English

Ap rhwydweithio cymdeithasol rhad ac am ddim a ddatblygwyd gan 9 Count Inc yn 2019 yw Wink, gyda'r nod o fod yn ffordd o wneud ffrindiau ar-lein. Cyflwynir proffiliau gyda rhestr o hobïau a disgrifiad bach wedi'i ysgrifennu gan y defnyddiwr. Yna mae defnyddwyr yn penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod cais y ffrind, gan sweipio i'r chwith neu i’r dde. Mae Wink yn annog defnyddwyr i gysylltu'r ap â'u tudalennau cyfryngau cymdeithasol eraill, fel Snapchat. Unwaith y bydd defnyddwyr wedi cyfnewid gwybodaeth proffil trwy'r ap Wink, gall eu sgyrsiau barhau trwy Snapchat, neu apiau sgwrsio trydydd parti eraill. Mae'r ap ar gael ar Apple App Store a Google Play, lle nad oes costau ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae defnyddwyr yn cael eu hannog i brynu 'Wink Plus' fel y gallan nhw sweipio’n ddiderfyn neu weld proffiliau wedi'u dilysu yn unig. Gall defnyddwyr chwilio am ddefnyddwyr eraill i wneud ffrindiau a chysylltu yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin, fel chwaeth gerddorol neu hoff hobïau.


Y cyfyngiad oedran ieuengaf ar gyfer defnyddwyr Wink yw 13, ond dydy hi ddim yn ymddangos bod unrhyw ddulliau gwirio oedran penodol.

Gall defnyddwyr 18+ oed sgwrsio â'r holl broffiliau eraill dros 18 oed. Fodd bynnag, gall defnyddwyr 17 oed ac iau ddim ond sgwrsio gyda defnyddwyr eraill rhwng 13 a 17 oed.

Mae Wink yn cael sgôr o 12+ (Teens) ar Apple App Store a Google Play.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.


Ap rhwydweithio cymdeithasol ar ffurf sweipio, a ddefnyddir yn gyffredinol i wneud ffrindiau. Un ffordd boblogaidd o ddefnyddio'r ap yw er mwyn cwrdd â 'penpals' rhyngwladol. Yn gyffredinol, mae defnyddwyr yn dweud nad yw Wink wedi'i ddatblygu'n ddigonol gan fod mân broblemau yn gyffredin - gyda newidiadau'n cael eu gwneud yn aml heb reoli ansawdd, a sgyrsiau rhwng defnyddwyr ddim yn diweddaru'n gywir bob amser. Nodwyd bod y sail defnyddwyr yn cynnwys llawer o gyfrifon amheus sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad rheibus, 'bachu' rhywiol a sgamio. Mae Wink wedi'i baru orau gyda Snapchat ac mae'r ap yn annog pobl i gysylltu'r cyfrifon hyn. Mae llawer o ddefnyddwyr yn dweud mai’r elfen hon sydd o ddiddordeb mwyaf iddyn nhw, gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw ddod o hyd i bobl newydd i sgwrsio gyda nhw.


  • Nodwedd 'amdanaf i' lle gall y defnyddiwr ysgrifennu unrhyw fanylion amdanyn nhw eu hunain, hyd at 255 o nodau.

  • Rhaglenni bach sy'n rhedeg o fewn yr ap yw'r rhain, ac sy'n cael eu creu gan ddatblygwyr trydydd parti. Rhaglenni cyfrifiadurol yw bots ('robot' yn fyr) sydd wedi'u cynllunio i efelychu gweithgaredd dynol a chwblhau tasgau ailadroddus. O fewn Wink, mae bots yn broffiliau awtomataidd sydd fel arfer yn cael eu defnyddio i hysbysebu proffiliau cyfryngau cymdeithasol ar blatfformau eraill.

  • Mae angen talu am yr elfen hon o'r ap, sy'n hybu proffil am 30 munud gan gynyddu'r siawns i ddefnyddwyr allu gweld eich proffil.

  • Dyma'r cysylltiadau rydych chi wedi'u derbyn i weld eich proffil. Gallan nhw fod yn rhywun mae defnyddwyr yn eu hadnabod mewn bywyd go iawn yn ogystal â'r rheini rydych chi wedi'u cyfarfod ar-lein yn unig.

  • Mae hyn yn cyfeirio at yr arian cyfred mewn ap a ddefnyddir i brynu eitemau, fel themâu proffil neu gardiau sweipio.

