English

Hwb

Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu

Mae cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu o 3 i 16 oed yn ganolog i Gwricwlwm i Gymru. Mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol o ran galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd, a hynny ar gyflymder priodol, gan sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a’i herio’n briodol.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu prif egwyddorion a diben asesu. Mae’n rhoi cyfeiriad clir i ysgolion wrth iddynt ddatblygu eu trefniadau asesu. Er mwyn cefnogi cynnydd dysgwyr, mae’r canllawiau hyn hefyd yn cynnwys y prosesau allweddol sydd eu hangen i sicrhau cynnydd effeithiol i ddysgwyr, sef:

  • sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
  • symud ar hyd y continwwm 3 i 16
  • cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr.

Diben y canllawiau hyn, a chanllawiau ehangach Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yr un pryd, yw helpu ysgolion i ddechrau meddwl am gynllunio eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu. Maent hefyd yn anelu at gynorthwyo lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a phersonau sy’n comisiynu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) i ddeall mwy am fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r canllawiau hyn yn manylu ar yr agweddau hynny ar y trefniadau asesu yr ydym yn bwriadu iddynt fod yn statudol i ysgolion, yn ogystal â’r agweddau hynny y bydd angen i ysgolion roi sylw dyledus iddynt wrth gynllunio eu cwricwlwm ysgol. Ni ddylid cymysgu’r rhain â gweithgareddau sy’n cyfrannu at atebolrwydd allanol a monitro cenedlaethol. Mae gwybodaeth a gesglir drwy asesiadau dysgwyr unigol i’w defnyddio o fewn yr ysgol yn unig, ac ni ddylai unrhyw gorff/parti allanol ei chasglu na’i chyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol i helpu i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at addysg o safon uchel ac yn cyrraedd eu potensial llawn. I gefnogi’r ymrwymiad hwn, datblygwyd y canllawiau hyn i ystyried anghenion pob dysgwr ac i gydnabod bod eu hunaniaeth, eu hiaith, eu gallu, eu cefndir a’r cymorth sydd eu hangen arnynt o bosibl yn wahanol yn unol â’u hamgylchiadau penodol.

Sut i ddefnyddio’r canllawiau hyn

Mae asesu yn rhan sylfaenol o Gwricwlwm i Gymru ac yn greiddiol i’r broses ddysgu. Pan cyfeirir yn y canllawiau hyn at ‘cwricwlwm’, ‘dysgu ac addysgu’ neu ‘cynllunio ar gyfer dysgu’, ystyrir bod hyn yn cynnwys asesu.

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â gweddill canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar gyfer cynllunio a gweithredu’r cwricwlwm sydd ar gael ar-lein yn hwb.llyw.cymru/cwricwlwm-i-gymru

Yn ogystal â’r canllawiau ar ystod o ddysgu craidd, mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys gwybodaeth am egwyddorion cynnydd sy’n rhychwantu’r cwricwlwm cyfan, yn ogystal ag egwyddorion cynnydd ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad (Maes). Ategir yr egwyddorion cynnydd gan ddisgrifiadau dysgu sy’n rhoi arweiniad manylach ar gynnydd ym mhob Maes. Mae’r disgrifiadau’n cyfleu’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwr symud ar hyd y continwwm dysgu ac maent yn bwyntiau cyfeirio ar gyfer cyflymdra’r cynnydd hwnnw.

Dylai penaethiaid ddefnyddio’r canllawiau asesu fel sail ar gyfer trafodaethau a dysgu proffesiynol o fewn eu hysgolion. Byddant hefyd yn cefnogi trafodaethau o fewn clystyrau, a rhwydweithiau ehangach lle bo’n briodol, er mwyn datblygu dulliau cydweithredol ar gyfer cynnydd dysgwyr o fewn trefniadau’r cwricwlwm ac asesu. Bydd y canllawiau hyn hefyd yn helpu’r bobl sy’n gweithio’n agos gydag ysgolion i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru o 2022 ymlaen.

Bydd y cyfrifoldeb am roi’r canllawiau asesu ar waith yn cael ei roi ar brifathrawon a chyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir. Fodd bynnag, bydd yn bwysig i bob ymarferydd ymgyfarwyddo â’r dull a amlinellir yn y canllawiau hyn, er mwyn iddynt allu ei roi ar waith yn effeithiol o fis Medi 2022 ymlaen.

