English

Hwb

Cyflwyniad i ganllawiau Cwricwlwm i Gymru

Nod canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddablygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at pedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Bydd y canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i leoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, unedau cyfeirio disgyblion (UCD) a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (DAHY), gan eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn amlinellu:

  • gofynion cwricwlwm arfaethedig a nodir mewn deddfwriaeth ar gyfer pob dysgwr 3 i 16, er mwyn sicrhau bod yr un dysgu craidd yn digwydd ym mhob ysgol, a sicrhau dull cyson ar gyfer yr holl ddysgwyr yng Nghymru
  • canllawiau i ysgolion eu defnyddio wrth ddatblygu eu cwricwla
  • disgwyliadau o ran trefniadau asesu i gefnogi cynnydd y dysgwyr

Mae’n cynnwys y canlynol.

  • Cyflwyniad i ganllawiau Gwricwlwm i Gymru.
  • Canllaw ar gyfer deddfwriaeth – amlinelliad o’r ddeddfwriaeth arfaethedig.
  • Cynllunio eich cwricwlwm – canllaw cyffredinol ar ddatblygu cwriwlwm ar draws pob maes dysgu a phrofiad [Maes/Meysydd].
  • Cyflwyniad i bob maes dysgu a phrofiad.
  • Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig – y ‘syniadau mawrion’ ac egwyddorion allweddol ymhob Maes.
  • Egwyddorion cynnydd – sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ar hyd eu dysgu ar draws y cwricwlwm.
  • Disgrifiadau dysgu – sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.
  • Cynllunio eich cwricwlwm – egwyddorion ar gyfer pob Maes – mwy o arweiniad Maes-benodol ar ddatblygu cwricwlwm.
  • Cefnogi cynnydd dysgwyr – canllawiau asesu.

Bydd Bil Cwricwlwm ac Asesu yn cael ei argymell ar gyfer cael ei gyflwyno yn y Senedd yn 2020. Er mwyn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm, byddwn yn cyhoeddi canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Mae’r ddogfen hon yn fersiwn gynnar o’r canllaw hwnnw, a’r diben yw rhoi cymorth i ysgolion ddechrau meddwl am gynllunio eu cwricwlwm a’r trefniadau asesu sy’n ei gefnogi.

Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn datgan yn glir beth sy’n bwysig wrth ddarparu addysg eang a chytbwys. Gweledigaeth ar y cyd yw’r pedwar diben, a dyma’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a ffug-wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.

Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu.

Dylai datblygu cwricwlwm fod wrth wraidd ymdrechion athrawon, ysgolion a’r cenedl i godi safonau i bawb, mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol ac sy’n ennyn hyder y cyhoedd.

Bydd y datblygu hwn hefyd yn cyfrannu tuag at ein nodau fel cenedl, sy’n cael eu hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn fodd pwysig o sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn rhan ganolog o brofiadau dysgu ein plant a’n pobl ifanc, ac o sicrhau eu bod yn deall eu hawliau.

Mae canllawiau Gwricwlwm i Gymru yn rhan o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith). Mae’r Fframwaith hwn yn sy’n cael ei bennu’n genedlaethol ac mae’n cynnwys gofynion i gwricwlwm, a fydd yn cael eu nodi mewn deddfwriaeth, ynghyd ag ystod o ganllawiau ategol.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru, a’r canllawiau arall a gyhoeddir law yn llaw ag ef, yn ffrwyth cyd-awduro. Mae wedi cael ei ddatblygu yng Nghymru gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr, gan ddwyn ynghyd arbenigedd addysgol ac ymchwil a thystiolaeth ehangach.

Mae wedi cael ei gyhoeddi’n bennaf i fod o gymorth i ysgolion ddechrau cynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y gofynion cyfreithiol arfaethedig, canllaw ar sut i ddatblygu cwricwlwm ysgol, ac esboniad o ddibenion ac egwyddorion asesu.

