English

Mae hawlfraint yn ffordd bwysig i’r rheini sy’n creu gwaith ddiogelu’r gwaith hwnnw a stopio pobl eraill rhag ei ddefnyddio heb ganiatâd. Mae’n golygu bod gan bawb sy’n creu gwaith newydd yr hawl i reoli sut mae pobl eraill yn cael ei ddefnyddio neu ddim yn cael ei ddefnyddio. Fel ymarferwyr, mae'n bwysig sicrhau, wrth greu gweithgareddau, gwersi ac adnoddau, eich bod wedi cael y caniatâd angenrheidiol cyn defnyddio gwaith sydd dan hawlfraint. Mae’n ddefnyddiol sicrhau bod eich dysgwyr yn deall deddfau hawlfraint hefyd, oherwydd efallai byddant yn cynhyrchu gwaith sydd wedi’i warchod. Mae methu â dilyn yr hawlfraint yn drosedd a gall arwain at ddirwyon i’ch ysgol. Mae’r canllaw hwn wedi cael ei gynhyrchu i’ch helpu chi i ddeall hawlfraint.

Mae hi bellach yn hawdd copïo, gludo, ailgymysgu ac ailddefnyddio cynnwys rydych chi’n dod o hyd iddo ar-lein. Mae rhai pobl yn gweld y rhyngrwyd fel rhywle lle gallwch chi gymryd cynnwys heb ystyried pwy sy’n berchen arno na’r canlyniadau. Dyma bwrpas hawlfraint. Mae deddfau hawlfraint yno i warchod y pethau rydyn ni’n eu creu ac i stopio pobl eraill rhag eu defnyddio heb ein caniatâd. Mae hawlfraint hefyd yn hawl awtomatig ac nid oes angen i unigolyn na sefydliad wneud unrhyw beth i roi hawlfraint ar eu gwaith eu hunain.

Mae hi’n bwysig deall hawlfraint a sut mae’n berthnasol mewn ysgolion ac i’ch gwaith fel ymarferydd addysg er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud wrth ddefnyddio gwaith pobl eraill wrth addysgu yn ogystal ag yn y deunyddiau addysgol rydych chi’n eu creu i ddysgwyr. Mae hi hefyd yn bwysig gwybod sut mae hawlfraint yn berthnasol i’ch gwaith gwreiddiol eich hun a sut gallwch chi weithredu fel model rôl cadarnhaol i ddysgwyr wrth ddewis a defnyddio ffynonellau yn eich gwaith.

Mae’n arfer da i gadarnhau beth gewch chi ei wneud gyda’r gwaith sydd wedi’i gyhoeddi rydych chi’n dymuno ei ddefnyddio ar gyfer eich addysgu. Efallai fod gan eich ysgol drwyddedau i ganiatáu i chi ddefnyddio gwaith. Bydd rhai eithriadau hawlfraint hefyd yn berthnasol i chi fel athrawon, sy’n golygu na fyddai'n rhaid i chi gael caniatâd (gweler isod).

Mae gan rai gwefannau offer chwilio am ddim sy'n eich galluogi i chwilio yn ôl manylion fel rhif IS neu deitl ac awdur. Mae gwefannau eraill yn cynnwys catalog o’u gwaith hawlfraint ar-lein lle gallwch chi bori, gan gynnwys y canlynol.

  • Mae’r Copyright Licensing Agency yn rhoi mynediad at filiynau o lyfrau, cylchgronau, cyfnodolion ac ati yn ogystal ag adnoddau digidol. Mae gan ysgolion yng Nghymru drwydded CLA a gallant ddefnyddio’r teclyn CLA Check Permissions sy’n boblogaidd mewn Addysg Uwch (AU) ac Addysg Bellach (AB).
  • Mae NLA Media Access yn rhoi mynediad at filiynau o erthyglau papur newydd ac, yn ogystal â chwilio am deitl, mae ysgolion sydd â thrwydded yn gallu defnyddio’r gronfa ddata Llyfrgell Newyddion am ddim. Nid oes gan bob ysgol drwydded NLA felly holwch eich rheolwr busnes neu’r awdurdod lleol.
  • Mae’r Educational Recording Agency (ERA) yn caniatáu defnyddio darllediadau teledu a radio at ddibenion addysgol ac mae’n hawdd i ysgolion sydd â thrwydded ERA chwilio amdanynt.
  • Mae’r CCLI yn darparu nifer o drwyddedau sy’n berthnasol i emynau, caneuon a ffilmiau.
  • Mae’r PPL yn cynrychioli 120k o berfformwyr cerddoriaeth a deiliaid hawliau recordio.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol pan gewch chi ddefnyddio gwaith sydd wedi'i warchod â hawlfraint yn gyfreithlon heb ofyn am ganiatâd gan y perchennog. Eithriadau hawlfraint yw’r enw ar y rhain ac mae gan nifer ohonynt ofyniad yn y DU ar gyfer ‘bargeinio teg’.