Ni fydd disgwyl i ddarparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Yn hytrach, bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cwricwlwm, gan gynnwys trefniadau asesu priodol, ar gyfer y darparwyr hyn yn 2021 i’w roi ar waith o 2022 ymlaen. Caiff canllawiau statudol ar wahân eu cyhoeddi yn 2021 i gefnogi unedau cyfeirio disgyblion a phobl sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol. Felly, er bod y canllawiau asesu hyn wedi’u hanelu’n bennaf at ysgolion, efallai y bydd darparwyr eraill yn dymuno ymgyfarwyddo â nhw i ddeall y dull sy’n cael ei weithredu o ran asesu fel sail i Gwricwlwm i Gymru.

Ein hegwyddorion allweddol

Mae asesu yn hanfodol i ddyluniad y cwricwlwm a phwrpas cyffredinol asesu o fewn y cwricwlwm yw cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Mae’n rhan annatod o ddysgu ac addysgu ac mae’n gofyn am bartneriaethau effeithiol rhwng pawb sy’n gysylltiedig, gan gynnwys y dysgwr.

Mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol o ran sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi a’i herio’n briodol. Dylai gyfrannu at ddatblygu darlun holistaidd o’r dysgwr – ei gryfderau, y ffyrdd y mae’n dysgu, a’i feysydd i’w datblygu – er mwyn llywio’r camau nesaf yn y dysgu a’r addysgu. Ni ddylid defnyddio asesu i wneud dyfarniad untro ar gyflawniad cyffredinol dysgwr ar adeg neu oedran penodol er mwyn llunio barn sy’n cyd-fynd orau â disgrifyddion neu feini prawf.

I gefnogi cynnydd dysgwyr unigol, mae gan asesu dair prif swyddogaeth – cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd; pennu cynnydd dysgwyr unigol dros amser, llunio darlun ohono, a myfyrio arno; a deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion. Wrth gynllunio a chyflwyno profiadau dysgu, dylai ysgolion ac ymarferwyr fod yn glir ynghylch rôl benodol pob asesiad sy’n cael ei gynnal, a sut y bydd y ddealltwriaeth sy’n deillio o’r asesu yn cael ei ddefnyddio, a pham.

Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd

Dylai asesu ganolbwyntio ar nodi cryfderau, cyflawniadau a meysydd i’w gwella ar gyfer pob dysgwr unigol ac, os yw’n berthnasol, unrhyw bethau sy’n eu rhwystro rhag dysgu. Dylai’r ymarferydd ddefnyddio’r ddealltwriaeth hon, mewn trafodaeth â’r dysgwr, i bennu’r camau nesaf sydd eu hangen i symud y dysgu yn ei flaen, gan gynnwys unrhyw her a chefnogaeth ychwanegol sydd eu hangen. Dylid cyflawni hyn drwy ymwreiddio a sefydlu asesu mewn arferion o ddydd i ddydd mewn ffordd sy’n ennyn diddordeb y dysgwr ac sy’n golygu na ellir gweld y gwahaniaeth rhwng asesu a dysgu. Mae hyn yn caniatáu i’r ymarferydd ymateb i anghenion unigol yr ystod lawn o ddysgwyr yn ei ddosbarth, a hynny’n barhaus. 

Pennu cynnydd dysgwyr unigol dros amser, llunio darlun ohono, a myfyrio arno

Dylai asesu gynorthwyo ymarferwyr i bennu’r cynnydd a wneir gan ddysgwr unigol, a chofnodi hyn, lle y bo’n briodol, er mwyn deall taith y dysgwr hwnnw dros wahanol gyfnodau o amser ac mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o’r modd y mae dysgwr wedi dysgu, yn ogystal â’r hyn y mae wedi’i ddysgu ac y gall ddangos ei fod wedi ei ddysgu. Bydd myfyrio ar gynnydd dysgwr dros amser yn galluogi ymarferwyr i roi adborth a helpu i gynllunio ei ddysgu at y dyfodol, gan gynnwys unrhyw ymyriadau, cymorth neu heriau ychwanegol a all fod yn ofynnol. Dylai hyn gynnwys y camau nesaf ac amcanion a nodau tymor hwy y dylai’r dysgwr weithio tuag atynt i helpu i barhau i symud ymlaen yn eu dysgu. Gellir hefyd ddefnyddio hyn fel sail ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr.

Deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion

Dylai asesu hefyd alluogi ymarferwyr ac arweinwyr o fewn ysgolion i ddeall a yw gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn gwneud y cynnydd disgwyliedig. Dylid defnyddio hyn i bennu cryfderau a meysydd i’w gwella yn y cwricwlwm ysgol ac mewn arferion dyddiol, gan gynnwys ystyried sut y mae anghenion dysgwyr fel unigolion wedi’u bodloni. Mae’r ffocws pwysig hwn yn fodd i ysgolion sicrhau bod eu cwricwlwm, a’r dysgu a’r addysgu, yn helpu i godi safonau yn ogystal â helpu i wella cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Nid adrodd allanol yw nod hyn, ond sicrhau bod ysgol yn deall yr hyn y mae angen iddi ei wybod am ei dysgwyr er mwyn iddynt i gyd wneud y mwyaf o’u potensial, a nodi heriau penodol a’r cymorth y gallai fod ei angen ar grwpiau penodol. Bydd y ddealltwriaeth hon hefyd yn cyfrannu at broses hunanwerthuso a gwelliant parhaus yr ysgol.

Dyfarnu cymwysterau allanol

Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar gynnydd dysgwyr o 3 i 16 oed ar lefel ysgol ac ystafell ddosbarth, ond mae asesu at ddibenion dyfarnu cymwysterau allanol yn wahanol o ran natur, gan fod gan gymwysterau allanol fwy o reolaeth allanol a’u bod yn fwy rhagnodedig. Mae asesu at y diben hwn y tu hwnt i gwmpas y canllawiau hyn.

Bydd cymwysterau allanol yn cael eu datblygu i adlewyrchu Cwricwlwm i Gymru ac i helpu i wireddu ei uchelgais. Mae Cymwysterau Cymru ar hyn o bryd yn ystyried cymwysterau at y dyfodol. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar-lein yn qualificationswales.org/cymraeg/cymwys-ar-gyfer-y-dyfodol

Pwy ddylai fod yn rhan o’r broses asesu?

Mae ymgysylltu gweithredol a rheolaidd rhwng y dysgwr a’r ymarferydd wrth wraidd cefnogi cynnydd dysgwyr. Er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol, mae angen i bawb sy’n ymwneud â thaith dysgwr weithio gyda’i gilydd. Mae’r sylfaen ar gyfer yr ymgysylltu a’r bartneriaeth hon yn sefydlu:

  • lle mae dysgwyr arni o ran eu dysgu
  • i ble mae angen iddynt fynd o ran eu dysgu
  • beth sydd angen ei wneud er mwyn iddynt gyrraedd yno, gan ystyried unrhyw rwystrau i’w dysgu.

Rhaid i ysgolion gynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm sy’n galluogi dysgwyr i wireddu’r pedwar diben, gan ddarparu ar gyfer cynnydd priodol i bob dysgwr. Felly, mae cefnogi cynnydd dysgwyr yn fater i’w ystyried gan ysgolion unigol. Er mwyn cefnogi’n llawn y cynnydd ar hyd y continwwm 3 i 16, dylai ysgolion hefyd weithio ar y cyd yn eu clystyrau a, lle bo’n briodol, ar draws rhwydweithiau ehangach.

Y prif gyfranogwyr yn y broses ddysgu, y mae asesu yn rhan sylfaenol ohoni, yw arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr, rhieni/gofalwyr a phartneriaid allanol. Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r prif gyfranogwyr hyn isod.

Arweinwyr

Rôl arweinwyr yw sefydlu diwylliant dysgu cadarn sy’n cefnogi ac yn herio ymarferwyr i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd priodol. Dylid cyflawni hyn drwy:

  • greu amgylchedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch o’r ddwy ochr, yn hytrach nag un sy’n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth ac adrodd
  • galluogi ymarferwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu rôl asesu yn effeithiol
  • datblygu ac ymwreiddio prosesau a strwythurau sy’n galluogi ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
  • sicrhau y datblygir ac yr adolygir cwricwlwm sy’n cynnig cyfleoedd i ymarferwyr gynllunio dysgu pwrpasol sy’n mynd i’r afael ag anghenion pob dysgwr
  • sicrhau darlun clir o gynnydd dysgwyr o fewn yr ysgol, a hwnnw’n ddarlun y mae pob ymarferydd yn ei ddeall – proses na ddylai arwain at roi baich ychwanegol ar ymarferwyr na dysgwyr
  • ystyried sut orau i ddarparu her a chefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid eraill
  • annog ymgysylltu rhwng yr holl gyfranogwyr yn y broses dysgu ac addysgu er mwyn datblygu partneriaethau effeithiol
  • sicrhau bod sylw dyledus wedi’i roi i’r gofynion statudol a’r canllawiau ar gyfer asesu, a bod ymarferwyr yn ystyried hyn wrth gynllunio dysgu ac addysgu ac yn eu harferion dyddiol.

