English

Hwb

MAES DYSGU A PHROFIADIeithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu o ran y pedwar diben.

5. Cynllunio eich cwricwlwm

Mae’r hyn yn rhoi arweiniad penodol i’w ddefnyddio wrth ymgorffori dysgu o fewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn eich cwricwlwm. Dylai gael ei ddarllen ynghyd ag adran gyffredinol Cynllunio eich cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu trwy bob maes dysgu a phrofiad.

Rhaid i gwricwlwm ymwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm. Isod, mae rhai egwyddorion allweddol y dylai lleoliadau/ysgolion eu hystyried wrth gynllunio dysgu ac addysgu yn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes).

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Llythrennedd

Dylai llythrennedd fod wrth wraidd y Maes hwn, ar draws pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Dylai sgiliau llythrennedd gael eu dysgu’n benodol yn y Maes hwn. Gall y rhain alluogi dysgwyr i fynegi’u hunain, deall a dehongli iaith lafar ac ysgrifenedig ynghyd â mynegi ystyr. Dylai lleoliadau ac ysgolion gynllunio ar gyfer cymhwyso a datblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm ar bob cam cynnydd.

Mae cwmpas eang i ddisgrifiadau dysgu y Maes hwn ac maen nhw’n cynnig cyfeirbwyntiau ar gyfer cynnydd. Ceir mwy o fanylion ar gyfer cynnydd mewn llythrennedd ar draws y cwricwlwm yn y Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol.

Rhifedd

Yn y Maes hwn mae cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau llythrennedd a rhifedd gyda’i gilydd, er enghraifft wrth ddatrys problemau ar ffurf geiriau. Dylai fod cyfleoedd hefyd i archwilio rhifedd mewn gwahanol ieithoedd, a gallai hyn atgyfnerthu dealltwriaeth gysyniadol.

Cymhwysedd digidol

Dylai dysgu yn y Maes hwn gynnig cyfleoedd i ddefnyddio gwahanol ddulliau o gyfathrebu digidol. Dylai dysgwyr ddysgu sut i gyfansoddi negeseuon clir a phriodol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, gan rannu, cydweithio, golygu ac addasu yn ôl y gofyn. Dylai cyfleoedd hefyd gael eu cynnig iddyn nhw gydweithio’n lleol a byd-eang drwy lwyfannau digidol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol ieithoedd a diwylliannau. Gall defnyddio technoleg wrth ddysgu am lenyddiaeth fod o gymorth i ddysgwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth y tu hwnt i’r testun o’u blaenau.

Sgiliau cyfannol

Creadigrwydd ac arloesedd

Dylai dysgu yn y Maes hwn gynnig cyfleoedd i arbrofi gyda, a defnyddio ieithoedd yn greadigol er mwyn rhoi’r hyder i ddysgwyr fentro, i fynegi barn ac i gynhyrchu syniadau ar draws ieithoedd. Gall hyn arwain at ganlyniadau arloesol. Gall dysgwyr ddatblygu eu creadigrwydd trwy gyfleoedd i greu a pherfformio llenyddiaeth. Gall mynegiant creadigol ddyfnhau dealltwriaeth dysgwyr o’r cysyniadau allweddol yn ogystal â dull y mynegiant ei hun.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Yn y Maes hwn dylai gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu fod yn sail i ddatblygu meddwl beirniadol a datrys problemau. Gellir mireinio’r sgiliau hyn drwy gyfathrebu gydag eraill er mwyn deall sefyllfaoedd a mynegi syniadau ac er mwyn datblygu ymatebion i broblemau.

Effeithiolrwydd personol

Dylai dysgwyr ddatblygu eu heffeithiolrwydd a’u hunanymwybyddiaeth personol wrth ddysgu a defnyddio eu hieithoedd, a bydd hyn yn ei dro yn cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm. Dylai cynnig awyrgylch sy’n ieithyddol gyfoethog gefnogi’r holl ddysgwyr i fyfyrio ar eu cryfderau eu hunain yn eu defnydd o iaith, ac adnabod eu meysydd datblygu eu hunain er mwyn datblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu yn gyson.

Cynllunio a threfnu

Dylai dysgu yn y Maes hwn alluogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau i ddethol a defnyddio ffynonellau a gwybodaeth briodol. Dylai hyn eu galluogi i drefnu syniadau, creu cynlluniau effeithiol a datblygu gweithiau creadigol. Drwy dderbyn y cyfle i ddefnyddio sgiliau llythrennedd er mwyn cyflwyno cynlluniau a gweithredu datrysiadau’n eglur, gall dysgwyr fyfyrio ar eu gwaith a chynllunio a gweithredu gwelliannau pellach.