Mae dau eithriad penodol o ran addysg y gallech eu defnyddio. Y cyntaf yw os nad yw gwaith yn dod o dan drwydded addysgol berthnasol, cewch gopïo hyd at 5% ohono mewn cyfnod o 12 mis, cyn belled â'ch bod yn cydnabod y rheini sy’n dal yr hawliau. Ar ben hynny, cewch ddefnyddio gwaith dan hawlfraint dim ond at ddibenion darlunio ar gyfer cyfarwyddiadau. Nid yw hyn wedi’i gyfyngu yn ôl cyfran, ond mae dal angen bargeinio teg.

Gall eithriadau bargeinio teg eraill fod yn berthnasol i chi, gan gynnwys at ddibenion dyfynnu, beirniadu ac adolygu; ymchwil ac astudiaeth breifat; a pharodi, caricatur a phastiche. Mae rhagor o wybodaeth am eithriadau hawlfraint a chanllawiau ar gyfer defnydd addysgol wedi cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Mae enghreifftiau o ddefnydd a fyddai’n golygu bargeinio teg yn gallu cynnwys defnyddio darn bach o fideo neu sain (fel o raglen deledu, trac ffilm neu gerddoriaeth) at ddibenion beirniadu neu adolygu, creu parodi neu garicatur, neu ddyfynnu pobl eraill (er enghraifft, dyfyniad o gyfweliad wedi’i recordio). Er mwyn i rywbeth fod yn fargeinio teg, dylid rhoi clod i’r perchennog gwreiddiol, ni ddylai’r gwaith newydd effeithio’n andwyol ar botensial masnachol y gwaith gwreiddiol a dylai faint o’r gwaith gwreiddiol sydd wedi cael ei ddefnyddio fod yn rhesymol ac yn briodol yn y cyd-destun.

Mae’n werth nodi mai dim ond llys barn all benderfynu a yw defnyddio gwaith sydd dan hawlfraint yn cael ei ystyried yn fargeinio teg ai peidio. Fodd bynnag, mae ystyried y meini prawf uchod yn gallu helpu i feithrin ailddefnyddio mewn ffordd barchus ac osgoi honiadau o dorri hawlfraint.

Efallai byddwch chi’n gweld rhywfaint o gynnwys ar-lein wedi'i farcio â symbol trwydded Creative Commons (CC). Mae’r trwyddedau hyn yn rhoi mwy o reolaeth i ddeiliaid hawlfraint dros sut caiff pobl eraill ailddefnyddio neu addasu eu gwaith. Gall y deiliad ddefnyddio trwydded Creative Commons i ganiatáu ailddefnyddio masnachol ac anfasnachol ac a oes modd addasu'r gwaith gwreiddiol ai peidio. Mae hefyd yn gallu dynodi’r drwydded CC y mae'n rhaid i unrhyw waith dilynol sy’n deillio o'r gwaith gwreiddiol ei dal hefyd (math o 'dalu ymlaen' a elwir yn Share Alike). Er enghraifft, gallech ddefnyddio trwydded Creative Commons ar eich gwaith gwreiddiol eich hun i ganiatáu i ymarferwyr addysgol eraill ei ailddefnyddio neu ei ail-bwrpasu ar gyfer gwaith gyda’u dysgwyr eu hunain, ond eu hatal rhag defnyddio’r cynnwys at ddibenion masnachol, a mynnu eu bod yn defnyddio’r un drwydded ar gyfer unrhyw beth maen nhw’n ei gynhyrchu ar sail eich gwaith gwreiddiol chi. 

Mae’r trwyddedau hyn yn ei gwneud yn haws o lawer dewis cynnwys ar-lein y ceir ei ailddefnyddio neu ei ail-bwrpasu am ddim yn eich deunyddiau addysg eich hun neu gan ddysgwyr yn eu gwaith. Mae peiriannau chwilio fel Google a Bing yn gadael i chi hidlo chwilio am ddelweddau yn ôl trwydded CC, ac mae gan Creative Commons beiriant chwilio hefyd i’ch helpu i ddod o hyd i gynnwys. Mae defnyddwyr Hwb yn gallu cael gafael ar amrywiaeth eang o ddelweddau dan drwydded drwy ddefnyddio Britannica ImageQuest (rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i Hwb i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn).

