English
Gwybodaeth

Mae Honk wedi hysbysu defnyddwyr na fydd yn diweddaru’r ap hwn mwyach ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei ddileu yn y dyfodol agos. Os yw hyn yn digwydd, bydd Honk yn hysbysu’ch plentyn a bydd ei holl ddata defnyddiwr yn cael ei ddileu. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Mae Honk yn ap symudol rhad ac am ddim a lansiwyd yn 2020, sy'n cynnig profiad negeseua gwahanol. Rhennir negeseuon uniongyrchol un i un rhwng dau ddefnyddiwr mewn amser real wrth iddyn nhw eu teipio, gan gynnwys yr holl seibiau a chamdeipio. Nid oes cyfle i greu'r neges berffaith, golygu nac ailddrafftio'ch neges. Y nod yw gwneud y negeseuon yn fwy uniongyrchol ac 'yn y foment' na phlatfformau negeseua eraill. Nid oes gan yr ap hanes sgwrsio wedi’i gadw na botwm anfon, ac unwaith y byddwch yn y sgwrs, gallwch gael sgwrs fyw, sy'n diflannu. Nid yw Honk ar gael ar Android eto, a dim ond i ddefnyddwyr iOS y mae ar gael yn yr Apple App Store, er ei bod yn debygol y bydd ar gael ar Android yn fuan.


Rhaid i ddefnyddwyr Honk fod yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl ar waith.

Mae pob cyfrif yn gyfrif cyhoeddus yn ddiofyn, lle mae modd chwilio am ddefnyddwyr a chysylltu â nhw ar y platfform.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.


Mae pobl ifanc yn mwynhau'r ap hwn fel platfform rhyngweithiol a chymdeithasol gydag emojis hwyliog ac effeithiau eraill ar gyfer sgwrsio a rhannu bywiog mewn amser real. Gall teipio amser real a diffyg golygu testun wneud i bobl deimlo'n fwy presennol ac 'yn y foment' yn eu cyfathrebiadau ar-lein. Heb fotwm anfon, negeseuon yn diflannu a botwm 'Honk' i dynnu sylw ffrindiau, mae'r ap yn darparu math penodol o negeseua gwib gydag apêl go iawn i blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae rhai pobl ifanc yn teimlo bod arddangos eu negeseuon heb eu golygu yn eu gadael yn agored i niwed, gan eu gwneud yn destun gwawd o bosib os ydyn nhw'n sillafu rhywbeth yn anghywir neu'n teipio rhywbeth maen nhw'n ei ddifaru'n ddiweddarach.


  • Nodwedd allweddol Honk yw argaeledd negeseua amser real, sy'n cynnwys teipio byw y gall defnyddwyr ei weld wrth iddo ddigwydd a'r ffaith nad oes botwm anfon.

  • Mae Honk yn cynnig y gallu i ddefnyddwyr ymateb mewn amser real trwy anfon emojis enfawr. 

  • Gall defnyddiwr dapio ar y nodwedd ymateb a dewis anfon byrst o emojis at ddefnyddiwr arall fel ymateb i'w neges. Os bydd y ddau ddefnyddiwr yn gwneud hyn ar yr un pryd, bydd gwrthdaro emojis ag effeithiau gweledol.

  • Gellir defnyddio'r botwm 'Honk' i gael sylw defnyddiwr arall pan nad yw yn y sgwrs i'w gael i ymuno. Yn y bôn, mae'n hysbysu defnyddiwr arall ac yn ei wahodd i ymuno.

  • Mae Honk yn honni y bydd negeseuon yn diflannu ac nad oes cofnod ohonynt.

  • Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i eiriau penodol gael eu cysylltu'n awtomatig ag emoji sy'n cyd-fynd ag ef bob tro.

  • Mae Honk yn gofyn i chi rannu o leiaf 5 diddordeb. Yna defnyddir hyn i'ch paru â defnyddwyr Honk eraill.

  • Yr adran o'r ap sy'n helpu i'ch paru â defnyddwyr eraill â diddordebau tebyg.

  • Ar ôl i chi gael eich cysylltu â defnyddiwr arall a bod eich sgwrs yn dod i ben, cewch gyfle i ychwanegu'r unigolyn hwnnw fel ffrind.

