English

Ap negeseua gwib rhad ac am ddim yw Telegram Messenger (Telegram) sydd â hyd at 500 miliwn o ddefnyddwyr misol gweithredol ledled y byd.  Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon, delweddau a fideos i gysylltiadau a ychwanegwyd ar eu cyfrif Telegram naill ai'n unigol neu mewn sgyrsiau grwp. Rhaid i ddefnyddwyr ddilysu eu cyfrif gyda rhif ffôn symudol i ddechrau defnyddio'r ap.  Mae poblogrwydd Telegram wedi cynyddu oherwydd ei ffocws ar ddiogelwch, a'r gallu i alluogi negeseuon wedi'u hamgryptio. Mae'r ap yn addo hefyd na fydd yn rhannu data defnyddwyr â thrydydd partïon. Mae'r ap ar gael ar ddyfeisiau Android ac iOS, yn ogystal â chyfrifiaduron personol.


Y cyfyngiad oedran isaf ar gyfer Telegram yw 16 oed, ond nid oes unrhyw ddull trylwyr o ddilysu oedran.

Mae Apple App Store yn rhoi sgôr oedran 17+ oed i'r ap a Google Play yn dweud 'parental guidance required'.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae Telegram yn boblogaidd gyda phobl ifanc sy'n chwilio am ffordd hawdd a chyfleus i anfon neges at ffrindiau a theulu. Mae Telegram yn hawdd i'w ddefnyddio a gan ei fod yn cyd-fynd â'ch cysylltiadau ffôn, gall defnyddwyr ddechrau sgwrsio gyda ffrindiau yn syth bin. Mae'r preifatrwydd a’r diogelwch gwell ar Telegram yn nodwedd boblogaidd hefyd, gyda rhai pobl eisiau symud oddi wrth apiau sy'n cael eu rhedeg gan y cwmnïau technoleg mwyaf. Mae'r amgryptio o un pen i’r llall yn y nodwedd 'Secret chats' yn cynnig ffordd fwy diogel a phreifat o anfon a derbyn negeseuon hefyd. Fodd bynnag, gall hyn effeithio ar ymddygiad rhai pobl ifanc sy'n defnyddio'r ap a'r math o gynnwys maen nhw'n dewis ei rannu.


  • Mae'r rhain yn cuddio rhannau o neges nes i'r derbynnydd glicio arni. Mae’r nodwedd hon wedi’i hychwanegu at ddelweddau hefyd, gan wneud y ddelwedd yn aneglur nes bod defnyddiwr yn clicio arni i ddatgelu’r ddelwedd.

  • Mae pob neges sy'n cael ei hanfon o fewn y nodwedd hon yn defnyddio proses amgryptio o un pen i’r llall sy'n golygu mai dim ond anfonwr a derbynnydd y neges sy'n gallu ei darllen.

  • Mae hyn yn cyfeirio at atal unrhyw drydydd parti rhag gwylio neu ddarllen neges. Dim ond anfonwr a derbynnydd y neges sy'n gallu gweld y cynnwys.  Mae amgryptio o’r dechrau i’r diwedd yn golygu bod y neges yn cael ei hamgryptio cyn gadael dyfais yr anfonwr a dim ond ar ôl cyrraedd pen y daith mae modd ei dadgryptio.  Mae hyn yn golygu nad oes modd i hacwyr gael gafael ar ddata ar weinydd gan fod y data hwnnw wedi'i amgryptio. 

  • Gall defnyddwyr anfon negeseuon sy'n diflannu ar ôl amser penodol. Dim ond yn 'Secret chats' y gellir defnyddio'r nodwedd hon.  Gall defnyddwyr ‘Auto delete’ pob sgwrs.

  • Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr y platfform weld a chysylltu â defnyddwyr Telegram eraill yn eu lleoliad. Nid yw hyn wedi'i alluogi yn ddiofyn.

  • Adnodd ar gyfer darlledu negeseuon i gynulleidfaoedd mawr yw hwn. Mae'n anfon negeseuon dan enw'r sianel yn hytrach nag o dan enw cyfrif personol.

