English
Rhybudd

Ers cyhoeddiad cau ar 9 Tachwedd 2023, nid yw Omegle bellach ar waith.

Gwefan sgwrsio fideo ar hap di-dâl yw Omegle, lle mae defnyddwyr yn cael eu cysylltu ag eraill trwy fideo, testun neu'r ddau. Diben y gwasanaeth sgwrsio hwn yw cysylltu pobl gyda'i gilydd ar hap. Dau berson yn unig sy'n cymryd rhan mewn un sgwrs, sef 'You' a 'Stranger', ac mae hunaniaeth y defnyddiwr yn aros yn anhysbys oni bai ei fod yn dewis rhannu unrhyw wybodaeth bersonol yn ystod y sgwrs. Gallwch ychwanegu unrhyw ddiddordebau sydd gennych cyn cael eich paru â defnyddiwr sydd â diddordebau tebyg i chi ar hap. Mae Omegle yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sgwrsio – adran testun wedi'i chymedroli, ac adran fideo wedi'i chymedroli neu heb ei chymedroli – ond mae'n debyg bod defnyddwyr yn debygol o ddod ar draws cynnwys rhywiol ym mhob gwasanaeth sgwrsio. Anogir defnyddwyr i gadw'r holl gynnwys yn lân wrth ddefnyddio'r gwasanaeth testun wedi'i gymedroli, ond mae'n werth nodi bod gan y brif dudalen ddolenni i wefannau pornograffi allanol di-dâl. 

Rhaid i ddefnyddwyr Omegle fod yn 13 oed o leiaf. Mae'r platfform yn gofyn i ddefnyddwyr dan 18 oed ddefnyddio'r wefan gyda chaniatâd rhieni yn unig.

Fel sy'n wir am lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, nid oes gan Omegle unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl.

Gan nad oes angen i ddefnyddwyr gofrestru na chreu cyfrif i ddefnyddio'r safle, nid oes unrhyw gyfle i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd neu reolaethau rhieni. 

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau ’.

Mae Omegle yn wasanaeth sgwrsio fideo di-dâl lle mae modd cysylltu defnyddwyr â dieithriaid ar hap i sgwrsio a rhyngweithio. Mae Omegle yn wasanaeth sgwrsio fideo cymharol hirhoedlog (a lansiwyd yn 2009) ac mae'n ymddangos ei fod wedi dod yn boblogaidd eto yn ddiweddar ymysg pobl ifanc, yn dilyn y cynnydd mewn cynnwys a fideos Omegle ar blatfformau cymdeithasol eraill fel TikTok a YouTube. Mae dros 10 miliwn o bobl ar TikTok yn dilyn yr hashnod #omegle, ac mae TikTok yn blatfform hynod boblogaidd ymysg pobl ifanc dan 18 oed. Gall ystafelloedd sgwrsio anhysbys fel Omegle apelio at bobl ifanc oherwydd eu bod yn ymddangos yn hwyl ac yn gyffrous, gan alluogi defnyddwyr i ymddwyn a sgwrsio yn ôl eu dymuniad heb gael eu hadnabod. Mae'r ap yn gallu apelio'n fawr at bobl ifanc sy'n chwilio am ffrindiau ar-lein, neu sydd am chwarae rôl fel rhywun gwahanol ar-lein.

  • Y person dienw yr ochr arall i'r sgwrs.

  • Dyma pryd mae trydydd person yn gofyn cwestiwn i ddau aelod arall yn y sgwrs, a’u bod yn trafod y cwestiwn. Yna gall yr 'ysbïwr' wylio'r sgwrs, ond ni fydd yn cymryd rhan.

  • Dyma lle mae myfyrwyr yn defnyddio eu cyfeiriad e-bost coleg neu brifysgol ac yn gallu cysylltu â myfyrwyr eraill.

  • Mae'r rhan hon o'r gwasanaeth sgwrsio yn honni ei bod wedi'i chymedroli, ond mae ymwadiad Omegle yn nodi nad yw'r gwasanaeth hwn yn berffaith oherwydd y gallech ddod i gysylltiad â defnyddwyr eraill nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau.

