English

Mae hiliaeth yn broblem sy’n wynebu pobl mewn nifer o wledydd ym mhedwar ban byd – ac yn aml ar-lein. Mae’n wahaniaethu, er enghraifft ymddygiad cas, yn erbyn rhywun oherwydd ei ethnigrwydd neu oherwydd ei fod yn hanu o wlad arall. Weithiau bydd lliw croen, acen neu ffordd o fyw yn ffactor.

Mae hil yn ‘nodwedd warchodedig’ – agwedd ar hunaniaeth rhywun sy’n cael ei diogelu dan y gyfraith ochr yn ochr ag oedran, crefydd/cred, rhyw, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd. Gan ddibynnu ar y cyd-destun, mae modd ystyried bod ymddygiad hiliol (ar-lein ac all-lein) yn drosedd casineb.

Mae trosedd casineb yn golygu unrhyw ymddygiad troseddol y mae’n ymddangos ei fod yn cael ei gymell gan elyniaeth neu ragfarn, neu mae’n cynnwys geiriau neu ymddygiad sy’n dangos gelyniaeth, ar sail canfyddiad ynghylch y canlynol:

  • hil
  • crefydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth drawsrywiol
  • anabledd

Mae trosedd casineb yn gallu cynnwys cam-drin geiriol, brawychu, bygwth, aflonyddu, ymosod a bwlio, yn ogystal â difrodi eiddo. Gallai’r cyflawnwr fod yn rhywun anhysbys, neu’n ffrind.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu chi a’ch teulu i ddeall sut mae hiliaeth yn digwydd ar-lein a beth i’w wneud os byddwch chi’n dod ar draws hiliaeth.

Yn ôl adroddiad ymchwil Dangoswch inni ei bod o bwys ichi gan Gynghrair Hil Cymru, mae tua 12% o blant ysgol Cymru yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac yn fwy agored i hiliaeth a bwlio hiliol ar-lein ac all-lein.

Mae ymddygiad hiliol yn gallu digwydd unrhyw le ar-lein – o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a sgyrsiau mewn gemau ar-lein i sianeli YouTube, byrddau negeseuon ac adrannau sylwadau. Mae cynnwys hiliol yn aml yn gyhoeddus, wedi cael ei greu a’i bostio gyda’r nod o effeithio ar gynifer o bobl â phosibl. Mae unigolion uchel eu proffil fel pobl o’r byd chwaraeon, enwogion a gwleidyddion yn aml yn cael eu targedu oherwydd eu hil neu liw eu croen.

Mae grwpiau eithafol yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd fel ffordd o recriwtio unigolion i’w mudiadau, neu er mwyn trafod casineb sy’n cael ei rannu tuag at y rheini sy’n wahanol iddyn nhw. Maen nhw’n aml yn defnyddio byrddau negeseuon preifat neu apiau negeseuon i wneud hyn. Efallai na fydd cynnwys hiliol ar-lein bob amser yn amlwg yn gas; ond mae hefyd yn gallu bod yn ymhlyg neu’n gynnil.

Mae ymddygiad hiliol ar-lein yn aml yn deillio o fod ofn pobl sy’n wahanol. Gall hyn fod oherwydd anwybodaeth, neu oherwydd bod rhywun yn credu bod eu hil yn well neu’n ‘normal’ a bod unrhyw un sy’n wahanol yn israddol.

Efallai y bydd pobl sy’n creu ac yn rhannu cynnwys hiliol ar-lein eisiau targedu unigolyn neu bob aelod o grŵp penodol. Mae llawer o resymau pam mae pobl yn dewis rhannu safbwyntiau dadleuol ar-lein. Efallai eu bod yn ei weld fel ‘gêm’ neu efallai eu bod eisiau cychwyn ffrae, gan fod cynnwys cas yn aml yn gallu ysgogi emosiynau cryf yn y rheini sy’n dod ar ei draws. Efallai y bydd pobl eraill yn meddwl bod cynnwys hiliol yn ddoniol, oherwydd nad ydyn nhw’n sylweddoli beth yw effaith eu cam-drin ar y rheini sy’n cael eu targedu.

