English

Mae RevealMe yn blatfform sgwrsio ac adloniant sy'n seiliedig ar danysgrifiad i oedolion a ddefnyddir i rannu lluniau, fideos, ffrydiau byw a galwadau ffôn. Gall 'Models' godi ffi fisol benodol ar eu 'Fans' i gael mynediad at eu cyfrif, lle gall cefnogwyr sgwrsio a rhyngweithio wedyn â'r modelau maen nhw'n tanysgrifio iddyn nhw. Ar ben y costau tanysgrifio misol rheolaidd, gall cefnogwyr dalu am gynnwys pwrpasol hefyd, ar ffurf delweddau, fideos a galwadau ffôn wedi'u harchebu ymlaen llaw. Mae'r safle'n honni mai dyma'r lle i ryngweithio â "models, influencers and celebrities" ond mae'n fwyaf adnabyddus am ei boblogrwydd ymhlith modelau 'glamour' amatur, gyda sôn am "flirt and fetish" ar dudalen hafan y safle. Mae'r cynnwys ar y platfform yn dra rhywiol ac felly'n amhriodol i rai o dan 18 oed. Yn wahanol i'w gystadleuwyr, nid yw RevealMe yn cymryd comisiwn gan y modelau sy'n gwerthu cynnwys ar y wefan. Nid yw ar gael i'w lawrlwytho fel ap, ond gellir pinio'r wefan i sgriniau hafan ar ddyfeisiau iOS ac Android.

Y sgôr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr RevealMe yw 18.

I greu cyfrif 'Model', mae angen i ddefnyddwyr wirio eu cyfrif drwy ddefnyddio un math dilys o ID a gyhoeddwyd gan y llywodraeth. I greu cyfrif tanysgrifiwr, mae angen i ddefnyddwyr ddewis y blwch sy'n nodi "I agree that I am over 18 years of age”. Nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.

Y prif atyniad i rai pobl ymuno â RevealMe yw'r syniad ei fod yn ffordd hawdd o wneud arian drwy werthu'r cynnwys maen nhw'n ei gynhyrchu a/neu weld cynnwys rhywiol. Mae'r safle wedi cael ei gymharu ag OnlyFans, lle mae cyfranwyr wedi gwneud arian yn gyflym ac yn rhwydd drwy werthu cynnwys personol. Mae RevealMe yn addo bod 'Models' ar y safle yn cadw 100% o'u henillion, sy'n gallu apelio at rai sydd am wneud arian yn gyflym.

Mae rhai pobl ifanc yn ymuno â'r safle i weld cynnwys pornograffig neu i geisio gwneud arian drwy werthu cynnwys.

Dylid nodi mai gwefan i oedolion yw RevealMe ac ni chaniateir defnyddwyr o dan 18 oed.

  • Dyma'r term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio crewyr cynnwys ar y platfform.

  • Defnyddiwr ar y platfform nad yw'n creu cynnwys, ond sy'n gwylio, yn tanysgrifio ac yn rhyngweithio â 'Models' ar RevealMe.

  • Mae'r holl daliadau ar y platfform yn cael eu gwneud gan ddefnyddio 'Gems’. Mae angen i 'Fans' ar y platfform brynu 'Gems' gan ddefnyddio arian go iawn i dalu am wasanaethau a ddarperir gan grëwr cynnwys.

  • Trefniant yw hwn rhwng 'Fan' a 'Model' i gyflenwi cynnwys yn gyfnewid am ffi reolaidd.

  • Gall 'Fans' ryngweithio â 'Models' gan ddefnyddio'r gwasanaeth negeseua. Gall y rhain fod am ddim neu am dâl.

  • Mae hyn yn cyfeirio at y math o ryngweithio rhwng 'Fan' a 'Model’. Mae yna lawer o fathau, gan gynnwys gwe-gamera, sgyrsiau ffôn ac archebion wedi'u personoli.

Mae gan RevealMe sgôr oedran oedolion sy'n adlewyrchu'r deunydd i oedolion a geir ar y wefan. Mae'r cynnwys ar y wefan yn rhywiol ac yn anaddas i wylwyr o dan 18 oed. Mae 'Models' yn gallu postio lluniau a fideos anweddus heb eu sensro ar y wefan, yn ogystal â chynnal ffrydiau byw a threfnu galwadau ffôn wedi'u harchebu ymlaen llaw. Gellir gweld cynnwys hynod rywiol ar y brif dudalen hafan, heb fod angen tanysgrifio i gyfrif, gan fod llawer o 'Models' yn postio cynnwys cyfyngedig am ddim i helpu i roi hwb i'w proffil. Mae gan RevealMe swyddogaeth sgwrsio negeseuon uniongyrchol hefyd, lle gall 'Models' a 'Fans' ryngweithio'n uniongyrchol. Gall y swyddogaeth hon olygu y gall iaith anweddus a chynnwys aeddfed ychwanegol gael eu rhannu hefyd. Ni argymhellir bod unrhyw un o dan 18 oed yn ymweld â'r wefan. Os bydd eich plentyn yn gweld cynnwys ar RevealMe, anogwch ef i siarad â chi os bydd yn gweld rhywbeth sy'n peri gofid neu bryder iddo. Er bod dulliau gwirio ar waith i atal pobl ifanc o dan 18 oed rhag postio ar y wefan, mae'n dal i fod yn werth siarad â'ch plentyn am beryglon rhannu delweddau noeth neu led-noeth. Mae'n bwysig cofio bod unrhyw ddelweddau neu fideos rhywiol sy'n cynnwys plant o dan 18 oed yn ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol.

