English

Ap rhwydweithio cymdeithasol anhysbys di-dâl yw Whisper a gafodd ei lansio yn 2012 ac mae ganddo tua 30 miliwn o ddefnyddwyr misol. Gall defnyddwyr gofrestru gyda Whisper gan ddefnyddio llysenw a rhif PIN ac yna postio unrhyw gynnwys maen nhw eisiau ei bostio heb orfod datgelu pwy ydyn nhw. Yn wahanol i apiau cyfryngau cymdeithasol eraill, nid oes gan ddefnyddwyr broffil ar Whisper, felly does ganddyn nhw ddim ffrindiau, dilynwyr, cyfeiriadau e-bost, lluniau na phethau sy'n sefydlu pwy ydyn nhw. Mae'r postiadau, a elwir yn 'Whispers', yn cynnwys testun dros ddelwedd, y gellir ei huwchlwytho neu ei chael o oriel luniau  ar yr ap. Gall pobl ymateb i'r negeseuon hyn yn gyhoeddus neu drwy anfon negeseuon preifat. Mae Whisper yn rhoi ymdeimlad o anhysbysrwydd i ddefnyddwyr a theimlad y gallant rannu unrhyw beth maen nhw eisiau. Mae'r ap yn disgrifio hyn fel credu -  'happinness is being your real self'.


Yr oedran isaf i ddefnyddwyr Whisper yw 13. Mae'n gofyn i ddefnyddwyr dan 18 oed gael mynediad i'r safle gyda goruchwyliaeth rhieni yn unig, er nad oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae'r Apple App Store yn rhoi sgôr oedran 17 + iddo, a Google Play yn rhoi sgôr 'Parental guidance'.

Gan nad oes angen i ddefnyddwyr gofrestru na sefydlu cyfrif i ddefnyddio'r safle, does dim cyfle i roi gosodiadau preifatrwydd na rheolaethau rhieni.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.


Gall apiau dienw fod yn gyffrous i blant a phobl ifanc gan eu bod yn caniatáu iddyn nhw rannu a rhyngweithio ag eraill heb ddatgelu pwy ydyn nhw. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ddefnyddio'r nodweddion lleoliad er mwyn dod o hyd i feddyliau cyfrinachol pobl sydd gerllaw neu hyd yn oed yn rhan o gymuned eu hysgol.   

Nodwedd arall yr ap yw'r math o gynnwys y mae'n ei ddangos. Trwy hybu cynnwys 'social confessions' mae elfen 'clickbait' i lawer o'r negeseuon, gyda phobl yn datgelu meddyliau a theimladau cyfrinachol am aelodau'r teulu, ffrindiau, perthnasoedd a sefyllfaoedd a allai fod yn frawychus neu'n ddadleuol.


  • Mae defnyddwyr yn postio testun ar ddelwedd maen nhw'n ei huwchlwytho neu'n ei dewis o'r 'Whisper library'. I weld 'Whisper' gan eraill, gall defnyddwyr ddewis gweld sibrydion o blith categorïau 'Groups', 'Popular', 'Nearby' neu 'Latest'. Gall defnyddwyr ychwanegu ysgol at eu lleoliad ac yna defnyddio Whisper yn yr ysgol arbennig honno.

  • Gall defnyddwyr ddewis grwpiau â diddordeb cyffredin. Gallai'r rhain fod yn unrhyw beth gan gynnwys 'sexy and relationships' a 'health and wellness'.

  • Dyma'r pynciau mwyaf poblogaidd ar yr ap ar unrhyw adeg.

  • Mae’n defnyddio'r gosodiad lleoliad i ddod o hyd i ddefnyddwyr lleol eraill.

  • Mae hyn yn dangos y postiadau diwethaf a rannwyd ar yr ap.

  • Gallwch ddefnyddio'r eicon siâp calon i ddangos eich bod yn hoffi neges.

  • Gallwch ysgrifennu sibrwd (whisper) am neges rhywun arall ar ffurf ymateb.

  • Gallwch sgwrsio â chrëwr post drwy dapio'r eicon swigen lleferydd ar waelod y ddelwedd sydd wedi’i rhannu.

  • Mae sgyrsiau'n cael eu sgorio allan o 10 ac yn ymddangos wrth ymyl y ddelwedd pan fyddwch chi'n dechrau sgwrs. Po uchaf yw'r sgôr, po fwyaf 'hapus' yw'r 'emoji' wyneb. Rydych chi'n sgorio delwedd rhywun drwy ei ychwanegu at eich ffefrynnau.


