HiPal: Walkie Talkie
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'HiPal Walkie Talkie', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Ap rhwydweithio cymdeithasol a ddatblygwyd gan VPings Inc. yn 2018 yw HiPal. Bwriad yr ap yw bod fel walkie-talkie, gan weithredu yn yr un ffordd ag y byddai walkie-talkie traddodiadol ond yn ddigidol. Mae gan y swyddogaeth walkie-talkie gyrhaeddiad diderfyn ac mae'n gallu cynnal galwadau grwp mawr. Gall defnyddwyr HiPal rannu delweddau, sylwadau, negeseuon uniongyrchol, ychwanegu ei gilydd fel ffrindiau, yn ogystal â chwarae gemau ar-lein gyda'i gilydd. Mae gan HiPal nifer gweddol fach o ddilynwyr ar TikTok, lle mae defnyddwyr yn hoffi postio sgyrsiau a gawsant ar yr ap. Mae HiPal ar gael ar App Store Apple a Google Play.
Sgôr oedran swyddogol
12 oed yw'r cyfyngiad oedran ieuengaf ar gyfer defnyddwyr HiPal, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw ddulliau gwirio oedran penodol.
Er mai 12 yw'r isafswm oedran yr awgrymir gan HiPal, mae defnyddwyr 12 ac iau yn dal i allu defnyddio'r ap. Gall defnyddwyr yn yr ystod oedran hwn gael mynediad at nodweddion craidd HiPal, megis y walkie-talkie. Mae nodweddion ar-lein ehangach, fel y swyddogaeth 'Explore', wedi'u cyfyngu i ddangos cysylltiadau a ychwanegwyd gan y defnyddiwr yn unig. Mae gan ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru fel rhai 12+ oed, fynediad llawn at nodweddion ar-lein HiPal.
Mae HiPal wedi cael sgôr o 12+ (Teens) ar Apple App Store a Google Play.
Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap
Defnyddir HiPal fel walkie-talkie ar gyfer digwyddiadau bywyd go iawn, megis wrth chwarae gemau fideo gyda ffrindiau, neu fel sianel sgwrsio uniongyrchol. Mae llawer o ddefnyddwyr hefyd yn defnyddio swyddogaeth 'Explore' HiPal i rannu lluniau o'u bywyd, fideos TikTok maen nhw'n eu hoffi neu i hysbysebu eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae nodwedd 'Public square' HiPal yn caniatáu i ddefnyddwyr dros 12 oed chwilio am ffrindiau newydd ar-lein i sgwrsio â nhw.
Nodweddion allweddol a therminoleg
-
Mae HiPal yn cynnal 12 gêm aml-chwaraewr y gall defnyddwyr eu chwarae ar-lein gyda dieithriaid neu gysylltiadau eraill. Dyma'r gemau:
- Bumper Blaster
- Ludo
- UMO
- Knife Challenge
- Dominoes
- Hello Friend
- Texas Holdem
- Deminers
- Minesweeper
- Werewolf
- Reversi
- Gobang
-
Neges seiliedig ar neges destun yw 'BOOM'. Os yw'r gosodiadau hysbysu yn caniatáu, bydd hysbysiad neges BOOM yn arddangos hyd yn oed os nad yw'r defnyddiwr yn defnyddio HiPal pan mae'n derbyn neges.
-
Dyma sut mae hysbysiadau sgwrsio gan HiPal yn ymddangos ar ddyfais defnyddiwr. Mae modd addasu'r rhain yn ôl dymuniadau'r defnyddiwr.
-
Mae 'Explore' yn caniatáu i ddefnyddwyr weld, gwneud sylwadau a hoffi delweddau a fideos sydd wedi'u postio gan ddefnyddwyr eraill ar HiPal.
-
Mae 'For You' yn cyfeirio at fersiwn o 'Explore' sydd wedi'i guradu gan algorithm yn seiliedig ar y math o gynnwys y mae'r platfform yn credu y bydd defnyddiwr yn ei hoffi. Mae hyn yn seiliedig ar ryngweithiadau blaenorol y defnyddiwr gyda HiPal.
-
Dyma ymateb ffafriol i neges a bostiwyd gan y defnyddiwr.
