English

Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.

Yn y Deyrnas Unedig, caiff y diwrnod ei gydlynu gan UK Safer Internet Centre (Saesneg yn unig) ac yn ystod y dathliad mae cannoedd o sefydliadau yn uno i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r diwrnod yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar y rôl sydd gan bob un ohonom i ddod at ein gilydd i greu rhyngrwyd gwell.

Mae gan ysgolion rôl bwysig i’w chwarae er mwyn ceisio ennyn diddordeb am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn eu cymunedau; fel ymarferwyr addysg, rydyn ni’n gwybod bod cefnogi dysgwyr, hyd eithaf eich gallu, i wneud dewisiadau doeth yn eu bywydau ar-lein eisoes yn un o’ch blaenoriaethau pennaf.

 


Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel: Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024

Thema’r DU eleni oedd ‘Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein’. Roedd yn gyfle gwych i fyfyrio gyda dysgwyr ar y ffyrdd y mae technoleg wedi newid ein bywydau a sut gallwn ni helpu i wneud y byd ar-lein yn lle gwell.

Digwyddiad Cynllunio Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Ym mis Tachwedd, lansiwyd ein cynlluniau ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel gyda digwyddiad rhithwir yn dod â rhanddeiliaid addysg o bob rhan o Gymru ynghyd i drafod y cynlluniau cydweithredol ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024. Dyma sleidiau o’r digwyddiad, rhag ofn eich bod chi wedi ei golli.

  • Sleidiau o'r digwyddiad pptx 8.07 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Adnoddau

Cynigwyd amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer ysgolion.

Er mwyn eich cefnogi i ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024, fe wnaethom ddatblygu gwasanaeth wedi’i deilwra i’ch helpu i sbarduno sgyrsiau am ddefnydd diogel, cadarnhaol a chyfrifol o dechnoleg yn eich ysgol. Mae’n cynnwys neges gan David Wright, Cyfarwyddwr yr UK Safer Internet Centre, a rhai gweithgareddau hwyliog.

Pecynnau Addysg Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Unwaith eto eleni, fe wnaethom weithio gyda’r UK Safer Internet Centre i gyhoeddi pecynnau addysg dwyieithog.

Mae’r pecynnau hyn yn llawn gweithgareddau hwyliog ar gyfer pob grŵp oedran, a byddant yn eich helpu chi a’ch dysgwyr i archwilio:

  • Beth sy’n dylanwadu ac yn newid y ffordd y mae plant yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn ar-lein ac all-lein?
  • Sut gallwn ni ddefnyddio’r rhyngrwyd i wneud newidiadau?
  • Beth yw ein barn ar dechnoleg newydd a thechnoleg ddatblygol?
  • Pecynnau addysg yn llawn gweithgareddau ar gyfer gwersi diogelwch ar-lein i blant oed 3 i 11.

  • Pecynnau addysg yn llawn gweithgareddau ar gyfer gwersi diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc oed 11 i 18.


Rhannu eich gweithgareddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Ledled Cymru roedd cyfleoedd i bawb, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid a theuluoedd, i gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ddydd Mawrth 6 Chwefror. Gwahoddwyd ysgolion i ddweud wrthym beth roeddent yn ei wneud.

Cafodd cyfraniadau eu cymedroli ac yna eu cyhoeddi ar ein tudalen ‘Dathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024’.


Gweminarau

Drwy gydol wythnos Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, fe wnaethom gynnal cyfres o ddigwyddiadau rhithwir rhyngweithiol i ysgolion gyda’n partneriaid arbenigol gan gynnwys Estyn, Childnet, SWGfL, Heddlu Gogledd Cymru ac Adobe.


Creu'r diwylliant a'r dull gweithredu cywir i gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein

Yn ystod y weminar 1 awr hon ar 7 Chwefror, fe wnaeth Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn, Dyfrig Ellis, amlinellu pwysigrwydd creu'r diwylliant a'r dull gweithredu cywir i gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein a galluogi plant a phobl ifanc i siarad pan fydd angen cymorth arnynt. Rhoddodd Dyfrig trosolwg o argymhellion Estyn ar gyfer ysgolion, gan gynnwys dysgu proffesiynol parhaus effeithiol a pherthnasol i athrawon, yr angen i greu amgylchedd diogel a chyfforddus i blant a phobl ifanc a phwysigrwydd gwella'r ffordd y mae ysgolion yn cofnodi, monitro ac ymateb i bryderon diogelu.