Mae’r pedwar datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn cyfeirio at Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Dylid ystyried y pedwar datganiad yn holistaidd wrth gynllunio cwricwlwm y lleoliad neu’r ysgol. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd, gyda phob un yn cefnogi datblygiad y tri arall. Gellir datblygu pob dull o gyfathrebu, gan gynnwys gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu, trwy lenyddiaeth a thrwy archwilio’r cysylltiadau rhwng ieithoedd, diwylliant a hunaniaeth. Mae pob datganiad yn cydnabod bod dysgu sgiliau a gwybodaeth mewn un iaith yn gallu cryfhau’r wybodaeth a’r dysgu am y sgiliau hynny ymhob iaith arall.

Egwyddorion allweddol wrth gynllunio eich cwricwlwm ar gyfer y Maes hwn

Bydd angen i leoliadau ac ysgolion gynllunio er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd priodol yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol. Mae’r cysyniad continwwm dysgu iaith yn sail i gynnydd yn y Maes hwn. Bydd dysgwyr yn datblygu o fod ag ychydig neu ddim sgiliau na gwybodaeth iaith i fod yn fedrus yn yr ieithoedd maen nhw’n eu dysgu yn yr ysgol. Bydd dysgwyr yn amrywio o ran gallu yn eu hieithoedd, ac wrth i’r lleoliad neu’r ysgol gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer yr ail iaith ac ieithoedd dilynol bydd angen ystyriaeth fanwl i’r camau cynnar, megis cyfatebiaeth graffem-ffonem.

Mae’r disgrifiadau dysgu ar gyfer ‘Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd’ yn gyffredin i bob dysgwr ymhob ysgol yng Nghymru.

Mae’r disgrifiadau dysgu ar gyfer y tri datganiad arall o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn cael eu cyflwyno i adlewyrchu’r cyflymder a’r dyfnder mewn gwahanol gyd-destunau dysgu iaith. Ar gyfer y Gymraeg bydd angen i leoliadau ac ysgolion ystyried y disgrifiadau dysgu sydd fwyaf addas ar gyfer eu dysgwyr. Yn ogystal â dysgwyr mewn lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg, bydd cyflymder a dyfnder y dysgu yn y Gymraeg a ddangosir yn y disgrifiadau dysgu Cymraeg/Saesneg yn fwy addas i rai dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, rhai sydd er enghraifft wedi mynychu cylch meithrin neu wedi symud o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg.

Dangosir cynnydd mewn iaith neu ieithoedd rhyngwladol yn y disgrifiadau dysgu o Gamau cynnydd 3, 4 a 5. Yn ogystal â’r Gymraeg a’r Saesneg, dylai’r holl ddysgwyr gael y cyfle i ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol yn yr ysgol ac i ddefnyddio ieithoedd cartref ac ieithoedd cymunedol eraill y maen nhw’n eu siarad. Dylai lleoliadau ac ysgolion annog dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau amlieithog a dylai dysgwyr ddeall gwerth gallu defnyddio gwahanol ieithoedd.

Dewis yr ysgol neu glwstwr yw pa ieithoedd rhyngwladol i’w cynnig. Efallai y bydd ysgolion yn dewis cynnig gwahanol ieithoedd rhyngwladol – mae sgiliau dysgu iaith yn drosglwyddadwy, a gall dysgwyr gyfoethogi eu hymwybyddiaeth ieithyddol a rhyng-ddiwylliannol trwy gael mynediad at sawl iaith. Gall lleoliadau ac ysgolion ddymuno cydweithio ag eraill, er enghraifft er mwyn cynnig dilyniant yn yr iaith a gynigir o un cam cynnydd i’r nesaf neu fel bod gan ddysgwyr fwy o ddewis o ieithoedd rhyngwladol. Gallan nhw ddewis ieithoedd a siaredir gan staff yn yr ysgol neu yn y gymuned ehangach. Dylen nhw fanteisio ar gyfleoedd byd-eang, digidol ac yn y gymuned er mwyn atgyfnerthu dysgu ac addysgu ieithoedd.

Dylid cyfeirio at y Model Pum Cam ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) neu Cymraeg fel iaith ychwanegol (CIY) a deunyddiau cymorth wrth ystyried cynnydd dysgwyr SIY mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dysgwyr CIY mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’r Pecyn cymorth caffael iaith: arolwg asesu anghenion i athrawon cynradd ac uwchradd ar gael ar-lein ar Hwb.