Er bod y safle’n dweud ei fod yn addas i ddefnyddwyr 13+ oed, mae perygl o ddod i gysylltiad â phob math o gynnwys anaddas drwy'r ap. Mae gan Whisper ganllawiau cymunedol sy'n atgoffa defnyddwyr ‘Don’t be mean, don’t be gross, don’t use whisper to break the law’, ac yn dweud ei fod yn cymedroli'r cynnwys, ond mae llawer o gynnwys aeddfed yn cael ei rannu drwy'r ap o hyd. Mae llawer o'r grwpiau diddordeb ar yr ap wedi'u neilltuo ar gyfer diddordebau rhywiol a chyffesiadau rhywiol. Mae'n ymddangos bod cryn dipyn o aflonyddu rhywiol a throlio yn digwydd drwy'r ap hefyd. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw'n dod ar draws unrhyw gynnwys sy'n peri gofid neu bryder.  

Mae nodwedd lleoliad diofyn yn yr ap sy'n rhannu'r lleoliad y mae pob 'Whisper' yn cael ei bostio ohono. Ar y cyd â chyfnewid cynnwys rhywiol amlwg ar yr ap, mae hyn yn cynyddu'r potensial ar gyfer meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Mae sibrydion yn yr opsiwn 'Nearby' er enghraifft, yn dangos pa mor agos yw defnyddwyr eraill. Mae pryderon am oedolion sy'n defnyddio Whisper er mwyn ceisio ennyn diddordeb plant trwy eu negeseuon a thrwy ddefnyddio'r opsiwn negeseuon uniongyrchol i feithrin cysylltiadau. Efallai y byddan nhw wedyn yn ddigon agos i drefnu cyfarfod yn y byd all-lein. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon cysylltu â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Anogwch nhw i ddweud wrthych chi os yw rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu ofyn am sgwrs breifat, mewn ffordd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus.  

Un o brif risg y gwasanaethau hyn yw y gall defnyddwyr deimlo'n llai atebol am y pethau maen nhw'n eu dweud a'u rhannu ac y gallai bwlio a chasineb at unigolion ddatblygu'n gyflym iawn. Mae elfen lleoliad y gwasanaeth yn golygu y gellir ei ddefnyddio mewn amgylchedd ysgol i dargedu dioddefwyr ac mae'r ymdeimlad o anhysbysrwydd yn golygu ei bod yn hawdd tynnu pobl i mewn i'r sgwrs. Gall defnyddwyr ifanc gael eu tynnu i mewn i ryngweithio sy’n cynnwys bwlio, gan gredu na fydd sylwadau’n cael eu holrhain yn ôl atyn nhw ac na fyddan nhw'n cael eu dal yn atebol. Gall y cynnig agored o anhysbysrwydd wneud pobl yn llai tebygol o ystyried eu hymddygiad a meddwl am yr effaith maen nhw'n ei chael ar eraill. Mae’n gallu rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch ynghylch rhannu i bobl ifanc hefyd.   

Er bod ap Whisper yn cael ei hysbysebu fel un hollol anhysbys, mae modd olrhain pobl ar yr ap mewn gwirionedd pan maen nhw wedi torri'r gyfraith. Er gwaetha'r anhysbysrwydd a gaiff ei addo, mae'n bwysig cofio bod Whisper yn cymryd ac yn defnyddio data gan ddefnyddwyr, gan gynnwys data lleoliad. Mae'r ap yn gofyn am fynediad i gamera ffôn defnyddwyr a nodweddion eraill hefyd. Pan fydd defnyddwyr yn lawrlwytho'r ap am y tro cyntaf, maen nhw'n cael eu cymell i alluogi pob hysbysiad. Fel llawer o apiau negeseuon eraill, mae wedi'i gynllunio i gadw defnyddwyr yn ymgysylltu ac ar y platfform am gyfnodau estynedig. Gall fod yn anodd i blant wrthsefyll yr hysbysiadau sy’n eu hannog i ymateb. Anogwch eich plentyn i gymryd seibiant o'r platfform a chael amser di-sgrin.  


  • Does dim rheolaethau rhieni na gosodiadau diogelwch ar Whisper. Mae canolfan gymorth ('Help centre') Whisper yn eich cynghori ar sut i atal eich plentyn rhag cael mynediad i'r ap drwy osod rheolaethau ar y ddyfais y mae'n ei defnyddio. Does dim cyngor ynglyn â sut i wneud yr ap yn fwy diogel os ydych chi'n ei ddefnyddio.