  • Nid yw'r rhan hon o'r gwasanaeth sgwrsio wedi'i chymedroli. Mae'n cynnwys blwch rhybuddio sy'n nodi bod angen i ddefnyddwyr fod dros 18 oed, ond gall defnyddwyr glicio 'OK' i symud ymlaen. Mae defnyddwyr yn debygol o ddod i gysylltiad â chynnwys neu themâu oedolion yn yr adran hon.

  • Pan fydd y defnyddiwr yn dewis yr opsiwn 'Adult site', mae neges yn ei rybuddio am gynnwys rhywiol ac yn gofyn iddo gadarnhau ei fod dros 18 oed. Ar ôl cadarnhau hyn, caiff ei ailgyfeirio'n awtomatig i safle pornograffi allanol.

  • Mae hyn yn atal y sgwrs. Gofynnir i ddefnyddwyr a ydynt eisiau gadael mewn gwirionedd cyn iddynt adael y sgwrs.

  • Mae hyn yn cyfeirio at 'oedran, rhyw a lleoliad', ac mae'n gwestiwn cyntaf cyffredin mewn sgyrsiau.

  • Mae hyn yn cyfeirio at y dull sgwrsio sy'n cael ei ffafrio gan y defnyddiwr. Gallai ddewis dull testun yn unig (modd ysbïo) neu sgwrs fideo (heb ei chymedroli).

Er bod y wefan yn honni ei bod yn addas ar gyfer defnyddwyr 13+ oed, mae mwyafrif y cynnwys a rennir ar y platfform hwn yn addas i oedolion yn unig. Mae nifer fawr o ddefnyddwyr ar Omegle yn defnyddio iaith gref a rhywiol, yn ogystal â rhannu cynnwys rhywiol â'i gilydd trwy'r gwasanaeth sgwrsio fideo. Maen nhw'n gwneud hyn er bod noethni, pornograffi ac ymddygiad neu gynnwys rhywiol amlwg yn mynd yn groes i ganllawiau cymunedol y safle. Er bod Omegle yn cymedroli rhai o'i wasanaethau, nid yw'n cymedroli pob un ohonynt, ac mae'n nodi 'nad oes unrhyw ddull cymedroli yn berffaith'. Mae prif dudalen y wefan yn cynnwys dolen i wefannau pornograffi allanol di-dâl hefyd, y mae'n hawdd clicio arnynt. Hefyd, mae'r wefan wedi bod yn gysylltiedig â phobl yn lledaenu castiau a heriau ar-lein sy'n peri braw neu ofid. Argymhellir nad yw defnyddwyr o dan 18 oed yn defnyddio'r wefan hon. Os yw eich plentyn yn ymweld â'r wefan, dylech ei annog i siarad â chi os yw'n gweld unrhyw beth sy'n peri gofid neu nad yw'n ei ddeall.

Gyda'r arwyddair 'Talk to Strangers', does dim syndod bod risgiau helaeth i Omegle o ran cysylltu ag eraill. Mae'r ffordd ar hap mae'r wefan yn paru defnyddwyr gyda'i gilydd yn golygu nad oes gennych unrhyw ffordd o wybod gyda phwy y byddwch yn cael eich cysylltu. Mae'n hawdd iawn i ddefnyddwyr ddechrau a gadael sgwrs ar Omegle, sy'n gwneud y gwasanaeth hwn yn hwyl ac yn hygyrch i blant a phobl ifanc sy'n llai ymwybodol o'r risgiau o bosibl. Yn anffodus, gall y rhai sy'n ceisio camfanteisio ar blant a phobl ifanc ddefnyddio natur agored apiau a gwefannau fel hyn i gysylltu'n uniongyrchol â nhw. Mae'n bwysig atgoffa'ch plentyn i fod yn ofalus wrth gyfarfod â phobl ar-lein, a rhoi gwybod am unrhyw un sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus. Siaradwch â'ch plentyn am yr hyn sy'n dderbyniol i'w anfon mewn neges, a'i atgoffa i siarad ag oedolyn dibynadwy os gofynnir iddo rannu delwedd ohono ei hun. Hefyd, dylai fod yn ofalus am rannu unrhyw beth, gan gofio bod modd tynnu ciplun o unrhyw gynnwys, ei gadw a'i rannu ymhellach.