Dylai asesu fod yn greiddiol i gynllunio cwricwlwm. Ni fydd gofyn i’r lleoliadau nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion (UCD) a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (DAHY) hyn gynllunio cwricwlwm yn yr un ffordd ag ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig a gynhelir, a bydd canllaw pellach a manylach yn cael ei gyhoeddi yn 2021 ar gyfer y lleoliadau hyn er mwyn eu cefnogi i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â’r Fframwaith.

Canllaw cychwynnol yw canllawiau Cwricwlwm i Gymru, ac os derbynnir y Bil gan y Senedd bydd yn cael ei adolygu i adlewyrchu unrhyw newid.

Dyluniwyd Fframwaith Cwricwlwm i Gymru i fod o gymorth i athrawon ddatblygu dull mwy integredig o ddysgu. Mae’r chwe Maes yn dwyn disgyblaethau cyfarwydd ynghyd, ac yn annog cysylltiadau ystyrlon a chryf ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Bydd y disgyblaethau unigol hynny’n parhau i chwarae rhan bwysig, yn arbennig wrth i ddysgwyr ddangos cynnydd a dechrau arbenigo.

Yn ogystal â chydweithio mae’r canllaw yn annog dysgu ac addysgu traws-disgyblaethol, a hynny o fewn ac ar draws y Meysydd. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i fagu cysylltiadau ar draws eu dysgu ac i gyfuno gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau.

Mae’r Fframwaith hwn yn cynnwys 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Mae’r rhain yn sicrhau lefel o gysondeb wrth gynllunio cwricwlwm ar draws lleoliadau ac ysgolion, gan fod yn rhaid i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o’r holl ddatganiadau. Bydd y broses o archwilio ac ailymweld â’r datganiadau hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gynyddol ddyfnach ar hyd y continwwm dysgu ac i ddangos cynnydd ar y daith tuag at ddealltwriaeth fwy soffistigedig o’r wybodaeth, syniadau a’r egwyddorion allweddol ym mhob Maes.

Bydd y ddealltwriaeth fwy soffistigedig hon yn galluogi dysgwyr i werthfawrogi sut mae eu dysgu’n cyfrannu tuag at y syniadau hyn a pham mae hyn yn bwysig, yn hytrach nag adalw ffeithiau digyswllt heb ddeall y cyd-destun. Dylid cefnogi’r cynnydd hwn gydag amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n galluogi’r dysgwyr ac athrawon i ddeall ble mae’r dysgwyr wedi cyrraedd, a beth sydd angen iddyn nhw ei wneud nesaf.

Nid yw Fframwaith yn gofyn bod lleoliadau ac ysgolion yn datblygu amserlen sydd wedi’i strwythuro’n benodol yn ôl y Meysydd, na chwaith drefnu’r lleoliad/ysgol na’r staffio ar sail hyn.

Nodwedd arbennig o Fframwaith yw ei fod yn gofyn bod ysgolion yn cynllunio eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain. Ar ei ben ei hun, nid yw’n rhaglen ‘oddi ar y silff’ ar gyfer cyflawni. Mae ein dull newydd yn cydnabod:

  • rôl arweinwyr wrth alluogi dysgu ac addysgu o safon uchel. Mae sefydlu system addysg sy’n perfformio’n dda trwy ddysgu ac addysgu o safon uchel yn dibynnu ar ddatblygu’i chapasiti proffesiynol, datblygu arweinyddiaeth leol, cyfrifoldeb lleol a’r gallu i wneud penderfyniadau yn lleol
  • o fewn fframwaith cenedlaethol, mai ysgolion ac ymarferwyr yw’r rhai sydd yn y safle gorau i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion eu dysgwyr penodol nhw eu hunain, gan gynnwys pa destunau a gweithgareddau fyddai orau i gefnogi eu dysgu
  • pwysigrwydd dysgu ystyrlon: Nid yw cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar gynnwys yn gwarantu dysgu ystyrlon, dim ond bod rhai testunau yn cael eu dysgu i amrywiol raddau. Yn lle hyn, mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn anelu at fynegi pa gysyniadau a hanfodion dysgu ddylai fod yn sail i ystod o wahanol destunau, gweithgareddau dysgu a chaffael gwybodaeh
  • yr angen am arloesedd a chreadigrwydd: Ymarferwyr sy’n dewis cynnwys, gan eu galluogi i ddefnyddio’u sgiliau proffesiynol i sicrhau gwell dysgu a gwell deilliannau ar gyfer eu dysgwyr
  • cyfleoedd i athrawon wneud cysylltiadau cryfach rhwng Meysydd a disgyblaethau: Bydd gan ymarferwyr y rhyddid i ddefnyddio testunau a gweithgareddau i gyfuno dysgu ystyrlon o wahanol Feysydd, disgyblaethau a chysyniadau