Ymarferwyr

Rôl yr ymarferydd yw cynllunio ar gyfer, a darparu, profiadau dysgu effeithiol sy’n briodol i oedran a datblygiad pob dysgwr unigol. Dylent alluogi’r dysgwyr i werthfawrogi ble maent arni yn eu dysgu, i ble mae angen iddynt fynd nesaf, a sut y byddant yn cyrraedd yno. Dylai ymarferwyr gefnogi a herio dysgwyr yn effeithiol i sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd. Dylid cyflawni hyn drwy:

  • fod yn glir ynghylch y dysgu a fwriedir a chynllunio profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb yn unol â hynny
  • rhannu dysgu a fwriedir â dysgwyr yn briodol
  • gwerthuso dysgu, gan gynnwys drwy arsylwi, holi a thrafod
  • rhoi adborth perthnasol a phenodol sy’n ennyn diddordeb dysgwyr, yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, ac yn symud eu dysgu yn ei flaen
  • annog dysgwyr i fyfyrio ar eu cynnydd a, lle bo’n briodol, eu hannog i ystyried sut y maent wedi datblygu, pa brosesau dysgu y maent wedi manteisio arnynt, a’r hyn y maent wedi’i gyflawni
  • darparu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn asesu eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyfoedion, a’u cefnogi i ddatblygu’r sgiliau perthnasol i wneud hyn yn effeithiol
  • datblygu sgiliau dysgwyr o ran gwneud defnydd effeithiol o adborth i symud eu dysgu yn ei flaen
  • cynnwys rhieni/gofalwyr yn natblygiad a chynnydd dysgwr, gan gynnwys y dysgwr yn y ddeialog hon fwyfwy dros amser
  • cymryd rhan mewn deialog gydag arweinwyr a chyd-ymarferwyr i sicrhau bod ganddynt ddarlun clir o’r cynnydd sy’n cael ei wneud o fewn eu hysgol
  • nodi unrhyw her ychwanegol neu gymorth y gall dysgwyr fod eu hangen, gan ymgysylltu â phartneriaid allanol lle bo angen.

Dysgwyr

Rôl dysgwyr yw cyfrannu at y broses ddysgu a chymryd rhan ynddi, mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran a’u cyfnod datblygu. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth, a’u cymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau. Wrth iddynt wneud cynnydd ar hyd y continwwm a chydag annibyniaeth gynyddol, dylai’r dysgwyr gael eu cefnogi a’u hannog i:

  • ddeall ble maent yn eu dysgu a ble mae angen iddynt fynd nesaf
  • datblygu dealltwriaeth o sut y byddant yn cyrraedd yno
  • ymateb yn weithredol i adborth ar eu dysgu
  • adolygu eu cynnydd dysgu, a chyfleu hyn yn unigol a chydag eraill
  • myfyrio ar eu taith ddysgu a datblygu cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain dros amser.

Rhieni/gofalwyr a phartneriaid allanol

Mae gan rieni/gofalwyr a phartneriaid allanol rôl bwysig i’w chwarae a dylai ysgolion ymgysylltu â hwy er mwyn iddynt allu cefnogi cynnydd dysgwyr mewn ffordd briodol.

Dylai ysgolion annog a galluogi rhieni/gofalwyr i:

  • ymgysylltu’n rheolaidd â’r ysgol a’i hymarferwyr er mwyn deall a chefnogi cynnydd eu plentyn yn ei ddysgu
  • rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth berthnasol gyda’r ysgol a’i hymarferwyr, a fydd yn cefnogi dysgu a chynnydd eu plentyn
  • ymateb yn weithredol i wybodaeth a ddarperir am ddysgu eu plentyn ac, mewn cydweithrediad â’r ysgol, gynllunio ffyrdd o gefnogi’r dysgu hwnnw o fewn a’r tu allan i’r ysgol.

Dylai ysgolion ymgysylltu â phartneriaid allanol i:

  • helpu ymarferwyr i asesu a phennu anghenion dysgwyr y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac yna eu helpu drwy ddarparu cyngor a chymorth – gall hyn gynnwys cymorth addysgol arbenigol a/neu gymorth gan asiantaethau eraill (e.e. gwasanaethau iechyd)
  • darparu gwybodaeth am gynnydd dysgu sydd wedi digwydd, ac sydd wedi cael eu hasesu, mewn cyd-destunau eraill (e.e. ar gyfer dysgwyr mewn cynlluniau ar y cyd rhwng ysgol a lleoliad arall).