  • Gall defnyddwyr anfon canmoliaeth i'w ffrindiau drwy agor manylion sgwrs a thapio'r eicon anrheg neu unrhyw sticer canmoliaeth.


Am fod y negeseuon ar Honk yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr, nid yw cynnwys y negeseuon yn cael ei gymedroli. Mae hyn yn golygu y gallai eich plentyn ddod i gysylltiad ag iaith anweddus neu gynnwys aeddfed. Trwy gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn gyfathrebu â nhw ar y platfform, mae eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas i'w oedran. Mae'r testun sy'n diflannu yn peri risg hefyd, oherwydd gallai defnyddwyr deimlo'n eofn a thueddu i rannu cynnwys maen nhw’n tybio na ellir ei weld eto. Gan nad oes hanes sgwrsio, mae'n debygol na fydd cofnod parhaol o'r hyn y gallai'r anfonwr fod wedi'i ddweud neu ei wneud drwy'r ap, oni bai bod defnyddiwr wedi cymryd ciplun o gynnwys y sgwrs. Gallai hyn fod yn berthnasol i sawl sefyllfa, gan gynnwys rhannu delweddau noeth, sylwadau hiliol neu atgas neu fwlio ac aflonyddu. Dywed y platfform nad yw'n caniatáu cynnwys sy'n ddifenwol, yn aflan, yn anweddus, yn ddifrïol, yn sarhaus, yn tramgwyddo, yn aflonyddu, yn dreisgar, yn atgas, yn ymfflamychol, neu'n annerbyniol am unrhyw reswm arall. Fodd bynnag, gallai fod yn anodd monitro hyn ar blatfform lle mae negeseuon yn diflannu'n syth. Mae'n bosib i ddefnyddiwr giplunio sgwrs, ond mae'n anodd i rywun sy'n cael ei aflonyddu neu ei gam-drin feddwl gwneud hyn yn y fan a’r lle. Gall diffyg hanes sgwrsio effeithio ar allu'r heddlu neu awdurdodau perthnasol eraill i ymchwilio i faterion sy'n peri pryder a allai fod wedi digwydd trwy'r ap. 

Y risg allweddol yw'r testun sy'n diflannu, sy'n golygu nad oes unrhyw gofnod o bwy mae'ch plentyn yn rhyngweithio â nhw neu sut mae'n gwneud hynny. Gallai hyn alluogi cysylltiadau i ddefnyddio'r ap ar gyfer meithrin perthynas amhriodol, bwlio neu aflonyddu rhywiol, gan fod y testun yn diflannu heb adael unrhyw gofnod gweledol o'r hyn sydd wedi digwydd, ac felly'n ei gwneud hi'n anodd ei olrhain. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gwybod sut i gyfyngu eu cysylltiadau yn y gosodiadau i'r rhai sy'n ffrindiau hysbys. Argymhellir analluogi ceisiadau ffrind ar Honk.  Siaradwch â'ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Atgoffwch ddefnyddwyr i ddweud wrthych a ofynnwyd cwestiynau mwy personol iddynt neu i sgwrsio'n breifat gan ddefnyddio ap gwahanol. Argymhellir newid y gosodiadau preifatrwydd i rannu gyda ffrindiau’n unig.  

Gall y nodwedd 'Neges yn diflannu' y mae Honk yn adnabyddus amdani roi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i bobl ifanc ynghylch rhannu. Mae'n bosib y gallai rhai defnyddwyr ddefnyddio'r ap mewn ffordd ystrywgar, gan annog defnyddwyr eraill i rannu cynnwys personol er mwyn tynnu llun o destun neu luniau ac yna eu rhannu'n eang ar blatfformau eraill. Mae'n bwysig esbonio i blant y gellir tynnu llun, cadw a rhannu'r holl gynnwys yn eang. Mae angen iddyn nhw ystyried y cynnwys maen nhw’n ei greu a'i rannu bob amser drwy feddwl o ddifrif a fydden nhw’n hapus i bawb maen nhw'n eu hadnabod ei weld. 

