English

Mae Signal yn ap negeseua gwib am ddim sy’n caniatáu i’w ddefnyddwyr gyfathrebu drwy negeseuon testun, fideo a galwadau sain. Mae’r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon neu wneud galwadau i’w cysylltiadau ffôn naill ai’n unigol neu mewn sgyrsiau grwp. Gall defnyddwyr ddefnyddio’r offeryn golygu delwedd mewnol wrth anfon lluniau neu ddylunio pecynnau sticeri wedi’u hamgryptio, a gallant addasu rhybuddion ar gyfer pob cyswllt unigol hyd yn oed. Un o nodweddion allweddol Signal yw’r preifatrwydd mae’n ei gynnig i’w ddefnyddwyr, lle mae sgyrsiau’n cael eu cadw’n ddiogel drwy amgryptio o’r dechrau i’r diwedd, ac mae datblygwyr yr ap yn addo na fyddant yn hysbysebu nac yn olrhain. Bydd angen rhif ffôn symudol y DU ar ddefnyddwyr i greu cyfrif, ac mae bellach yn caniatáu i ddefnyddwyr newid eu rhif symudol heb i hynny gael effaith ar sgyrsiau a negeseuon sydd eisoes yn bodoli.

Rhaid i ddefnyddwyr Signal fod yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes gan Signal unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.

Mae Signal yn ap negeseua poblogaidd ar gyfer y rhai sy’n chwilio am well preifatrwydd a diogelwch. Gall defnyddwyr gyfathrebu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys testun a galwadau fideo, gydag amddiffyniad amgryptio o’r dechrau i’r diwedd. Mae nifer o nodweddion diddorol a hwyliog y gall pobl ifanc eu defnyddio i gysylltu â’i gilydd, gan gynnwys sticeri, ‘View once media’ a ‘Disappearing messages’. Mae’r defnydd o amgryptio o’r dechrau i’r diwedd yn golygu bod rhai defnyddwyr yn teimlo ei fod yn fwy diogel ar gyfer anfon neu dderbyn gwybodaeth sensitif neu gynnwys preifat.

  • Prif nodwedd Signal yw’r gallu i gael sgyrsiau unigol neu grwp gyda chysylltiadau ar eich ffôn.

  • Mae hyn yn cyfeirio at atal unrhyw drydydd parti rhag gwylio neu ddarllen neges. Dim ond anfonwr a derbynnydd y neges sy’n gallu gweld y cynnwys. Mae amgryptio o’r dechrau i’r diwedd yn golygu bod y neges yn cael ei hamgryptio cyn iddi adael dyfais yr anfonwr, a dim ond ar ôl iddi gyrraedd pen y daith mae’n cael ei dadgryptio. Mae hyn yn golygu nad oes modd cyrchu data ar weinydd gan hacwyr oherwydd bod y data wedi’i amgryptio.  

  • Ar yr amod bod gennych gysylltiad rhyngrwyd neu lwfans data, gall defnyddwyr ffonio cyswllt ar Signal am ddim. Gall hyn fod naill ai’n alwad sain neu fideo gydag unigolyn neu grwpiau o hyd at 1,000 o bobl. 

  • Yn ogystal ag anfon testun ac emojis, gall defnyddwyr anfon sticeri at eu cysylltiadau hefyd. Gall defnyddwyr greu eu pecynnau sticeri eu hunain i’w defnyddio mewn negeseuon.

  • Mae galluogi ‘Sealed Sender’ yn golygu y gellir derbyn negeseuon gan bobl nad ydyn nhw’n gysylltiadau a phobl nad ydych chi wedi rhannu eich proffil â nhw.

  • Gall defnyddwyr osod amserydd ar gyfer dileu negeseuon. Y bwriad yw i ddefnyddwyr allu anfon gwybodaeth nad ydyn nhw am i eraill ei chadw am amser hir (megis gwybodaeth bersonol) ac i leihau’r defnydd o ddata.

  • Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i chi anfon negeseuon atoch chi’ch hun, ac fe’i defnyddir yn bennaf fel dull o atgoffa.

  • Gall defnyddwyr greu dolen grwp i’w rhannu â’u ffrindiau i’w gwahodd i ymuno â grwp. Gall hwn fod yn god QR hefyd.

