English

2. Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Cwricwlwm

Mandadol

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd.

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â phobl, lleoedd a chymunedau. Mae’r Maes hwn wedi’i gynllunio i sicrhau bod dysgwyr, fel dinasyddion Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog, yn gallu defnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill mewn cyd-destun lluosieithog. Mae profiadau dysgu iaith ystyrlon yn mynd law yn llaw â dysgu am ein hunaniaeth ddiwylliannol ein hunain yn ogystal â hunaniaeth ddiwylliannol pobl eraill. Gall ymwneud â’r Maes hwn felly feithrin balchder dysgwyr yn eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn i Gymru yn ogystal â’r byd.

Drwy godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithoedd o oedran cynnar, y nod yw galluogi dysgwyr i adnabod tebygrwydd rhwng ieithoedd a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Gall dysgu a phrofiad yn y Maes hwn gefnogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o darddiad, esblygiad a nodweddion amrediad o ieithoedd. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw i feithrin eu creadigrwydd, ynghyd â chyfres o sgiliau sy’n cynnwys sgiliau cyfryngu, hyblygrwydd ac empathi.

Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch.

Mae ieithoedd a llythrennedd yn hanfodol i alluogi pobl i gyfathrebu â’i gilydd. Maen nhw’n ein galluogi i ddehongli’r hyn a glywn, a ddarllenwn ac a welwn, a thrwy hyn ddatblygu ein dealltwriaeth, ein hempathi a’n gallu i ymateb a chyfryngu’n effeithiol.

Nod y Maes hwn yw cynnig cyfleoedd i ddysgwyr brofi ieithoedd, yn ogystal â delweddau, mewn ystod o ffurfiau a genres. Gall natur gyfoethog ac amrywiol y profiadau hyn ddatblygu gallu dysgwyr i ddod yn greadigol ac yn fentrus wrth ddefnyddio amrediad o ieithoedd mewn cyd-destun lluosieithog. Gallan nhw hefyd fod o gymorth i ddysgwyr feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddehongli’n feirniadol a diduedd yr hyn y byddan nhw’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld er mwyn rhyngweithio’n effeithiol fel dinasyddion galluog, gwybodus yng Nghymru a’r byd.

Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Mae cyfathrebu clir ac effeithiol trwy ieithoedd yn un o sgiliau pwysig bywyd. Mae’n gofyn am allu defnyddio ac addasu ieithoedd mewn amrywiaeth o rolau, genres, ffurfiau, cyfryngau ac arddulliau, a hynny mewn cywair addas. Mewn cyd-destun dwyieithog ac amlieithog, mae hyn hefyd yn gofyn am allu dewis iaith briodol, a chyfryngu.

Yn y Maes hwn, dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio ieithoedd er mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol wrth ryngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth a meithrin perthynas ag eraill. Bydd y dysgu a phrofiad yn eu cefnogi i ddod yn ymwybodol o sut maen nhw’n defnyddio ystod o ieithoedd i fynegi eu hunain at wahanol ddibenion ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Ar gyfer Cymraeg neu Saesneg, mae hyn yn golygu siarad ac ysgrifennu.

Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Mae llenyddiaeth yn ehangu gorwelion. Yn ei holl ffurfiau, gall ein hysbrydoli a’n cymell, gan ein helpu hefyd i ddysgu mwy am iaith a chyfathrebu.

Bydd y Maes hwn yn cynnig profiadau llenyddol i ddysgwyr fydd yn ennyn eu diddordeb a’u dychymyg fel gwrandawyr, gwylwyr, darllenwyr, storïwyr a llenorion. Bydd y profiadau hyn yn eu cefnogi i werthfawrogi crefft llenorion a chrewyr yn ogystal â meithrin eu sgiliau creadigol eu hunain. Byddan nhw’n cael eu hannog i brofi ac ymateb i amrywiaeth o lenyddiaeth amrywiol sy’n cynnig mewnwelediad i ddiwylliant, pobl a hanes Cymru yn ogystal â’r byd ehangach. Trwy hyn, wrth i’w dealltwriaeth o’u credoau, diwylliannau a’u profiadau eu hunain a phobl eraill gynyddu, gall dysgwyr ddatblygu eu gallu i ddangos empathi. Yn ei dro, gall hyn gyfrannu at eu lles emosiynol a meddyliol. Gyda’i gilydd, nod y profiadau llenyddol hyn yw tanio dychymyg a chreadigrwydd dysgwyr a bod o gymorth i feithrin cariad gydol oes tuag at lenyddiaeth.