-
Mae hyn yn dangos pob defnyddiwr ar-lein dros 12 oed ar HiPal. Gall defnyddwyr anfon neges a gweld proffiliau defnyddwyr eraill yn y 'sgwâr cyhoeddus’.
Risgiau posibl
Cynnwys
Fel apiau sgwrsio cyfryngau cymdeithasol eraill, mae cynnwys y platfform yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr, felly gall gynnwys iaith neu gynnwys aeddfed neu amhriodol ar ffurf testun, delweddau neu fideo. Mae defnyddwyr HiPal wedi dweud eu bod yn agored i ddelweddau a fideos amhriodol trwy'r swyddogaeth 'Explore', yn ogystal ag eraill yn anfon cynnwys amhriodol trwy negeseuon uniongyrchol (DMs). Atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw'n dod ar draws unrhyw gynnwys ar y platfform sy'n achosi gofid neu ddryswch. Drwy gyfyngu ar bwy all eich plentyn ei gyrchu ar y platfform, bydd yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad anaddas i'w oed. Gwiriwch fod eich plentyn wedi sefydlu ei gyfrif i adlewyrchu ei oedran go iawn, er mwyn elwa ar gyfyngiadau cysylltiedig ag oedran sydd wedi'u rhoi ar waith gan y platfform.
Mae negeseuon sgwrsio HiPal yn diflannu pan fydd defnyddiwr yn allgofnodi. Mae hyn yn cyflwyno risg y gallai defnyddwyr deimlo'n eofn neu'n dueddol o rannu cynnwys y mae'n tybio na ellir ei weld eto. Gan nad oes hanes sgwrsio, go brin y bydd cofnod o'r hyn mae'r anfonwr wedi'i ddweud neu ei anfon drwy'r ap, oni bai bod defnyddiwr wedi tynnu sgrinlun o'r sgwrs dan sylw. Gallai hyn fod yn berthnasol i bob math o sefyllfaoedd, gan gynnwys rhannu lluniau noeth, sylwadau hiliol neu atgas neu'n bwlio ac aflonyddu ar-lein. Cofiwch atgoffa'ch plentyn i feddwl yn ofalus am y cynnwys y mae'n dewis ei rannu.
Hefyd, dylai defnyddwyr gofio bod HiPal yn dangos hysbysebion wrth chwarae gemau amlchwaraewr. Gan nad oes modd rheoli'r mathau o hysbysebion y gallai'ch plentyn eu gweld, dylech ei atgoffa i siarad â chi os yw'n dod ar draws hysbysebion anaddas i'w oedran.
Mae gemau amlchwaraewr ar HiPal yn gymysgedd o gemau bwrdd a pharti, fel Ludo ac Uno (neu 'Umo' yn yr ap hwn). Er nad yw'r gemau hyn yn arbennig o dreisgar, rhaid i ddefnyddwyr gysylltu â defnyddwyr ar-lein eraill i'w chwarae. Gallai defnyddwyr eraill ddefnyddio iaith amhriodol neu aeddfed, naill ai drwy negeseuon neu'r swyddogaeth walkie talkie. Bydd defnyddwyr 12 oed ac iau ddim ond yn gallu chwarae'r gemau hyn â chysylltiadau a ychwanegwyd ganddyn nhw.
Cysylltu ag eraill
Mae gan ddefnyddwyr dros 12 oed fynediad at yr holl ddefnyddwyr eraill ar y platfform. Er bod llawer o bobl ifanc yn hoffi'r syniad o wneud ffrindiau ar-lein newydd, dylent gofio nad yw pob defnyddiwr yn llawn bwriadau da. Gan nad oes dulliau gwirio oedran trylwyr ar yr ap, gallai defnyddwyr dan 12 oed gael mynediad hawdd i'r fersiwn 12+ o'r platfform ac yn yr un modd, gallai defnyddwyr hyn gogio mai plant ydyn nhw. Mae'n hynod anodd gwybod a yw'r sawl sy'n sgwrsio ar yr ap yn dweud y gwir am bwy ydy o neu hi, a gan fod negeseuon sgwrsio ar HiPal yn diflannu pan fydd defnyddiwr yn allgofnodi does dim cofnod o bwy mae'ch plentyn yn rhyngweithio â nhw na sut. Gallai hyn hwyluso ymddygiad fel meithrin perthynas amhriodol, bwlio neu aflonyddu rhywiol, gan fod sgyrsiau'n diflannu heb adael unrhyw gofnod gweledol o beth ddigwyddodd, ac felly'n anodd i'w olrhain. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn meddwl yn ofalus am y bobl maen nhw'n dewis cysylltu â nhw ac ystyried defnyddio'r ap dim ond er mwyn ymgysylltu â ffrindiau cyfarwydd. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon cysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu'n gofyn am sgwrs breifat mewn ap gwahanol. Argymhellir newid y gosodiadau preifatrwydd i rannu gyda ffrindiau yn unig.