  • Gallwch binio sgwrs sy’n golygu y bydd yn ymddangos ar frig eich rhestr sgwrsio bob amser.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon lluniau a fideos unigol sy’n cael eu tynnu’n awtomatig o edefyn sgwrs ar ôl iddyn nhw gael eu gweld.

  • Mae ‘Stori’ yn llun neu’n fideo y gallwch ei lanlwytho i’ch proffil ac mae defnyddwyr eraill yn gallu ei weld am 24 awr cyn ei fod yn diflannu.

Fel apiau negeseua eraill, mae llawer o straeon personol, negeseuon a lluniau’n cael eu rhannu gan ddefnyddwyr ar Signal. Mae’n bosib y gall eich plentyn ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus neu gynnwys aeddfed yn ei negeseuon. Mae modd i nodweddion fel ‘Disappearing messages’ a ‘View once media’ gael eu defnyddio fel ffordd o rannu cynnwys amhriodol ar yr ap, felly dylai’r rhain gael eu monitro. Drwy gyfyngu ar allu eich plentyn i gyrchu gwahanol gysylltiadau ar y platfform, mae’n llai tebygol o brofi iaith neu gynnwys nad yw’n addas i’w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod ei bod yn bosib o hyd i’ch plentyn weld cynnwys amhriodol drwy’r cysylltiadau sydd ganddo.

Gan fod Signal yn defnyddio cysylltiadau eich ffôn i ganiatáu i sgyrsiau gael eu cynnal, mae’n debygol y bydd defnyddwyr yn adnabod y bobl maen nhw’n cysylltu â nhw yn y lle cyntaf. Ond gellir ychwanegu defnyddwyr at grwpiau sydd â hyd at 1,000 o bobl, felly mae’n bwysig bod eich plentyn yn gwybod beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â sgyrsiau grwp gyda phobl nad yw’n eu hadnabod o reidrwydd. Gellir rheoli hyn drwy osodiadau’r cyfrif. Siaradwch â’ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Anogwch eich plentyn i sôn wrthych os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu ofyn iddo sgwrsio’n breifat gan ddefnyddio ap gwahanol.

Os yw eich plentyn yn defnyddio Signal, mae’n bwysig ei fod yn ymwybodol o’r hyn mae’n ei rannu ac effaith hyn ar ei ôl troed digidol. Gan ei fod yn wasanaeth wedi’i amgryptio, a’i bod yn bosib i ddefnyddwyr olygu negeseuon a anfonwyd, mae rhai defnyddwyr yn credu nad oes modd iddyn nhw gael eu dal yn atebol am yr hyn maen nhw’n ei rannu – nac iddo gael ei olrhain yn ôl atyn nhw. Ond mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol nad yw hyn yn wir, a bod unrhyw gynnwys maen nhw’n ei bostio neu ei rannu’n gallu gadael ôl troed digidol. Mae hanes fersiynau negeseuon a olygwyd ar gael i’r holl ddefnyddwyr yn y sgwrs I’w gweld. Atgoffwch eich plentyn ei bod yn hawdd i bobl eraill dynnu sgrinlun o’r neges a rhannu’r cynnwys maen nhw’n ei bostio yn eang. Mynnwch sgwrs gyda nhw i’w helpu i ddeall beth sy’n briodol ac yn amhriodol i’w rannu, a thrafodwch y gwahanol ffyrdd maen nhw’n gallu amddiffyn eu hunain drwy rannu â’u cysylltiadau yn unig. Mae’r nodwedd ‘Disappearing message’ yn peri risg hefyd, gan y gallai defnyddwyr deimlo nad ydyn nhw’n cael eu ffrwyno a thueddu i rannu cynnwys maen nhw’n tybio nad oes modd ei weld eto. Mae’n bwysig esbonio i ddefnyddwyr ei fod yn bosib tynnu sgrinlun, ei gadw a’i rannu’n eang. Anogwch nhw i feddwl am y cynnwys maen nhw’n ei greu a’i rannu drwy ystyried a fydden nhw’n hapus iddo gael ei weld gan bawb maen nhw’n eu hadnabod.

