English

Mae Monkey, a elwir yn Monkey. Cool hefyd, yn ap a gwefan rhwydweithio cymdeithasol di-dâl lle mae defnyddwyr yn cael eu cysylltu â defnyddwyr eraill ar hap ar y platfform i sgwrsio trwy alwad fideo am 15 eiliad. Mae'r platfform yn defnyddio enwau defnyddwyr Snapchat a rhifau ffôn symudol cyfranogwyr i gysylltu â'r gwasanaeth a pharu unigolion. Mae gan gyfranogwyr opsiwn i ymestyn sgwrs fideo, yn ogystal ag ymuno â sgyrsiau grwp. Dim ond fel ap ar ddyfeisiau Android y mae ar gael ar hyn o bryd, ond gellir cyrchu'r wefan o unrhyw ddyfais. Gall defnyddwyr ddefnyddio Monkey gyda neu heb gyfrif. Os yw defnyddiwr yn dewis creu cyfrif trwy ddefnyddio'r ap, rhaid iddo ddarparu enw a dyddiad geni dros 18 oed, ond nid oes angen prawf oedran. Pan fydd defnyddwyr yn cael eu paru â'i gilydd, mae Monkey yn hysbysu pob unigolyn am leoliad a rhywedd y llall, ac i'r rhai sydd â chyfrif, rhennir yr enw defnyddiwr hefyd. Gwneir yr holl ryngweithio ar Monkey drwy fideo byw ac, er ei fod wedi'i wahardd gan ganllawiau cymunedol, mae adroddiadau bod cryn dipyn o gynnwys rhywiol yn cael ei rannu ar y platfform.

Rhaid i ddefnyddwyr Monkey fod yn 18 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl ar waith.

Mae Google Play yn nodi bod Monkey yn addas i bobl ifanc yn eu harddegau.

Mae Monkey yn annog defnyddwyr i fod yn 'Monkey safe' a rhoi gwybod am unrhyw ddefnyddwyr maen nhw'n amau eu bod 18 oed trwy ddefnyddio'r opsiwn 'Underage reporting'.

Does dim angen i ddefnyddwyr gofrestru na chreu cyfrif i ddefnyddio gwefan Monkey mewn porwr, felly prin yw’r cyfleoedd i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd neu reolaethau rhieni. 

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau ’.

Mae symlrwydd Monkey yn ei wneud yn apelgar iawn i blant a phobl ifanc. Mae’r logo yn apelio at blant hyd yn oed. Gall defnyddwyr gysylltu ar hap â detholiad o’r 30 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd i gyfarfod a rhyngweithio ar-lein. Mae'r ap yn apelio'n fawr at bobl sy'n chwilio am ffrindiau ar-lein, neu sydd am chwarae rôl fel rhywun gwahanol ar-lein.

  • Dyma lle rydych chi’n sgwrsio ag un person arall. I ddechrau, dim ond am 15 eiliad y mae galwadau fideo yn para, ond gall clicio ar eicon y cloc ymestyn y galwadau hyn.

  • Dyma lle gallwch chi wahodd ffrind i sgwrsio gyda chi ac eraill.

  • Pan fydd unigolion wedi gorffen sgwrsio gyda'r person y cawson nhw eu paru ag ef, gallan nhw glicio 'Nesaf' i symud ymlaen at berson newydd.

  • Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i chi gysylltu â rhywun ar unwaith a chael sgwrs un i un gyda nhw. Mae’n gadael i ddefnyddwyr anfon negeseuon ‘tecstio’ traddodiadol yn hytrach na thrwy galwad fideo.

  • Mae'r nodwedd hon yng nghornel dde uchaf fideo'r person arall. Pan fyddwch yn cwyno am rywun, bydd eich sgwrs yn dod i ben ar unwaith. 

  • Tanysgrifiad y telir amdano yw hwn sy'n caniatáu mynediad diderfyn at y rhywedd o'ch dewis ac i wneud ffrindiau newydd yn haws ac yn gyflymach.

  • Arian cyfred a ddefnyddir i wneud pryniannau yn yr ap.

  • Gall defnyddwyr sweipio drwy 'gardiau' i ychwanegu ffrindiau newydd ac anfon negeseuon uniongyrchol atyn nhw. Os yw defnyddwyr yn hoff iawn o ddefnyddiwr arall maen nhw'n gallu dewis 'super like'.

  • Gall defnyddwyr bostio delweddau ar eu proffil a bydd defnyddwyr eraill ar y platfform yn gallu eu gweld.

  • Mae’r modd ‘hit me up’ yn hysbysu unigolion cyswllt bod y defnyddiwr ar-lein a’i fod ar gael am ‘knock-knocks’.

  • Nodwedd sy’n caniatáu i chi ‘sweipio’ trwy gardiau defnyddwyr eraill i ddewis a dethol pwy rydych chi’n ei hoffi neu ddim. Yna, bydd yr ap yn eich paru chi â phobl sy’n hoffi chi hefyd.