  • Mae hyn yn cyfeirio at dagiau parod am y defnyddiwr sy'n nodi ei ddiddordebau, er enghraifft genres cerddorol neu'r mathau o ffilmiau sydd o ddiddordeb iddo.

  • Pan fydd y defnyddiwr yn sweipio i'r dde ar broffil, mae hynny'n anfon cais ffrind at ddefnyddiwr arall. Gall y defnyddiwr arall naill ai dderbyn y cais hwn, a dod yn ffrindiau, neu ei wrthod.

  • Nodwedd sy'n caniatáu i'r defnyddiwr ymweld â phroffil a wrthodwyd ganddyn nhw’n flaenorol.

  • Defnyddiwr sy'n hyrwyddo gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau ffug am arian.

  • Siop mewn ap Wink lle gall y defnyddiwr brynu themâu proffil neu gardiau sweipio.

  • Hwb 3 awr i'r proffil (am dâl) sy'n para'n hwy na'r 'Boost' cyffredinol. Mae hyn yn caniatáu mwy o amlygrwydd i broffil rhywun ar y platfform.

  • Mae hyn yn cyfeirio at sut mae defnyddwyr yn dod o hyd i ddefnyddwyr eraill yn yr ap. Er enghraifft, sweipio i'r chwith (gwrthod) neu sweipio i'r dde (anfon cais). Mae sweipio i'r dde yn costio 10 gem oni bai bod y defnyddiwr yn defnyddio Wink Plus, sy'n uwchraddiad am dâl.

  • Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifon lle mae'r llun proffil wedi'i asesu fel un deiliad y cyfrif ac nid rhywun arall. I wirio cyfrif, mae defnyddwyr yn cael eu hysgogi i dynnu hunlun. Os yw'r llun yn cyfateb i'r proffil, bydd y cyfrif yn cael ei ddilysu.

  • Sain 'amdana i' lle mae'r defnyddiwr yn ateb cwestiwn o ddiddordeb sylfaenol, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr eraill glywed ei lais.

  • Cod ID Wink-benodol y defnyddiwr y gallai ddewis ei rannu â defnyddwyr eraill.

  • Nodwedd premiwm Wink sy'n caniatáu mynediad i chwilio heb hysbysebion, sweipio diderfyn, ailddirwyn (rewinds) a chwilio am broffiliau sydd wedi'u dilysu'n unig.


Gan fod y negeseuon ar Wink yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr, dydy cynnwys y negeseuon ddim yn cael ei gymedroli bob amser. Mae hyn yn golygu y gallai'ch plentyn fod yn agored i iaith anweddus neu gynnwys aeddfed. Mae pob math o ddeunyddiau amhriodol i'w weld ar y platfform, gan gynnwys delweddau a thestun. Drwy gyfyngu ar bwy all eich plentyn ei gyrchu ar y platfform, bydd yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad anaddas i'w oed.  Gwiriwch fod eich plentyn wedi sefydlu ei gyfrif i adlewyrchu ei oedran go iawn, er mwyn elwa ar gyfyngiadau cysylltiedig ag oedran sydd wedi'u rhoi ar waith gan y platfform. Os dylai'ch plentyn gael mynediad i'r ap, anogwch ef i siarad â chi os yw'n dod ar draws unrhyw gynnwys mae'n ei ganfod yn ofidus neu'n peri pryder.  Siaradwch â'ch plentyn am beryglon rhannu lluniau noeth neu hanner noeth ar-lein a'i atgoffa bod unrhyw ddelweddau rhywiol sy'n cynnwys plant dan 18 oed yn cael eu hystyried yn ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol anghyfreithlon.

Gan fod llawer o ddefnyddwyr yn defnyddio Wink i ddod o hyd i ffrindiau newydd ond yna parhau â'u sgyrsiau ar Snapchat, dylai rhieni a gofalwyr neilltuo amser i ymgyfarwyddo â Snapchat. Am fwy o fanylion, darllenwch ganllawiau Snapchat i rieni a gofalwyr.

Er bod gan Wink segmentau oedran er mwyn helpu i ddiogelu defnyddwyr iau rhag cynnwys addas i oedolion yn unig, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr. Mae hyn yn golygu y gallai defnyddwyr dan 18 oed gael mynediad hawdd i'r sgyrsiau 18+, ac y gallai pobl dros 18 oed sydd â diddordeb mewn plant gael mynediad i'r proffiliau 13-17. Atgoffwch eich plentyn i wirio bod cyfrifon defnyddwyr newydd wedi'u dilysu. Dylai hyn helpu i sicrhau mai'r unigolyn y tu ôl i'r cyfrif yw'r hyn y mae'n honni bod. Fodd bynnag, nid yw hyn yn amddiffyniad cadarn ac ni ddylid dibynnu arno'n unig. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon cysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych pan fydd rhywun yn gofyn cwestiynau mwy personol neu'n gofyn am sgwrs breifat mewn ap gwahanol.