Un o nodweddion Signal yw’r defnydd o amgryptio o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn golygu mai dim ond y rhai sydd â mynediad at ffôn yr anfonwr a’r derbyniwr sy’n gallu gweld negeseuon – ni all Signal ei hun eu gweld hyd yn oed. Er bod hon yn nodwedd ddiogelwch ddeniadol i lawer o oedolion, mae wedi achosi problemau wrth orfodi’r gyfraith wrth geisio cyrchu cofnodion negeseuon dioddefwyr a phobl sydd dan amheuaeth mewn achosion o gamfanteisio ar blant. Siaradwch yn rheolaidd â’ch plentyn am bwy mae’n cysylltu â nhw ar Signal a gwnewch yn siwr ei fod yn gwybod bod modd iddo drafod unrhyw bryderon gyda chi.

  • Er bod gan Signal rai gosodiadau preifatrwydd, ni allwch wneud eich proffil yn breifat. Yn hytrach, edrychwch ar osodiadau preifatrwydd y cyfrif i wirio eu bod yn addas i’ch plentyn.

    I weld y gosodiadau preifatrwydd:

    • dewiswch eicon eich proffil yng nghornel chwith uchaf y dudalen a chlicio ar ‘Settings’
    • dewiswch ‘Privacy’ a gweithio drwy’r opsiynau ar y rhestr
    • sgroliwch i waelod y dudalen a thapio ‘Advanced’ i weld mwy o osodiadau (bydd unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud ar waith ar unwaith)
  • Mae gan Signal rai gosodiadau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr reoli rhyngweithiadau a chynnwys. Os yw defnyddwyr anhysbys yn anfon neges atoch drwy sgwrs grwp, mae ‘Message requests’ yn rhoi’r opsiwn i chi flocio, dileu, neu dderbyn y neges. Mae hyn yn digwydd yn ddiofyn, fel y mae llawer o’r gosodiadau eraill. Edrychwch ar osodiadau preifatrwydd y cyfrif i wirio eu bod yn addas i’ch plentyn.

    I ddileu sgwrs:

    • tapiwch a dal ar y sgwrs i’w dileu
    • dewiswch ‘Delete’ yna cadarnhau eich dewis

    I wirio gosodiadau ‘Sealed sender':

    • dewiswch eich eicon proffil, yna ‘Settings’ a ‘Privacy’
    • sgroliwch i lawr i ‘Advanced’ ac yna ‘Sealed sender’
    • yn ddiofyn, dylai’r opsiynau hyn fod wedi’u diffodd (argymhellir eu cadw wedi’u diffodd i atal pobl nad ydyn nhw’n enwau cyswllt rhag cysylltu â’ch plentyn)

    I wirio gosodiadau ‘Disappearing messages’:

    • dewiswch eich proffil a dewiswch ‘Privacy’
    • Sgroliwch i lawr i ‘Disappearing messages’
    • tapiwch ar ‘Default timer for new chats’ a sicrhau bod yr opsiwn hwn wedi ei ddiffodd (mae’r opsiwn hwn ar gyfer unrhyw sgyrsiau newydd sy’n dechrau ar ôl i chi newid y gosodiad yn unig. Nid yw’n berthnasol i sgyrsiau sy’n bodoli eisoes)

    I analluogi’r nodwedd ‘Disappearing messages’ ar sgyrsiau sy’n bodoli eisoes:

    • ewch i’r sgwrs rydych eisiau gwirio’r gosodiadau ar ei chyfer
    • cliciwch ar enw’r person/sgwrs i agor y gosodiadau sgwrsio ar gyfer y sgwrs hon yn unig
    • sicrhewch fod yr opsiwn ar gyfer ‘Disappearing message’ wedi’i ddiffodd

    I reoli ‘Stories’:

    • ewch i ‘Signal Settings’ yn eich proffil
    • dewiswch ‘Stories’ a dewiswch ‘My Story’
    • dewiswch eich cynulleidfa o ‘Share all except’ neu ‘Only share with’
    • er mwyn rheoli pwy sy’n gallu ymateb i’ch storïau, toglwch yr opsiwn ar waelod dewislen ‘My Story’ i ‘Off’
  • Gall defnyddwyr flocio, mudo a chwyno am ddefnyddwyr sy’n eu poeni neu sy’n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am ddefnyddiwr:

    • agorwch y sgwrs gyda’r person rydych chi eisiau cwyno yn ei gylch
    • dewiswch yr eicon tri dot a dewis ‘Chat settings’
    • dewiswch ‘Report Spam’ ar waelod y ddewislen a dilyn y cyfarwyddiadau