Am y rhesymau hyn, nid yw’r Fframwaith yn ceisio rhagnodi rhestr lawn o destunau na gweithgareddau penodol. Nid yw hyn gyfystyr â dweud nad yw’r testunau a gweithgareddau penodol yn bwysig. Yn lle hyn, mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn gosod yr hanfodion dysgu a ddylai fod yn sail i’r testunau a’r gweithgareddau hyn.

Yr ysgolion a’r ymarferwyr, gan dynnu ar ganllawiau ac adnoddau, fydd yn dewis pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau penodol fydd yn cefnogi eu dysgwyr penodol i wireddu’r pedwar diben. Mae hynny wedi’i osod o fewn y cysondeb a ddarperir gan y fframwaith cenedlaethol. Mae’r adran Cynllunio eich cwricwlwm yn rhoi arweiniad a chefnogaeth wrth ddatblygu cwricwlwm, gan gynnig egwyddorion allweddol sy’n rhoi’r un man cychwyn i bob ysgol.

Gall lleoliadau eraill ddefnyddio hwn fel man cychwyn os dymunir, serch hynny bydd gofyn i Weinidogion Cymru:

  • ddarparu cwricwlwm fydd yn gallu cael ei fabwysiadu gan leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Pe bai lleoliad eisiau creu ei gwricwlwm ei hun, byddai angen i’r cwricwlwm hwnnw gwrdd â’r gofynion a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellid bod yn defnyddio canllawiau Cwricwlwm i Gymru er mwyn llywio’r dull o greu
  • gyhoeddi canllaw ar gyfer UCD, a’r rhai sy’n gyfrifol am ddarpapru DAHY er mwyn eu cefnogi wrth ddarparu dysgu ac addysgu sy’n cydfynd â’r Fframwaith a chyflawni eu cyfrifoldebau penodol yn y ddeddfwriaeth

Nodwedd arbennig arall o’r fframwaith yw’r pwyslais a roddir ar gynnydd dysgwyr. Cafodd canllawiau Cwricwlwm i Gymru ei lywio gan dystiolaeth ryngwladol ynghylch yr hyn a olygir gan gynnydd wrth ddysgu.

Y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yw’r sail i gynnydd y dysgwyr. Trwy archwilio’r syniadau a’r egwyddorion allweddol sy’n cael eu cynnwys yn y datganiadau hyn y byddan nhw’n datblygu eu dysgu. Bydd angen i ymarferwyr gynllunio dysgu sy’n cefnogi deall a chymhwyso’r datganiadau mewn ffordd gynyddol soffistigedig.

Gyda’i gilydd, mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn cynnig lled a dyfnder yn y cwricwlwm ynghyd â lefel o gysondeb o ran cynllunio cwricwlwm ar draws lleoliadau ac ysgolion. Dyma pam y byddan nhw’n cael eu cyfuno mewn datganiad gorfodol o’r hyn sy’n bwysig mewn dysgu cyn gynted ag y bydd y Bil Cwricwlwm ac Asesu yn dod yn ddeddf.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn disgrifio egwyddorion cynnydd ar gyfer y cwricwlwm fel cyfanwaith ac ar gyfer pob Maes unigol. Mae’r rhain yn mynegi’r ffyrdd y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn eu dysgu a chyfrannu at y pedwar diben. Caiff rhain eu hymgorffori mewn cod statudol gyn gynted ag y daw’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn ddeddf. Golyga hyn fod yn rhaid i gynnydd fod yn rhan greiddiol o ddysgu ac addysgu, a dylai fod yn sail i feddylfryd ysgolion wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol.

