English

Fel oedolyn, mae'n anodd gwybod beth i'w wneud neu ei ddweud mewn ymateb i glywed am ryfel a gwrthdaro ar y newyddion. Sut allwch chi esbonio'r sefyllfa i blentyn? Faint ddylai ei wybod? Sut ydych chi'n ei helpu i reoli’i bryder rhesymol ynghylch yr hyn mae’n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion?

Mae'r adnoddau hyn ar gyfer athrawon, rhieni a phlant ac yn rhoi awgrymiadau a syniadau ynghylch sut i reoli'r sgyrsiau hynny.

Wrth i Gymru barhau i groesawu ffoaduriaid sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth o Syria, Affganistan a'r Wcráin erbyn hyn, mae'n bwysig bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu mwy am fudo a ffoaduriaid.

Mae detholiad o adnoddau ystafell ddosbarth ar gael i athrawon archwilio digwyddiadau mewn gwledydd rhyfel ac egluro sut mae argyfyngau dyngarol yn effeithio ar bobl. Mae amrywiaeth o weithgareddau hefyd i alluogi pobl ifanc i ddeall pam mae ffoaduriaid yn ffoi o'u cartref a sut beth yw cyrraedd rhywle newydd i ffwrdd oddi wrth ffrindiau a theulu.

Adnoddau

Cymorth pellach