Ymddygiad defnyddwyr
Ar HiPal, mae cofnodion sgyrsiau yn diflannu pan fydd defnyddiwr yn allgofnodi. Gallai diffyg hanes sgwrsio effeithio ar allu'r heddlu neu awdurdodau perthnasol eraill i ymchwilio i faterion pryderus a allai fod wedi digwydd drwy'r ap. Mae'n bosib i ddefnyddiwr dynnu sgrinlun o sgwrs, ond gallai fod yn anodd i rywun sy'n cael ei aflonyddu neu ei gam-drin feddwl gwneud hyn yn y foment. Da chi, anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi a yw'n cymryd rhan mewn sgwrs sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n anghyfforddus, a thynnu sgrinlun lle bo modd. Atgoffwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am y cynnwys y mae'n dewis ei rannu ar yr ap. Mae'n bwysig egluro i'ch plentyn y gall unrhyw un dynnu sgrinlun o bob cynnwys, ei gadw a'i rannu'n eang. Mae'n bwysig ystyried y cynnwys maen nhw'n ei greu a'i rannu bob amser, drwy feddwl yn ofalus a fydden nhw'n hapus i bawb maen nhw'n eu hadnabod weld y cynnwys.
Dyluniad, data a chostau
Fel gyda llawer o apiau negeseuon eraill, mae wedi'i gynllunio i ennyn diddordeb defnyddwyr a'u cadw ar y platfform am gyfnodau estynedig. Gall fod yn anodd i blant wrthsefyll yr holl hysbysiadau gan eu hannog i ymateb ac ymgysylltu. Anogwch eich plentyn i gymryd hoe trwy newid y gosodiadau hysbysu i leihau nifer yr hysbysiadau mae'n eu derbyn.
Mae HiPal yn ap rhad ac am ddim, sy'n golygu ei fod yn cynhyrchu refeniw trwy hysbysebion. Mae'r datblygwr yn gwneud arian o werthu gofod hysbysebu o fewn y platfform. Mae hysbysebion yn ymddangos yn HiPal ond dydyn nhw ddim wedi'u targedu'n benodol i'r defnyddwyr. Yn hytrach, mae mwyafrif yr hysbysebion yn tueddu i ganolbwyntio ar 'dalu i chwarae' neu apiau dêtio, a fydd yn amhriodol i ddefnyddwyr dan 18 oed HiPal. Dydy defnyddwyr ddim yn gallu analluogi'r swyddogaeth hysbysebu, felly atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw wedi gweld hysbyseb sy'n peri gofid neu ddryswch.
Sut i gadw'ch plentyn yn ddiogel
-
Gall defnyddwyr 12 oed a hyn osod eu cyfrif i 'Offline' a fydd yn analluogi negeseuon ar-lein gan ddieithriaid drwy'r 'Public Square'. Nid yw defnyddwyr 12 oed ac iau yn gallu derbyn negeseuon uniongyrchol gan ddieithriaid yn ddiofyn.
I osod cyfrif i 'Offline':
- Ewch i'ch proffil drwy ddewis eich eicon ar y gornel dde uchaf.
- Switsio'r opsiwn 'Go online' o wyrdd i lwyd.
-
Does dim gosodiadau i reoli cynnwys trwy hidlwyr na sgwrs ar HiPal. Fodd bynnag, mae ffordd o leihau pynciau a delweddau a allai fod yn amhriodol.
Gosod 'Explore' i ddangos ffrindiau defnyddwyr yn unig:
- Ewch i 'Explore' ar y dde isaf.
- Ar y dde uchaf ger yr eicon camera, dewiswch 'Friends'. Bydd HiPal yn newid i 'Friends' yn ddiofyn bob tro mae'r defnyddiwr yn mynd i 'Explore'.