Mae sgôr oedran 18+ RevealMe yn awgrymu ei bod ar gyfer oedolion yn unig. Er bod proses gwirio oedran ar waith i greu cyfrif 'Model', gall unrhyw un gael mynediad i'r wefan drwy roi cyfeiriad e-bost. Unwaith y bydd defnyddwyr ar y safle, gallan nhw glicio ar 'Model' i ymgysylltu â nhw drwy ddewis o'u hopsiynau a restrir a thalu am gynnwys. Gan fod hwn yn safle i oedolion, gyda defnyddwyr sy'n oedolion, mae'n debygol y bydd y rhai o dan 18 oed a allai gael mynediad i'r wefan yn rhyngweithio ag oedolion nad ydyn nhw'n eu hadnabod. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau neu wrth ryngweithio ar y platfform.  Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddo neu wedi gofyn iddo am sgwrs breifat gan ddefnyddio ap gwahanol. Argymhellir na ddylai plentyn o dan 18 gael mynediad i'r platfform hwn.

Mae'r syniad o wneud arian yn gyflym ac yn rhwydd ar wefannau fel RevealMe yn gallu bod yn apelgar iawn i bobl ifanc, ac mae'n cael ei drafod yn aml ar blatfformau eraill. Mae rhai crewyr RevealMe, ynghyd â dylanwadwyr ac enwogion llai adnabyddus, yn hyrwyddo'r wefan ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill. Gallai dod i wybod am RevealMe ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill fod yn ddryslyd i bobl ifanc sy'n chwilio am ffordd o wneud arian. Siaradwch â'ch plentyn am y niwed posibl sy'n gysylltiedig â gwerthu delweddau personol. Dylai defnyddwyr o dan 18 oed a allai gymryd rhan mewn rhyngweithiadau ar y platfform fod yn ymwybodol hefyd y gall eu sgyrsiau neu eu rhyngweithiadau byw gael eu sgrinlunio neu eu recordio, eu cadw a'u rhannu'n eang. Mae angen iddyn nhw feddwl bob amser am y cynnwys maen nhw'n ei rannu ac ystyried a fydden nhw'n hapus i bawb maen nhw'n eu hadnabod ei weld.  Argymhellir na ddylai plentyn o dan 18 gael mynediad i'r platfform hwn.

Mae RevealMe yn wasanaeth sy'n seiliedig ar danysgrifiad, lle mae crewyr yn gwneud arian o'r cynnwys maen nhw'n ei rannu. Fel gydag unrhyw wefan neu ap arall lle gellir prynu pethau ar y platfform, mae angen i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol o gost cael mynediad at fwy o gynnwys. Efallai y bydd rhai defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd rheoli beth maen nhw'n ei brynu ar RevealMe, yn enwedig gan nad oes modd gosod mesurau rheoli i gyfyngu ar wariant. Argymhellir nad yw plant o dan 18 oed yn defnyddio'r platfform hwn.

  • Gan fod RevealMe yn wefan i oedolion, nid oes rheolaethau a gosodiadau rhieni ar gael i reoli preifatrwydd.

    Gallwch archwilio'r rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau a'ch gwasanaeth band eang, a allai ganiatáu i chi roi hidlyddion a rhwystrau ar waith.

  • Gan fod gan RevealMe sgôr oedran oedolion, nid oes rheolaethau a gosodiadau rhieni ar gael. I gyfyngu ar weld cynnwys rhywiol, archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau a'ch gwasanaethau band eang, a allai ganiatáu i chi roi hidlyddion a rhwystrau ar waith.

  • Nid oes gan RevealMe swyddogaethau 'Report' neu 'Block' ar gyfer 'Fans' gan ddefnyddio'r wefan. Fodd bynnag, gall 'Models' ddefnyddio'r swyddogaeth 'Contact us' i gwyno am broblem.

  • Gan fod RevealMe yn wefan i oedolion, nid oes rheolaethau a gosodiadau rhieni ar gael i reoli amser na'r hyn a brynir.

  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Does dim opsiwn i ddadactifadu eich cyfrif.

    I ddileu cyfrif RevealMe:

    • dewiswch y tair llinell ar draws ‘☰’ ar ochr dde ucha’r ffenestr
    • dewiswch yr eicon gêr o’r enw ‘Settings’
    • dewiswch ‘Close my account’ sydd ar waelod y dudalen
    • dewiswch eich rheswm dros gau a phwyso ‘Close My Account’

Gwefan i oedolion gyda chynnwys sydd ond yn addas i oedolion yw RevealMe. Ni ddylai defnyddwyr o dan 18 oed gyrchu'r wefan hon, naill ai fel 'Fan' na 'Model’.