English

2. Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Cwricwlwm

Mandadol

Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.

Wrth archwilio’r Maes hwn trwy eu gwaith creadigol eu hunain a gwaith eraill, mae dysgwyr yn mynd i’r afael â genres, technegau, offer, deunyddiau a dulliau. Mae hyn yn eu galluogi i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.

Drwy archwilio ffurfiau a disgyblaethau yn y celfyddydau mynegiannol, boed drwy arbrofi, chwarae neu ymchwilio ac ymholi mwy ffurfiol, gall dysgwyr ddod i ddeall y ffordd y mae’r celfyddydau mynegiannol yn cyfathrebu drwy ddulliau gweledol, corfforol, geiriol, cerddorol a thechnolegol. Mae’r archwilio hwn hefyd yn dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae’r celfyddydau mynegiannol yn ffurfio syniadau a theimladau. Gall hyn eu hannog i feithrin eu dychymyg a thynnu ar eu profiadau, eu sgiliau a’u doniau er mwyn iddyn nhw ddod yn artistiaid creadigol eu hunain.

Mae’r celfyddydau mynegiannol hefyd yn gyfrwng grymus y gall dysgwyr ei ddefnyddio i archwilio Cymru, ei thraddodiadau, ei hanes a’i diwylliannau unigryw ac amrywiol. Gallan nhw gynnig cyfle i ddysgwyr archwilio eu hetifeddiaeth ddiwylliannol eu hunain yn ogystal â rhai pobl, llefydd a chyfnodau eraill. Trwy hyn gallan nhw ddarganfod sut y gellir defnyddio’r celfyddydau mynegiannol i ffurfio a mynegi hunaniaeth bersonol, gymdeithasol a diwylliannol. Bydd dysgwyr yn cael edrych ar waith o ddiwylliannau a chymdeithasau amrywiol, gan ddysgu am eu dylanwadau, eu hanesion a'u heffaith. Gall dysgwyr hefyd edrych sut y gellir defnyddio'r celfyddydau mynegiannol i gwestiynu a herio safbwyntiau a bod yn rym ar gyfer newid personol a chymdeithasol.

Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Mae ymateb o fewn y celfyddydau mynegiannol yn ysgogi ein hemosiynau a’n deall. Gall yr ymateb fod yn adwaith syml y synhwyrau i ysgogiad artistig, neu’n ddadansoddiad beirniadol o waith creadigol. Bydd y gallu i fyfyrio yn dyfnhau wrth i ddysgwyr gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o sut a pham y caiff gwaith creadigol ei ddatblygu a’i greu.

Gall mabwysiadu’r sgiliau a’r eirfa feirniadol o fewn y Maes hwn alluogi dysgwyr i ystyried gwaith creadigol mewn amrywiaeth o gyfryngau, ffurfiau, genres ac arddulliau.

Gall dysgu sgiliau dadansoddi pwysig o fireinio a dadansoddi gyfrannu at eu datblygiad creadigol.

Yn ogystal, gellir datblygu gwydnwch dysgwyr wrth iddyn nhw gael eu hannog i adnabod sut y gallan nhw wella eu gwaith, ac ymateb i adborth gan eraill.

Mae ymwneud â’r Maes hwn yn annog ymateb, ac mae hyn yn ysgogi dysgwyr i fyfyrio ar effeithiolrwydd eu gwaith eu hunain a gwaith eraill, gan gynnwys gwaith artistiaid amrywiol o Gymru a thu hwnt.

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Trwy ymwneud â’r Maes hwn, bydd cyfleoedd yn cael eu rhoi i ddysgwyr fod yn arloesol a beiddgar, i greu gwaith unigol ac i ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain fel artistiaid yng Nghymru. Gall y dysgu a’r profiad hwn feithrin gwydnwch a hyblygrwydd i oresgyn heriau.

Mae creu yn y celfyddydau mynegiannol yn cwmpasu ystod o weithgareddau gan gynnwys cynllunio, drafftio, dylunio, gwneud, coreograffu, siapio, cyfansoddi a golygu. Mae creu yn gofyn i ddysgwyr ddatblygu a dangos rheolaeth ar ystod o sgiliau, a’r gallu i gymhwyso gwybodaeth.

Yn ystod y broses greadigol mae dysgwyr yn cyfathrebu drwy amrywiaeth o ffurfiau a disgyblaethau celfyddydol. Mae cyfathrebu yn cynnwys perfformio, cyflwyno, rhannu, arddangos a chynhyrchu, gan ystyried y gynulleidfa.

Yn y Maes hwn, wrth ymwneud â’r broses greadigol, gall dysgwyr adnabod cyfleoedd i drawsnewid eu syniadau, yn ddiogel ac egwyddorol, mewn i waith sydd â gwerth diwylliannol a masnachol, yn ogystal â defnyddio eu sgiliau creadigol i wireddu uchelgais.