  • Sleidiau o'r digwyddiad pptx 19.91 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Mae adnodd 360 Safe Cymru yn darparu fframwaith hunanadolygu ar gyfer gwella diogelwch ar-lein a chadernid digidol mewn ysgolion. Fe wnaeth y weminar 30 munud hon rhoi trosolwg o nodweddion yr adnodd a sut y gellir ei ddefnyddio i asesu polisïau ac arferion diogelwch ar-lein eich ysgol yn ogystal â'ch parodrwydd presennol ar gyfer digwyddiadau diogelwch ar-lein.

  • Crëwyd y sesiwn hyfforddiant 2 awr rhad ac am ddim hon gan yr elusen ddiogelwch ar-lein flaenllaw Childnet. Mae'r sesiwn wedi'i chynllunio er mwyn helpu staff mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru i ddeall, atal ac ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein yn eu lleoliad.

    Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ar 8 Chwefror.

    Cynhaliwyd yr ail sesiwn ar 22 Chwefror.

  • Cynhaliodd Adobe sesiynau diogelwch ar-lein ar gyfer plant 8 i 13 oed ar 6, 7 a 8 Chwefror (1.30 - 2.45pm).

    Yn y gwersi roedd dysgwyr yn defnyddio Adobe Express i greu darnau anhygoel o waith digidol ar thema Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

  • Yn ystod y sesiwn hyfforddi rhithwir ‘ymwybyddiaeth seiber’ yma ar 1 Chwefror, fe wnaeth cydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru fel rhan o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd Orllewin, archwilio sut i:

    • godi ymwybyddiaeth o seiberdroseddu
      adnabod ac osgoi bygythiadau seiber cyffredin a sgamiau
    • ddiogelu eich data a'ch dyfeisiau personol a phroffesiynol
    • gefnogi eich dysgwyr i sylwi ar weithgarwch anghyfreithlon
      nodi pryd y mae angen help a chefnogaeth arnoch.

    Roedd yna hefyd cyfle i glywed am yr ystod o raglenni CyberFirst a all helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer gyrfa mewn Seiber.

  • Yn ystod y sesiwn hon ar 5 Chwefror, rhoddodd y Tîm Cadernid Digidol mewn Addysg Hwb drosolwg o'r ystod o adnoddau, cyngor ac arweiniad sydd ar gael yn ardal Cadw'n ddiogel ar-lein i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. 

    Roedd yna hefyd cyfle i gyfranogwyr rannu barn ar arferion diogelwch ar-lein cyfredol yn eu hysgolion.

Sesiynau yn yr ysgol

Fe wnaeth Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru yn cynnig sesiynau diogelwch ar-lein i ysgolion yng Nghymru ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024.

Roedd sesiynau ar y pynciau canlynol:

  • Seiberfwlio
  • Secstio
  • Meithrin perthynas amhriodol
  • Camfanteisio ar blant ar-lein

Ffyrdd eraill y gallwch chi ddangos cefnogaeth i'r ymgyrch Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Cefnogwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol

I weld beth mae sefydliadau eraill yng Nghymru yn ei wneud ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, chwiliwch am #SIDCymru ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs fyd-eang drwy ddefnyddio #DiwrnodDefnyddiorRhyngrwydynFwyDiogel #SaferInternetDay

 

Cofrestru fel cefnogwr

Dangoswch gefnogaeth ac ymrwymiad eich sefydliad tuag at ryngrwyd well drwy gofrestru fel cefnogwr Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

 

Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda newyddion Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, felly cadwch olwg.


Ymgyrchoedd blaenorol

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023

    Thema: Gwneud lle i sgyrsiau am fywyd ar-lein

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru, gystadleuaeth ffilm a oedd yn gwahodd plant a phobl ifanc i greu ffilm fer sy’n cyflwyno eu safbwyntiau, eu barn a’u storïau ynghylch defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gemau neu apiau. Roeddem am glywed ganddyn nhw yn eu geiriau ei hunain am fanteision yr apiau hyn a’r pryderon sydd ganddynt wrth eu defnyddio. Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad i ddathlu pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn Stadiwm Principality ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:

     

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022

    Thema: Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), gystadleuaeth ffilm gyda’r nod o annog plant a phobl ifanc i fynegi eu creadigrwydd a rhannu eu dealltwriaeth o ddangos parch ar-lein. Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:

     

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

    Thema: Rhyngrwyd yr ydym yn ymddiried ynddo: archwilio dibynadwyedd yn y byd ar-lein

