English

2. Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Cwricwlwm

Mandadol

Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Gall y Maes hwn fod o gymorth i ddysgwyr ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a lles y corff. Mae hyn yn cynnwys arferion sy’n hybu iechyd megis gweithgareddau corfforol gan gynnwys chwaraeon a gweithgareddau eraill; deiet cytbwys; gofal a hylendid personol; cwsg; ac amddiffyn rhag haint. Mae hefyd yn cynnwys dealltwriaeth o arferion sy’n niweidio iechyd.

Trwy ddeall hyn, gall dysgwyr ddatblygu arferion gwybodus, cadarnhaol sy’n eu hannog i warchod, yn ogystal â pharchu eu hunain ac eraill. Mae’r arferion hyn yn cefnogi ymdeimlad dysgwyr o hunan-werth, eu hwyliau’n gyffredinol a’u lefelau egni.

Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddatblygu’r  hyder, cymhelliant, gallu corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd o gymorth iddyn nhw fyw bywyd iach a gweithredol sy’n hyrwyddo iechyd a lles y corff cadarnhaol.

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Gall y Maes hwn helpu dysgwyr i archwilio’r cysylltiadau rhwng eu profiadau, eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol. Wrth gael cyfleoedd i archwilio cymhlethdodau’r cysylltiadau hyn, galluogir dysgwyr i ddeall nad yw teimladau ac emosiynau’n sefydlog nac yn gyson.

Bod yn ymwybodol o’n teimladau a’n hemosiynau ein hunain sy’n rhoi’r sylfaen i ni ddatblygu empathi. Gall hyn ein galluogi i ymddwyn mewn ffordd sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol eraill. Wrth gefnogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau sydd o gymorth iddyn nhw reoli eu hemosiynau, gall hyn yn ei dro gyfrannu tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol, gan alluogi dysgwyr i sylwi pryd a lle mae ceisio help a chefnogaeth; i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ac yn gallu eirioli ar ran eraill.

Wrth ddysgu sut i fynegi eu teimladau, bydd dysgwyr mewn sefyllfa well i greu diwylliant lle mae siarad am iechyd meddwl a lles emosiynol yn weithred arferol.

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

Gall y Maes hwn helpu dysgwyr i ddeall sut mae penderfyniadau a gweithredoedd yn cael effaith ar y dysgwyr eu hunain, ar eraill, ac ar y gymdeithas ehangach, a hynny yn y presennol a’r dyfodol. Gall hefyd fod o gymorth i ddysgwyr ddeall y ffactorau sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniadau, gan eu rhoi mewn gwell safle i wneud penderfyniadau gwybodus ac ystyriol.

Gall dysgu a phrofiad yn y Maes hwn alluogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau meddwl beirniadol angenrheidiol er mwyn gallu pwyso a mesur goblygiadau posibl eu penderfyniadau, gan gynnwys y risg, iddyn nhw ac i eraill.  Gall hyn gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn penderfyniadau ar y cyd, a deall pwysigrwydd eu cyfraniad i’r broses hon.

Un penderfyniad allweddol sy’n effeithio ar ddysgwyr am oes yw’r un sy’n ymwneud â’u llwybrau gyrfa.

Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.

Gall y Maes hwn fod o gymorth i ddysgwyr ddeall rôl bwysig dylanwadau cymdeithasol ar eu bywydau.  Mae’r dylanwadau hyn yn cynnwys rheolau, normau cymdeithasol, agweddau a gwerthoedd sy’n cael eu creu a’u hatgyfnerthu gan wahanol grwpiau cymdeithasol. Trwy ymwneud â grwpiau cymdeithasol yr ydyn ni’n profi’r dylanwadau hyn.  Maen nhw’n effeithio ar ein hunaniaeth, ein gwerthoedd, ein hymddygiad ac ar ein hiechyd a lles, yn aml heb i ni sylweddoli hynny.

Bydd angen i ddysgwyr ymwneud yn feirniadol â’r dylanwadau cymdeithasol hyn o fewn eu diwylliant eu hunain yn ogystal â diwylliannau eraill, a hyn er mwyn deall sut y mae normau a gwerthoedd yn datblygu. Gall hyn eu galluogi i ddeall sut mae eu hymddygiad, eu perthynas ag eraill a’u profiadau yn cael eu llywio.

Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles.

Gall y Maes hwn helpu dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae’r ymdeimlad o berthyn a chyswllt a ddaw o berthnasau iach yn cael effaith bwerus ar iechyd a lles.

Mae angen i ddysgwyr sylweddoli pan nad yw’r cydberthnasau yn iach, a bod yn ymwybodol o sut i fod yn ddiogel, a cheisio cymorth iddyn nhw eu hunain ac i eraill.

Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddeall y byddan nhw’n cael profiad o amrywiaeth o gydberthnasau drwy gydol eu bywydau. Byddan nhw hefyd yn cael eu hannog i ddatblygu eu gallu i ffurfio, meithrin a chynnal cydberthnasau.

O ganlyniad, byddan nhw’n gweld sut mae cydberthnasau iach yn hanfodol er mwyn cynnal corff a meddwl iach, a fydd yn caniatáu i ni ffynnu.