- DS: Bydd 'For You' a 'New' ill dau yn dal i ymddangos fel opsiynau y gall y defnyddiwr eu cyrchu pan fydd yn y nodwedd 'Explore'. Yn yr un modd, dydy hyn ddim yn atal y defnyddiwr rhag gweld cynnwys amhriodol yn cael ei bostio gan ffrindiau.
-
Gall defnyddwyr riportio defnyddwyr eraill sy'n eu plagio neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.
I riportio defnyddiwr:
- Ewch i broffil y defnyddiwr yr hoffech ei riportio.
- Dewiswch yr eicon tri dot ar y dde uchaf.
- Dewiswch 'Report' ac yna'r rheswm pam.
- Fel arall, agorwch ffenestr sgwrs gyda'r defnyddiwr yr hoffech ei riportio.
- Dewiswch yr eicon tri dot ar y dde uchaf.
- Dewiswch 'Report' ac yna'r rheswm pam.
I flocio defnyddiwr:
- Ewch i broffil y defnyddiwr yr hoffech ei rwystro.
- Dewiswch yr eicon tri dot ar y dde uchaf.
- Dewiswch 'Block’.
-
Gall defnyddwyr reoli eu gosodiadau hysbysu ar HiPal. Mae gan HiPal osodiad hysbysu hefyd sydd, os caiff ei wirio, yn caniatáu i'r ap ddarllen pob hysbysiad dyfais (gan gynnwys enwau cyswllt personol a chynnwys hysbysu mewn negeseuon testun neu apiau eraill). Mae hyn wedi'i analluogi yn ddiofyn, ond dylai rhieni a gofalwyr sicrhau nad yw'r nodwedd hon wedi'i galluogi.
I reoli hysbysiadau 'BOOM':
- Ewch i 'Settings' (eicon gêr) ar y chwith uchaf.
- Dewiswch 'BOOM' ar frig y gosodiadau.
- Dewiswch ‘BOOM – Allow notifications outside of HiPal’ i alluogi neu analluogi hysbysiadau.
I reoli mynediad HiPal at hysbysiadau dyfais eraill:
- Dewiswch 'Settings' (eicon gêr) ar y chwith uchaf.
- Dewiswch 'Boom' ar frig y dudalen gosodiadau.
- O dan 'Customize notifications' dewiswch 'Authorizations’.
- Os yw ‘Notification success’ yn dweud ‘Check’, mae HiPal yn darllen hysbysiadau'r ddyfais.
- I analluogi hyn, dewiswch 'Check' wrth 'Notification Access’.
- Dewiswch 'HiPal' i'w newid o 'Allowed' i 'Not allowed'.
I reoli hysbysiadau ar iOS:
- Ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Notifications'.
- Chwiliwch am 'HiPal' yn y rhestr o apiau a diffodd (toggle off) yr opsiwn 'Allow notifications'.
I reoli amser ar Android:
- Ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Apps’.
- Chwiliwch am 'HiPal' yn y rhestr o apiau a dewis 'Notifications’.
- Diffoddwch yr opsiwn 'Show notifications'.
Cyngor cyffredinol
Er y gall fod yn ddiogel i ddefnyddio HiPal gyda ffrindiau lleol ar y cyfan, dylech fonitro defnydd eich plentyn o'r ap. Siaradwch â'ch plentyn yn rheolaidd am y bobl y mae'n cysylltu â nhw ar HiPal a'i atgoffa am beryglon sgwrsio â dieithriaid. Fel ap sydd wedi'i gynllunio i efelychu walkie-talkie, efallai yr hoffech ddweud wrth eich plentyn am gyfyngu ar y defnydd o'r ap i'r nodwedd walkie-talkie gyda ffrindiau cyfarwydd yn unig.
I ddileu cyfrif defnyddiwr o fewn HiPal:
- Ewch i 'Settings' (eicon gêr) ar y gornel chwith uchaf a dewis 'Delete Account’.
- Pwyswch ‘Continue’ a ‘Confirm’ i ddileu'r cyfrif.
I gyrchu swyddogaeth e-bostio adborth o fewn HiPal:
- Ewch i 'Settings' (eicon gêr) ar y gornel chwith uchaf.
- Yna, chwiliwch a thapio ar ‘Feedback’.