Pecyn cymorth caffael iaith: Arolwg asesu anghenion ar gyfer Cymraeg fel iaith ychwanegol – Cynradd

Pecyn cymorth caffael iaith: Arolwg asesu anghenion ar gyfer Cymraeg fel iaith ychwanegol – Uwchradd

Ystyriaethau allweddol wrth gynllunio eich cwricwlwm ar gyfer y Maes hwn

Wrth gynllunio eich cwricwlwm yn eich ysgol, dylid rhoi ystyriaeth i’r math o ddarpariaeth iaith yn ogystal â’r ystod o brofiadau ieithyddol a diwylliannol sy’n cael eu cynnig i’r dysgwyr. Dylai ysgolion hefyd gynllunio ar gyfer datblygu sgiliau ymhob iaith a gynigir a sicrhau ehangder a dyfnder wrth ddewis llenyddiaeth.

Ystyriaethau ar gyfer darpariaeth a phrofiadau
  • Beth yw tirwedd ieithyddol presennol eich ysgol a’ch clwstwr? Beth yw’r ffordd orau i chi ddefnyddio hyn i fod o gymorth i’ch dysgwyr wneud cynnydd yn eu holl ieithoedd?
  • Sut y byddwch chi’n dewis pa iaith neu ieithoedd rhyngwladol i’w dysgu? Sut y byddwch chi’n darparu ehangder a dyfnder mewn ieithoedd rhyngwladol?
  • Sut y byddwch chi’n darparu cyfleoedd addas a digonol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg, Saesneg ac iaith neu ieithoedd rhyngwladol mewn cyd-destunau pwrpasol?
  • Sut y byddwch chi’n creu awyrgylch sy’n annog dysgwyr i dynnu ar eu gwybodaeth o nifer o ieithoedd, gan gynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o fewn ieithoedd (acen, tafodiaithcywair, jargon, a phriodiaith) i hybu dealltwriaeth a gwella cyfathrebu wrth ymwneud ag eraill?
  • Sut y byddwch chi’n datblygu strategaethau i gynnwys ac adeiladu ar ieithoedd cartref a diwylliannau’r dysgwyr o fewn y dosbarth?
  • Sut y byddwch chi’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr siarad yn ddigymell yn ogystal â siarad mewn sefyllfaoedd wedi’u cynllunio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gydag ystod o gyfoedion ac oedolion?
  • Sut y byddwch chi’n cynnig ystod eang o lenyddiaeth i ddysgwyr, gan gynnwys testunau amlfodd a heriol ar ffurf papur, digidol, electronig a byw, gan feithrin mwynhad yn eu darllen a gwylio pwrpasol, a’u hannog i archwilio llyfrau a thechnolegau newydd?
Ystyriaethau ar gyfer datblygiad iaith
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn parhau i wneud cynnydd yn eu holl ieithoedd beth bynnag yw eu mannau cychwyn?
  • Sut y byddwch chi’n darparu cyfleoedd i gysylltu ag eraill mewn gwahanol rannau o’r byd i gynnig cyd-destunau dilys ar gyfer datblygiad ieithyddol a diwylliannol?
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau awyrgylch ieithyddol gyfoethog ar gyfer yr holl ddysgwyr gan gynnwys awyrgylch amlieithog, wyneb yn wyneb, trwy iaith/ieithoedd digidol neu ysgrifenedig, a hyn fel model ar gyfer gwella eu sgiliau iaith eu hunain?
  • Sut y byddwch chi’n darparu datblygiad systematig o ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig?
  • Sut y byddwch chi’n cefnogi datblygiad darllen ar gyfer yr holl ddysgwyr?
  • Pa ysgogiadau perthnasol, cyffrous, dilys a heriol allwch chi eu darparu er mwyn ysbrydoli a chynorthwyo i baratoi ar gyfer siarad ac ysgrifennu pwrpasol (dan do, tu allan trwy ymweliadau/teithiau, ac ati)?
  • Sut y byddwch chi’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud cynnydd wrth iddyn nhw ddysgu siarad yn ogystal â dysgu trwy siarad?
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau mewn un iaith yn cael eu trosglwyddo i ieithoedd eraill, ac yna’n cael eu datblygu?
Ystyriaethau wrth ddethol llenyddiaeth
  • Dylai dysgwyr brofi cyfoeth o lenyddiaeth sy’n darparu cyfleoedd i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
  • Dylai ysgolion greu diwylliant darllen cadarnhaol sy’n trochi dysgwyr mewn llenyddiaeth, ac sy’n yn adlewyrchu eu diddordebau a thanio eu brwdfrydedd.
  • Dylai dysgwyr gael mynediad at ystod amrywiol o brofiadau llenyddol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
  • Dylai dysgwyr cael eu cyflwyno i lenyddiaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth a diwylliannau yn lleol, yng Nghymru yn ogystal ag yn y byd ehangach.
  • Dylai ysgolion ddewis llenyddiaeth sy’n ddigon cyfoethog a sylweddol i ddenu diddordeb dysgwyr yn ddeallusol ac emosiynol, ac sy’n gallu eu hannog i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a’u newid.
  • Dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn profi ystod o lenyddiaeth gyfoes a llenyddiaeth o wahanol gyfnodau yn y gorffennol.
  • Dylai dysgwyr gael y cyfle i brofi a dysgu am lenyddiaeth a llenorion/creuwyr sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol, boed yng Nghymru (Cymraeg/Saesneg), cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig ac/neu yn rhyngwladol (gan gynnwys llenyddiaeth Saesneg a llenyddiaeth mewn ieithoedd cartref ac ieithoedd rhyngwladol y dysgwyr). Gallai’r cyfraniad hwn fod yn nhermau maes o fewn llenyddiaeth, yn nhermau iaith neu yn nhermau diwylliant a threftadaeth.
Ystyriaethau addysgeg ar gyfer y Maes hwn

Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylid ystyried gwahanol addysgeg sy’n benodol ar gyfer y Maes hwn. Mae dysgu ac addysgu sgiliau megis gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn effeithiol yn gofyn am ddull gweithredu systematig ysgol-gyfan, felly hefyd sgiliau trawsieithyddol megis cyfryngu a thrawsieithu. Dylai ysgolion hefyd fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau rhwng caffael a dysgu iaith gyntaf, ail iaith ac ieithoedd eraill yn eu cyd-destunau, ac ystyried sut orau i sicrhau cynnydd ar gyfer yr holl ddysgwyr yn eu holl ieithoedd, er enghraifft trwy drochi, Dysgu Cynnwys ac Iaith yn Integredig (CLIL) neu weithgareddau lluosieithog.

Gellir cael mwy o wybodaeth yn:

Dulliau addysgu dwyieithog

Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth: Ymagweddau a Dulliau Addysgu Ail Iaith Effeithiol

Darllen

Yn y cyfnodau cynnar, mae dysgu darllen yn ddibynnol ar yr iaith lafar sydd gan ddysgwyr. Felly mae datblygu sgiliau gwrando a siarad da yn angenrheidiol i lwyddo wrth ddysgu darllen.

Gall dysgwyr ifanc fod yn gyfarwydd â llyfrau stori, hwiangerddi a phrint wrth iddyn nhw ddechrau addysg ffurfiol. Bydd rhai wedi dechrau adnabod llythrennau unigol a geiriau. Bydd gan eraill, fodd bynnag, brofiad mwy cyfyng o ddefnyddio iaith, rhannu straeon, caneuon a rhigymau gydag oedolion. Mewn rhai achosion, gallai dysgwyr fod ag anghenion dysgu cyffredinol neu benodol. Byddan nhw hefyd efallai yn dysgu darllen mewn iaith sy’n wahanol i’w hiaith lafar. Mae’r pwyntiau cychwynnol a phrofiadau gwahanol hyn yn golygu y dylai lleoliadau ac ysgolion wneud penderfyniadau gwybodus am sut y byddan nhw’n rhoi cymorth i ddysgwyr ddod yn ddarllenwyr llwyddiannus.

Dylai dysgwyr feithrin sgiliau darllen cynnar o fewn awyrgylch sy’n gyfoethog o ran iaith, lle mae gweithgareddau’n ystyrlon, dychmygus ac amrywiol. Dylai’r gweithgareddau hyn hybu diddordeb dysgwyr mewn mwynhau darllen, darllen i ddibenion dychmygus a darllen ar gyfer dysgu.

Mae ymchwil yn cydnabod ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig fel sgiliau gwybyddol pwysig wrth ddysgu darllen. Dylai ysgolion osod gweithdrefnau clir ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig y dysgwyr yn systematig, gan roi pwyslais ar hyn. Pan mae’n addas ar gyfer y dysgwr, dylai dysgu ffoneg fod yn systematig a chyson, gan ddigwydd gyda gweithgareddau ieithyddol eraill, sy’n hybu datblygiad geirfa a dealltwriaeth.