Trefniadau gwerthuso a gwella ac asesu

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud ag asesu, sy’n canolbwyntio ar gynnydd dysgwyr. Mae trefniadau gwerthuso a gwella o fewn y system addysg ar wahân, ond gallant ddylanwadu ar y  canfyddiad a geir o asesu, a sut y caiff ei gyflawni. Felly, rydym yn newid ein trefniadau gwerthuso a gwella fel eu bod yn cefnogi’r broses o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru.

Nod y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yw ysgogi ymddygiad sy’n ategu ac yn galluogi ein gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ac asesu fel rhan o system sy’n gwella ei hun. Dylai ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion fod â’r hyder i ddysgu a gwella eu harferion yn barhaus. Bydd hyn yn eu galluogi i ffynnu mewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol a fydd yn codi safonau ac yn sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cyflawni ei botensial.

Wrth wraidd y trefniadau gwerthuso a gwella mae hunanwerthuso effeithiol. Mae hyn yn gwneud cyfraniad hollbwysig at wella ansawdd addysg a safonau cyflawniad. Er mwyn cefnogi hyn, rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu a mireinio ymhellach yr Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol sy’n anelu at sicrhau cysondeb cenedlaethol o ran hunanwerthuso ledled Cymru. Bydd yn tynnu’r arferion gorau o bob rhan o’r sector addysg a bydd o werth, ac yn ddefnyddiol yn ymarferol, i ysgolion i gefnogi eu dulliau hunanwerthuso.

Bydd yn hyrwyddo diwylliant o fyfyrio, deialog a dysgu proffesiynol, a bydd rôl iddo o ran meithrin gallu ar draws y system i gefnogi’r daith ddiwygio.

Bydd hunanwerthuso yn annog ysgolion i fyfyrio ar eu dulliau o gynllunio, datblygu a gweithredu eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu. Bydd yn galluogi ysgolion i ddatblygu’r dysgu a’r addysgu ymhellach i sicrhau eu bod yn effeithiol o ran cefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd y datblygiadau hyn, yn eu tro, yn cael eu hadlewyrchu mewn arferion dyddiol.

Ceir rhagor o wybodaeth am gynigion ar gyfer sut y dylid dal ysgolion i gyfrif ar-lein yn llyw.cymru/trefniadau-gwerthuso-gwella-ysgolion-atebolrwydd

Gosod targedau ysgol

Dylai targedau ysgol ddeillio o werthusiad parhaus o ystod eang o wybodaeth a gwaith yr ysgol gyfan, gan adlewyrchu cryfderau a meysydd i’w gwella, a chan ganolbwyntio  adnoddau ar godi deilliannau i ddysgwyr, a chefnogi cynnydd pob dysgwr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir ei disgwyliad mai dim ond i gefnogi hunanwerthuso a chynllunio gwelliant ar lefel ysgol y dylid defnyddio targedau ysgol. Ni ddylid eu hystyried yn fesur perfformiad, ar lefel awdurdod lleol na rhanbarthol, i’w ddefnyddio wedyn i ddwyn ysgolion i gyfrif. Ni ddylent ychwaith gael eu defnyddio i dynnu cymariaethau rhwng ysgolion; mewn gwirionedd, byddai gwneud hynny’n wrthreddfol  i system sy’n gwella ei hun.

Er y gellir ystyried gwybodaeth a gesglir drwy asesiadau dysgwyr unigol wrth hunanwerthuso a gosod targedau o fewn ysgol, ni ddylai’r gweithgareddau hyn gael eu cyfuno ag atebolrwydd allanol ar lefel awdurdod lleol, rhanbarthol na chenedlaethol.

Ceir rhagor o wybodaeth am gynigion ar gyfer sut y dylid dal ysgolion i gyfrif ar-lein yn llyw.cymru/rheoliadau-syn-ymdrin-pherfformiad-thargedau-absenoldeb-ar-lefel-ysgol

Bwriedir i’r egwyddorion cynnydd a’r disgrifiadau dysgu, a fynegir yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru, arwain y broses o gynllunio’r cwricwlwm a dysgu ac addysgu, gydag asesu’n rhan annatod o’r ddau.

Mae trefniadau asesu ar lefel ysgol yn fater i bob ysgol ei benderfynu fel rhan o’r cynllunio ar gyfer ei gwricwlwm ei hun. Dylai hyn fod yn briodol ar gyfer anghenion holl ddysgwyr yr ysgol. O fewn cwricwlwm pob ysgol, bydd angen cynllunio a darparu trefniadau asesu yn unol â’r canlynol.