Yn yr un modd â llawer o apiau negeseua eraill, fe'i cynlluniwyd i gadw diddordeb defnyddwyr a’u cadw ar y platfform am gyfnodau estynedig o amser. Gall fod yn anodd i blant wrthsefyll yr hysbysiadau sy'n eu hannog i ymateb. Anogwch eich plentyn i gymryd hoe o Honk trwy newid y gosodiadau hysbysu i leihau nifer yr hysbysiadau mae'n eu derbyn.


  • Mae gosodiadau diogelwch neu nodweddion preifatrwydd yn brin ar Honk. Y ffordd orau o reoli preifatrwydd yw analluogi ceisiadau ffrind, a fydd yn golygu na all eraill ar y platfform eu hychwanegu fel ffrind.

    I analluogi ceisiadau ffrind:

    • Cliciwch ar eich llun proffil i ddangos y ddewislen gosodiadau a dewiswch 'Privacy’.
    • Cliciwch ar yr opsiwn 'Disable friend requests'.
  • Gan fod gosodiadau diogelwch yn brin ar Honk, y ffordd orau o reoli rhyngweithiadau a chynnwys yw cyfyngu ar bwy y gallan nhw ryngweithio â nhw. Bydd galluogi'r nodwedd 'Hide from suggestions' yn sicrhau nad yw cyfrif eich plentyn yn ymddangos fel ffrind a awgrymir i ddefnyddwyr eraill.

    Er mwyn galluogi 'Hide from suggestions’:

    • Cliciwch ar eich llun proffil i ddangos y ddewislen gosodiadau a dewiswch 'Privacy’.
    • Cliciwch ar yr opsiwn 'Hide from suggestions'.

    Er mwyn addasu eich 'Friend finder’:

    • Dewiswch yr eicon gyda thair llinell ar y dudalen 'Meet'.

    Yma gallwch ddewis a yw'r defnyddiwr eisiau cysylltu â dynion, menywod neu bawb.

  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr a allai fod yn eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    Er mwyn ‘Report’, ‘Block’ neu ‘Remove a friend’:

    • Ewch i'ch rhestr o gysylltiadau a dewiswch yr unigolyn rydych am ei ddileu fel ffrind.
    • Cliciwch ar ei llun proffil a dewis 'Options’. Dewiswch ‘Report’, ‘Block’ neu ‘Remove a friend’.
  • Mae Honk yn cynnig ychydig o osodiadau a all helpu i leihau nifer yr hysbysiadau a dderbyniwch.

    I newid gosodiadau hysbysu:

    • Cliciwch ar eich llun proffil i ddangos y ddewislen gosodiadau a dewiswch 'Notifications’.
    • Gweithiwch drwy'r opsiynau a roddir a thoglwch i ddileu’r hysbysiad yr hoffech chi ei ddiffodd.
    • Ymhlith yr opsiynau mae –
    • ‘Reduce Honks’ – bydd cadw hyn ymlaen yn helpu i leihau nifer yr Honks a gewch chi un ar ôl y llall gan ffrind.
    • ‘Send fewer notifications’ - a fydd yn lleihau nifer yr hysbysiadau mae'r defnyddiwr yn eu derbyn.

Os yw'ch plentyn yn defnyddio Honk, siaradwch ag ef am y risgiau sy'n deillio o sgwrs sy'n diflannu. Esboniwch, er y gallai deimlo'n ddiogel rhannu rhywbeth am eich hun am ei fod 'yn y foment,' gellir cadw a storio unrhyw destun neu lun a rennir a’u rhannu ag eraill. Atgoffwch eich plentyn na ddylai fyth rannu unrhyw beth na fyddai'n hapus i eraill ei weld.

Mae Honk yn annog rhyngweithio ac i ffrindiau a chysylltiadau ddod o hyd i'w gilydd. Ceisiwch sicrhau bod eich plentyn yn defnyddio Honk gyda defnyddwyr eraill maen nhw’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw’n unig.

Os ydych chi'n credu y gallai Honk fod ag unrhyw wybodaeth gan blentyn o dan 13 oed neu am blentyn o dan 13 oed, cysylltwch â'r platfform yn legal@honk.me