    I fudo cyswllt:

    • tapiwch a dal ar y sgwrs gyda’r cyswllt rydych chi eisiau ei fudo
    • dewiswch ‘Mute’ yna’r cyfnod o amser nad ydych chi eisiau derbyn hysbysiadau gan y person hwnnw
    • dewiswch ‘Always’ os ydych chi eisiau mudo’r person yn barhaol

    I flocio defnyddiwr:

    • ewch at y defnyddiwr rydych chi am ei flocio naill ai drwy chwilio neu sgrolio drwy eich rhestr sgwrsio
    • tapiwch ar eu henw ar dop y dudalen
    • sgroliwch i lawr drwy’r opsiynau a dewis ‘Block user’

    Neu:

    • ewch i’ch proffil a dewis ‘Settings’ yna ‘Privacy’
    • llywiwch i ‘Blocked’ a thapio ar ‘Add blocked user’
    • dewiswch y defnyddiwr rydych chi eisiau ei flocio a dewis ‘Block’
  • Er mwyn helpu i gyfyngu ar y pwysau i bobl ifanc fod ar-lein ac ymateb i negeseuon ar unwaith, mae gan Signal rai gosodiadau i helpu i reoli’r defnydd. Mae ‘Read receipts’ yn dweud wrth ddefnyddwyr eraill pan fyddwch wedi darllen neges, ac mae ‘Typing indicators’ yn rhoi gwybod i chi pan fydd rhywun wrthi’n teipio neges i chi. Mae hefyd yn bosib i ddefnyddwyr analluogi hysbysiadau er mwyn helpu i reoli’r amser maen nhw’n ei dreulio ar y platfform.

    I analluogi ‘Read receipts’ a ‘Typing indicators’:

    • ewch i’ch proffil a dewis, ‘Settings’ yna ‘Privacy’
    • llywiwch i ‘Messaging’
    • toglwch yr opsiynau ‘Read receipts’ a ‘Typing indicators’ i’w diffodd

    I reoli opsiynau hysbysu:

    • agorwch y ddewislen gosodiadau drwy ddewis yr eicon tri dot a dewis ‘Settings’
    • dewiswch ‘Notifications’ yna mynd drwy’r ddewislen yn nodi eich dewisiadau
    • i analluogi pob hysbysiad, toglwch yr opsiwn nesaf at ‘Notifications’ i ‘Off’
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Does dim opsiwn dadactifadu cyfrif ar gael ar Signal.

    I ddileu cyfrif Signal (Android):

    • dewiswch afatar eich proffil ar y gornel chwith uchaf
    • dewiswch ‘Account’
    • dewiswch ‘Delete account’
    • dewiswch eich gwlad ac ysgrifennwch y rhif ffôn a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru
    • pwyswch ‘Delete account’

    I ddileu cyfrif Signal (iOS):

    • dewiswch afatar eich proffil ar y gornel chwith uchaf
    • dewiswch ‘Account'
    • dewiswch ‘Delete account’
    • dewiswch eich gwlad ac ysgrifennwch y rhif ffôn a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru
    • pwyswch ‘Delete account’

Os yw’ch plentyn yn defnyddio Signal, soniwch am risgiau caniatáu’r nodweddion ‘Disappearing messages’ a ‘View once’. Er y gallai deimlo’n ddiogel rhannu rhywbeth personol amdanyn nhw eu hunain, esboniwch fod modd cadw a storio unrhyw destun neu lun maen nhw’n ei rannu, yn ogystal â’i rannu gydag eraill. Ni ddylen nhw byth rannu unrhyw beth na fydden nhw’n hapus i eraill ei weld.

Gall ‘Disappearing messages’ ac amgryptio o’r dechrau i’r diwedd wneud i’r ap apelio at bobl nad ydyn nhw eisiau wynebu unrhyw ganlyniadau i’w gweithredoedd a’u hymddygiad. O ganlyniad, gallai oedolion ddefnyddio’r ap i feithrin perthynas â phlentyn gyda’r bwriad o’i niweidio neu ei gam-drin. Ceisiwch sicrhau mai dim ond i gyfathrebu â defnyddwyr eraill mae’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw mae eich plentyn yn defnyddio Signal.