  • Gofynion statudol – Dyma’r dyletswyddau cyfreithiol mae’n rhaid eu cyflawni yn ôl y gyfraith. Mae’r dyletswyddau arfaethedig ar gyfer ysgolion wedi’u nodi yn adran ‘Y gyfraith’ yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru (llyw.cymru/cwricwlwm-i-gymru/crynodeb-o-ddeddwriaeth)
  • Canllawiau statudol, gan gynnwys egwyddorion allweddol asesu (fel y’u hamlinellir yn y canllawiau hyn) – Dyma’r elfennau y mae’n rhaid i brifathrawon a chyrff llywodraethu eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer dysgu ar lefel ysgol ac yn yr ystafell ddosbarth.
  • Cynlluniau’r ysgol – Dyma’r elfennau y gall pob ysgol ddewis eu datblygu a’u gweithredu i gefnogi asesu, yn ogystal â’r uchod. Fel rhan o hyn, dylai ysgolion ystyried datblygu dulliau cydweithredol drwy gymryd rhan mewn clystyrau a rhwydweithiau ehangach.
  • Anghenion dysgwyr unigol – Dyma’r elfennau y gall ysgol ddewis eu gweithredu i gefnogi anghenion dysgwyr unigol er mwyn darparu her neu gefnogaeth ychwanegol.

Mae nifer o faterion sylfaenol y dylai ysgolion eu hystyried wrth gynllunio eu cwricwlwm a darparu profiadau dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r rhain fel a ganlyn.

Ehangder a dyfnder

  • Dylai asesu fod yn broses barhaus sy’n rhan annatod o arferion dyddiol ac sy’n hanfodol i’r broses ddysgu.
  • Mae cynnydd mewn dysgu yn broses o ddatblygu’n fwyfwy soffistigedig, yn hytrach na’n gorff o gynnwys i’w astudio. Nid yw cynnydd yn llinol ac mae dysgwyr gwahanol yn debygol o symud ymlaen a gwneud cynnydd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Dylai asesu, sy’n rhan o gwricwlwm yr ysgol, gydnabod hyn a chaniatáu gwyro, stopio a chyflymu yn nhaith y dysgwr.
  • Dylai dysgwyr gael eu hasesu mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol, a fydd wedi’i gynllunio i adlewyrchu egwyddorion cenedlaethol cynnydd, gan ddefnyddio’r disgrifiadau dysgu. Dylai ymarferwyr asesu pob dysgwr ar draws y continwwm 3 i 16 yn seiliedig ar y cynnydd a fynegir yn eu cwricwlwm ysgol. Wrth wneud hynny, dylent ystyried anghenion amrywiol dysgwyr unigol.
  • Ni ddylai ysgolion ymgymryd â gweithgareddau asesu penodol ym mhob cam cynnydd i lunio barn am gynnydd dysgwr ar adeg neu oedran penodol.
  • Diben y disgrifiadau dysgu yw darparu arweiniad ar gyflymder cynnydd er mwyn cefnogi ymarferwyr a llywio’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm a dysgu ac addysgu. Nid cyfres o feini prawf ydynt i’w hasesu’n uniongyrchol yn eu herbyn, ac ni ellir ychwaith eu bodloni gyda thasgau asesu unigol.
  • Fel rhan o’r broses ddysgu, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o sut mae pob dysgwr yn dysgu a beth yw ei agwedd a’i ddull o ddysgu, er mwyn cefnogi ei gynnydd parhaus a meithrin ymrwymiad i’w ddysgu.

 Dull

  • Pan fydd dysgwr yn dechrau mewn ysgol ar unrhyw adeg, dylai’r ysgol sicrhau ei bod yn deall ble mae’r dysgwr arni yn ei ddysgu a’r cynnydd y mae wedi’i wneud hyd yma. Dylid defnyddio’r ddealltwriaeth hon i nodi man cychwyn y dysgwr a’r ffordd orau i’r ysgol symud y dysgu yn ei flaen. Dylai ymarferwyr roi ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarperir gan ymarferwyr sydd wedi cefnogi addysg y dysgwr yn y gorffennol.
  • Mae asesu yn allweddol i gefnogi dysgu dwfn a dylid ei ddefnyddio i nodi a oes angen i ddysgwr atgyfnerthu dysgu, a oes angen cymorth pellach a/neu a all y dysgwr symud ymlaen i’r camau dysgu nesaf.
  • Dylid defnyddio asesu arsylwadol a dylai ymarferwyr chwilio am dystiolaeth o ‘ddysgu wedi’i wreiddio’ i asesu’r hyn y gall dysgwr ei wneud yn gyson ac yn annibynnol mewn ystod o brofiadau dysgu. Dylid seilio hyn ar ddealltwriaeth dda o ddatblygiad plant.
  • Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd ar hyd y continwwm 3 i 16, dylent ymwneud yn fwy uniongyrchol â’r broses asesu. Dylai ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr asesu cyfoedion a hunanasesu, gan eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau hyn mewn ffordd sy’n briodol i gam datblygiadol pob dysgwr.
  • Dylai ysgolion gynllunio ystod o ddulliau a thechnegau asesu sy’n addas i’r diben ac sy’n cefnogi cynnydd ar draws y cwricwlwm cyfan. Gall rhai o’r rhain fod yn benodol i feysydd dysgu a phrofiad unigol, gall rhai fod yn berthnasol i fwy nag un Maes, a gall eraill fod yn benodol ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
  • Dylid dewis dulliau a thechnegau asesu, a’u haddasu lle bo’n briodol, yn unol ag anghenion y dysgwr. Dylai hyn ystyried y cam datblygiadol ac unrhyw rwystrau i ddysgu, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos cynnydd yn unol â’i allu unigol.
  • Mae asesiadau personol ar-lein statudol wedi’u cynllunio i helpu’r ymarferydd a’r dysgwr i ddeall sut mae sgiliau darllen a rhifedd dysgwr yn datblygu, a beth ddylai’r camau nesaf fod. Cynllunnir asesiadau personol ar-lein i gefnogi dysgu ac addysgu ac ni ddylent gael eu defnyddio at ddibenion atebolrwydd allanol.

Cofnodi cynnydd dysgwyr

Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried pa wybodaeth asesu y mae angen ei chasglu a’i chofnodi er mwyn mesur cynnydd mewn dysgu, ynghyd â phryd y dylid gwneud hyn ac ym mha lefel o fanylder.

Dylai penaethiaid sicrhau bod yr wybodaeth a gesglir am gynnydd dysgwyr yn gyfrannol a dylai’r wybodaeth ond gael ei defnyddio yn yr ysgol i gefnogi cynnydd y dysgwyr a llywio’r addysgu yn uniongyrchol. Ni ddylid ei defnyddio at ddibenion atebolrwydd allanol. Gellir ei ddefnyddio i:

  • lywio gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr
  • cefnogi’r broses o gefnogi taith dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16
  • helpu ymarferwyr ac arweinwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o gynnydd
  • llywio datblygiad y cwricwlwm a llywio dysgu ac addysgu at y dyfodol
  • nodi ble mae angen gwella a ble mae angen cymorth fel rhan o broses hunanwerthuso’r ysgol.

Mae cynnydd yn agwedd sylfaenol ar gynllunio cwricwlwm ysgol, ac felly’r trefniadau asesu. Er mwyn sicrhau cydraddoldeb a thegwch i ddysgwyr ledled Cymru, mae’n hanfodol sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, gan gynnwys y disgwyliadau o ran y math o gynnydd, a pha mor gyflym y gall dysgwyr symud ymlaen. Dylid datblygu’r gyd-ddealltwriaeth hon trwy ddysgu proffesiynol ac fel proses barhaus o fewn ac ar draws ysgolion – ac mae deialog broffesiynol yn agwedd sylfaenol ar hyn.

Mae deialog broffesiynol i’r diben hwn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr ac ymarferwyr rannu a myfyrio ar effaith eu cwricwlwm ysgol, eu profiadau o’r broses ddysgu ac o gefnogi  pob dysgwr i wneud cynnydd. Mae hyn yn eu galluogi i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i gefnogi proses o welliant parhaus. Mae hyn yn rhan o’r rhyngweithio sy’n digwydd bob dydd fel rhan o’r dysgu a’r addysgu, ac mae’n adeiladu ar y rhyngweithiadau hynny, e.e. dysgwr i ddysgwr, dysgwr i ymarferydd ac ymarferydd i arweinydd. Bydd yn helpu arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall yr effaith y mae dysgu ac addysgu yn ei chael ar bawb sy’n gysylltiedig.