Gan fod llawer o ddefnyddwyr yn defnyddio Wink i ddod o hyd i ffrindiau newydd ond yna parhau â'u sgyrsiau ar Snapchat, dylai rhieni a gofalwyr neilltuo amser i ymgyfarwyddo â Snapchat. Am fwy o fanylion, darllenwch ganllawiau Snapchat i rieni a gofalwyr.

Mae'r ffaith ei bod hi mor rhwydd gwneud ffrindiau ar Wink yn golygu ei fod yn hwyliog ac yn gwneud i ddefnyddwyr anghofio am y peryglon. Yn anffodus, mae yna rai sy'n ceisio manteisio ar bobl ifanc yn gallu manteisio ar natur agored apiau a safleoedd fel hyn i gysylltu'n uniongyrchol â nhw. Dylai defnyddwyr fod yn ofalus ynglyn â phwy maen nhw'n cwrdd ar-lein, a riportio unrhyw un sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus. 

Mae'n bwysig egluro i'ch plentyn bod rhywun arall yn gallu tynnu sgrinlun o bob cynnwys sy'n cael ei rannu mewn sgyrsiau, ei gadw a'i rannu'n eang wedyn. Mae'n bwysig ystyried y cynnwys maen nhw'n ei greu a'i rannu bob amser, trwy feddwl yn ofalus a fydden nhw'n hapus i bawb maen nhw'n eu hadnabod ei weld. 

Mae Wink yn annog defnyddwyr i brynu arian cyfred mewn ap o'r enw 'Gems', sy'n eu galluogi i sweipio'n i'r dde (derbyn cais ffrind) ac estyn allan at ddefnyddiwr arall. Mae pob sweip i'r dde yn costio 10 gem. Hefyd, mae angen i ddefnyddwyr y platfform uwchraddio i 'Wink Plus' er mwyn gallu chwilio am gyfrifon wedi'u dilysu yn unig. Siaradwch â'ch plentyn am brynu eitemau mewn ap a gwnewch yn siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r eitemau hyn. Gallwch hefyd osod y gosodiadau prynu mewn ap perthnasol ar eich dyfais. Mae rhagor o wybodaeth ar hyn yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.

Dylai defnyddwyr Wink gofio sut mae'r platfform wedi'i gynllunio i ennyn diddordeb defnyddwyr a'u cadw i ddefnyddio'r ap. Mae'r ap yn anfon hysbysiadau cyson, fel ceisiadau ffrind newydd, sy'n annog defnyddwyr i fewngofnodi. Mae hefyd yn gwobrwyo defnyddwyr gyda gemau ('gems') am gynnal sgyrsiau dros sawl diwrnod. Er enghraifft, bydd defnyddwyr sy'n sgwrsio gyda ffrind am 7 diwrnod yn olynol yn cael 1000 gem i'w defnyddio ar y platfform. Atgoffwch eich plentyn i gymryd hoe fach o'r ap a defnyddio'r gosodiadau hysbysu a restrir yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllawiau hyn er mwyn helpu i reoli ei amser ar y platfform.

Dylai defnyddwyr Wink gofio bod rhai o'r proffiliau ar y platfform yn cael eu sefydlu gan sgamwyr, sy'n hyrwyddo hysbysebu cynhyrchion ffug am arian. Anogwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am ddilysrwydd y pethau mae'n eu gweld ar-lein. Os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae'n debyg nad yw'n real ac y dylid ei osgoi ar bob cyfrif.


  • Nid oes gan Wink unrhyw opsiynau gosodiadau i wneud y cyfrif yn breifat. Yn hytrach, argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn archwilio'r ddewislen gosodiadau ar ddyfeisiau unigol er mwyn helpu i reoli preifatrwydd.

    I osod i 'Private' ar iOS:

    • Ewch i'r 'Game Centre' yn newislen gosodiadau eich iPhone.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Privacy and settings’ a newid eich ‘Profile privacy’ i ‘Only you’.

    I osod i 'Private' ar Android:

    • Ewch i'r ap 'Play games', tapiwch yr eicon dewislen a mynd i 'Settings'.
    • Dewiswch ‘Game profile’ > ‘Play now’ > ‘Your game profile’.
    • Addaswch eich gosodiadau ‘Visibility and notifications’ i'r opsiynau mwyaf preifat.
  • Mae'r gosodiadau diofyn ar gyfer defnyddwyr 13-17 oed yn golygu mai dim ond gyda phobl yn y grwp oedran hwnnw y gallan nhw sgwrsio. Dylai rhieni a gofalwyr sicrhau bod y cyfrif wedi ei greu gan ddefnyddio'r dyddiad geni cywir er mwyn elwa ar y gosodiad hwn.

    I reoli gosodiadau sgwrsio:

    • Ewch i'ch proffil a dewis 'Settings’.
    • Dewiswch 'Search preferences' ac ewch drwy'r opsiynau rhestredig.
    • DS: dylai defnyddwyr ddewis ‘Verified profiles only’ er mwyn helpu i gyfyngu ar gyswllt â chyfrifon ffug.

    I ddileu eich cyfrif:

    • Ewch i'ch proffil a dewis 'Settings’.
    • Sgroliwch i waelod y dudalen a dewis 'Delete my account'.
    • Dewiswch o blith y canlynol:
      • The age on my profile is wrong
      • Safety or privacy concerns
      • Too busy / too distracting
      • I can’t find friends
      • Created a second account
      • Something else
    • Teipiwch ‘Delete’ yn y blwch testun a dewis ‘Delete’.
  • Gall defnyddwyr riportio ddefnyddwyr eraill sy'n eu plagio neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I riportio cyswllt:

    • Ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt.
    • Dewiswch 'Report X’.
    • Pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to report?’ dewiswch ‘Okay’.

    I riportio cyswllt heb ei ychwanegu:

    • Ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt.
    • Dewiswch un o'r rhesymau canlynol dros riportio a blocio'r defnyddiwr:
      • I’m not interested in this person
      • Inappropriate behaviour
      • Abusive or threatening
      • Spam or scam
      • Stolen photo
    • Dewiswch 'Report and block'.
    • Pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to report?’ dewiswch ‘Okay’.

    I rwystro cyswllt:

    • Ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt.
    • Dewiswch 'Bloc X’.
    • Pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to report?’ dewiswch ‘Okay’.

    I ddileu ffrind:

    • Ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt.
    • Dewiswch 'Unfriend'.
    • Pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to unfriend X? dewiswch ‘Okay’.
  • Does dim gosodiadau yn Wink i reoli hysbysiadau na phrynu. Yn hytrach, dylai rhieni a gofalwyr archwilio'r ddewislen gosodiadau ar ddyfeisiau unigol.

    I reoli hysbysiadau ar iOS:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Notifications'.
    • Chwiliwch am Wink yn y rhestr apiau a diffodd yr opsiwn 'Allow notifications'.

    I reoli amser ar Android:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Apps’.
    • Dewch o hyd i Wink yn y rhestr apiau a dewis 'Notifications’.
    • Diffoddwch yr opsiwn 'Show notifications'.

    I analluogi prynu eitemau mewn ap ar iOS:

    • Ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i 'Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ a gosod yr opsiwn i ‘Don’t allow’.

    I analluogi prynu eitemau mewn ap ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch 'Menu' > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’.
    • Mae hyn yn golygu y bydd angen gosod cyfrinair i brynu pethau drwy'r ap.
  • Dylai defnyddwyr e-bostio support@getwinkapp.com yn gyntaf os oes ganddyn nhw danysgrifiad
    Wink+ er mwyn canslo hwnnw cyn dileu eu cyfrif. Does dim modd dadactifadu cyfrif Wink am gyfnod dros dro.

    I ddileu cyfrif Wink:

    • Yn gyntaf, ewch i’ch ‘Profile’ trwy ddewis y llun fector o berson yn y gornel dde isaf.
    • Ar eich proffil, pwyswch yr eicon gêr ar y dde uchaf i agor ‘Settings’.
    • Sgroliwch i lawr, ac o dan y botwm mawr coch o’r enw ‘Log Out’ pwyswch ‘Delete my account’.
    • Dewiswch eich rheswm dros ddileu’ch cyfrif.
    • Teipiwch ‘Delete’ i gadarnhau eich bod am ddileu’ch cyfrif.

Mae gan Wink dudalen About us gyda gwybodaeth gyswllt i ofyn cwestiynau neu adael adborth.