  • Yn debyg i nodwedd ‘Friend’ ar blatfformau eraill, mae defnyddwyr yn gallu ychwanegu defnyddwyr eraill maen nhw’n eu hoffi at eu rhestr ffrindiau er mwyn cysylltu â nhw eto.

Gan fod gan Monkey statws oedran oedolion, mae llawer o'r cynnwys yn gynnwys aeddfed. Mae llawer o ddefnyddwyr Monkey yn defnyddio iaith aeddfed a rhywiol, ac ymddengys bod rhannu cynnwys rhywiol yn gymharol gyffredin. Adroddwyd bod rhai defnyddwyr yn arddangos cynnwys niweidiol ac yn dewis 'Next' yn gyflym, gan wneud y defnyddiwr arall yn ofidus neu'n anghyfforddus, heb ddigon o amser i gwyno amdano. Er bod gan Monkey set o safonau cymunedol mae'n disgwyl i ddefnyddwyr gadw atyn nhw, mae'n dibynnu ar ddefnyddwyr yn hunanreoli a chwyno am gynnwys amhriodol er mwyn i'r tîm cymedroli ei adolygu. Mae hyn yn golygu bod prosesau cymedroli ar draws y platfform yn gallu bod yn gyfyngedig. Ni argymhellir bod pobl ifanc o dan 18 oed yn defnyddio'r platfform, ond dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol bod diffyg proses dilysu oedran yn golygu y gallai plentyn dan 18 oed gael mynediad rhwydd at y platfform. Os yw eich plentyn yn defnyddio'r ap, dylech ei annog i siarad â chi os yw'n dod ar draws unrhyw gynnwys sy'n peri gofid neu aflonyddwch iddo. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon rhannu delweddau noeth neu hanner noeth ar-lein a'i atgoffa bod unrhyw ddelweddau rhywiol sy'n cynnwys plant o dan 18 oed yn cael eu hystyried yn ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol.

Mae gan Monkey risgiau helaeth o ran cysylltu ag eraill. Mae'r ffordd ar hap y mae'r wefan yn paru defnyddwyr i gael sgwrs fideo gyda'i gilydd yn golygu nad oes gennych unrhyw ffordd o wybod gyda phwy y byddwch yn cael eich cysylltu. Gan nad oes angen cyfrif arnoch chi i sgwrsio, gall fod yn anodd olrhain gyda phwy rydych chi wedi bod yn sgwrsio. Mae gan Monkey gyfyngiad oedran oedolion, felly cynghorir yn gryf na ddylai plant a phobl ifanc ddefnyddio'r ap neu'r wefan.

Mae'n hawdd iawn i ddefnyddwyr ddechrau a gadael sgwrs ar Monkey, sy'n gwneud i'r ap deimlo’n hwyl, yn hyblyg ac 'yn y foment' mewn ffordd sy'n golygu bod defnyddwyr yn llai ymwybodol o'r risgiau. Yn anffodus, gall y rhai sy'n ceisio camfanteisio ar bobl ifanc ddefnyddio natur agored apiau a gwefannau fel hyn i gysylltu'n uniongyrchol â nhw. Dylai defnyddwyr fod yn ofalus ynglyn â phwy maen nhw'n eu cyfarfod ar-lein, a rhoi gwybod am unrhyw un sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus. Hefyd, dylent fod yn ofalus am rannu unrhyw beth, gan gofio bod modd tynnu ciplun o unrhyw gynnwys, ei gadw a'i rannu ymhellach.

Dywed Monkey fod polisi dim goddefgarwch ar waith ar gyfer unrhyw gynnwys sy'n cael ei ystyried yn fwlio, yn wahaniaethu neu'n amhriodol, gan gynnwys unrhyw beth o natur rywiol neu dreisgar. Fodd bynnag, mae'r ffaith fod y math hwn o gynnwys i'w weld ar yr ap yn rheolaidd yn awgrymu nad yw'r canllawiau cymunedol yn cael eu rhoi ar waith yn drwyadl. Y ffordd orau o sicrhau nad yw eich plentyn yn dod i gysylltiad ag unrhyw gynnwys niweidiol ar y platfform yw peidio â chaniatáu iddo ddefnyddio'r ap neu'r wefan. 

Mae dyluniad yr ap hwn yn syml iawn, ac yn hawdd ei ddefnyddio. Gall ffurf fer pob sgwrs a'r defnydd syml o 'Next' i symud ymlaen at y person nesaf wneud Monkey yn ddeniadol iawn hefyd. Efallai y bydd defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd gadael yr ap, gan ddewis cael un sgwrs arall. Dylid sicrhau bod defnyddwyr yn ymwybodol o'r risgiau o ddefnydd cyson a'u hannog i gymryd amser i ffwrdd o'r ap.

Mae gan ddefnyddwyr 21 cyfle i chwarae’n rhad ac am ddim bob dydd. Os nad oes gemau ar ôl ganddo, mae cyfnod o seibiant (cooldown) rhwng gallu chwarae rhagor o gemau. Mae’r cyfnod hwn yn ymestyn gyda phob set o gemau a ddefnyddir. Diben hyn yw denu defnyddwyr i brynu tanysgrifiad Monkey Plus sy’n cynnig sweipio diderfyn. Gall hyn fod yn ormod o demtasiwn i bobl ifanc, felly mae’n bwysig trafod sut mae apiau’n defnyddio tanysgrifiadau fel strategaeth fusnes heb gynnig fawr ddim i’r defnyddiwr mewn gwirionedd.