Caiff cynnydd ei gefnogi ymhellach gan y disgrifiadau dysgu sy’n cynnig arweiniad ar sut y dylai dysgwyr ddangos cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig wrth iddyn nhw deithio drwy’r continwwm dysgu. Maen nhw wedi’u trefnu yn bum cam cynnydd sy’n cynnwys cyfeirbwyntiau ar gyfer cyflymder y cynnydd.

Caiff y disgwyliadau hyn eu cyfleu o safbwynt y dysgwyr, ac maen nhw wedi’u gosod o fewn ffram eang fel eu bod yn gallu cynnal dysgu dros gyfres o flynyddoedd. Dydyn nhw ddim wedi cael eu cynllunio fel tasgau, gweithgareddau na meini prawf asesu i’w cymryd ar wahân. Er bod y continwwm dysgu yr un peth ar gyfer pob dysgwr, gall cyflymder y cynnydd amrywio. O ganlyniad, dim ond yn fras y mae’r camau cynnydd yn cyfateb i oedran. Yn fras maen nhw’n cyfateb i ddisgwyliadau ar gyfer oedrannau 5, 8, 11, 14 ac 16.

Gyda’i gilydd, bwriedir i’r egwyddorion cynnydd a’r disgrifiadau dysgu arwain y broses o ddatblygu cwricwlwm sy’n adlewyrchu cynnydd priodol. Gellir wedyn nodi cynnydd dysgwyr trwy asesu, gan alluogi athrawon i gynllunio dysgu ac addysgu.

Dylai cynnydd gael ei gefnogi drwy ddysgu ‘dwfn’. Mae pob disgrifiad dysgu wedi’i gynllunio i gefnogi dyfnder a soffistigeiddrwydd cynyddol yn y dysgu dros gyfnod o amser. Bydd hyn yn rhoi lle i amrywiaeth o ran gwyro, ailadrodd a myfyrio wrth i feddwl y dysgwyr ddatblygu dros amser i lefel newydd o soffistigeiddrwydd. Maen nhw hefyd wedi cael eu cynllunio i gael eu hystyried trwy ystod o gyd-destunau.

Trwy brofiadau, dylai dysgu gyfuno ystod lydan o wybodaeth a sgiliau gan alluogi’r dysgwyr i’w defnyddio a’u cymhwyso mewn cyd-destunau newydd a heriol. Asesu yw’r allwedd i gefnogi dysgu ‘dwfn’, a dylai gael ei ddefnyddio i nodi a oes angen i ddysgwyr atgyfnerthu eu dysgu, a oes angen cymorth pellach a beth yw’r camau nesaf ar gyfer cynnydd dysgwyr.

Mae asesu’n greiddiol i gynllunio cwricwlwm. Ei bwrpas cyffredinol yw cefnogi’r holl ddysgwyr i wneud cynnydd. Dylai asesu ganolbwyntio o hyd ar wthio’r dysgu yn ei flaen trwy ddeall y dysgu sydd eisoes wedi digwydd, gan ddefnyddio hyn i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael eu herio a’u cefogi’n briodol yn ôl eu hanghenion dysgu unigol.

Mae’n gofyn am bartneriaeth rhwng pob un sy’n gyfrifol, gan gynnwys y dysgwr. Dylai adnabod anghenion dysgu unigol a chefndir yr holl ddysgwyr, ac annog ystyriaeth holistaidd o’u datblygiad. Felly dylai’r ymarferwyr a’r dysgwyr ddod i ddeall sut mae’r dysgwyr yn dysgu, beth yw eu hagwedd at ddysgu a’u dull o ddysgu er mwyn eu cefnogi i barhau i wneud cynnydd ac i feithrin eu hymrwymiad tuag at eu dysgu eu hunain.