Dylech chi bob amser gynnwys y math o drwydded CC gydag unrhyw gynnwys rydych yn ei ailddefnyddio neu’n ei ail-bwrpasu, yn yr un ffordd ag sy’n cael ei wneud gyda hawlfraint. Dylech chi hefyd wneud yn siwr bod y math o drwydded yn caniatáu i chi wneud yr hyn rydych chi eisiau ei wneud. Ewch i Creative Commons i gael gwybod mwy.

Wrth ddefnyddio technoleg mewn addysg (naill ai wyneb yn wyneb neu i gefnogi dysgu cyfunol), mae’n fwyfwy tebygol y byddwch am gyfeirio dysgwyr i ymweld â gwefan neu gynnwys ar-lein fel rhan o’u dysgu. Does dim problem o ran hawlfraint a chreu dolen i gynnwys sydd ar gael yn gyhoeddus ar-lein, ar yr amod eich bod yn creu dolen i leoliad gwreiddiol y cynnwys yn hytrach na gwneud copi ohono eich hun. Fodd bynnag, mae hefyd yn ddoeth gwirio dolenni cyn eu rhannu â dysgwyr i sicrhau bod y cynnwys yn addas ac, ar gyfer gwefan, bod cynnwys arall sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen honno hefyd yn addas (er enghraifft, a yw’r wefan yn cynnwys tudalennau neu gynnwys arall nad yw’n briodol i oed y dysgwyr? A yw’n cynnwys hysbysebion? A yw’n cynnwys dolenni at gynnwys anaddas?).

Mae’r un peth yn wir am gynnwys ar lwyfannau rhannu fideos fel YouTube neu Vimeo. Mae’r gwefannau hyn yn cynnig y gallu i blannu clipiau fideo ar dudalennau gwe eraill neu mewn gwasanaethau neu apiau ar-lein eraill fel Google Slides. Nid yw plannu clipiau fideo yn debygol o dorri hawlfraint os yw’r gynulleidfa tu mewn i’r ysgol gan fod y fideo yn dal i gael ei letya ar y safle gwreiddiol (YouTube, Vimeo). Fodd bynnag, gallai lawrlwytho neu greu copi o fideo YouTube i’w ddefnyddio mewn gweithgaredd addysgu olygu torri hawlfraint os nad oes caniatâd gan ddeiliad yr hawliau neu os nad oes eithriad hawlfraint yn berthnasol iddo.

Gall deunyddiau addysgol gael eu gwarchod gan gyfreithiau hawlfraint yn yr un modd â deunyddiau a gweithiau eraill sy’n cael eu gwarchod gan hawlfraint (fel ffilmiau, rhaglenni teledu, llyfrau, gwaith celf, cerddoriaeth, ffotograffau a rhaglenni meddalwedd). Bydd llawer o’r adnoddau addysgol byddwch chi’n eu defnyddio yn eich addysgu naill ai wedi cael eu prynu gan eich ysgol (lle mae’r prynu yn cynrychioli cytundeb trwydded) neu ar gael i’w defnyddio am ddim gan sefydliadau addysgol (o dan delerau ac amodau defnyddio penodol). Mae angen prynu nifer o drwyddedau defnyddwyr ar gyfer rhai mathau o gynnyrch addysgol (er enghraifft fesul dysgwr neu fesul aelod o staff) neu drwy danysgrifiad er mwyn cael eu defnyddio mewn lleoliad addysg. Un enghraifft o hyn fyddai taflenni gwaith sydd i fod i gael eu copïo gan ddysgwyr.

Er bod eich ysgol wedi prynu’r adnoddau addysgol (neu fynediad atynt), mae’n bwysig cofio bod yr adnoddau hyn wedi’u trwyddedu ac nid yr ysgol sy’n berchen arnynt. Rhaid i’r defnydd a wneir o’r adnoddau hyn gydymffurfio â’r telerau a nodir mewn cytundeb trwyddedu. Gall hyn gynnwys cyfyngiadau o ran a oes modd atgynhyrchu rhannau o’r adnodd a sut, er enghraifft, drwy lungopïau, sganiau, sgrinluniau neu ffotograffau digidol ac a oes modd eu defnyddio mewn lleoliadau neu berfformiadau cyhoeddus.

