English

5. Cynllunio eich cwricwlwm

Mae hyn yn rhoi arweiniad penodol i’w ddefnyddio wrth ymgorffori dysgu o fewn y dyniaethau yn eich cwricwlwm. Dylai gael ei ddarllen ynghyd ag adran gyffredinol ‘Cynllunio eich cwricwlwm’ sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu trwy bob maes dysgu a phrofiad (Meysydd).

Rhaid i gwricwlwm ymwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm. Mae’r canlynol yn rhai egwyddorion allweddol y dylai lleoliadau ac ysgolion eu hystyried wrth gynllunio dysgu ac addysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (Maes).

Gall dysgu yn y Maes hwn gynnig y cyfleoedd canlynol i ddysgwyr.

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Llythrennedd
  • Datblygu llafaredd trwy drafodaeth, chwarae rôl, cwestiynu a chyflwyniadau, ac addasu sgiliau llafaredd ar gyfer cynulleidfa a diben tra’n gwrando ar, a dadlau, gwahanol safbwyntiau.
  • Datblygu pob arddull ysgrifennu, e.e. disgrifio, esbonio, trafod, gwerthuso ac ysgrifennu creadigol, ynghyd â defnyddio terminoleg a geirfa sy’n benodol i’r ddisgyblaeth.
  • Sicrhau mynediad ac archwilio ystod o destunau o amrywiol leoedd a chyfnodau er mwyn dadansoddi tystiolaeth, meddwl yn feirniadol, dod i gasgliad, a gwerthuso dehongliadau a safbwyntiau.
Rhifedd
  • Datblygu sgiliau rhifedd mewn cyd-destunau byd go iawn gan gynnwys casglu data rhifol, trwy ddulliau ymchwil cynradd ac eilaidd.
  • Dadansoddi a chynrychioli data mewn amrywiol ffyrdd.
  • Cefnogi datblygiad rhifedd drwy roi cyfarwyddiadau cyfeiriadol manwl gywir wrth ddarllen map neu ddatblygu eu mapiau a’u llwybrau eu hunain.
  • Ymwneud â chysyniadau megis ymwybyddiaeth gronolegol a graddfa.
Cymhwysedd digidol
  • Datblygu sgiliau digidol mewn meysydd megis defnyddio systemau gwybodaeth ddigidol (gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol), defnydd o ffynonellau digidol, meddalwedd i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol a meintiol.
  • Archwilio effaith technoleg ddigidol ar gymdeithasau a’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir yn yr oes ddigidol.

Sgiliau cyfannol

Creadigrwydd ac arloesedd
  • Annog cyflwyno gwybodaeth a chanfyddiadau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol, a dychmygu dyfodol posib yn seiliedig ar y dystiolaeth.
  • Annog bod yn agored i wahanol syniadau a ffyrdd o feddwl, gan alluogi mynegi barn resymedig ynghylch y gwahaniaethau hyn.
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
  • Datblygu’r gallu i feddwl yn ddadansoddol a deall y gorffennol a’r presennol yn ogystal â dychmygu dyfodol posib.
  • Casglu, myfyrio a gwerthuso’n feirniadol y defnydd o ffynonellau a thystiolaeth.
Effeithiolrwydd personol
  • Annog gwaith tîm a bod yn gyfrannwr dibynadwy trwy drefnu a gweithredu ymholiadau.
  • Gwerthuso, cyfiawnhau a mynegi ymatebion ystyriol mewn amrywiol ffyrdd.
Cynllunio a threfnu
  • Annog cynllunio a threfnu ymchwiliadau, gosod nodau, amcanion a meini prawf, casglu a defnyddio ystod o dystiolaeth, a myfyrio ar ddulliau.

Dylai cwricwla ysgolion hybu dealltwriaeth lawn o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a ddyluniwyd i gefnogi datblygu dull mwy cysylltiol o ddysgu. Maen nhw wedi cael eu strwythuro o amgylch dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gynyddol soffistigedig o gysyniadau allweddol sy’n eu galluogi i weld y tu hwnt i wybodaeth fel rhestr o ffeithiau digyswllt yn unig.

Dylid defnyddio’r datganiadau am yr hyn sy’n bwysig yn holistaidd er mwyn cynnig llwyfan eang a dwfn i gefnogi dysgwyr trwy eu taith addysgol yn y dyniaethau. Ni ddylai cwricwlwm drin y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar wahân, ac nid oes angen ymdrin â nhw mewn trefn neu gyfuniad arbennig. Mae’r datganiad cyntaf o’r hyn sy’n bwysig yn hybu ymchwil a darganfyddiad o fewn y Maes, tra bod yr ail yn annog dysgwyr i archwilio ac ystyried sut maen nhw ac eraill yn gweld, dehongli a chynrychioli profiadau dynol. Mae’r trydydd a’r pedwerydd datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn canolbwyntio ar agweddau allweddol o ddealltwriaeth yn y Maes hwn, sef perthynas pobl gyda’r byd naturiol a chyda’i gilydd. Mae’r datganiad terfynol o’r hyn sy’n bwysig yn rhoi pwyslais newydd ar rôl a gweithredoedd yr unigolyn mewn ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn cyfeirio at yr angen am ymwybyddiaeth gyson o stori leol y dysgwyr a hanesion Cymru, datblygiad yr iaith, yn ogystal â stori y byd ehangach, a galluogi dysgwyr ddod i ddeall natur gymhleth, lluosog ac amrywiol cymdeithasau, yn y gorffennol a’r presennol. Dylai dysgwyr fod wedi eu gwreiddio mewn dealltwriaeth o’r hunaniaethau, tirweddau a’r hanesion sy’n dod at ei gilydd i ffurfio eu cynefin. Bydd hyn nid yn unig yn eu galluogi i ddatblygu ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth a’u lles, ond bydd hefyd yn datblygu dealltwriaeth o hunaniaeth pobl eraill a gwneud cysylltiadau gyda phobl, lleoedd a hanes mewn lleoedd eraill yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladolyn rhan greiddiol o’r Maes, ac yn ffurfio rhan o’r egwyddorion allweddol a ddisgrifir isod sy’n ymwneud â dewis y cynnwys.

Dull cynllunio

Mae hyblygrwydd i sut y gall ysgol ddewis strwythuro ei chwricwlwm, megis dull integredig, amlddisgyblaethol, rhyngddisgyblaethol neu ddisgyblaethol. Ar draws taith y dysgwyr o 3 i 16, dylai ysgolion gynnig cwricwlwm eang a chytbwys o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn gysylltiedig â hanes; daearyddiaeth; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae dealltwriaeth broffesiynol o ddiben y disgyblaethau a’u cydberthynas o fewn y Maes hwn yn agwedd hollbwysig.

Dylai cynllun cwricwlwm ysgolion ystyried yr egwyddorion allweddol canlynol wrth ddethol cynnwys:

  • safbwyntiau lleol, cenedlaethol a’r byd ehangach
  • ehangder/ystod
  • cydlyniad
  • trylwyredd
  • canolbwyntio
  • sensitifrwydd
Safbwyntiau lleol, cenedlaethol a’r byd ehangach

Sicrhau mynediad cyson i gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ystod gwahanol gyfnodau datblygiad – ni ddylai’r dysgwyr ieuengaf ganolbwyntio’n unig ar astudiaethau lleol a’r dysgwyr hyn ganolbwyntio’n unig ar safbwyntiau rhyngwladol; pan mae’n briodol ac ystyrlon dylai dysgwyr gael cyfleoedd i wreiddio eu dealltwriaeth o bwnc lleol ac yn ymwneud â’u cynefin eu hunain, a’i berthnasu i gyd-destunau Cymru gyfan a rhyngwladol.

Archwilio busnesau, diwylliannau, hanes, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, crefyddau a chymdeithasau yng Nghymru.

Ehangder/ystod
  • Dewis ystod o gyfnodau sydd wedi cael effaith sylweddol ar y ddynoliaeth a’r byd yn y gorffennol a’r presennol.
  • Dewis ystod o ddigwyddiadau, syniadau, credoau, pobl a phrosesau sydd wedi cael effaith sylweddol ar y ddynoliaeth a’r byd y gorffennol a’r presennol.
  • Canolbwyntio ar brofiadau pobl gyffredin gan gynnwys rhai sydd wedi arfer cael eu tangynrychioli.
  • Dewis ystod o ddigwyddiadau a newidiadau cyfoes o arwyddocâd moesol, gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, crefyddol, amgylcheddol neu ddiwylliannol – gellir mabwysiadau dull hyblyg o astudio cyfnodau hanesyddol, ac nid yw’n dilyn y dylai dysgwyr ar gamau cynnydd penodol astudio cyfnodau mewn trefn gronolegol.
Cydlyniad
  • Sicrhau bod pynciau wedi cael eu trefnu i adlewyrchu rhesymeg y disgyblaethau academaidd, gan alluogi cynnydd o ddealltwriaeth gysyniadol. Dylid datblygu pynciau i sicrhau dealltwriaeth gysyniadol sy’n gynyddol dwfn a soffistigedig a galluogi dysgwyr i wneud cysylltiadau. Dylai lleoliadau/ysgolion osgoi dull di-theori, cyfnodol o ddysgu sy’n neidio rhwng pynciau digyswllt.
Trylwyredd
  • Dewis pynciau heriol i alluogi meddwl dwfn a myfyrio.
Canolbwyntio
  • Dewis nifer gyfyngedig o bynciau ymhob blwyddyn i sicrhau dyfnder ac ansawdd i’r dysgu, lle y gall pynciau orgyffwrdd er mwyn atgyfnerthu cysyniadau allweddol.
Sensitifrwydd
  • Ymateb yn sensitif ac yn graff i fydolygon crefyddol ac anghrefyddol ynghylch cymdeithas, cymunedau a diwylliannau, a deall sut y gellir dehongli’r rhain mewn gwahanol amserau, diwylliannau a lleoedd.

Cysyniadau disgyblaethol a chyd-destunau

Mae’r pynciau o fewn y maes hwn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond hefyd â’u corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Mae’r cynnwys, y cysyniadau a’r sgiliau a amlinellir yn y Maes hwn yn rhyng-gysylltiedig. Mae’r disgyblaethau yn y Maes hwn yn cynnig golwg amrywiol ar y profiad dynol. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn annog dull holistaidd o ddysgu.

Crefydd, gwerthoedd a moeseg

Mae canllawiau manwl ar ddatblygu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn eich cwricwlwm ar gael.

