Sgroliwch i 'Safety and privacy’ a dewiswch ‘Location’.
    • Symudwch dogl yr opsiwn 'Use my location' i'r safle i ffwrdd.

    I dawelu geiriau (i guddio geiriau, ymadroddion neu emojis digroeso ar y platfform):

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau.
    • Dewiswch 'Safety and privacy’ a sgroliwch i ‘Muted words’.
    • Dewiswch 'Add a word' a theipiwch y gair rydych chi am ei dawelu.
    • Dewiswch 'Save' i gwblhau.
    • Noder: nid yw'r nodwedd hon yn gweithio ar draws y cyfrif, felly bydd angen ei galluogi ar bob dyfais.

    I ddiffodd y camera a'r meicroffon:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau.
    • Dewiswch 'Safety and privacy’ a sgroliwch i ‘Camera and microphone’.
    • Symudwch doglau'r opsiynau 'Allow microphone access’ and ‘Allow camera access’ i'r safle i ffwrdd.
  • Gall defnyddwyr riportio defnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. 

    I riportio/blocio defnyddiwr:

    • Chwiliwch am y defnyddiwr rydych chi am ei riportio a dewiswch ei enw defnyddiwr.
    • Dewiswch yr eicon rhybudd yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch 'Report' neu 'Block’.
    • Dewiswch reswm pam rydych chi am riportio/blocio'r defnyddiwr hwn.
    • Ysgrifennwch sylw am eich rheswm, yna dewiswch 'Report/block’.
  • Gofynnir i ddefnyddwyr dderbyn hysbysiadau pan fyddan nhw'n lawrlwytho'r ap. Er mwyn helpu i reoli amser, argymhellir nad yw defnyddwyr iau yn galluogi'r nodwedd hon. Mae rhai gosodiadau i reoli hysbysiadau yn yr ap. Gall defnyddwyr reoli eu gosodiadau marchnata yn yr ap hefyd.

    I reoli gosodiadau marchnata:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau.
    • Chwiliwch 'Safety and privacy’ a sgroliwch i ‘Personalization and data’.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Marketing' a symudwch dogl yr opsiwn 'Tracking authorisation’ i'r safle i ffwrdd.

    I reoli hysbysiadau:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau.
    • Dewiswch 'Push notifications' a symudwch dogl yr hysbysiadau a restrir i'r safle i ffwrdd
      • New friends
      • Friend request
      • Live
      • Messages
      • Pixels

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar iOS:

    • Ewch i ddewislen gosodiadau'r ffôn > 'Screen time' a sgroliwch i lawr i 'Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch 'iTunes & App Store purchases' a gosodwch yr opsiwn i 'Don't allow’.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch 'Menu' > 'Settings' > ‘Require authentication for purchases’.
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Dylai defnyddwyr gofio y bydd Yubo yn dileu cyfrifon sydd wedi bod yn segur am gyfnod parhaus o 2 flynedd. Nid oes modd dadactifadu’ch cyfrif Yubo.

    I ddileu cyfrif Yubo:

    • Yn gyntaf, ewch i’ch proffil trwy ddewis eich afatar ar y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch yr eicon gêr ar y gornel dde uchaf i fynd i ‘Settings’.
    • Sgroliwch i lawr i’r bin sbwriel o’r enw ‘Delete account’.
    • Teipiwch ‘DELETE’ a chadarnhau eich bod am ddileu eich cyfrif.

Mae gan Yubo Hyb Diogelwch dynodedig lle gall defnyddwyr ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth am offer diogelwch yr ap.

Mae canllawiau cymunedol ar gael ar gyfer Yubo.