  • Dyma nodwedd o'r ap sy'n dangos i eraill pryd oeddech chi ar-lein ddiwethaf. 

  • Gallwch osod enw defnyddiwr cyhoeddus y gall defnyddwyr ap eraill ei ddefnyddio i ddod o hyd i chi o fewn y platfform. Yna, bydd defnyddwyr sy'n dod o hyd i chi'n gallu anfon negeseuon, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n un o'ch cysylltiadau chi.

  • Ar ôl i chi sefydlu enw defnyddiwr, gallwch roi dolen enw defnyddiwr t.me i bobl. Pan fyddan nhw'n clicio ar y ddolen, mae'n agor sgwrs gyda chi'n awtomatig.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr sgwrsio â grwpiau o hyd at 200,000 o gyfranogwyr. Gallwch reoli sgyrsiau grwp yn eich gosodiadau preifatrwydd.  Mae’r swyddogaeth ‘Topics’ oddi mewn i sgyrsiau grwp yn hwyluso sgyrsiau grwp llai oddi mewn i’r fforwm sgwrsio’r grwp mwy.

  • Dyma ddefnyddiwr sy'n sefydlu sgwrs grwp ac sy'n gallu rheoli aelodau'r grwp hwnnw, fel ychwanegu a chael gwared ar gyfranwyr.

  • Mae hyn yn caniatáu i weinyddwr y grwp aros yn ddienw ymhlith aelodau eraill y grwp. Maen nhw'n dal i allu postio neges yn y sgwrs, o dan enw a llun proffil y grwp.

  • Rhaglenni bach sy'n rhedeg o fewn yr ap yw'r rhain, ac sy'n cael eu creu gan ddatblygwyr trydydd parti.  Rhaglenni cyfrifiadurol yw 'bots' (Robot yn gryno) sydd wedi'u cynllunio i efelychu gweithgaredd dynol a chwblhau tasgau ailadroddus.  Mae ap Telegram yn cefnogi'r defnydd o Bots ar ei blatfform mewn ffordd hawdd ei defnyddio – yn y bôn, fel cyfrifon awtomataidd y gall defnyddwyr eu hychwanegu at eu sgwrs i'w gwneud yn fwy o hwyl, yn fwy cyfleus ac yn fwy personol.  Gall bots wneud amrywiaeth o bethau, megis sgwrsio, chwarae, dylanwadu ar drafodaethau, chwilio, rheoli taliad, neu wneud pob math o dasgau awtomataidd.

  • Mae'r cyfrifon hyn yn defnyddio algorithmau sy'n dysgu ac yn dynwared ymddygiad dynol i chwarae gemau a chymryd rhan mewn sgwrs â defnyddwyr.

  • Mae gan Telegram nodwedd gyfieithu hefyd i ganiatáu mwy o gysylltiadau byd-eang rhwng ei ddefnyddwyr.

  • Gall defnyddwyr greu codau QR dros dro i gysylltu â phobl o’u cwmpas. Gall y codau QR guddio rhif ffôn defnyddiwr, gan ei wneud yn fwy anhysbys ac anodd i’w olrhain. Dylai defnyddwyr feddwl yn ofalus cyn ychwanegu pobl trwy godau QR oni bai eu bod yn eu hadnabod.


Mae defnyddio Telegram yn cyflwyno risgiau sylweddol i ddefnyddwyr gan gynnwys dod i gysylltiad â chynnwys treisgar a rhywiol yn ogystal ag iaith casineb. Mae risgiau'r cynnwys yn uwch ar sianeli agored fel 'People nearby', lle gall dieithriaid rannu straeon, negeseuon a lluniau personol a lle gall straeon hynod frawychus a chamwybodaeth drendio o dan hashnodau. I ymdrin â phroblemau gyda'r cynnwys, mae Telegram newydd lansio 'Sensitive content filter' sy'n cael ei alluogi’n ddiofyn, a dim ond trwy ddefnyddio fersiwn bwrdd gwaith yr ap y gellir ei analluogi. Y ffordd orau o gyfyngu ar y math o gynnwys mae'ch plentyn yn agored iddo yw sicrhau e fod ond yn cysylltu â phobl y mae'n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw, yn hytrach na dieithriaid neu dderbyn cynnwys gan sianeli cyhoeddus. Fodd bynnag, rhaid cydnabod y gallai'ch plentyn barhau i fod yn agored i gynnwys amhriodol trwy ei gysylltiadau hysbys.

Mae’n bosib hefyd y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus neu gynnwys aeddfed mewn negeseuon. Gellir defnyddio nodweddion fel 'Secret chats' a 'Spoiler tags' fel ffordd o rannu cynnwys amhriodol ar yr ap, felly dylech fonitro'r rhain. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn gallu cysylltu â nhw ar y platfform, mae'n llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran.

Hefyd, mae gan yr ap gasgliad eang o offer golygu i ddefnyddwyr olygu'r cynnwys maen nhw'n ei rannu. Gall hyn roi pwysau ar rai defnyddwyr i olygu eu lluniau a'u fideos. Gall gormod o gysylltiad â chynnwys sydd wedi'i olygu'n sylweddol gael effaith negyddol iawn ar ddelwedd y corff a lles.  

Gan fod gan Telegram sgôr oedran o 16, nid yw'n cynnwys unrhyw osodiadau rheolaethau rhieni go iawn. Fel llawer o apiau cyfryngau cymdeithasol eraill, rhaid cydnabod bod rhai plant yn cofrestru â'r ap pan maen nhw o dan y terfyn oedran awgrymedig. Er bod y gosodiadau diofyn yn golygu bod defnyddwyr ond yn weladwy i'w cysylltiadau, unwaith y byddwch chi'n sefydlu enw defnyddiwr, mae unrhyw ddefnyddwyr eraill ar y platfform yn gallu cysylltu â nhw wedyn. Cofiwch nad oes angen i ddefnyddwyr greu enw defnyddiwr i ddefnyddio'r ap. Os yw'ch plentyn wedi dewis enw defnyddiwr, mae perygl y bydd rhywun dieithr yn cysylltu â'ch plentyn o ystyried yr holl ddefnyddwyr byd-eang sydd gan y platfform. Mae'r nodwedd 'People nearby' yn annog ac yn ysgogi defnyddwyr i gysylltu â defnyddwyr yn yr un lleoliad ffisegol hefyd a gallai roi'ch plentyn mewn perygl o gwrdd â dieithryn yn y byd all-lein hefyd, felly ceisiwch sicrhau bod y swyddogaeth hon wedi'i dadalluogi. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Atgoffwch nhw i ddweud wrthych pan fydd rhywun yn gofyn cwestiynau mwy personol neu'n gofyn am sgwrs breifat mewn ffordd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus. Argymhellir newid y gosodiadau preifatrwydd i rannu gyda 'contacts only'.

Defnyddir 'bots' yn Telegram ar gyfer pob math o nodweddion, gan gynnwys chwarae gemau. Dylai rhieni a gofalwyr gofio, er nad yw bots yn gallu cael mynediad at rifau symudol, eu bod nhw'n gallu gweld gwybodaeth mewn proffiliau ac ymgysylltu â defnyddwyr yn yr un ffordd ag unrhyw ddefnyddiwr arall ar y platfform. Siaradwch â'ch plentyn am fod yn ofalus wrth ymwneud â 'bots', fel unrhyw ddefnyddiwr dieithr arall ar y platfform. Atgoffwch ddefnyddwyr iau i beidio â rhannu gwybodaeth bersonol gyda bots ac osgoi agor ffeiliau a anfonwyd ganddynt.

Os oes gan eich plentyn ei gyfrif Telegram ei hun, mae'n bwysig i chi a nhw fod yn ymwybodol o'r hyn y mae'n ei rannu a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Gan ei fod yn wasanaeth wedi'i amgryptio, mae rhai defnyddwyr yn meddwl nad oes modd eu dwyn i gyfrif am yr hyn maen nhw'n ei rannu, ac nad oes modd ei olrhain yn ôl iddynt. Ond mae angen i bobl ifanc gofio nad yw hyn yn wir a bod unrhyw gynnwys y maen nhw'n ei bostio neu'n ei rannu yn gadael ôl troed digidol. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sydd, a beth sydd ddim, yn addas i'w rannu, a thrafodwch y ffyrdd gwahanol o ddiogelu ei hun trwy rannu â'i gysylltiadau’n unig. Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw gafael ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn.

Mae nodweddion eraill ar Telegram fel 'Reactions' yn golygu y gall defnyddwyr ymateb i gynnwys ar unwaith, heb feddwl gormod amdano. Gall hyn arwain at ddefnyddwyr yn postio ymateb y byddant yn ei ddifaru wedyn efallai, oherwydd ei fod yn achosi gwrthdaro neu'n codi gwrychyn. Atgoffwch eich plentyn i oedi a meddwl sut y byddai'r sawl bostiodd y neges yn teimlo cyn ymateb i unrhyw beth mae'n ei weld ar y platfform.

Mae amryw o nodweddion ar Telegram a allai fod yn broblemus i ddioddefwyr seiberfwlio. Mae'r nodweddion ‘Anonymous forwarding’ a ‘Disappearing messages’ yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon a rhannu cynnwys a allai achosi niwed heb ysgwyddo cyfrifoldeb neu deimlo'n atebol. Siaradwch â'ch plentyn am yr effaith y gall ymddygiad ar-lein angharedig ei gael ar eraill, y ffaith y gallai'r nodweddion hyn waethygu achosion o fwlio a niwed, a'i annog i wneud safiad yn erbyn unrhyw fwlio y bydd yn ei weld.  

Mae llawer o nodweddion Telegram sydd â’r nod o ennyn diddordeb ac apelio at ddefnyddwyr, gan gynnwys nodweddion cynnwys, personoli trwy ddefnyddio bots, ac amgryptio o'r dechrau i'r diwedd fel un o'i opsiynau mewn sgwrs.  Mae'n bwysig cofio bod apiau fel Telegram wedi'u cynllunio i ymgysylltu â defnyddwyr cyhyd â phosibl trwy anfon cynnwys hygyrch at ddefnyddwyr a hyrwyddo rhyngweithedd.  Mae'n bwysig cofio pa mor gymhellol y gallai apiau fod i blant nes methu â rhoi'r gorau i'w defnyddio, ac annog rhai sydd dan eich gofal i gael seibiant.  Er gwaethaf enw da Telegram am breifatrwydd a diogelwch, mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cofio bod pob gweithgaredd ar-lein yn gadael ôl troed digidol a bod angen i'r defnyddiwr fod yn gyfrifol am yr hyn y mae'n ei bostio a'i rannu. Hefyd, mae angen bod yn ofalus gyda'r defnydd o bots ar y platfform, yn enwedig nodweddion fel bots siopau, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr siopa o fewn yr ap.  Gwnewch yn siwr bod defnyddwyr iau yn deall beth yw siopa ar-lein a bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau.


  • Mae Telegram yn rhoi'r opsiwn i ddefnyddwyr ddewis pwy maen nhw'n rhannu eu gwybodaeth gyda nhw drwy ddewis un o'r opsiynau canlynol: ‘Everybody’, ‘My contacts’ a ‘Nobody’.

    Gosod gosodiadau preifatrwydd:

    • Agorwch yr ap a dewis 'Settings'.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Privacy and security’.
    • Ewch drwy'r opsiynau sydd wedi’u rhestru a dewis o blith:
      • Everybody
      • My contacts

    I analluogi 'People nearby':

    • Agorwch yr ap a dewis 'Contacts'.
    • Dewiswch 'Find people nearby' a sicrhau bod yr opsiwn 'location access' wedi'i analluogi.
  • Mae gosodiadau diofyn Telegram yn golygu bod pobl y tu allan i'w cysylltiadau ffôn yn gallu ychwanegu defnyddwyr at sgyrsiau grwp heb ganiatâd.  Mae'r un peth yn wir am dderbyn galwadau hefyd.

    I reoli rhyngweithio:

    • Agorwch yr ap a dewis 'Settings'.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Privacy and security’.
    • Ewch drwy'r opsiynau sydd wedi’u rhestru a dewis o blith:
      • Everybody
      • My contacts
  • Gall defnyddwyr riportio a rhwystro defnyddwyr eraill sy'n eu plagio neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Mae Telegram yn caniatáu i ddefnyddwyr allforio copïau o'u sgyrsiau hefyd, sy'n ddefnyddiol os oes eu hangen fel tystiolaeth o ymddygiad amhriodol ar y platfform.

    Rhwystro defnyddiwr:

    • Ewch at y defnyddiwr rydych chi am ei rwystro naill ai drwy chwilio neu sgrolio drwy'r rhestr sgwrsio.
    • Tapiwch ar eu henw ar frig y dudalen.
    • Tapiwch yr eicon tri dot a dewis 'Block user'.
    • Noder na fydd blocio'n dileu'r cyswllt o'r ap Telegram, dim ond o'ch cyfrif chi. I ddileu cyswllt, bydd angen i chi ddileu'r cyswllt oddi ar gysylltiadau ffôn.

    I allforio log sgwrs:

    • Ewch i'r sgwrs rydych am ei hallforio.
    • Cliciwch ar y sgwrs a dewis 'Export chat history’.
  • Mae yna rai gosodiadau yn Telegram i helpu cyfyngu'r pwysau ar bobl ifanc i fod ar-lein ac ymateb i negeseuon ar unwaith. Mae pob hysbysiad wedi'i alluogi yn ddiofyn, felly mae'n werth treulio amser yn archwilio'r gosodiadau hysbysu.

    Rheoli hysbysiadau:

    • Agorwch yr ap a dewis 'Settings'.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Notifications and sounds’.
    • Ewch drwy'r opsiynau sydd wedi’u rhestru:
      • Private chats
      • Group chats

    I analluogi'r nodwedd 'Last seen':

    • Agorwch yr ap a dewis 'Settings'.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Privacy and security’.
    • Tapiwch ar 'Last seen and online' a dewis 'Nobody’.
  • Trwy ddileu cyfrif, bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol a does dim modd ei hadfer. Rhaid bod defnyddwyr yn gallu cael gafael ar y rhif ffôn wnaethon nhw ei ddefnyddio i gofrestru ar gyfer Telegram. Does dim gosodiadau dadactifadu ar Telegram.

    I ddileu cyfrif ar Telegram:

    • Dilynwch y ddolen hon a theipio’ch rhif ffôn. Bydd Telegram yn anfon cod cadarnhau drwy’r ap i’r rhif ffôn hwnnw.
    • Teipiwch y cod cadarnhau.
    • Dewiswch ‘Delete account’.
    • Dewiswch y botwm glas wedi’i labelu ‘Delete My Account’. Gall defnyddwyr ysgrifennu pam maen nhw’n gadael Telegram.

I gael mwy o ddiogelwch, gall defnyddwyr greu cod mynediad. Mae hyn yn golygu mai dim ond defnyddiwr yr ap fydd yn gallu cael mynediad i'r cyfrif. Gellir cryfhau hyn ymhellach trwy alluogi prawf dilysu dau gam i gael mynediad i'r ap. Mae'n ddefnyddiol gwybod hyn, yn enwedig i bobl ifanc sydd am sicrhau bod eu sgyrsiau'n parhau'n breifat ac osgoi cael eu harchwilio gan eu rhiant neu ofalwr. Esboniwch wrth eich plentyn pam y byddwch chi am wirio â phwy mae'n sgwrsio o bryd i'w gilydd - nid i amharu ar ei breifatrwydd ond i'w gadw'n ddiogel.

Gallu defnyddwyr Telegram greu cyfrifon heb gardiau SIM neu rifau ffôn trwy blatfformau trydydd parti fel Fragment, sy’n cynnig rhifau ffôn anhysbys am dâl.