Nid yw gallu dadgodio geiriau yn unig yn ddigon. Dylai dysgwyr fod yn gallu gwneud synnwyr o’r hyn y maen nhw’n ei ddarllen. Dylai addysgu alluogi dysgwyr i feithrin ystod o sgiliau a chymhwyso gwahanol strategaethau i ddod yn ddarllenwyr rhugl. Dylai hyn ddarparu sylfaen gadarn iddyn nhw ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau iaith a llythrennedd.

Enghreifftio ehangder

Darperir y canlynol fel enghreifftiau o sut y gallech archwilio dysgu testunol gwahanol yn y Maes hwn. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain.

Gall meithrin gwybodaeth am ieithoedd ddatgloi straeon a hanesion enwau lleoedd megis Cymru (ac Wales) ei hun, neu Glasgow yn yr Alban neu Trelew yn yr Ariannin.  Cynigia amrediad o lenyddiaeth gan lenorion mor amrywiol â T.H. Parry Williams, Shakespeare, Manon Steffan Ros, Eric Ngalle Charles a  Russell T. Davies  wahanol bersbectifau a dehongliadau o Gymru a phrofiadau Cymreig, a allai ysbrydoli dysgwyr i fynegi eu hunaniaeth a deall newidiadau dros amser mewn cymdeithas. Mae gallu cyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol arall yn cynorthwyo dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol a llwyddiannus yng Nghymru a'r byd.

Dylai datblygu sgiliau cyfathrebu a llythrennedd effeithiol, yn ogystal â dysgu am etymoleg o fewn y Maes hwn, hwyluso cynnydd ym mhob maes dysgu a phrofiad trwy roi gwell mynediad i wybodaeth, cysyniadau a therminoleg ar gyfer dysgwyr.

Celfyddydau Mynegiannol

Gall disgyblaethau o fewn y Celfyddydau Mynegiannol gael eu defnyddio fel ffordd i ddysgwyr ddatblygu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu gan gynnwys trwy lythrennedd gweledol, meddwl creadigol ac ysgrifennu creadigol, deall cynulleidfa a diben ac addasu iaith ar gyfer cynulleidfa, cyflwyno barddoniaeth, drama, ffilm, amlgyfryngau, chwarae rôl a chanu. Mae profiadau o lenyddiaeth yn ei holl ffurfiau ar draws y ddau Faes hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sensitifrwydd ac empathi diwylliannol.

Iechyd a Lles

Mae’r ddau Faes yma yn cyfuno i ddarparu sgiliau fydd yn galluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol. Bydd hyn yn ei dro yn darparu sail ar gyfer datblygu cydberthnasau iach. Bydd datblygiad corfforol a gwybyddol yn effeithio ar gaffael lleferydd ac iaith a datblygu symudiadau echddygol manwl fel llawysgrifen. Mae sgiliau llythrennedd yn galluogi dysgwyr i archwilio testunau sy’n ymwneud ag iechyd a lles. Mae darllen ac ysgrifennu er mwyn pleser hefyd yn darparu cyfleoedd i wella ymdeimlad o les yn y dysgwr.

Dyniaethau

Mae ieithoedd a llenyddiaeth yn chwarae rhan allweddol mewn hunaniaeth ac yn gallu bod o gymorth i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad cymunedau a chymdeithasau. Mae llenyddiaeth yn darparu tystiolaeth werthfawr ar gyfer ymchwiliadau mewn dyniaethau, ac yn gallu bod yn destun yr ymchwiliadau hyn. Gall dysgwyr archwilio llenyddiaeth o ystod o ddiwylliannau a chymdeithasau, o’r gorffennol a’r presennol, o’r ardal leol, o Gymru ac o weddill y byd.

Mathemateg a Rhifedd

Gellir defnyddio caneuon a rhigymau i ddysgu rhifedd cynnar ym mhob iaith. Mae dod o hyd i batrymau a’u cymhwyso ar gyfer datrys problemau yn sgil sydd ei hangen ar gyfer cynnydd yn y ddau Faes yma.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae cyfathrebu digidol ac ieithoedd cyfrifiadurol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyswllt i atgyfnerthu dysgu ar draws y ddau Faes yma. Mae dysgwyr yn cymhwyso sgiliau llythrennedd megis iaith gyfarwyddiadol ac arsylwadol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, yn ogystal â chael mynediad at destunau, a’u cynhyrchu, a defnyddio geirfa dechnegol a gwyddonol yn gywir. Mae sgiliau cyfathrebu dylunio yn cyfuno’r ddau Faes yma wrth ddatblygu meddylfryd dylunio dysgwyr ynghyd â chyfathrebu eu syniadau i eraill.

Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y Maes hwn

Dylai dysgu yn y Maes hwn ysbrydoli a galluogi dysgwyr i:

  • ddod yn amlieithog, gallu defnyddio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol a datblygu meddwl agored a chwilfrydedd tuag at holl ieithoedd a diwylliannau y byd.
  • mwynhau dysgu ieithoedd a datblygu delwedd gadarnhaol o'u hunain fel defnyddwyr yr ieithoedd hynny
  • defnyddio iaith/ieithoedd a diwylliant/diwylliannau eu cartrefi a’u cymunedau a defnyddio’r rhain fel sail i ddysgu ieithoedd ymhellach
  • cael sail gadarn yn Gymraeg a Saesneg i adeiladu arno wrth ddysgu ieithoedd eraill ac wrth ddyfnhau eu dealltwriaeth o gyd-destunau cenedlaethol a byd-eang
  • myfyrio ar eu treftadaeth ieithyddol personol a lleol
  • dod yn wybodus am amrywiaeth treftadaeth ieithyddol a diwylliannol lleol, yng Nghymru ac yn fyd-eang
  • datblygu eu hymdeimlad o hunaniaeth ieithyddol yn lleol, yng Nghymru ac yn fyd-eang. Ble bynnag y ganwyd y dysgwyr a’u teuluoedd, mae’r dysgwyr yn cael eu haddysgu mewn ysgol yng Nghymru. Byddan nhw felly, dros gyfnod o amser, yn datblygu perthynas â Chymru a’u hymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn ogystal â chyda’r byd ehangach
  • ymdrochi eu hunain mewn diwylliannau ac ieithoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol trwy ymweliadau, gan ymwneud â phobl yn lleol a byd-eang a chysylltu’n ddigidol
  • meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant a hunaniaeth y rhai o’u hamgylch, gan greu ymagwedd o gyd-barch sy’n arwain at gydlyniant cymdeithasol
  • datblygu gwerthfawrogiad o lenyddiaeth, wedi cael ei hysbrydoli gan lenorion a chreuwyr o Gymru a’r byd ehangach.

Gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y Maes hwn

Wrth gynllunio cwricwlwm, dylai lleoliadau ac ysgolion ymgorffori cyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau sy’n eu galluogi i:

  • ddatblygu dealltwriaeth o gyfleoedd ehangach ar gyfer eu gyrfa sydd ar gael trwy ieithoedd
  • deall y gall bod yn ddwyieithog neu’n amlieithog agor drysau ym myd gwaith
  • deall y galw cynyddol am y Gymraeg yn y gweithle wrth i Gymru weithio tuag at darged y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  • gwerthfawrogi eu sgiliau yn y Gymraeg a datblygu’r sgiliau hyn ymhellach
  • deall bod sgiliau mewn ieithoedd rhyngwladol yn hanfodol i Gymru ffynnu fel cenedl fasnachol ryngwladol
  • datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol yn eu holl ieithoedd a datblygu hyder i ymwneud ag eraill a meithrin perthynas ag eraill ymhob gweithle
  • datblygu iaith sy’n ymwneud â gwaith wrth ddysgu pob iaith
  • archwilio sut gall eu sgiliau iaith fod o fudd iddyn nhw wrth iddyn nhw baratoi tuag at weithio’n ystwyth a hyblyg yng Nghymru a thu hwnt.

Addysg hawliau dynol ac amrywiaeth yn y Maes hwn

Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r cyfleoedd yn y Maes hwn i feithrin a datblygu parch ac empathi dysgwyr tuag at ieithoedd a hunaniaeth pobl eraill, tra’n dathlu a pharchu tebygrwydd a gwahaniaethau. Dylid ystyried amlieithrwydd o fewn yr ystafell ddosbarth fel cyfle i godi ymwybyddiaeth dysgwyr o amrywiaeth, a hybu cyfoeth diwylliannol yr ysgol a’r gymuned.

Dylai ysgolion anelu at feithrin perthynas gyda’r cartref a lleoliadau eraill a hybu partneriaethau. Gall cefnogi datblygiad ieithoedd cartref fod o gymorth i hyrwyddo a datblygu ymddiriedaeth, gwerthfawrogiad a pharch ar draws ieithoedd a diwylliannau.