Mae llawer o gyfleoedd i wneud pryniannau yn yr ap neu uwchraddio Monkey. Mae defnyddwyr y platfform yn cael gwahoddiad i danysgrifio i Monkey Plus, sy'n cael ei farchnata fel gwasanaeth gwneud ffrindiau. Hefyd, mae opsiwn ar gael i brynu gemau neu ddarnau arian, sef arian cyfred yr ap. Gall pob un o'r opsiynau hyn fod yn ddiddorol i ddefnyddwyr iau, felly ni argymhellir bod plant yn cael mynediad at y platfform hwn.

  • Gan fod gan Monkey gyfyngiad oedran oedolion, ychydig iawn o reolaethau a gosodiadau diogelwch sydd ar gael.

    Nid oes unrhyw ffordd o osgoi rhannu eich lleoliad wrth ddefnyddio Monkey na diffodd eich camera. Mae'r ap a'r wefan yn gofyn i chi ganiatáu rhoi mynediad at leoliad a chamera eich dyfais cyn y gallwch barhau.

    Archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, a allai ganiatáu i chi ddefnyddio hidlyddion a rhwystrau.

  • Mae modd defnyddio Monkey fel gwefan yn ogystal ag ap, felly nid oes angen i lawer o ddefnyddwyr greu cyfrif. Os oes gan ddefnyddiwr gyfrif, mae gosodiadau cyfyngedig ar gael fel analluogi'r nodwedd 'Knock-knock' a chuddio eich statws ar-lein.

    Archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, a allai ganiatáu i chi ddefnyddio hidlyddion a rhwystrau.

  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill a allai fod yn eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I flocio neu gwyno am ddefnyddiwr:

    • chwiliwch am y defnyddiwr rydych chi am gwyno amdano a thapio'r eicon tair seren yng nghornel ei dudalen proffil
    • dewiswch 'Report' neu 'Block’

    Gall defnyddwyr sydd â chyfrif flocio a chwyno am broffil defnyddiwr arall hefyd. Gofynnir iddynt ddewis rheswm o blith y canlynol:

    • dan oed
    • cynnwys amhriodol
    • sbam
    • dim rheswm

    I flocio neu gwyno am rywun ar 'Moments’:

    • tapiwch yr eicon tair seren ar frig y postiad
    • dewiswch 'Report' neu 'Block’
    • dewiswch y rheswm pam rydych chi'n cwyno am y defnyddiwr neu'r cynnwys hwn
  • I'r rhai sy'n defnyddio'r ap gyda chyfrif, mae gan Monkey lawer o gyfleoedd i brynu yn yr ap, megis uwchraddio i 'Monkey Plus', sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gael dewis diderfyn o ba rywedd maen nhw'n siarad â nhw ac mae’n honni y gallant wneud ffrindiau’n gyflymach ac yn haws. Archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, fel nad oes gan eich plentyn fynediad hawdd at eich cyfrifon banc chi na'u rhai nhw.  

  • Mae dileu cyfrif Monkey Web yn broses 30 diwrnod sy’n cynnwys dadactifadu a dileu. Dadactifadu yw’r cam cyntaf tuag at ddileu cyfrif, ac mae’n cychwyn pan fydd defnyddiwr yn penderfynu dileu ei gyfrif ond mae modd stopio hynny unrhyw bryd. Does dim modd ailddefnyddio enwau defnyddwyr cyfrifon wedi’u dileu, a does dim modd adfer cyfrifon sy’n cael eu dileu.

    Os oes gan ddefnyddwyr danysgrifiad Monkey Plus, dylent ganslo hwn cyn dileu eu cyfrif.

    I ddileu’ch cyfrif Monkey Web:

    • ewch i’ch proffil trwy ddewis y pen mwnci ar ochr dde isaf y sgrin
    • dewiswch yr eicon gêr ar gornel dde ucha’r sgrin i fynd i ‘Settings’
    • dewiswch y mwnci wedi’i labelu ‘About Monkey’
    • dewiswch y groes goch ‘X’ â’r label ‘Delete Account’
    • pwyswch ‘Delete my account’
    • dewiswch eich rheswm dros ddileu’r cyfrif, a theipio ‘DELETE’ mewn llythrennau bras

Mae'n hollbwysig bod rhieni a gofalwyr yn deall bod Monkey yn cysylltu defnyddwyr â dieithriaid o unrhyw oedran ac nad yw'n addas i ddefnyddwyr dan 18 oed.

Siaradwch â phlant a phobl ifanc am pam maent am ei ddefnyddio ac egluro'r risgiau, fel eu bod yn barod rhag ofn i rywbeth fynd o'i le. Gwnewch yn siwr eich bod ar gael iddynt siarad â chi os oes unrhyw un yn gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus.