English

3. Egwyddorion cynnydd

Cwricwlwm

Mandadol

Bydd dysgwyr yn meddu ar alluoedd amrywiol yn eu hieithoedd ac, er mwyn rhoi sail gadarn i ail iaith ac ieithoedd dilynol, caiff camau cynnar (megis cyfatebiaeth graffem-ffonem) eu hailystyried ym mhob iaith.

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr

Wrth iddynt symud ar hyd y continwwm dysgu, bydd dysgwyr yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol sylfaenol i feithrin medr sy'n eu galluogi i oresgyn ystod o heriau cyfathrebu yn llwyddiannus.  Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft:

  • gofyn cwestiynau cynyddol soffistigedig
  • dod o hyd i wybodaeth yn annibynnol
  • gwneud penderfyniadau trwy werthuso a beirniadu’r syniadau a'r safbwyntiau a'r dulliau cyfathrebu yn yr hyn y maen nhw’n ei glywed, ei ddarllen a'i weld
  • defnyddio iaith yn effeithiol i gyfleu eu syniadau a'u safbwyntiau eu hunain ar bynciau amrywiol

Byddan nhw’n meithrin y sgiliau ieithyddol angenrheidiol i drafod a gwerthuso eu dysgu mewn ieithoedd.

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol

Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei gynrychioli fel continwwm cydlynol. Mae'r dysgwr yn datblygu'n holistaidd o ran ei ddealltwriaeth a'i ddefnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu wrth wrando a darllen, siarad ac ysgrifennu, a rhyngweithio a chyfryngu mewn ystod eang o gyd-destunau. 

Mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gynyddol soffistigedig o gysyniadau ieithyddol sy'n cefnogi'r broses o feithrin sgiliau mewn modd mwy ymwybodol a hunanymwybodol i gyfathrebu'n effeithiol drwy siarad, ysgrifennu, ystumiau, delweddau neu gyfryngau eraill.

Maen nhw hefyd yn gwneud cynnydd o ran ehangder a dyfnder gwybodaeth gysyniadol drwy profi syniadau mewn ieithoedd a llenyddiaeth, i ddechrau mewn cyd-destun mwy personol a lleol gan symud ymlaen i gysylltu â  chyfathrebu mwy cymhleth mewn byd amlieithog. Felly, yn raddol, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth fwy cynnil o wahanol safbwyntiau a meistrolaeth gynyddol o'r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli, gwerthuso a mynegi safbwyntiau gwahanol ac ymateb iddyn nhw.

Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd

Mae cynnydd yn y Maes hwn yn gontinwwm o ymgysylltiad cynyddol gymhleth â syniadau a dibenion cyfathrebu ac o feithrin ymwybyddiaeth ieithyddol. Caiff y rhain eu dangos fel a ganlyn:

  • ymateb i ddulliau cyfathrebu wrth wrando, darllen neu dderbyn iaith mewn ffyrdd eraill
  • eu cynhyrchu wrth siarad ac ysgrifennu neu drwy ddulliau cyfathrebu eraill.

Mae defnyddio holl allu ieithyddol dysgwr – ni waeth pa mor anwastad y gall fod – yn ei alluogi i wneud cynnydd ym mhob iaith. Gellir cymhwyso dealltwriaeth o gysyniadau ieithyddol yn iaith y dosbarth, er enghraifft, at ddysgu iaith newydd, sy'n hwyluso cynnydd yn yr iaith honno yn ogystal â gwella dealltwriaeth o’r ffordd y mae holl ieithoedd y dysgwr  yn gweithio. Er y gall cynnydd dysgwyr fod ar wahanol bwyntiau mewn gwahanol ieithoedd, mae canolbwyntio ar luosieithrwydd yn eu galluogi i ddefnyddio eu dealltwriaeth o nifer o ieithoedd i ddeall testun llafar neu ysgrifenedig, ni waeth beth fo'u meistrolaeth o'r iaith honno, a deall yn gynyddol y cydberthnasau rhwng gwahanol ieithoedd a dysgu o’r cydberthnasau hyn.

Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a'u cymhwyso

Mae cynnydd o ran mireinio a soffistigeiddrwydd sgiliau yn symud o ddiben cyfathrebol llythrennol a syml i lefelau mwy haniaethol, casgladwy neu ddealledig a chynnil o ran ystyr, gyda dibenion mwy cymhleth. Mae iaith lafar yn rhagflaenu ar sgiliau cyn llythrennedd ac yn sail iddynt. Mae dysgwyr yn raddol yn meithrin ymwybyddiaeth well o iaith a mwy o soffistigeiddrwydd wrth ddefnyddio'r ymwybyddiaeth hon i gyflawni'r dibenion arfaethedig o ran dehongli a chyfathrebu drwy siarad neu ysgrifennu, neu drwy ddulliau eraill.

I ddysgwyr iau, mae caffael iaith yn dilyn yr un drefn ag ar gyfer dysgwyr hyn, er y gall cyflymder y mae'n gwneud hynny amrywio'n sylweddol. Wrth i ddysgwyr brofi, ymgyfarwyddo, deall a chymhwyso syniadau ac ymwybyddiaeth ieithyddol gynyddol gymhleth, mae cywirdeb a rhuglder wrth ddefnyddio sgiliau cyfathrebu yn gwella.

Gwelir cynnydd yn y Maes hwn hefyd drwy ddefnyddio iaith. Wrth i ddysgwyr ddod yn fwy medrus, gallant addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i feithrin cydberthnasau cryf a'r hyder i ddefnyddio eu llais mewn cymdeithas.

Gall dysgwyr ail iaith ddefnyddio iaith fformiwlaïg gydag ychydig iawn o gamgymeriadau i ddechrau ac, wrth iddynt wneud cynnydd a defnyddio iaith mewn ffordd fwy uchelgeisiol a digymell, gall ymddangos fel eu bod yn gwneud mwy o gamgymeriadau. Mae'r rhan annatod hon o'r broses o ddysgu iaith yn llwyddiannus yn arwain at ddod yn ddefnyddwyr mwy rhugl a chywir. Efallai na fydd dysgwyr ail iaith neu ddwyieithog o reidrwydd yn dangos yr un patrwm cynnydd ieithyddol â dysgwyr iaith gyntaf.

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd

Mae cydberthynas sylweddol rhwng y Maes hwn a'r dysgu ym mhob maes arall. Mae'r dysgwr yn symud ar hyd y continwwm cynnydd yn rhannol drwy wynebu heriau cyfoethog ac adnoddau yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill. Mae cysylltiad agos rhwng y meddwl sydd ei angen i ddeall a chyfathrebu'r holl ddysgu a'r hyn sy'n galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau derbyn, dehongli a mynegi iaith. Maen nhw’n gwneud cynnydd ar y cyd mewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn y Maes hwn ac mewn llythrennedd disgyblaethol yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill.

Mae'r gallu i drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau i gyd-destunau newydd yn rhan annatod o gynnydd yn y Maes hwn. Wrth i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o ieithoedd ychwanegol, caiff patrymau o ran defnydd iaith eu hadnabod, eu haddasu a'u cymhwyso mewn cyd-destunau newydd. Caiff dulliau cyfathrebu eu haddasu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, a gwahanol gyd-destunau disgyblaethol. Mae sgiliau mewn iaith gyntaf ac ail iaith dysgwyr yn eu helpu i ddysgu mewn ieithoedd dilynol. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, byddan nhw’n gallu adnabod cysylltiadau rhwng ffyrdd o gyfathrebu, gan wneud dewisiadau da ynghylch dulliau cyfathrebu effeithiol.

  • Blaenorol

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

  • Nesaf

    Disgrifiadau dysgu