    I alluogi pin:

    • Ewch i'ch cyfrif.
    • Dewiswch yr eicon gosodiadau yng nghornel dde ucha'r sgrin.
    • Sgroliwch i 'Privacy' ac yna 'PIN’
    • Dewiswch PIN i helpu i ddiogelu eich preifatrwydd.
  • Ychydig iawn o osodiadau diogelwch sydd ar Whisper. Ewch drwy'r ddewislen gosodiadau i wirio bod y gosodiadau cyfyngedig yn addas i'ch plentyn. Gan nad oes angen cofrestru na sefydlu cyfrif i gael mynediad i Whisper, mae'n anodd rheoli rhyngweithio neu gynnwys. Archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, sy'n eich galluogi i roi hidlwyr a blociau ar waith. Er bod angen i chi alluogi gwasanaethau lleoliad i agor yr ap yn y lle cyntaf, gallwch analluogi 'Location services' yng ngosodiadau eich dyfeisiau unigol wedyn, yn hytrach nag o fewn yr ap.

    I analluogi gwasanaethau lleoliad ar iOS:

    • Ewch i'ch dewislen gosodiadau a sgrolio i 'Privacy'.
    • Dewiswch 'Location services' a thoglo oddi ar 'Location services'

    I analluogi gwasanaethau lleoliad ar Android:

    • Ewch i'ch dewislen gosodiadau a sgrolio i 'Personal'.
    • Dewiswch ‘Location access’ a thoglo oddi ar ‘Access to my location’.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am ddefnyddiwr:

    • Ewch i'ch cyfrif ac yna'r ddewislen gosodiadau.
    • Sgroliwch i lawr i 'Email support' a dewis 'Report a user'.
    • Mae hyn yn creu drafft e-bost i chi ysgrifennu eich adroddiad a'i gyflwyno.

    Gallwch fflagio sibrydion (whispers) unigol hefyd. Mae'r rhesymau’n cynnwys:

    • Noethni neu gynnwys rhywiol amlwg
    • Bwlio/iaith casineb
    • Cynnwys amhriodol neu graffig
    • Perygl neu fygythiad ar fin digwydd

    Bydd fflagiau'n cael eu hadolygu gan y platfform, a bydd y neges yn cael ei dileu os ydyn nhw'n teimlo ei bod wedi torri canllawiau cymunedol.

  • Mae nodweddion cyfyngedig ar gael sy'n caniatáu i ddefnyddwyr reoli eu hamser ar y safle, ond gall defnyddwyr analluogi 'Push notifications' er mwyn helpu i reoli'r hysbysiadau maen nhw’n eu derbyn.

    I analluogi 'Push notifications':

    • Ewch i’ch cyfrif a dewis y ddewislen gosodiadau.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Enable push notifications’ a thoglo’r opsiwn i ffwrdd.

    Archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, a allai ganiatáu i chi osod terfynau amser a rheolaethau.

  • Dylai defnyddwyr sydd am ddileu eu cyfrif Whisper gofio y byddant yn cael eu hatal rhag ymuno â Whisper eto ar eu dyfais. Does dim gosodiadau i analluogi cyfrif Whisper am gyfnod dros dro.

    I ddileu cyfrif Whisper:

    • Dewiswch y tri dot fertigol ar y gornel dde uchaf a phwyso’r eicon gêr â’r label ‘Settings’.
    • O dan Settings, chwiliwch am ‘Email Support’ a’i ddewis.
    • Dewiswch ‘Account deletion’.
    • Dewiswch y rheswm dros ddileu eich cyfrif a chadarnhau.

Siaradwch â'ch plentyn ynglyn â pham mae eisiau defnyddio Whisper a beth yw'r peryglon, fel ei fod yn barod rhag ofn i rywbeth fynd o'i le iddo ef neu eraill. Pwysleisiwch y ffaith nad ydyn nhw’n ddienw neu'n anhysbys ar yr ap o reidrwydd, ac eglurwch pa mor hawdd yw hi i gyfrannu at fwlio o'r tu ôl i sgrin. Trafodwch sut y gall dieithriaid ddefnyddio'r ap i geisio cysylltu a threfnu cyfarfod wyneb yn wyneb. Cadwch sianeli cyfathrebu ar agor fel eu bod nhw'n gallu dod atoch chi i siarad os aiff rhywbeth o'i le.

Mae Whisper wedi creu canllaw rheoli i rieni er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i reoli defnydd eu plentyn o’r ap.