Hanes

Dylai cynllun cwricwlwm ysgol:

  • ddatblygu dealltwriaeth o’r disgyblaeth a’i gwerth
  • datblygu dealltwriaeth o, a pharch tuag at, y syniad o wirionedd a pharch tuag at bobl yn y gorffennol
  • datblygu gwerthfawrogiad o’r gorffennol ar wahanol raddfeydd, sy’n galluogi dysgwyr i adnabod eu ffordd trwy amser
  • datblygu dealltwriaeth o ddehongliad hanesyddol a sgiliau ymdrin â ffynhonnell
  • datblygu cynnwys cyfoethog ar draws y cyfnodau amser, a thrwy hyn gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o gronoleg trwy archwilio achos ac effaith, newid a chysondeb, tebygrwydd a gwahaniaeth, dehongliadau, defnyddio tystiolaeth ac arwyddocâd hanesyddol
  • datblygu cyd-destun cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau llywodraethiant, economi, grym, arweinyddiaeth, amrywiaeth; diwylliant, ethnigrwydd, cydraddoldeb ac anghydraddoldeb, cyfiawnder, hawliau, goresgyniad, ideolegau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd, strwythurau a threfniadaeth gymdeithasol, masnach, amaethyddiaeth a diwydiant, pwer a phrotest, heddwch, gwrthdaro a chydweithrediad, chwyldro, datganoli ac ymerodraeth
  • cyflwyno dysgwyr o bob oed i ystod o gyfnodau hanesyddol ar raddfa leol, cenedlaethol a byd-eang, gan wneud y cysylltiadau sy’n cefnogi datblygiad ‘map’ cronolegol manwl o’r gorffennol.
Daearyddiaeth

Dylai cynllun cwricwlwm ysgol:

  • ddatblygu dealltwriaeth o ddisgyblaeth daearyddiaeth a’i gwerth
  • cynnig cynnwys cyfoethog ar gyfer archwilio tirweddau ffisegol a dynol, a chyd-destun ar gyfer achosion a chanlyniadau rhyngberthnasau a rhyngddibyniaethau ffisegol a dynol sy’n nodweddu ein byd modern
  • cynnig cyd-destun cyfoethog ar gyfer archwilio materion cynaladwyedd, newid hinsawdd, dewisiadau egni, natur, peryglon a thrychinebau naturiol a risgiau peryglon, llygredd, prinder adnoddau naturiol, diogelwch bwyd, poblogaeth, hunaniaeth, ethnigrwydd, mudo, aneddiadau, globaleiddio, prynwriaeth a masnach, cynlluniau i drechu tlodi, anghyfartaledd ac annhegwch, gwahaniaethau rhwng gwledydd ar wahanol lefelau o ddatblygiad
  • darparu sgiliau i’r dysgwyr gwestiynu, defnyddio a dadansoddi mapiau, delweddau a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • darparu sgiliau i’r dysgwyr ffurfio cwestiynau ymchwil, ac i gasglu, trin a chyflwyno data fel eu bod yn gallu gwerthuso a meddwl yn feirniadol am broblemau a materion
Astudiaethau cymdeithasol

Dylai cynllun cwricwlwm ysgol:

  • ddatblygu dealltwriaeth o’r disgyblaeth a’i gwerth
  • hybu dealltwriaeth gysyniadol o’r byd trwy ddysgu am bobl a’u gwerthoedd, mewn cyfnodau, lleoedd a sefyllfaoedd gwahanol
  • cynnig cyd-destunau cyfoethog i archwilio materion cymdeithasol, hunaniaeth, hawliau a chyfrifoldebau a chyfundrefn cymdeithasol
  • hybu cyfranogiad gweithredol ac ymwneud â materion cymdeithasol trwy ymholi cymdeithasol, trafodaethau a gweithredu cymdeithasol
  • ddatblygu dealltwriaeth o sut mae systemau llywodraeth yng Nghymru yn gweithio gan ystyried eu heffaith ar fywydau pobl, a sut maen nhw’n cymharu gyda systemau eraill
  • archwilio cysyniadau llywodraethiant, hawliau, cyfartaledd, anghyfartaledd, ethnigrwydd, cenedl a thlodi
Astudiaethau busnes

Dylai cynllun cwricwlwm ysgol:

  • ddatblygu dealltwriaeth o’r disgyblaeth a’i gwerth
  • cyflwyno dysgwyr i’r realiti economaidd sy’n llywio economi Cymru a’r economi byd-eang, gan eu galluogi i werthfawrogi bod y realiti hwn yn newid yn gyson, a gwerthfawrogi’r effaith mae hyn yn ei gael ar fywydau pobl ac ar yr amgylchedd
  • archwilio’r cryfderau a meysydd i’w gwella, llwyddiannau a methiannau busnesau ac economïau, wrth ddatblygu dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n llywio ffyniant cymunedau ac felly yn llywio disgwyliadau pobl ar gyfer y dyfodol
  • archwilio economi cyfredol Cymru, gan gynnwys treuliant, cynhyrchiant, lles pobl yn eu gwaith, effaith arloesedd a thechnoleg ar fusnesau a’r amgylchedd, ac effeithiau newidiadau demograffig i’r gweithlu

Ystyriaethau ar gyfer darparu profiadau dysgu

Mae’r Maes hwn yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i ddysgu y tu hwnt i furiau’r ysgol. Dylai cynllunio cwricwlwm ysgol ganiatáu i ddysgwyr o bob oed brofi ystod o ysgogiadau sy’n eu cyffroi a’u hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig, ac i archwilio, darganfod a chwestiynu trwy’r canlynol.

Ystod o gyfleoedd i ddysgu y tu allan er mwyn:
  • profi ynghyd â myfyrio ar ryfeddod y byd naturiol
  • ymwneud ag amrywiaeth o dirweddau, nodweddion hanesyddol a daearyddol, amgylcheddau a lleoedd
  • dysgu mewn ardaloedd naturiol lleol a safleoedd hanesyddol
  • cynnal ymchwiliadau a gwaith maes yn annibynnol yn ogystal ag ar y cyd, mewn partneriaethau â sefydliadau, grwpiau ac unigolion lle mae’n briodol
  • ymwneud â safleoedd hanesyddol, diwylliannol a chrefyddol, gan gynnwys lleoedd sy’n arwyddocaol i’r rhai y mae eu ffydd a’u cred yn bwysig iddyn nhw
Ystod o gyfleoedd i ymweld ac archwilio gan gynnwys:
  • safleoedd diwylliannol a threftadaeth, e.e. henebion, safleoedd crefyddol a hanesyddol sydd â photensial arbennig i gynnig cyd-destunau sy’n symbylu dysgu
  • llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd i gael eu defnyddio i gefnogi dysgu yn seiliedig ar ymholi
  • lleoedd o arwyddocâd gwleidyddol, crefyddol neu ysbrydol
  • busnesau a lleoedd gwaith
  • lleoliadau rhithiol sydd â photensial arbennig i gynnig cyd-destunau sy’n symbylu dysgu
Ystod o gyfleoedd i ymwneud ag:
  • ymchwil strwythuredig a dysgu cydweithredol
  • arteffactau a thestunau o arwyddocâd hanesyddol a chrefyddol
  • technoleg a chyfryngau digidol a ffisegol
  • straeon, celf, drama, dawns, cerddoriaeth a bwyd sydd â photensial arbennig i gynnig cyd-destunau sy’n symbylu dysgu
  • unigolion, arbenigwyr, grwpiau a sefydliadau sydd â photensial arbennig i gynnig cyd-destunau sy’n symbylu dysgu
  • gweithio gyda phobl broffesiynol o fewn y byd treftadaeth a datblygu cydnabyddiaeth o werth safleoedd treftadaeth/orielau/amgueddfeydd
  • pobl sydd â phrofiad o grefydd a bydolygon byw
  • arweinwyr gwleidyddol, busnes, cymunedol a/neu diwylliannol
  • grwpiau neu fudiadau megis elusennau, carfanau pwyso a mudiadau dielw
Ystod o gyfleoedd i arsylwi neu gymryd rhan mewn:
  • dathliadau allweddol, traddodiadau a’r diwylliant amrywiol yng Nghymru
  • dadleuon ffurfiol ac anffurfiol
  • gweithgareddau menter ac entrepreneuraidd
  • prosiectau gweithredu cymdeithasol
  • dathliadau allweddol, traddodiadau a ffyrdd o fyw yn y byd ehangach
Enghreifftio ehangder

Darperir y canlynol fel enghreifftiau o sut y gallech archwilio dysgu testunol gwahanol yn y Maes hwn. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain.

Gallai dysgwyr archwilio esblygiad meddwl democrataidd a strwythurau a arweiniodd at sefydlu'r Senedd, o'r Hen Roeg drwy Ddatganiad Annibyniaeth America a hynt cyfansoddiad y DU. Mae hanes lleol, Cymreig a’r byd wedi eu cysylltu, eu siapio ac yn cael eu gwerthfawrogi drwy ddigwyddiadau megis Gwrthryfel Glyndwr, Rhyfel Cartref Sbaen a Rhyfeloedd Byd yr unfed ganrif ar hugain. Gellir gwerthfawrogi'r argyfwng hinsawdd yn well drwy archwilio'r chwyldro diwydiannol, daearyddiaeth a thopograffi unigryw Cymru, a chysylltiadau rhyngwladol. Fel dinasyddion gwybodus, bydd y dysgwyr yn archwilio sut mae llywodraeth a'r broses o wneud penderfyniadau yn gweithio yng Nghymru a thu hwnt, ac yn cael eu grymuso i gyfrannu, craffu a herio.

Dylai cynllunio cwricwlwm ysgol ganolbwyntio ar gysylltiadau dilys rhwng y Maes hwn a Meysydd eraill.

Celfyddydau Mynegiannol

Mae celf, cerddoriaeth, dawns, theatr, ffurfiau cyfryngol a llenyddol yn ddarnau gwerthfawr o dystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau yn y dyniaethau ac yn gyfryngau ar gyfer mynegi dehongliadau a safbwyntiau pobl. Mae’r byd naturiol, y gorffennol a’r presennol oll yn ysgogi ac yn cynnig cyd-destunau ym Maes Dysgu y Celfyddydau Mynegiannol. Trwy’r gorffennol a’r presennol mae’r celfyddydau mynegiannol wedi bod yn bwysig wrth lywio diwylliant a chymdeithasau. Mae archwilio’r celfyddydau o wahanol gyfnodau, diwylliannau a chymdeithasau, gan gynnwys o Gymru (e.e. Eisteddfod), yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddiwylliannau pobl eraill yn ogystal â’u diwylliant eu hunain. Gall archwilio cysyniadau cymdeithasol a moesol, cynaladwyedd a busnes ysgogi gwaith creadigol.

Iechyd a Lles

Mae’r ddau Faes yma yn cysylltu i ddyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o hunaniaeth, cymunedau, cymdeithasau, normau a gwerthoedd cymdeithasol, a dylanwadau cymdeithasol. Maen nhw’n cefnogi dealltwriaeth o ddinasyddiaeth, hawliau, parch a chyfartaledd. Mae’r Maes hwn yn cefnogi dealltwriaeth dysgwyr o sut y gall penderfyniadau gan unigolion a rhai ar y cyd gefnogi ymatebion moesegol a chynaladwy i gyfleoedd a wynebir gan ddynoliaeth yn gyffredinol ac yng Nghymru yn benodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae ieithoedd a llenyddiaeth yn chwarae rhan allweddol mewn hunaniaeth ac yn gallu bod o gymorth i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad cymunedau a chymdeithasau. Mae llenyddiaeth yn darparu tystiolaeth werthfawr ar gyfer ymchwiliadau mewn dyniaethau, ac yn gallu bod yn destun yr ymchwiliadau hyn. Gall dysgwyr archwilio llenyddiaeth o ystod o ddiwylliannau a chymdeithasau, o’r gorffennol a’r presennol, o’r ardal leol, o Gymru ac o weddill y byd. Gall dysgu am hanesion Cymru a’i hiaith gryfhau’r ymrwymiad i ddysgu’r Gymraeg.

Mathemateg a Rhifedd

Mae Maes dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn cynnig cyd-destunau dilys ar gyfer cymhwyso mathemateg a sgiliau rhifedd. Mae ymholiadau yn y dyniaethau yn defnyddio ystod o ddata ansoddol a meintiol. Yn aml bydd hefyd yn cynnwys casgliad o ddata cynradd gan ddefnyddio dulliau samplu, a chynrychioliad a dadansoddiad data ac ystadegau mewn amrywiaeth o ffurfiau. Cynigir cyfleoedd i ddysgwyr drefnu a dosbarthu data ac adnabod tueddiadau, patrymau ac anomaleddau. Mae cefnogi entrepreneuriaeth, cymhareb a graddfa, cyllid, talgrynnu ac archebu hefyd yn berthnasol.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae gan y ddau Faes yma ddulliau ac egwyddorion ymchwilio tebyg ac eto’n benodol i’r Maes. Serch hynny mae gwaith maes, er enghraifft lle mae dysgwyr yn sylwi ar bethau byw yn eu cynefinoedd naturiol gan arwain at gasglu data i fesur a chymharu bioamrywiaeth, yn cefnogi dysgu yn y ddau Faes. Gall gwybodaeth am ymchwiliadau gwyddonol a datblygiadau technolegol cyfredol ac yn y gorffennol, a’u heffaith ar gymdeithas, hefyd gefnogi dysgwyr yn eu gallu i chwilio a hidlo tystiolaeth. Mae gan ddatblygiadau gwyddonol a thechnolegol effaith sylweddol ar gymdeithasau dynol ac ar ein perthynas â’r byd naturiol. Gall gwyddoniaeth a thechnoleg gynnig datrysiadau ac ymatebion i’r heriau mae dynoliaeth yn eu hwynebu yn y byd modern. Mae gan agweddau eraill ar wyddoniaeth a thechnoleg gysylltiadau cynhenid â’r dyniaethau yn nhermau perthynas ag elfennau megis daearyddiaeth ffisegol a gwybodaeth am ddefnyddiau naturiol a’r dull o’u prosesu, a dylai’r cysylltiadau hyn gael eu harchwilio. Mae’r economi digidol yn ddylanwad grymus wrth lywio cymdeithasau, economïau a bywydau pobl yn y byd modern.

Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y Maes hwn

Mae cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn greiddiol i’r Maes hwn ac yn ffurfio rhan o’r egwyddorion allweddol sy’n ymwneud â dewis cynnwys.

Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn y Maes hwn

Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymchwilio i yrfaoedd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bydd dysgwyr yn dechrau drwy ystyried y cydberthnasau rhwng lleoliadau a byd gwaith drwy nodi nodweddion eu cymuned leol. Wrth iddyn nhw ddatblygu drwy'r continwwm 3 i 16 oed, dylai dysgwyr archwilio gyrfaoedd y gorffennol a pham nad ydyn nhw'n bodoli mwyach, a myfyrio ar y ffactorau a all lywio a dylanwadu ar yrfaoedd y dyfodol.

Drwy ddadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, gall dysgwyr ddechrau meithrin dealltwriaeth o'r newidiadau yn eu marchnadoedd llafur lleol a chyd-destun cyfleoedd presennol yn lleol a thu hwnt. Gall y broses ddysgu hon gefnogi dysgwyr i archwilio eu cynefin; gallan nhw ddeall yr effaith y gall hyn ei chael ar eu cymunedau eu hunain.

Dylai dysgwyr archwilio anghydraddoldebau mewn cyd-destunau sy'n gysylltiedig â byd gwaith o'r gorffennol a'r presennol. Wrth iddyn nhw ddatblygu, dylen nhw feithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gynyddol o hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth, entrepreneuriaeth foesegol, moesau busnes a phrosesau ac arferion diwydiannol gwyrdd cynaliadwy. Bydd hyn yn paratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith.

Addysg hawliau dynol ac amrywiaeth yn y Maes hwn

Gall profiadau yn y Maes hwn fod o gymorth i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o’u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru, amrywiaeth yng Nghymru, ac ymwybyddiaeth o sut y dylanwadir ar eu hawliau eu hunain gan ddehongliadau o hawliau dynol, gwerthoedd, moeseg, athroniaethau, a safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Yn y Maes hwn dylid cael cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig at Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac i annog dysgwyr i gydnabod eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill.

Cyflwyniad

Cwricwlwm

Mandadol

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn un o ofynion statudol Cwricwlwm i Gymru ac yn fandadol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhan o Faes y Dyniaethau (Maes). Mae'r Maes hwn yn cynnwys daearyddiaeth; hanes; Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg; astudiaethau busnes; astudiaethau cymdeithasol. Mae'r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o'r un themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy, ac yn cynnwys eu gwybodaeth a'u sgiliau gwahanol eu hunain hefyd.

Nid oes gan rieni hawl i ofyn am gael tynnu eu plentyn yn ôl o addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn Cwricwlwm i Gymru.

Diben y canllawiau hyn ar grefydd, gwerthoedd a moeseg

Cafodd y canllawiau hyn ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg eu hysgrifennu gan ymarferwyr ac arbenigwyr addysg grefyddol er mwyn rhoi cymorth ychwanegol o ran sut y gellir addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn Maes y Dyniaethau. Mae’r canllawiau’n pwysleisio bod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhan annatod o’r Maes hwn ac yn amlinellu cyfraniad unigryw a phenodol y pwnc i’r Cwricwlwm i Gymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am statws cyfreithiol y canllawiau hyn yn yr adran ar ddeddfwriaeth yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Mae canllawiau ychwanegol mewn perthynas â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ysgolion a lleoliadau gwirfoddol a gynorthwyir wedi cael eu cynhyrchu gan yr Eglwys yng Nghymru a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cynulleidfa

Mae'r canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym Maes y Dyniaethau wedi cael eu hysgrifennu i fod yn hygyrch i bawb sy'n gyfrifol am gynllunio cwricwlwm. Bydd yn rhaid i'r canlynol ystyried y canllawiau wrth gynllunio cwricwlwm:

  • pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • darparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir
  • yr athro sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
  • pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
  • person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56)
  • awdurdod lleol yng Nghymru

Gall y canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i ymarferwyr, consortia rhanbarthol, cyrff dyfarnu, Estyn, undebau athrawon, sefydliadau crefyddol, sefydliadau anghrefyddol, rhieni a gofalwyr a chyrff eraill yng Nghymru sydd â diddordeb mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Nid oes rhaid i'r cyrff hyn ystyried y canllawiau ond gall fod yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol iddyn nhw gyfeirio atyn nhw er mwyn deall cynnwys cwricwlwm lleoliad penodol yn well.

Maes llafur cytunedig

Gan mai pwnc y penderfynir arno'n lleol yw Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, y maes llafur cytunedig sy'n pennu'r hyn y dylid ei addysgu yn y pwnc ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer yr ysgolion hynny sy'n addysgu'r maes llafur cytunedig.

Felly, mae'r canllawiau hyn hefyd wedi'u bwriadu ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am baratoi maes llafur cytunedig, y mae'n rhaid iddyn nhw ystyried y canllawiau hyn, gan gynnwys:

  • yr awdurdod lleol sydd â swyddogaeth o ran mabwysiadu'r maes llafur cytunedig a luniwyd gan y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig
  • y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig
  • y corff o bersonau a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru i baratoi maes llafur cytunedig os na lwyddodd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig i wneud hynny

Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob awdurdod lleol i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig er mwyn adolygu'r maes llafur ac argymell maes llafur priodol i'r awdurdod lleol er mwyn iddo ei fabwysiadu. Dylai'r maes llafur cytunedig ar gyfer pob awdurdod lleol gael ei adolygu bob pum mlynedd.

Ar ôl i faes llafur cytunedig gael ei fabwysiadu, bydd yn ofynnol i bob ysgol a lleoliad a gynhelir ystyried y maes llafur cytunedig, gan gynnwys ysgolion sydd â chymeriad crefyddol, wrth gynllunio elfen maes llafur cytunedig eu darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Os bydd awdurdod lleol yn dymuno mabwysiadu neu addasu'r canllawiau hyn fel eu maes llafur cytunedig, caiff wneud hynny.

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn Cwricwlwm i Gymru

Gall Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm i Gymru wneud cyfraniad unigryw tuag at gyflawni'r pedwar diben i bob dysgwr. Fel y cyfryw, mae'r canllawiau hyn yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu darpariaeth ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sy'n paratoi dysgwyr yng Nghymru, fel dinasyddion cyfrifol a gwybodus, ar gyfer bywyd a gwaith mewn byd amrywiol sy'n newid yn gyflym.

Lleolir Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn Maes y Dyniaethau ac mae'n ymgorffori amrywiaeth o ddulliau disgyblaethol y gall dysgwyr eu defnyddio i ymgysylltu mewn ffordd feirniadol ag amrywiaeth eang o gysyniadau crefyddol ac anghrefyddol. Ymhlith y dulliau disgyblaethol sy'n berthnasol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg mae astudiaethau crefyddol, athroniaeth, diwinyddiaeth, cymdeithaseg, seicoleg ac anthropoleg. Hefyd, ceir cydberthnasau cadarn rhwng Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'r disgyblaethau eraill Maes y Dyniaethau yn ogystal â Meysydd eraill.

Mae cysyniadau'n bwysig mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg am eu bod yn syniadau canolog sy'n helpu dysgwyr i ddeall a dehongli profiadau dynol, y byd naturiol a'u lle eu hunain ynddo. Caiff dysgwyr gyfleoedd i archwilio cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg drwy amrywiaeth o is-lensys sy'n cyfuno i ffurfio lens ddisgyblaethol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Mae'r cysyniadau a'r is-lensys hyn wedi'u nodi yn y canllawiau hyn.

O fewn Cwricwlwm i Gymru, mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol, o ran cynnwys ac addysgeg; nid oes a wnelo'r pwnc â gwneud dysgwyr yn ‘grefyddol’ neu'n ‘anghrefyddol’. Daw'r ymadrodd ‘gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol’ o gyfraith achosion y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn sicrhau ei bod yn rhaid i bob dysgwr gael cynnig cyfleoedd drwy Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ymwneud â gwahanol grefyddau a safbwyntiau athronyddol anghrefyddol yn eu hardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal â'r byd ehangach.

Datblygiad ysbrydol

Un o nodweddion pedwar diben y cwricwlwm yw y caiff dysgwyr eu cefnogi i ddatblygu'n unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cynnig llawer o gyfraniadau gwerthfawr ac unigryw. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig wedi'u nodi yng Nghod yr Hyn sy'n Bwysig ac maen nhw’n cynnwys y cysyniadau allweddol ar gyfer pob Maes.

Yng nghyd-destun Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae datblygiad ysbrydol yn ymwneud â'n gallu naturiol i chwilio am yr hyn sy'n bwysig mewn bywyd, ei fynegi a'i ddeall, ac i gwestiynu pwy ydym ni a pham rydym ni yma. Gall datblygiad ysbrydol gynnwys crefydd neu beidio. Drwy brofi cydberthnasau a myfyrio arnyn nhw, gall datblygiad ysbrydol ddod i'r amlwg yn y canlynol: hunanymwybyddiaeth mewn perthynas â phobl eraill; cysylltiadau â'r byd ehangach a’r byd naturiol (ac, i rai pobl, â phwer uwch neu realiti eithaf); creadigrwydd a mynd y tu hwnt i'r cyffredin; archwilio cwestiynau eithaf ac ystyried ystyr a phwrpas.

Hunanymwybyddiaeth mewn perthynas â phobl eraill

Gall dysgwyr wneud y canlynol:

  • meithrin ymdeimlad o'u natur unigryw a'u gwerth
  • myfyrio ar eu credoau, eu gwerthoedd a'u gweithredoedd eu hunain, gan fynegi a chyfiawnhau eu teimladau a'u safbwyntiau eu hunain
  • datblygu dyheadau a dysgu dygymod â siom
  • dangos empathi ac ystyriaeth at eraill
  • datblygu trugaredd a helpu eraill
  • datblygu llais a gwrando ar leisiau pobl eraill a'u parchu
  • meithrin cydberthnasau da
  • siarad amdanyn nhw eu hunain mewn perthynas â phobl eraill, y byd a/neu bwer uwch neu realiti eithaf
  • meithrin ymwybyddiaeth o gredoau, dysgeidiaeth ac arferion pobl eraill, a pharch tuag atyn nhw, yn ogystal â'r gallu i fynegi eu rhai nhw eu hunain
  • ystyried effaith credoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol ar fywydau unigolion, y gymuned leol a chymdeithas ehangach
Cysylltu â'r byd ehangach a'r byd naturiol

Gall dysgwyr wneud y canlynol:

  • datblygu gwerthfawrogiad o'r ffaith eu bod yn perthyn i'w hardal leol, i Gymru ac i'r byd ehangach
  • profi'r byd naturiol, gwerthfawrogi'r amgylchedd a gweithio tuag at ddyfodol cynaladwy i bawb
  • profi cyfoeth yr ysgogiadau o'u cwmpas drwy ddefnyddio'r synhwyrau
  • profi bod yn bresennol yn y foment
  • datblygu ymwybyddiaeth o'r byd o'u cwmpas, a'u lle ynddo
  • gwneud synnwyr o'u profiad o'r byd naturiol a chydberthnasau dynol
Creadigrwydd a mynd y tu hwnt i'r cyffredin

Gall dysgwyr wneud y canlynol:

  • meithrin creadigrwydd a defnyddio eu dychymyg
  • profi rhyfeddod neu gael eu syfrdanu gan bethau
  • meithrin chwilfrydedd a datblygu mewnwelediad
Archwilio cwestiynau eithaf ac ystyried ystyr a phwrpas

Gall dysgwyr wneud y canlynol:

  • gofyn, ystyried a myfyrio ar y cwestiynau eithaf (y cwestiynau ‘mawr’ ynghylch bywyd)
  • darganfod ystyr a phwrpas yn eu bywydau eu hunain
  • profi'r hyn sydd y tu hwnt i'r cyffredin

Gall datblygiad ysbrydol hefyd ddigwydd wrth i ddysgwyr ymgysylltu â'u cynefin, a gall ddigwydd mewn bywyd pob dydd yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Cynllunio eich cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Bwriedir i'r adran hon gefnogi pob un o'r rhai sy'n gyfrifol am gynllunio addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fandadol o fewn y Maes hwn yn y cwricwlwm. Mae'n arbennig o berthnasol i ymarferwyr, lleoliadau a Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog, a gall hefyd helpu Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig i ddatblygu'r maes llafur cytunedig.

Wrth gynllunio a datblygu'r cwricwlwm, rhaid cynnwys cyfleoedd i ddysgu ac ystyried themâu trawsgwricwlaidd o fewn y Cwricwlwm i Gymru lle bo hynny'n briodol. Y themâu trawsgwricwlaidd hyn yw: addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith, hawliau dynol, amrywiaeth, cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae hefyd yn bwysig ystyried sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn ogystal â'r sgiliau sy'n hanfodol i'r pedwar diben (creadigrwydd ac arloesedd, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol, cynllunio a threfnu) wrth gynllunio'r cwricwlwm.

Wrth gwireddu eu cwricwlwm, bydd angen i ysgolion a lleoliadau benderfynu ar y ffordd orau o gynnwys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn Maes y Dyniaethau. Er enghraifft, gellir cynllunio'r cwricwlwm mewn ffordd integredig, amlddisgyblaethol, ryngddisgyblaethol neu ddisgyblaethol. Dylid gwerthuso'r dull o gynllunio'r cwricwlwm yn rheolaidd yn unol â chanllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Hefyd, rhaid i bob ysgol a lleoliad ystyried y maes llafur cytunedig lleol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wrth gynllunio'r cwricwlwm.

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'r pedwar diben

Wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru mae'r pedwar diben, sy'n allweddol wrth lywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm ac, fel y cyfryw, dylid canolbwyntio arnyn nhw ym mhob agwedd ar ddatblygu'r cwricwlwm. Mae'r pedwar diben yn nodi'r dyheadau ar gyfer pob dysgwr.

Erbyn iddyn nhw gyrraedd 16 oed, dylen nhw fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • yn unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Ym Maes y Dyniaethau, mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cyfrannu at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm.

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mandadol yn gwneud cyfraniad pwysig ac unigryw at gyflawni'r pedwar diben drwy roi cyfleoedd i ddysgwyr wneud y canlynol:

  • archwilio ac ymwneud â chwestiynau eithaf ac athronyddol ynghylch ystyr, arwyddocâd a phwrpas bywyd, ac am natur meddwl bodau dynol a'r bydysawd, a'r cysylltiadau rhyngddyn nhw
  • ymgymryd ag ymholiadau ac ymwneud â ffynonellau doethineb ac athroniaethau sy'n eu hannog i archwilio heriau, cyfleoedd ac ymatebion bodau dynol yng nghyd-destun eu cynefin, yn lleol, yng Nghymru a'r byd ehangach, yn ogystal â'u helpu i werthuso eu safbwyntiau eu hunain a rhai pobl eraill
  • datblygu a mynegi eu safbwyntiau gwybodus eu hunain, a fydd yn eu paratoi ar gyfer dysgu gydol oes yn y byd plwraliaethol ac amrywiol hwn
  • defnyddio eu gwybodaeth am gredoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol sefydliadol a phersonol, a'u dealltwriaeth ohonyn nhw, i feddwl yn feirniadol am eu gwerthoedd eu hunain ac am y ffordd y gallen nhw wneud penderfyniadau cymdeithasol a phersonol pwysig
  • ystyried ym mha ffyrdd y mae crefydd ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol wedi dylanwadu ar brofiadau dynol drwy gydol hanes, fel y gallan nhw wneud synnwyr o'u lle yn y byd, dychmygu dyfodol posibl a chreu atebion cyfrifol sy'n ystyried anghenion a hawliau amrywiol pawb
  • gwerthuso a defnyddio tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol er mwyn mynd i'r afael â materion egwyddorol a moesol hanesyddol a chyfoes sy'n herio eu gwybodaeth a'u gwerthoedd. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o grefydd a chred, diwylliant, cymuned, eu cynefin, Cymru a'r byd ehangach, nawr ac yn y gorffennol. Gall hyn helpu i feithrin ymdeimlad o le ac o berthyn
  • ymateb yn sensitif i grefydd ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, ac archwilio credoau ac arferion pobl yn eu cymuned, yng Nghymru ac yn y byd ehangach, a'r ffordd y gallai'r rhain effeithio ar eu gweithredoedd a'u dewisiadau
  • datblygu gwerthoedd pendant a sefydlu eu credoau egwyddorol a'u hysbrydolrwydd drwy archwilio crefydd ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol ynghylch amrywiaeth o faterion. Gall hyn eu galluogi i ffurfio cydberthnasau cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chyd-barch
  • trafod eu safbwyntiau eu hunain a safbwyntiau pobl eraill ar amrywiaeth o faterion, a myfyrio arnyn nhw. Gall hyn eu helpu i feithrin eu lles meddyliol, emosiynol ac ysbrydol drwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Cyn y gellir dechrau gwneud unrhyw waith cynllunio manwl, mae'n hanfodol i ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion ystyried y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Dyniaethau, sy'n cyfrannu at sicrhau bod dysgwyr yn gwireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Dylai ymarferwyr ac arweinwyr hefyd ystyried y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig mewn Meysydd eraill lle y gall Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gyfrannu at y dysgu.

Cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn y Maes hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio amrywiaeth eang o gysyniadau crefyddol ac anghrefyddol, ac ymgysylltu'n feirniadol â nhw. Dylid ystyried y cysyniadau hyn yn ofalus a dylen nhw fod yn sail ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm.

Wrth ystyried cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn eu cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau wneud y canlynol:

  • datblygu dealltwriaeth o'r ddisgyblaeth a'i gwerth
  • darparu cyd-destunau cyfoethog i ddysgwyr fod yn chwilfrydig, archwilio cwestiynau eithaf a cheisio deall y cyflwr dynol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ddysgwyr fyfyrio, a phrofi rhyfeddod mewn amrywiaeth o gyd-destunau ystyrlon bywyd go iawn
  • datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer ymchwilio i gysyniadau crefydd, crefydd bob-dydd, bydolygon, seciwlaredd, ysbrydolrwydd, safiad mewn bywyd, hunaniaeth a diwylliant er mwyn helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyflawn o gredoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol
  • darparu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer ystyried cysyniadau cred, ffydd, gwirionedd, pwrpas, ystyr, gwybodaeth, ffynonellau awdurdod, yr hunan, tarddiad, bywyd, marwolaeth a realiti eithaf. Gall hyn alluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gredoau personol a sefydliadol ynghylch natur bywyd a'r byd o'u cwmpas
  • datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau hunaniaeth, perthyn, cydberthnasau, y gymuned, cynefin, amrywiaeth, plwraliaeth a chydgysylltiad. Gall hyn alluogi dysgwyr i feithrin ymdeimlad o'r hunan ac ysbrydolrwydd
  • archwilio cysyniadau cydraddoldeb, cynaliadwyedd, goddefgarwch, rhyddid, rhagfarn, gwahaniaethu, eithafiaeth, da a drwg. Gall hyn helpu dysgwyr i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd a wynebir gan gymdeithas
  • adlewyrchu cysyniadau a chyd-destunau crefyddoldeb, arferion, defod, traddodiad, addoli, cysegredigrwydd, symbolaeth a dathlu er mwyn datblygu dealltwriaeth dysgwyr o grefydd a chred
  • darparu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau moeseg, moesoldeb, cyfiawnder, cyfrifoldebau, awdurdod, dynoliaeth, hawliau, gwerthoedd a gweithredu cymdeithasol

Lens Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae'r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar lens ddisgyblaethol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a gallan nhw helpu ysgolion a lleoliadau i ystyried cynnwys perthnasol wrth gynllunio eu cwricwlwm. Yn y canllawiau hyn, mae lens Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi'i rhannu'n nifer o is-lensys a ddefnyddir i edrych ar gysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'u harchwilio. Mae'r is-lensys yn gydgysylltiedig ac ni fwriedir iddyn nhw fod yn unedau nac yn destunau. Maen nhw’n seiliedig ar gorff cydnabyddedig o wybodaeth ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yng Nghymru ac yn helpu i sicrhau ehangder a dyfnder digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym Maes y Dyniaethau. Mae'r is-lensys yn cyd-fynd â'r holl ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig ac maen nhw hefyd yn berthnasol i Feysydd eraill ac i'r gwaith o wireddu'r pedwar diben. Maen nhw’n helpu ysgolion a lleoliadau i adnabod agweddau arwyddocaol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig er mwyn helpu i gynllunio'r cwricwlwm.

Ymhlith yr is-lensys o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mae:

  • Chwilio am ystyr a phwrpas

Sut mae pobl yn ymateb i gwestiynau dyfnach bywyd er mwyn deall y cyflwr dynol.

  • Y byd naturiol a phethau byw

Sut a pham mae pobl yn dangos gofal a chyfrifoldeb am y byd ac yn cael eu rhyfeddu gan fyd natur.

  • Hunaniaeth a pherthyn

Beth sy'n ein gwneud ni yn ni, fel pobl, cymunedau a dinasyddion yn byw mewn byd amrywiol.

  • Awdurdod a dylanwad

Sut a pham mae gwahanol fathau o awdurdod yn dylanwadu ar fywydau pobl.

  • Cydberthnasau a chyfrifoldeb

Sut mae pobl yn byw gyda'i gilydd, a pham mae'n bwysig meithrin cydberthnasau iach.

  • Gwerthoedd a moeseg

Sut a pham mae pobl yn gwneud dewisiadau moesol a sut mae hyn yn dylanwadu ar eu gweithredoedd.

  • Taith bywyd

Beth mae pobl yn ei brofi fel rhan o daith bywyd, a'r ffordd y caiff y profiadau eu cydnabod.

Cynnydd dysgwyr a theithiau dysgu o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae cynnydd dysgwyr yn sbardun pwysig ar gyfer cynllunio eich cwricwlwm. Adlewyrchir hyn yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ac yn y disgrifiadau dysgu ar gyfer Maes y Dyniaethau, sy'n helpu i roi arweiniad manylach i ymarferwyr.

Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd o 3 i 16 oed mewn perthynas â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Maes hwn, rhoddir enghraifft o ‘daith ddysgu’ ar gyfer pob is-lens. Mae'r teithiau dysgu hyn yn dangos sut y gall dysgwr feithrin dealltwriaeth o gysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg drwy'r is-lensys cydgysylltiedig amrywiol, a gallan nhw fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio cwricwlwm, ochr yn ochr â'r disgrifiadau dysgu ar gyfer Maes y Dyniaethau. Maen nhw wedi ystyried y disgrifiadau dysgu ac maen nhw’n annog ysgolion a lleoliadau i fod yn greadigol ac yn hyderus wrth gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wrth gynllunio eu cwricwlwm. Nid yw'r teithiau dysgu yn cynnig cyfres amgen o ddisgrifiadau dysgu, ac nid ydyn nhw ychwaith yn cynnig pwyntiau cyfeirio na meini prawf penodol ar gyfer cyflymder cynnydd, ac ni ddylid eu defnyddio felly. Adlewyrchir pob un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn y Maes hwn ar draws y teithiau dysgu.

  • Taith ddysgu enghreifftiol 1: chwilio am ystyr a phwrpas

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ ac ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill drwy'r is-lens hon hefyd.

Bydd y disgrifiadau dysgu'n helpu i roi arweiniad manylach ar gynnydd.

Mae a wnelo'r daith hon â ‘chwestiynau dyfnach bywyd’. Ar y camau dysgu cynnar, bydd dysgwyr yn dechrau gofyn cwestiynau dyfnach amdanyn nhw eu hunain ac eraill, ac am y byd naturiol a'r pethau byw o'u cwmpas (er enghraifft, ‘Pwy ydw i?’ ‘Pam mae pethau'n marw?’), yn ogystal â gwrando ar farn pobl eraill. Ymhellach ar hyd y daith hon, byddan nhw’n casglu ac yn trafod mewnwelediad crefyddol ac anghrefyddol ac yn ystyried eu barn, eu safbwyntiau a'u dehongliadau eu hunain, a rhai pobl eraill, mewn ffordd fwyfwy soffistigedig. Yn ddiweddarach, gellir rhannu, trafod a gwerthuso materion yn ymwneud â gwirionedd, ystyr, pwrpas a gwerth wrth i ddysgwyr ystyried amrywiaeth o gwestiynau heriol am y materion hyn yn ddyfnach (er enghraifft bodolaeth da a drwg, natur dioddefaint, defnyddio cyfoeth). Gallan nhw gydnabod bod ymatebion i'r fath gwestiynau yn gymhleth ac, yn aml, nad ydyn nhw’n gyflawn nac yn bendant.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘dylanwad, parhad a newid’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau gwybod a mynegi'r hyn y maen nhw’n ei hoffi a'r hyn nad ydyn nhw’n ei hoffi, yr hyn sy'n eu gwneud yn hapus ac yn drist, a'u gobeithion a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag ymateb i syniadau pobl eraill. Ymhellach ar hyd eu taith, gallan nhw adnabod a thrafod mewnwelediad crefyddol ac anghrefyddol mewn perthynas â theimladau ac anghenion bodau dynol, gan gynnwys yr hyn sy'n dylanwadu arnyn nhw a'r ffyrdd y cânt eu mynegi yn eu bywydau eu hunain ac ym mywydau pobl eraill. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddod i adnabod parhad a newid mewn ymatebion i gwestiynau am ystyr a phwrpas mewn bywyd, yn eu bywydau eu hunain ac mewn cymdeithas a diwylliant, ar adegau gwahanol ac mewn lleoedd gwahanol. Maen nhw’n gwerthuso gwerthoedd a syniadau cyfoes perthnasol mewn perthynas â hunan-werth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd ag ‘ymdrechion a chyfraniadau bodau dynol’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dangos ymwybyddiaeth o'r bobl a'r ‘syniadau mawr’ sydd wedi llywio eu hardaloedd lleol a'u bywydau pob dydd. Ymhellach ar hyd eu taith, byddan nhw’n dychmygu ac yn trafod yr hyn y gallan nhw ei gyfrannu nawr ac yn y dyfodol, ac yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r gydberthynas rhwng dyhead ac arferion, gan ystyried amrywiaeth o gyfraniadau o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol ar yr un pryd. Yn ddiweddarach, wrth i ddealltwriaeth dysgwyr ddatblygu, gallan nhw wneud cysylltiadau cynyddol gymhleth rhwng agweddau ar iechyd a lles, anghenion a gofynion y byd sydd ohoni, a'u hymdrechion eu hunain i chwilio am ystyr a phwrpas.

  • Taith ddysgu enghreifftiol 2: y byd naturiol a phethau byw

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol’ ac ‘Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Bydd y disgrifiadau dysgu'n helpu i roi arweiniad manylach ar gynnydd.

Mae a wnelo'r daith hon â ‘gofal, ystyriaeth a pharch’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dangos gofal a pharch tuag at y byd naturiol a'r pethau byw o'u cwmpas. Ymhellach ar hyd eu taith, gallan nhw adnabod sut a pham y byddan nhw ac eraill yn dangos gofal, pryder a pharch, yn ogystal ag ystyried safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, ac yn fwyfwy soffistigedig, gall dysgwyr ddechrau codi cwestiynau egwyddorol mewn perthynas â gweithgarwch dynol, natur a lle, a'u hystyried yn feirniadol, gan fynd i'r afael ag ymatebion crefyddol, anghrefyddol a'u hymatebion eu hunain.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘rhyfeddod’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau cael eu rhyfeddu gan fyd natur, a bydd hyn yn datblygu wrth iddyn nhw archwilio'r byd o'u cwmpas, gan arsylwi a gofyn cwestiynau. Ymhellach ar hyd eu taith, bydd ymdeimlad o gymhlethdod bywyd a'i gydgysylltiad yn tyfu, yn ogystal ag ymdeimlad o gyfrifoldeb gweithredol. Yn ddiweddarach, bydd profiadau o ryfeddod yn dod yn fwy cynnil drwy ymgysylltu'n ddyfnach ac yn ehangach â lleoedd a phobl eraill, yn ogystal â'r byd naturiol a phethau byw.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘chyfrifoldeb a gweithredu’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dangos ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o bethau byw y tu hwnt iddyn nhw eu hunain, a'r ffaith y gall eu gweithredoedd effeithio arnyn nhw. Ymhellach ar hyd eu taith, gallan nhw ddod i wybod ‘straeon’ crefyddol ac anghrefyddol am leoedd lleol, y byd naturiol a phethau byw, a sut maen nhw’n gysylltiedig â'u hunain ac eraill. Drwy straeon crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, am ddechreuadau’r byd), gall dysgwyr ddysgu am athroniaethau gwahanol sy'n bwysig i'n dealltwriaeth o'r byd a lle bodau dynol ynddo. Yn ddiweddarach, ac yn fwyfwy soffistigedig, byddan nhw’n meithrin y gallu i adnabod sut y caiff gwerthoedd a chredoau eu hadlewyrchu mewn gweithredoedd o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a'r berthynas rhyngddyn nhw a'u profiadau eu hunain.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘lle a gofod’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau sylweddoli eu bod wedi'u lleoli mewn lle a gofod, a bydd i hyn ystyr iddyn nhw. Ymhellach ar hyd eu taith, byddan nhw’n adnabod bod lleoedd a gofodau o'u cwmpas yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, yn ogystal ag ystyried lleoedd o arwyddocâd arbennig am resymau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddechrau adnabod ac esbonio lleoedd sy'n destun dadlau (crefyddol ac anghrefyddol), gan werthfawrogi materion sensitif mewn perthynas â lle. Gallan nhw ddeall cymhlethdod dadleuon a dylanwadau megis hunaniaeth, awdurdod, gwerthoedd, moeseg ac ystyriaethau ynghylch ystyr a phwrpas mewn bywyd.

  • Taith ddysgu enghreifftiol 3: gwerthoedd a moeseg

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ ac ‘Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Bydd y disgrifiadau dysgu'n helpu i roi arweiniad manylach ar gynnydd.

Mae a wnelo'r daith hon â'r ‘hyn sy'n werthfawr i bobl’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau adnabod beth sydd o werth iddyn nhw (er enghraifft, tegwch, ymddiriedaeth, cariad, bywyd a charedigrwydd) a byddan nhw’n gwrando ar farn pobl eraill. Gallan nhw gydnabod yr angen i barchu eraill a gallan nhw ddangos sut beth yw hyn yn eu bywydau pob dydd. Ymhellach ar hyd eu taith, bydd dysgwyr yn dod yn ymwybodol o wahanol ddehongliadau a ffyrdd o fynegi gwerthoedd cyffredin, gan werthfawrogi amrywiaeth o ddylanwadau crefyddol ac anghrefyddol. Byddan nhw’n dysgu sut mae rhai gwerthoedd a hawliau wedi newid dros amser. Wrth i'w gwybodaeth a'u profiad dyfu, gall dysgwyr ddechrau trafod amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol o fewn achosion o anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, yn ogystal â'r heriau sy'n gysylltiedig ag adnabod a diogelu hawliau dynol. Yn ddiweddarach, byddan nhw’n meithrin y gallu i ffurfio, amddiffyn ac ailystyried eu safbwyntiau egwyddorol ar faterion o bwys crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, sancteiddrwydd bywyd, rhyddid i lefaru, lles anifeiliaid, a rhyfel).

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘chredoau, gweithredoedd a chanlyniadau’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dangos dealltwriaeth o'r hyn sy'n dda ac yn ddrwg, a'r berthynas rhwng hyn a'u gweithredoedd a'u teimladau. Ymhellach ar hyd eu taith, mewn ffordd fwy eang a soffistigedig, gallan nhw esbonio sut y gall eu gweithredoedd arwain at ganlyniadau iddyn nhw eu hunain ac i eraill, ac i'r byd a phethau byw, gan ddefnyddio mewnwelediad o amrywiaeth o grefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gallan nhw ragdybio a gwerthuso'r ffactorau sy'n dylanwadu ar eu hagweddau, eu hymddygiad a'u gweithredoedd, a rhai pobl eraill, gan gynnwys ffactorau sy'n ymwneud â chredoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘gwneud penderfyniadau’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau adnabod enghreifftiau sylfaenol o gyfyng gyngor moesol a chynnig atebion. Ymhellach ar hyd eu taith, maen nhw’n adnabod rheolau a chodau ymddygiad (crefyddol ac anghrefyddol) sy'n berthnasol iddyn nhw ac eraill o'u cwmpas, a gallan nhw esbonio eu heffaith ar fywydau pobl. Yn ddiweddarach, gyda soffistigeiddrwydd cynyddol, gall dysgwyr ddechrau adnabod y cyfrifoldebau a'r heriau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau, a'u trafod yn feirniadol, gan ddangos dealltwriaeth o ffigyrau, prosesau a sefydliadau perthnasol sy'n cyfrannu at wneud penderfyniadau, mewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Bydd dysgwyr yn adnabod cyfleoedd lle mae angen cymryd camau moesol priodol yn eu cymunedau, yng Nghymru ac yn y byd ehangach.

  • Taith ddysgu enghreifftiol 4: hunaniaeth a pherthyn

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ ac ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Bydd y disgrifiadau dysgu'n helpu i roi arweiniad manylach ar gynnydd.

Mae a wnelo'r daith hon â'r ‘hyn sy'n gwneud pobl yn bwy ydyn nhw’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dangos ymwybyddiaeth o bwy ydyn nhw a'u bod yn debyg ac yn wahanol i eraill. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, byddan nhw’n trafod yr hyn a all ffurfio hunaniaeth (er enghraifft, cydberthnasau, ffyrdd o fyw, credoau a lle) a'r ffordd y mae'r rhain yn dylanwadu ar bobl a'u cymunedau. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr adolygu a gwerthuso amrywiaeth o athroniaethau crefyddol ac anghrefyddol, safiadau mewn bywyd ac arferion sy'n ymwneud â'r hyn y mae bod yn ddynol yn ei olygu, a gallan nhw ffurfio eu safbwyntiau eu hunain a'u hystyried mewn ffordd feirniadol.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘chymunedau, cyfraniadau ac amrywiaeth’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau deall eu bod yn rhan o grwpiau a chymunedau amrywiol, ac yn dechrau deall beth yw perthyn. Maen nhw’n ymwybodol o amrywiaeth o fewn cymunedau perthnasol a'r ffaith bod eu profiadau o berthyn yn debyg ac yn wahanol i brofiadau pobl eraill. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw archwilio ffyrdd o fynegi ymdeimlad o berthyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Gallan nhw drafod arwyddocâd perthyn ym mywydau pobl, gan gynnwys eu bywydau eu hunain. Yn ddiweddarach, ac yn fwyfwy soffistigedig, gall dysgwyr adnabod a gwerthuso’r berthynas rhwng perthyn, ymrwymiad a chyfraniadau at gymdeithas, diwylliant a lles.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘lle, amser a chydberthnasau’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dod yn ymwybodol eu bod yn bodoli mewn lle ac amser, a bod hyn yn eu llywio hwy a'r cymunedau o'u cwmpas. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw archwilio'r rhyngweithio rhwng amrywiaeth o gymunedau a chymdeithasau yn lleol ac yn ehangach, a gallan nhw drafod cyfraniadau hunaniaeth a pherthyn o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Gallan nhw ddechrau adnabod parhad a newid mewn hunaniaeth a pherthyn, a'r ffyrdd y cânt eu profi yn bersonol ac ar y cyd. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr archwilio a gwerthuso cydberthnasau a rhyngddibyniaethau rhwng amrywiaeth o grwpiau, cymunedau a chymdeithasau (yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang) a'u heffaith ar fywydau pobl a'r byd naturiol. Gallan nhw ystyried yn feirniadol rolau hunaniaeth a pherthyn er mwyn deall materion cyfoes cyffredin, ac ymateb iddyn nhw o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.

  • Taith ddysgu enghreifftiol 5: awdurdod a dylanwad

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar dri datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’, ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw'n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’ ac ‘Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Bydd y disgrifiadau dysgu'n helpu i roi arweiniad manylach ar gynnydd.

Mae a wnelo'r daith hon ag ‘awdurdodau a dylanwadau’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau sylweddoli bod rhai pobl bwysig yn dylanwadu arnyn nhw, a bod hyn yn effeithio ar y ffordd y maen nhw’n teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw adnabod ac archwilio gwahanol ffynonellau awdurdod mewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, arweinwyr, cydberthnasau, testunau, codau ymddygiad a thraddodiadau). Yn y pen draw gallan nhw ddeall bod ffynonellau awdurdod yn dylanwadu ar fywydau pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn ddiweddarach, wrth i ddealltwriaeth dysgwyr ddatblygu, gallan nhw ddadansoddi a gwerthuso cydberthnasau cymhleth (gan gynnwys eu rhai eu hunain) sy'n bodoli ymhlith ac ar draws ffynonellau awdurdod. Yn ddiweddarach, gallan nhw ystyried yn feirniadol awdurdod profiad crefyddol ac ysbrydol ac awdurdod cydwybod, yn y gorffennol a'r presennol, a'u heffaith ar bobl, cymdeithas a diwylliant.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘phrofiadau a dehongliadau’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dod yn ymwybodol o ddylanwadau pwysig ym mywydau pobl eraill, a'r ffaith bod eu profiadau'n debyg ac yn wahanol i'w profiadau eu hunain. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw archwilio'r ffaith y caiff ffynonellau awdurdod eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol gan bobl a grwpiau amrywiol, o fewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Yn y pen draw gallan nhw adnabod dylanwadau ar ddehongliadau a bod rhai ffynonellau awdurdod yn fwy dylanwadol nag eraill i wahanol bobl, grwpiau a chymdeithasau. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddefnyddio sawl ffynhonnell awdurdod i werthuso dehongliadau crefyddol ac anghrefyddol o faterion sy'n berthnasol i'r cyflwr dynol, a gallan nhw gyflwyno eu safbwyntiau gwybodus eu hunain. Gallan nhw ystyried yn feirniadol sut a pham y gall profiadau a chysyniadau o awdurdod newid dros amser.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘dewisiadau a gweithredoedd’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau deall y gall dewisiadau effeithio ar eu gweithredoedd. Gallan nhw ddangos ymwybyddiaeth o ddylanwadau ar eu dewisiadau. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw sylweddoli sut mae pobl a chymunedau'n defnyddio ffynonellau awdurdod crefyddol ac anghrefyddol i'w harwain yn eu bywydau a llywio penderfyniadau pwysig. Yn ddiweddarach, wrth i ddealltwriaeth dysgwyr ddatblygu, gallan nhw ddefnyddio eu gwybodaeth am amrywiaeth o ffynonellau awdurdod, a'u dealltwriaeth ohonyn nhw, i ymgysylltu'n feirniadol â materion neu ddadleuon egwyddorol cyfoes, a dylanwadu ar weithredoedd a chanlyniadau posibl (er enghraifft, her, consensws a chymodi).

  • Taith ddysgu enghreifftiol 6: cydberthnasau a chyfrifoldeb

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi'i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol’ ac ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw'n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig a chyda Meysydd eraill drwy'r is-lens hon hefyd.

Bydd y disgrifiadau dysgu'n helpu i roi arweiniad manylach ar gynnydd.

Mae a wnelo'r daith hon â'r ‘ffordd y mae pobl yn byw gyda'i gilydd’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau deall eu bod yn byw mewn nifer o gydberthnasau. Maen nhw’n ymwybodol o'r hyn sy'n eu helpu i fyw gydag eraill. Gallan nhw gynnig barn ar ffyrdd o ddatrys anghytundeb. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw adnabod a thrafod ffyrdd y caiff pwysigrwydd cydberthnasau (personol, cymdeithasol, amgylcheddol a throsgynnol) ei fynegi ym mywydau pobl, gan gyfeirio at gyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr sylweddoli bod cydberthnasau yn ddeinamig ac yn gymhleth. Gallan nhw ystyried yn feirniadol ddylanwadau a all gyfrannu at gytgord ac anghytgord yn fyd-eang, yn lleol ac yn bersonol (gan gynnwys dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol). Gallan nhw adolygu a gwerthuso heriau sy'n gysylltiedig â chydberthnasau, gan gyfeirio at amrywiaeth o fewnwelediadau a phrofiadau crefyddol ac anghrefyddol.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘chyfrifoldebau a chydgysylltiad’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dod yn ymwybodol o gysylltiadau rhwng eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill, y byd naturiol a phethau byw. Gallan nhw ddangos cyfrifoldeb at eraill drwy weithredoedd syml. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw adnabod pam a sut mae pobl yn dangos cyfrifoldeb at bobl ac at leoedd y tu hwnt i'w cydberthnasau personol. Gallan nhw drafod dimensiynau materol ac anfaterol cydberthnasau (gan gynnwys dimensiynau ysbrydol, crefyddol a moesol), ac, yn y pen draw, gallan nhw adnabod cysylltiadau â thwf bodau dynol a sut y gall pobl fyw gyda'i gilydd yn gyfrifol yn y byd. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddechrau datblygu gwerthfawrogiad beirniadol o faterion arwyddocaol sy'n effeithio ar gydberthnasau ar lefel fyd-eang a gallan nhw ddychmygu sawl dyfodol posibl. Gallan nhw ymgysylltu'n feirniadol ag amrywiaeth o athroniaethau crefyddol ac anghrefyddol gan archwilio cydgysylltiad mewn bywyd, yn ogystal â natur a dealltwriaeth bodau dynol oddi mewn iddo.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘lles, hunaniaeth a chynhwysiant’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dod yn ymwybodol o'u profiadau a'u teimladau eu hunain pan fyddan nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill. Gallan nhw gydnabod bod gan bobl eraill brofiadau a theimladau hefyd, a'u bod yn debyg ac yn wahanol i'w profiadau a'u teimladau eu hunain. Byddan nhw’n dangos chwilfrydedd am fywydau pobl eraill. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw archwilio sut y gall gweithredu olygu ymroddiad ac aberth sylweddol (yn y gorffennol a'r presennol) a chael effaith fawr ar fywydau a lles pobl eraill ac ar y byd ehangach. Yn y pen draw gallan nhw adnabod cysylltiadau rhwng gweithredoedd a hunaniaeth, gan gynnwys dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol. Gallan nhw adnabod annhegwch ac anghydraddoldeb yn eu bywydau personol eu hunain ac mewn cymdeithas ehangach, ac awgrymu heriau priodol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ystyried yn feirniadol sut bethau yw cydberthnasau iach a beth yw eu cyfraniad at les, gan gyfeirio at amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Gallan nhw ddechrau deall a gwerthuso cydberthnasau rhwng hunaniaeth bersonol a hunaniaeth grwp berthnasol.

  • Taith ddysgu enghreifftiol 7: taith bywyd

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ ac ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Bydd y disgrifiadau dysgu'n helpu i roi arweiniad manylach ar gynnydd.

Mae a wnelo'r daith hon ag ‘ystyr, pwrpas a dylanwad’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau sylweddoli bod gan bobl straeon personol eu bywydau. Bydd dysgwyr yn dechrau adrodd hanes eu bywydau eu hunain. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw archwilio amrywiaeth o lwybrau bywyd y mae pobl wedi'u profi, gan gyfeirio at gyd-destunau a dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol. Yn y pen draw gallan nhw adnabod cysylltiadau â chreu ystyr a phwrpas. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddadansoddi'r cysyniad o alwad yn y gorffennol a'r presennol, a'i ystyried yn feirniadol, o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Gallan nhw archwilio heriau y bydd pobl yn eu hwynebu ar hyd llwybr bywyd, a gwerthuso ymatebion crefyddol ac anghrefyddol.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘chamau a digwyddiadau bywyd’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau dod yn ymwybodol eu bod yn tyfu ac yn newid dros amser. Byddan nhw’n profi ac yn cymharu'r ffyrdd y caiff eu twf eu hunain a thwf pobl eraill eu cydnabod a'u dathlu. Gallan nhw ddangos y cysylltiad rhwng eu bywydau ac adegau a thymhorau arbennig. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw archwilio digwyddiadau a newidiadau arwyddocaol mewn bywyd, a gallan nhw drafod eu rolau ym mywydau pobl drwy gyfeirio at fewnwelediadau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddadansoddi gweithredoedd defodol pobl wrth nodi digwyddiadau arwyddocaol ac amser, a'u trafod yn feirniadol. Gallan nhw ddechrau gwerthuso athroniaethau perthnasol ynghylch amser, o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a dangos sut y gall y rhain effeithio ar gredoau, arferion a gweithredoedd.

Mae a wnelo'r daith hon hefyd â ‘theithiau corfforol ac ysbrydol’. Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, bydd dysgwyr yn dechrau sylweddoli eu bod yn mynd ar lawer o deithiau gwahanol am resymau amrywiol. Maen nhw’n dangos diddordeb yn nheithiau pobl eraill a gallan nhw weld ym mha ffyrdd y mae eu teithiau'n debyg ac yn wahanol i'w profiadau eu hunain. Maen nhw’n ymwybodol bod gan deithiau nodweddion corfforol yn ogystal â nodweddion anfaterol. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallan nhw archwilio profiadau pobl o deithiau pwysig o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a gallan nhw nodi rhesymau dros y teithiau hyn. Yn y pen draw gallan nhw ddeall bod teithiau'n gysylltiedig â lle ac amser. Gallan nhw ddychmygu sut beth y gallai taith bwysig fod yn eu bywydau eu hunain. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr adnabod a gwerthuso cydberthnasau rhwng teithiau corfforol ac ysbrydol a'u heffeithiau ar fywydau unigolion, cymunedau a chymdeithas ehangach (er enghraifft mewn perthynas â hunaniaeth, ffurfiant bodau dynol, amrywiaeth, diwylliant). Gallan nhw ystyried y cydgysylltiad rhwng teithiau, tirweddau a phobl mewn lleoedd ac ar adegau gwahanol, gan gyfeirio at gyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol.

Cyfoethogi profiadau dysgwyr o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg 

Pa ddull bynnag a ddefnyddir i gynllunio'r cwricwlwm, bydd angen i ysgolion a lleoliadau sicrhau darpariaeth gyfoethog ar gyfer dysgu o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg drwy amrywiaeth eang o brofiadau. Mae profiadau dysgu yn agwedd ganolog ar athroniaeth Fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau y cynigir amrywiaeth o brofiadau i'r dysgwyr sy'n briodol yn ddatblygiadol, ac sy'n berthnasol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Gall y profiadau hyn gynnwys cyfleoedd i wneud y canlynol:

  • ymgysylltu â chymunedau lleol crefyddol ac anghrefyddol, mewn ffyrdd a fydd yn ystyrlon ac yn werthfawr i'r dysgwyr
  • chwarae rôl a chymryd rhan mewn gweithgareddau megis dathliadau neu ddigwyddiadau ail-greu, neu arsylwi arnyn nhw
  • ystyried yr hyn sy'n dylanwadu ar bobl wrth iddyn nhw ymateb i gyfyng gyngor moesegol, datrys problemau gwirioneddol a phresennol, ac ystyried digwyddiadau yn y gorffennol
  • profi ac ystyried dirgelwch a rhyfeddod y byd naturiol, lleoliadau hanesyddol a safleoedd crefyddol a diwylliannol
  • arsylwi a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol sy'n helpu dysgwyr i ddeall profiadau dynol
  • archwilio a thrin a thrafod arteffactau a gwrthrychau crefyddol, gan gynnwys testunau cysegredig a thestunau eraill
  • ymweld â mannau addoli lleol ynghyd â lleoedd, tirweddau ac amgylcheddau arbennig eraill, gan gynnwys rhai sydd â dimensiwn crefyddol ac ysbrydol arwyddocaol
  • cwrdd â phobl y mae ffydd a chred yn bwysig iddyn nhw er mwyn helpu dysgwyr i archwilio profiadau bob-dydd
  • gofyn cwestiynau mawr sy'n ymwneud â phwerau uwch neu realiti eithaf, y byd, ystyr a phwrpas bywyd a'u profiadau eu hunain
  • trin a thrafod gwahanol fathau o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol er enghraifft arweinwyr crefyddol, pobl â ffydd a chred, athronwyr, mannau addoli, arteffactau, testunau cysegredig a gweithiau athronyddol
  • dysgu sut i ymateb i gredoau ac argyhoeddiadau pobl eraill gan ystyried a dadansoddi eu safbwyntiau a'u gwerthoedd eu hunain ar yr un pryd

Hefyd, er mwyn cyfoethogi profiadau dysgwyr o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae angen i ysgolion a lleoliadau archwilio eu lle yn y gymuned leol a'r gymuned ehangach fel cam pwysig yn y broses o gynllunio eu cwricwlwm. I ategu hyn, gall ysgolion a lleoliadau ymchwilio i'r grwpiau ffydd a chred a gynrychiolir yn lleol a ledled Cymru, yn ogystal â lleoedd a mannau cysegredig, yn y gorffennol a'r presennol.

Cysylltiadau allweddol â Meysydd eraill

Wrth gynllunio'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau, dylid archwilio cysylltiadau a rhyngddibyniaethau clir rhwng Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'r Meysydd eraill fel rhan o gwricwlwm cyfannol. Dylid defnyddio'r cysylltiadau a'r rhyngddibyniaethau hyn wrth gynllunio'r cwricwlwm, a dylai ymarferwyr gydweithio'n greadigol er mwyn cefnogi dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Pwyntiau i ysgolion a lleoliadau eu hystyried

Gall ysgolion a lleoliadau ddefnyddio'r cwestiynau canlynol wrth gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

  • Ydych chi wedi ystyried sut y bydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn gweithio orau o fewn Maes y Dyniaethau?
  • Ydych chi wedi ystyried eich maes llafur cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?
  • Ydy'r ffordd rydych yn cynllunio'r cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn helpu i wireddu'r pedwar diben?
  • Ydych chi wedi defnyddio'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Maes hwn er mwyn eich helpu i gynllunio'r cwricwlwm?
  • Ydych chi wedi defnyddio cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wrth gynllunio'r cwricwlwm?
  • Ydych chi wedi ystyried amrywiaeth o is-lensys y gellir eu defnyddio i edrych ar gysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg er mwyn helpu i gynllunio'r cwricwlwm?
  • Ydych chi wedi ystyried cynnydd dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu Maes y Dyniaethau?
  • Ydych chi wedi ystyried y ‘teithiau dysgu’ a ddarparwyd er mwyn eich helpu i ddeall cynnydd mewn perthynas â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg?
  • Ydych chi wedi myfyrio ar deithiau dysgu posibl eich dysgwyr eich hun er mwyn eich helpu i gynllunio'r cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?
  • Ydych chi wedi cynnwys cyfleoedd i gyfoethogi profiadau dysgwyr o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wrth gynllunio'r cwricwlwm?
  • Ydych chi wedi gwneud cysylltiadau clir rhwng Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'r meysydd dysgu a phrofiad eraill?
  • Ydych chi wedi cynnwys cyfleoedd ar gyfer datblygiad ysbrydol dysgwyr o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?
  • Ydy’r ffordd rydych yn cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn sicrhau dyfnder, ehangder ac ansawdd dysgu priodol?

Sicrhau cynwysoldeb mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Dylai pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gael cymorth i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a gwireddu ei botensial llawn mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Dylai ysgolion a lleoliadau sy'n rhoi addysg i ddysgwyr ag ADY, gan gynnwys y rhai ag anawsterau dwys a lluosog, ystyried y ffyrdd gorau o ddiwallu anghenion pob dysgwr wrth gynllunio a chynnig cyfleoedd dysgu effeithiol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Gallai'r ystyriaethau hyn gynnwys, er enghraifft:

  • dulliau gweithredol ac amlsynnwyr o gyflwyno pethau newydd i'w dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried gwahanol ddulliau dysgu ac anghenion emosiynol pob dysgwr
  • cyfleoedd cynhwysol i ddysgwyr brofi rhyfeddod mewn amrywiaeth o amgylcheddau
  • defnyddio amrywiaeth o ysgogiadau, megis arteffactau crefyddol ac anghrefyddol a chyd-destunau perthnasol
  • pob dysgwr yn cymryd rhan yn llawn, gan gynnwys y rhai sy'n cyfathrebu drwy ddulliau heblaw siarad
  • gweithgareddau sy'n cynnwys pob dysgwr o fewn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi, er enghraifft, wrth ymweld â mannau addoli lleol a lleoedd arbennig ac arwyddocaol eraill

Wrth weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, dylai ymarferwyr a gofalwyr fod yn ymwybodol o ddull gweithredu'r ysgol neu'r lleoliad mewn perthynas â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn Maes y Dyniaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am ADY, gweler canllawiau Ar Drywydd Dysgu a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.

Addysg mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Dylai darpariaeth addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir gael ei hystyried fel rhan o ddull cyfannol cyffredinol mewn perthynas â dysgu a datblygu. Mae adran ‘Cynllunio eich cwricwlwm ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg’ y canllawiau hyn yn cynnig rhagor o wybodaeth am Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed, er mwyn helpu ymarferwyr yn y lleoliadau hyn gyda’r dull cyfannol hwn.

Mae chwilfrydedd dysgwyr ifanc yn ddi-ben-draw; maen nhw’n mwynhau archwilio ac ymchwilio ar eu pen eu hunain ac ar y cyd ag eraill, ac maen nhw’n naturiol yn gofyn cwestiynau am fywyd a'r byd o'u cwmpas. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ac integredig sy'n ennyn eu diddordeb o fewn y cyfnod dysgu hwn, gall dysgwyr ddechrau dysgu mwy amdanyn nhw eu hunain, am bobl eraill ac am y byd ehangach.

Dylai addysgeg effeithiol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n ymatebol, yn ddeinamig ac wedi'i gwreiddio mewn cydberthnasau cryf, fod wrth wraidd y broses o ddatblygu darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn lleoliad. Drwy chwarae, gall dysgwyr ddatblygu eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gyda dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd. Gall hyn helpu i lywio'r ffordd y maen nhw’n gweld y byd. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol dysgwyr, yn ogystal â'u lles. Mae bod yn yr awyr agored hefyd yn eu helpu i ddod yn ymwybodol o'r angen i ddangos gofal a pharch tuag at bethau byw.

Yn ystod y cyfnod dysgu hwn, mae dysgwyr yn dechrau deall y cysyniad o ‘wahaniaeth’. Dylai ymarferwyr eu hannog i rannu eu gwybodaeth am eu credoau, eu treftadaeth a'u traddodiadau eu hunain, yn ogystal â rhai pobl eraill, ynghyd â'u profiadau ohonyn nhw (er enghraifft, drwy ganeuon, straeon a chwarae rôl). Gall hyn helpu dysgwyr ifanc i ddeall mwy amdanyn nhw eu hunain, ac am brofiadau a safbwyntiau a all fod yn wahanol i'w rhai eu hunain.

Gall amgylchedd meithrin, cefnogol helpu dysgwyr i ddechrau meithrin cydberthnasau llawn parch ac ymdeimlad o gyfrifoldeb. Mewn amgylchedd o’r fath gall dysgwyr ddysgu am yr hyn sy'n wahanol ac yn debyg rhwng ei gilydd. Gallan nhw ddechrau archwilio iaith hawliau a dechrau deall eu hawl i gredu pethau gwahanol a dilyn credoau gwahanol. Drwy hyn, gall dysgwyr ddechrau sylweddoli a deall sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar eraill, a dysgu sut i fyfyrio ar eu safbwyntiau eu hunain a'u hailystyried, fel y bo'n briodol, a hynny o oedran cynnar.

Addysg heblaw yn yr ysgol

Mae gan bob dysgwr hawl i gael addysg. Wrth ystyried y ffyrdd gorau o ddiwallu anghenion eu dysgwyr, mae'n ofynnol i ddarparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, ystyried elfennau mandadol y cwricwlwm, sy'n cynnwys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a sicrhau darpariaeth ar eu cyfer i'r graddau a fyddai'n rhesymol bosibl ac yn briodol i'r dysgwr unigol.

Dylai profiadau dysgwyr eu galluogi i archwilio cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg drwy'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ym Maes y Dyniaethau, gan ddefnyddio is-lensys amrywiol o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn. Nid yw'n ofynnol i leoliadau o'r fath ddilyn y maes llafur cytunedig. Fodd bynnag, rhaid i'r addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a ddarperir yn y lleoliadau hyn fodloni'r gofyniad plwraliaethol o hyd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gofynion deddfwriaethol i unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol yn yr adran ar ddeddfwriaeth yn Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y Maes hwn

Mae'r Maes hwn yn cynnig cyfle pwysig i ddysgwyr ddeall sut mae dealltwriaeth gymdeithasol o gydberthnasau, rhyw, rhywedd a rhywioldeb wedi newid dros amser a'r ffordd y mae'n parhau i esblygu. Gall astudio addysg cydberthynas a rhywioldeb drwy Faes y Dyniaethau ysbrydoli dysgwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o faterion pwysig a datblygu'r sgiliau i ddehongli syniadau a chyflwyniadau am addysg cydberthynas a rhywioldeb drwy gydol hanes ac mewn diwylliannau a chyd-destunau gwahanol ledled y byd. Er enghraifft, gellid ystyried sut mae normau a chanfyddiadau o bobl LHDTC+ wedi newid dros amser. Mae hefyd yn cefnogi dysgwyr i ymgysylltu â gwybodaeth yn feirniadol, deall sail gwybodaeth a gaiff ei chyflwyno fel ffaith, a gwneud penderfyniadau beirniadol am sut i ddefnyddio'r ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddyn nhw ac ymateb iddyn nhw.

Mae'r Maes hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ystyried hawliau dynol, gwerthoedd, moeseg, athroniaethau a safbwyntiau crefyddol mewn perthynas â chydberthnasau a rhywioldeb. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd pwysig i ddysgwyr drafod, ystyried a datblygu dealltwriaeth o safbwyntiau gwahanol ar faterion addysg cydberthynas a rhywioldeb, a gaiff ei llywio gan fydolwg crefyddol ac anghrefyddol, heriau moesegol a materion yn ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol. Mae hyn hefyd yn cefnogi dysgwyr i ddeall y tensiynau rhwng gwahanol safbwyntiau a mynd i'r afael â nhw. Gall hyn gefnogi dysgwyr i ymgysylltu'n feirniadol â materion addysg cydberthynas a rhywioldeb ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang yn y gorffennol a'r presennol, gan eu helpu i ddod yn ddinasyddion gwybodus a moesegol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.