    Gweithgareddau: Gweithiodd Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd i gynnal cystadleuaeth ‘Straeon digidol: Mynd i'r afael â Chamwybodaeth’. Roedd y gystadleuaeth hon yn galw ar blant a phobl ifanc arfer eu hawen greadigol drwy greu ffilm, ysgrifennu stori neu recordio darn sain i egluro beth yw camwybodaeth, pam y gallai achosi problemau, sut y gallwn adnabod camwybodaeth a beth y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a sicrhau nad yw'n lledaenu. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad rhithwir ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

     

  • Dyddiad: 11 Chwefror 2020

    Thema: Rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd

    Gweithgareddau: Nod cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020 yng Nghymru oedd herio plant a phobl ifanc i greu hysbyseb ar ffurf datganiad cyhoeddus wedi'i hanelu at eu teuluoedd a'u ffrindiau ar y thema 'Gwella'r we: sut i ofalu amdanoch eich hun ac eraill'. Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, gyhoeddodd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad dangos y ffilmiau a gyrhaeddodd y rhestr fer.

     

  • Dyddiad: 5 Chwefror 2019

    Thema: Ein rhyngrwyd, ein dewis: Deall cydsyniad mewn byd digidol

    Gweithgareddau: Bu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 yn canolbwyntio ar beth mae cydsynio yn ei olygu mewn cyd-destun ar-lein. Gwnaeth Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gyhoeddi pecynnau addysg ar Hwb yn cynnwys gweithgareddau i ysgolion yng Nghymru eu defnyddio. Roedd y gweithgareddau hyn yn annog pobl ifanc i feddwl am sut maent yn gofyn am gydsyniad ar-lein, sut maent yn ei rhoi a sut maent yn ei dderbyn.

     

  • Dyddiad: 6 Chwefror 2018

    Thema: Creu, Cysylltu a Rhannu Parch

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad yn adeilad y Pierhead, Caerdydd, i ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, gyda Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn cyhoeddi enwau enillwyr cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018. Fel rhan o'r gystadleuaeth, gofynnwyd i blant a phobl ifanc ddisgrifio sut maent yn teimlo pan fyddant ar-lein gan ddefnyddio geiriau, ffilm, celf neu gerddoriaeth.

     

  • Dyddiad: 7 Chwefror 2017

    Thema: Ewch ati i newid pethau: dewch ynghyd er mwyn cael rhyngrwyd gwell

    Gweithgareddau: Aeth Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ysgol Portfield ati i greu arddangosfa ffotograffiaeth er mwyn dangos sut mae delweddau ar-lein yn effeithio ar eu bywydau fel rhan o brosiect ffotograffiaeth ‘Pwer Delweddau’.

    Cynhaliwyd digwyddiad Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn y Senedd, a bu mwy na 150 o blant, pobl ifanc ac oedolion o bob cwr o Gymru yn bresennol. Gwnaeth Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, lansio'r Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb yn ffurfiol, gan gyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth cynllunio logo y Parth Diogelwch Ar-lein.

     

  • Dyddiad: 9 Chwefror 2016

    Thema: Chwarae eich rhan i gael rhyngrwyd gwell

    Gweithgareddau: Cynhaliwyd cystadleuaeth gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn gofyn i ysgolion Cymru gynllunio ap er mwyn helpu i wneud y rhyngrwyd yn le mwy dymunol.

    Ysgol Gynradd Parc Cornist ddaeth i'r brig gyda'r ap ‘Safe eExplorers’ sy'n cynnwys casgliad o wybodaeth, dolenni a chyngor am gadw'n ddiogel ar-lein. Bu Ysgol y Preseli hefyd yn fuddugol gyda'r ap My Username Generator. Nod yr ap hwn yw rhoi cyfle i blant ifanc (rhwng 5 a 11 oed) gynhyrchu enw defnyddiwr Cymraeg neu Saesneg sy'n hawdd ei gofio ac nad yw'n datgelu unrhyw wybodaeth sensitif amdanynt.

     

  • Dyddiad: 10 Chwefror 2015

    Thema: Beth am greu rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd?

    Gweithgareddau: Aeth nifer o bobl ifanc ledled Cymru ati i rannu gwên drwy'r cyfryngau cymdeithasol mewn modd creadigol er mwyn hyrwyddo thema creu rhyngrwyd gwell.

    Cynhaliwyd digwyddiadau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad yn Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru lle roedd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, yn bresennol, yn ogystal â digwyddiad yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yng nghwmni Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru.