English

Mae nifer yr achosion o heriau a storïau celwydd ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol wedi parhau i gynyddu, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn blatfform perffaith i ledaenu heriau a  storïau celwydd yn gyflym. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai heriau feirol a storïau celwydd ar-lein wedi achosi pryder eang am y potensial i achosi niwed difrifol.

Mae deall ac ymateb yn ofalus i'r tueddiadau hyn yn hanfodol er mwyn cadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein.

Yn gyffredinol, mae her ar-lein yn golygu bod defnyddwyr yn recordio eu hunain yn ymateb i her, ac yna'n rhannu'r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol gan annog neu herio eraill i roi cynnig ar yr her. Mae sawl enghraifft o heriau ar-lein. Gall rhai gael effaith gadarnhaol drwy hybu ymwybyddiaeth o fater neu godi arian at elusen neu waith ymchwil, fel Her Bwced Iâ'r ALS a helpodd i godi $115 miliwn yn 2014. Fodd bynnag, gall heriau eraill gael effeithiau negyddol neu hyd yn oed niweidiol, ac mae'r cynnwys yn gallu peri gofid neu ddychryn, gan arwain at anaf corfforol i'r rhai sy'n cymryd rhan weithiau.

Celwydd bwriadol a gynlluniwyd i ymddangos fel y gwir yw stori gelwydd, ac mae'n gallu bod yn stori ddychryn, yn ffotograff, yn erthygl newyddion, yn fideo neu'n meme ar-lein.

Mae'n hanfodol bod unrhyw gamau a gymerwch yn osgoi tynnu sylw at gynnwys niweidiol. Wrth ymateb, mae angen ystyried y canlynol.

Cyfyngu ar y lledaeniad

Pan fyddwch yn gweld her neu stori gelwydd ar-lein, eich ymateb greddfol o bosibl yw rhybuddio pobl eraill. Fodd bynnag, gall hyn gynyddu chwilfrydedd yn anfwriadol ac arwain mwy o bobl i chwilio am y cynnwys peryglus. Mae’r adroddiad ‘Digital Ghost Stories yn egluro mwy am hyn.

Osgoi enwi heriau peryglus neu rai sy'n achosi pryder

Gall enwi her neu stori gelwydd beryglus ar-lein gyda’ch plentyn neu rieni a gofalwyr eraill beri risg o ledaenu ymhellach nifer y bobl y mae’r cynnwys peryglus yn ei gyrraedd. Gallai canolbwyntio ar fanylion un her neu stori gelwydd benodol olygu eich bod yn colli cyfle i roi cyngor ac arweiniad i’ch plentyn y gellir ei ddefnyddio pe bai rhywbeth yn digwydd ar-lein a all achosi pryder neu ofid iddo neu dramgwyddo yn ei erbyn.

Siaradwch â’ch plentyn a gwrando arno

Mae’n bwysig rhoi amser a gofod i’ch plentyn siarad â chi am unrhyw beth sy’n peri pryder iddo, gan gynnwys materion ar-lein. Gall heriau ar-lein a chynnwys pryderus godi’r angen i siarad am faterion pryderus eraill fel hunan-niwed a hunanladdiad.

Osgoi dangos unrhyw gynnwys sy’n peri gofid neu’n dychryn

Mae’n bwysig cofio hyd yn oed pan fo rhywbeth yn mynd yn feirol ar-lein, nid yw hynny’n golygu bod pob plentyn wedi ei weld neu wedi clywed amdano. Siaradwch â'ch plentyn am risgiau heriau a straeon celwydd ar-lein heb ddangos unrhyw enghreifftiau iddynt na rhoi manylion cignoeth.

Siaradwch â phlant am riportio a blocio

Mae platfformau cyfryngau cymdeithasol, gemau a fideo yn cynnig adnoddau riportio a blocio y gallwch annog eich plentyn i’w defnyddio. Wrth riportio, mae’n bwysig eich bod yn cefnogi eich plentyn drwy roi cymaint o gyd-destun â phosibl wrth riportio’r hysbysiad, y neges neu’r cyfrif yn uniongyrchol. Gallwch ddysgu rhagor ynghylch sut i riportio ar wefan Childnet a gwefan Riportio Cynnwys Niweidiol.

Trafod pwysau gan gyfoedion

Un o’r prif faterion a godir ynghylch heriau ar-lein a mathau eraill o gynnwys sy’n peri pryder yw pwysau gan gyfoedion. Weithiau gall plant a phobl ifanc gael eu tynnu i mewn i’r heriau hyn oherwydd mai dyna beth mae pob un o’u ffrindiau yn ei wneud neu’n rhoi’r argraff eu bod yn ei wneud a gall dweud ‘na’ deimlo fel peth anodd iawn i’w wneud.

Mae yna adnoddau ar gael hefyd a all eich helpu i hyrwyddo ymddygiad moesegol ar-lein gyda’ch plentyn ac i roi strategaethau iddo ar gyfer rheoli ei amgylchedd ar-lein er mwyn lleihau’r risg o weld cynnwys niweidiol.

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw gynnwys niweidiol, gallwch ei riportio drwy fynd i wefan Riportio Cynnwys Niweidiol.

Heriau a storïau celwydd

Hunan-niweidio a hunanladdiad