Cyn atgynhyrchu rhan o adnodd neu geisio ei ddefnyddio mewn cyd-destun cyhoeddus, dylech bob amser edrych ar y cytundeb trwyddedu ar gyfer yr adnodd. Er enghraifft, ni fyddai dangos llun o dan hawlfraint, ynghyd â’r symbol hawlfraint a’r testun ‘© Hawlfraint <enw’r sawl sydd wedi creu’r adnodd>’, yn golygu ei bod hi’n dderbyniol atgynhyrchu gwaith pobl eraill os yw’r cytundeb trwyddedu’n gwahardd atgynhyrchu’r adnodd.

Ar gyfer rhai mathau o gynnwys, efallai y bydd awdurdodau lleol wedi prynu trwyddedau swmp ar gyfer ysgolion yn eu hardaloedd. Dylai eich ysgol neu'ch awdurdod lleol fod â manylion y trwyddedau hynny a'r hyn y maent yn caniatáu i chi ei weld neu ei ailddefnyddio. 

Mae hi’n haws nag erioed dod o hyd i ddeunyddiau ar-lein i gefnogi eich addysgu. Mae peiriannau chwilio yn galluogi defnyddwyr i ddod o hyd i ddelweddau, fideos a chynnwys arall y gellir eu defnyddio i wneud deunyddiau addysgol yn fwy rhyngweithiol a diddorol i ddysgwyr. Fodd bynnag, dylech gofio bob amser nad yw dod o hyd i rywbeth ar-lein yn golygu y cewch ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd. Efallai fod y deunyddiau hyn wedi cael eu gwarchod gan hawlfraint a, gyda chyrhaeddiad byd-eang y rhyngrwyd, mae modd eu canfod yn haws, beth bynnag fo’u tarddiad. Dylech bob amser edrych ar yr hyn y cewch ei wneud gyda chynnwys ar-lein, sy’n dod o dan ddeddfwriaeth hawlfraint y DU, o ble bynnag y daw.

Mae sawl ffordd y gall ymarferydd addysg dorri hawlfraint yn anfwriadol wrth baratoi a defnyddio deunyddiau ar gyfer gwersi. Un enghraifft gyffredin yw dod o hyd i ddelwedd drwy beiriant chwilio (er enghraifft Google Images), gwneud copi o’r ddelwedd hon a’i gludo ar sleidiau ar gyfer gwers heb ofyn am ganiatâd neu heb roi’r clod i’r perchennog. Er bod y ddelwedd ar gael i’w chanfod a’i gweld, nid yw Google Images yn ‘berchen’ ar y ddelwedd, mae’n eiddo i rywun arall ac mae’n bosibl bod ei chopïo wedi torri cyfraith hawlfraint (gan ddibynnu ar sut roedd y perchennog gwreiddiol yn dymuno i’r ddelwedd gael ei defnyddio gan bobl eraill). Cafwyd achosion lle rhoddwyd dirwyon i ysgolion am fod aelod o staff wedi torri’r rheolau. Mae delweddau’n gallu cynnwys offer tracio wedi’u plannu sy’n dweud wrth y sawl a oedd wedi creu’r ddelwedd pryd cafodd ei ddelwedd ei llwytho i lawr. 

Os ydych chi’n siwr bod y sawl sy’n creu’r hawlfraint yn rhoi caniatâd i’w gynnwys ar-lein gael ei ddefnyddio yn eich deunyddiau addysgu, neu os ydych chi’n credu bod eithriad hawlfraint yn berthnasol (gweler isod), mae’n dal yn bwysig cydnabod y perchennog gwreiddiol drwy gynnwys y symbol hawlfraint a’r testun ‘© Hawlfraint <enw perchennog y cynnwys>’ gyda neu wrth ymyl y cynnwys. Dylech fod yn ymwybodol nad yw addasu neu ailgymysgu gwaith pobl eraill yn eich gwaith eich hun yn rhoi perchnogaeth i chi dros y gwaith gwreiddiol, ac mae dal angen i chi gydnabod y perchennog gwreiddiol. Dylech bob amser gydnabod yr awdur neu'r defnyddiwr gwreiddiol a greodd y cynnwys yn hytrach na'r wefan neu'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol mae’n ymddangos arno.

Mae rhagor o wybodaeth am faterion hawlfraint wrth ddefnyddio delweddau digidol yn hysbysiadau hawlfraint y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Mae’r adnoddau canlynol yn ddefnyddiol ar gyfer addysgu plant a phobl ifanc ynghylch beth yw hawlfraint, sut mae defnyddio trwyddedau ar eu gwaith eu hunain, a chanlyniadau tarfu ar waith pobl eraill:

Dysgwyr oed cynradd

Dysgwyr oed uwchradd