Mae cam-drin hiliol yn cynnwys geiriau neu ddelweddau sy’n dad-ddyneiddio er mwyn gwneud i unigolyn neu grŵp swnio’n israddol i bobl eraill mewn cymdeithas. Mae bod yn darged neu’n ddioddefwr i’r ymddygiad hwn yn gallu bod yn drawmatig iawn. Mae’n gallu effeithio ar iechyd corfforol neu feddyliol (drwy gynyddu pryderon neu orbryder), ar hyder ac ar hunan-werth. Mae hefyd yn gallu gwneud i bobl deimlo’n ddiymadferth. Gan ddibynnu ar y cyd-destun, mae modd ystyried bod cam-drin hiliol ar-lein yn drosedd casineb ac mae ymddygiad sy’n ysgogi trais all-lein yn gallu peryglu bywyd pobl.

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo nad yw eich plentyn neu’ch teulu mewn perygl o gael eu targedu gan hiliaeth, mae’n bwysig helpu eich plentyn i ddeall bod gwahaniaethu’n digwydd ar-lein ac all-lein, ac nad yw’r ymddygiad hwn yn dderbyniol. Efallai nad yw’n addas dangos enghreifftiau o hiliaeth ar-lein i’ch plentyn, ond gallwch ei rymuso drwy egluro beth mae modd ei wneud os bydd yn dod ar draws ymddygiad ar-lein lle mae’n teimlo y gwahaniaethir yn erbyn rhywun neu fod rhywun yn cael ei drin yn wael. Dyma’r prif bethau y gall eu gwneud.

  • Riportio’r defnyddiwr neu’r cynnwys i’r wefan/gwasanaeth dan sylw. Mae gan y rhan fwyaf o wefannau reolau neu safonau cymunedol sy’n gwahardd ymddygiad sarhaus neu hiliol.
  • Ymateb yn ofalus – bydd dweud wrth rywun ei fod yn anghywir yn aml yn gallu gwneud y sefyllfa’n waeth.
  • Cyfathrebu’n gadarnhaol – gall anfon negeseuon cadarnhaol o gefnogaeth at y dioddefwr leihau effaith cynnwys hiliol neu gam-drin.
  • Blocio a thewi’r defnyddwyr sy'n eu targedu.
  • Gofyn am help gan oedolyn dibynadwy.

Mae llawer o gymorth a chanllawiau ar gael i’ch helpu chi a’ch teulu i ddelio â hiliaeth ar-lein.

Gallwch chi riportio troseddau casineb drwy True Vision (Saesneg yn unig) i’r heddlu, neu Gymorth i Ddioddefwyr. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru. Ffoniwch 0300 3031 982 neu ewch i wefan Cymorth i Ddioddefwyr. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae hi’n bwysig riportio hiliaeth ac iaith casineb ar-lein bob tro byddwch chi’n eu gweld, ond nid yw hynny bob tro’n golygu y bydd y cynnwys yn cael ei dynnu i lawr. Os ydych chi wedi riportio rhywbeth ar-lein rydych chi’n meddwl y dylid ei dynnu i lawr ond nid yw’r wefan/gwasanaeth wedi gweithredu, gallwch chi fynd i Riportio Cynnwys Niweidiol. Yn yr adran gyngor, mae gwybodaeth gyfredol am safonau cymunedol a dolenni uniongyrchol at y cyfleusterau riportio cywir ar gyfer gwahanol wefannau a llwyfannau.

Dylech atgoffa eich plentyn y gall hefyd ffonio Meic, sy’n cynnig gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Ffoniwch Meic am ddim ar 080880 23456, anfon neges destun ar 84001 neu anfon negeseuon gwib yn www.meic.cymru. Mae’r gwasanaeth ar agor o 8am tan hanner nos 7 diwrnod o'r wythnos.

Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gefnogi eich plentyn i fynd i’r afael â chasineb ar-lein ar gael yn Internet Matters (Saesneg yn unig).