Gall y ffaith fod defnyddwyr yn gallu aros yn anhysbys a'u bod yn annhebygol o adnabod y person maen nhw’n sgwrsio ag ef olygu bod defnyddwyr yn teimlo'n llai atebol am eu hymddygiad ar y platfform. Gall sgwrsio â dieithryn a diffyg hanes sgwrsio arwain at ddefnyddwyr yn gwneud penderfyniadau mwy peryglus am y cynnwys maen nhw'n dewis ei rannu yn y foment. Mae'n bwysig esbonio i'ch plentyn y gellir tynnu sgrinlun, cadw a rhannu'r holl gynnwys yn eang. Mae angen ystyried y cynnwys maen nhw’n ei rannu bob amser, a meddwl o ddifrif a fydden nhw’n hapus i bawb maen nhw'n eu hadnabod ei weld. 

Risg ddylunio allweddol ar y platfform hwn yw'r dolenni hawdd eu cyrchu i wefannau pornograffi oedolion di-dâl. Mae'r ffordd mae'r wefan wedi'i dylunio’n golygu bod defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at wefannau oedolion di-dâl ar y brif dudalen, gyda dim ond cadarnhad blwch ticio yn sefyll rhwng defnyddwyr Omegle a gwefannau pornograffi i oedolion. Argymhellir na ddylai defnyddwyr o dan 18 oed ddefnyddio'r wefan hon. Os yw eich plentyn yn cael mynediad at y platfform, dylech sicrhau ei fod yn gwybod eich bod ar gael i siarad am unrhyw gwestiynau sydd ganddo am gynnwys rhywiol a phornograffi. 

  • Nid oes unrhyw reolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch ar gael ar gyfer Omegle. Yn hytrach, bydd angen i chi archwilio'r rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch darparwr band eang, sy'n eich galluogi i roi hidlyddion a rhwystrau ar waith. 

  • Gan nad oes angen i chi gofrestru na chreu cyfrif i ddefnyddio Omegle, mae'n anodd rheoli rhyngweithio neu gynnwys. Archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, a allai eich galluogi i roi hidlyddion a rhwystrau ar waith.

    Os dewiswch ganiatáu i'ch plentyn ddefnyddio'r wefan hon, dylech ei annog i ddefnyddio'r gwasanaeth 'Moderated chat', lle mae rhyw elfen o gymedroli ar waith.

  • Ni allwch gwyno am ddefnyddwyr yn Omegle, na’u blocio. Anogwch eich plentyn i adael sgwrs ar unwaith os yw'n teimlo'n anghyfforddus ac i siarad â chi am y profiad.

  • Nid oes unrhyw nodweddion ar gael sy'n caniatáu i ddefnyddwyr reoli eu hamser ar y wefan. Yn hytrach, archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, a allai ganiatáu i chi osod rheolaethau a chyfyngiadau amser.

  • Gan nad oes angen creu cyfrif i ddefnyddio Omegle, nid yw defnyddwyr yn gallu dadactifadu neu ddileu eu cyfrif.

Mae'n hanfodol bod rhieni'n deall bod Omegle yn cysylltu plant â dieithriaid o unrhyw oedran, felly byddem yn cynghori rhieni a gofalwyr i ystyried cyfyngu'r defnydd o'r platfform gan blant a phobl ifanc yn eu gofal.

Siaradwch â'ch plentyn am pam mae eisiau ei ddefnyddio ac am y risgiau a'r problemau, fel ei fod yn barod os oes rhywbeth yn mynd o'i le. Gwnewch yn siwr eich bod ar gael os yw eich plentyn eisiau siarad â chi.

Mae Omegle yn cyfeirio defnyddwyr i gysylltu â saftey@omegle.com os ydynt wedi dod i gysylltiad â chynnwys sy'n mynd yn groes i ganllawiau'r wefan.