English

2. Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Cwricwlwm

Mandadol

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.   

Mae chwilfrydedd am wyddoniaeth a thechnoleg yn ein hannog i ofyn cwestiynau am y byd o’n cwmpas. Wrth gael eu hannog i ddefnyddio rhesymeg, tystiolaeth a chreadigrwydd, caiff dysgwyr eu cefnogi i ymchwilio i wybodaeth wyddonol, a’i chymhwyso, er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae’r byd yn gweithio. Bydd datblygu a phrofi modelau defnyddiol hefyd o gymorth iddyn nhw wneud synnwyr o gymhlethdod y byd. Gyda thystiolaeth sy’n deillio o arsylwadau, gellir datblygu damcaniaethau newydd a gellir mireinio neu herio syniadau sy’n bodoli eisoes.

Bydd angen i ddysgwyr allu gwerthuso honiadau gwyddonol i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar ein hamgylchedd ac ar ein lles, gan gynnwys ynghylch newid yn yr hinsawdd. Mae’r dewisiadau a wnawn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys safbwyntiau moesol a chredoau personol. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil trylwyr a chadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer penderfyniadau. Fel dinasyddion egwyddorol wybodus, bydd angen i ddysgwyr ystyried effaith eu gweithredoedd a datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yn lleol, yng Nghymru a’r byd ehangach, gan ofyn ‘Ydy’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylen ni?’

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.

Trwy gymhwyso eu profiadau, eu sgiliau a’u gwybodaeth, gall dysgwyr ddylunio a siapio datrysiadau peirianyddol arloesol. Bydd bod yn rhan o broses ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn annog dysgwyr i fod yn greadigol er mwyn datblygu syniadau, rheoli a lliniaru risg, a lleihau cymhlethdodau. Wrth greu cynnyrch, gwasanaethau a systemau, bydd angen i ddysgwyr ddeall a rheoli’r rhyngweithio rhwng defnyddiau, strwythurau, cydrannau a defnyddwyr. Trwy gymhwyso prosesau peirianyddol, galluogir dysgwyr i ddatblygu cywirdeb, manylder, deheurwydd a chrefftwaith. Trwy ddylunio a dyfeisio canlyniadau mewn ymateb i anghenion a dymuniadau, gall dysgwyr ddod yn ddatryswyr problem blaengar.

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Trwy sylwi ar amrywiaeth pethau byw, a sut maen nhw’n ymwneud â’u hamgylchedd, gall dysgwyr ddod i ddeall sut mae’r rhain wedi esblygu dros gyfnodau sylweddol o amser. Mae angen amodau ac adnoddau penodol ar bob peth byw er mwyn goroesi, a gall fod yn rhaid iddyn nhw gystadlu ag organebau eraill er mwyn gwneud hynny. Mae pobl yn rhan o’r byd hwn o bethau byw, a gall ein penderfyniadau a’n gweithredoedd, ynghyd â’r broses ddetholiad naturiol, gael effaith sylweddol ar amrywiaeth bywyd. Mae gwybod am strwythurau a swyddogaethau pethau byw yn galluogi dysgwyr i ddeall sut mae’r rhain yn tyfu, datblygu ac atgenhedlu’n llwyddiannus. Mae datblygu dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a llwyddiant organebau yn caniatáu i ni wneud penderfyniadau gwybodus am ein iechyd corfforol a’n heffaith ar y byd naturiol, gan gynnwys chwilio am ffyrdd o atal a thrin clefydau. 

Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau.

Mae’r bydysawd a phob peth byw wedi cael eu gwneud o fater. Mae sut mae mater yn ymddwyn yn pennu priodweddau defnyddiau ac yn ein galluogi i ddefnyddio adnoddau naturiol, yn ogystal â chreu sylweddau newydd. Gall deall natur mater fod o gymorth i ddysgwyr werthfawrogi’r dylanwad y mae cemeg yn ei gael ar y byd o’u hamgylch, yn ogystal â’r ffordd y mae’n cyfrannu at ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae adweithiau cemegol yn digwydd yn gyson yn ein hamgylchedd yn ogystal ag oddi mewn i bethau byw. Mae dysgu sut i reoli a chymhwyso’r adweithiau hyn o fudd i unigolion a diwydiant.

Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.

Gellir defnyddio grymoedd ac egni er mwyn disgrifio ymddygiad popeth, o flociau adeiladu lleiaf mater i symudiad y sêr a’r planedau. Gall deall grymoedd ac egni ein helpu i ragfynegi a rheoli ymddygiad ein hamgylchedd. Gellir modelu’r syniadau hyn a’u mynegi’n ffurfiol, gan ddarparu fframwaith mathemategol cyson ar gyfer disgrifio systemau ffisegol. Mae hyn wedi arwain at rai o ddarganfyddiadau gwyddonol a chyflawniadau peirianyddol mwyaf cymdeithas. Gall deall grymoedd ac egni fod o gymorth i ddysgwyr ddod i ben â heriau yn y dyfodol ac i ddefnyddio adnoddau ein planed yn effeithlon a chynaliadwy, gan eu helpu i ddod yn ddinasyddion cyfrifol.

Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol.

Mae cyfrifiaduraeth yn ymwneud ag algorithmau yn prosesu data er mwyn datrys amrywiaeth eang o broblemau bywyd go iawn. Mae prosesau cyfrifiadurol wedi newid y ffordd rydyn ni’n byw, gweithio, astudio a rhyngweithio â’n gilydd a’n hamgylchedd. Dyma fan cychwyn pob system caledwedd a meddalwedd, ond mae angen i ddysgwyr hefyd fod yn ymwybodol o gyfyngiadau’r hyn y gall cyfrifiaduron eu cyflawni. Er mwyn creu a defnyddio’r technolegau hyn i’w llawn botensial, bydd angen i ddysgwyr wybod sut maen nhw’n gweithio. Bydd angen iddyn nhw hefyd ddeall fod yna ganlyniadau eang, yn gyfreithiol, cymdeithasol a moesol, i’r defnydd o dechnoleg. Gall hyn fod o gymorth i ddysgwyr wneud penderfyniadau gwybodus am ddatblygiad a’r defnydd o dechnoleg yn y dyfodol.