Yn ystod y broses o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, dylai arweinwyr ac ymarferwyr ystyried:

  • sut mae eu hysgol wedi cynllunio ei chwricwlwm a’i threfniadau asesu i adlewyrchu’r egwyddorion cynnydd, gydag arweiniad gan y disgrifiadau dysgu
  • yr effaith a gafodd hyn ar addysgu
  • yr effaith a gafodd hyn ar ddysgwyr unigol a sut y dangosir hyn yn eu cynnydd a’u deilliannau dysgu
  • y broses ddysgu, h.y. sut mae eu dysgwyr yn dysgu.

Dylai’r mewnwelediad a’r ddealltwriaeth a geir o ganlyniad i’r ddeialog broffesiynol hon lywio proses hunanwerthuso pob ysgol, gan helpu i ddiffinio blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer arweinyddiaeth, cynllunio’r cwricwlwm a dysgu ac addysgu.

Deialog broffesiynol o fewn ysgol

Rhaid i ysgolion ddatblygu a sefydlu proses a strwythurau sy’n galluogi’r staff yn eu hysgol i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd fel y’i mynegir yn yr egwyddorion cynnydd, gan ddefnyddio’r disgrifiadau dysgu a chanllawiau eraill Cwricwlwm i Gymru. Fel rhan o hyn, dylai ysgolion sicrhau bod pob ymarferydd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol o fewn eu hysgol i’r diben hwn. Dylai’r broses hon hefyd sicrhau bod y ddealltwriaeth hon yn cael ei hadlewyrchu wrth ddatblygu a mireinio cwricwlwm yr ysgol ac arferion dyddiol.

Dylai hon fod yn broses barhaus sydd yn rhoi ystyriaeth i’r cwricwlwm ysgol yn ei gyfanrwydd.

Deialog broffesiynol rhwng ysgolion

Dylai deialog broffesiynol rhwng ysgolion er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd hefyd fod yn broses barhaus sy’n rhoi ystyriaeth i’r cwricwlwm cyfan. Dylai adeiladu ar y ddeialog broffesiynol sydd wedi digwydd mewn ysgolion, a dylai alluogi ysgolion i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Rhaid i ysgolion weithio gyda’u clwstwr i roi trefniadau a phrosesau priodol ar waith i gefnogi hyn, gyda phob ysgol yn cymryd rhan yn gyfartal. Dylai ysgolion y clwstwr weithio gyda’i gilydd i sefydlu’r ffyrdd mwyaf effeithiol o weithio.

Dylai ysgolion berthyn i o leiaf un grŵp arall yn ogystal â’u clwstwr, at ddibenion datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Disgwylir i ysgolion uwchradd sicrhau eu bod yn aelod o grŵp sydd ag o leiaf un ysgol uwchradd arall ynddo. Mae hyn er mwyn cael mwy o gysondeb yn y ddealltwriaeth o gynnydd ar draws rhan olaf y continwwm dysgu a sicrhau bod ysgolion yn cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon sy’n cwmpasu holl ystod y continwwm 3 i 16.

Deialog broffesiynol yn cynnwys lleoliadau a ariennir nas cynhelir

Dylai ysgolion annog darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir i ddod yn aelodau o grŵp sydd â chylch gwaith i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i gymryd rhan yn y ddeialog broffesiynol sy’n digwydd fel rhan o’r broses hon. Bydd hyn yn helpu lleoliadau ac ysgolion i ddeall cynnydd dysgwyr ar draws y continwwm 3 i 16 cyfan mewn ffordd sy’n briodol i ddysgwyr ar bob cam o’u datblygiad.

Mewnbynnau i gefnogi deialog broffesiynol

Gall deialog broffesiynol at ddibenion datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ystyried y mewnbynnau canlynol:

  • enghreifftiau o gwricwlwm yr ysgol
  • enghreifftiau o gynllunio dosbarth
  • enghreifftiau o weithgareddau dysgu ac addysgu
  • enghreifftiau o ddysgu – y prosesau a’r deilliannau
  • enghreifftiau o gymorth ychwanegol a ddarperir.

Ni ddylid cynhyrchu enghreifftiau yn benodol ar gyfer y broses hon.

Cynnwys y dysgwr

Dylai dysgwyr gael mewnbwn i’r broses ddeialog broffesiynol, lle bo’n bosibl, drwy ddarparu tystiolaeth o’u cynnydd a’u hunanfyfyrio. Dylid ceisio mewnbwn gan ystod o ddysgwyr a’u cynnydd dysgu unigol.

Deilliannau

Dylai ysgolion sicrhau bod deilliannau’r broses hon yn cael eu hystyried fel rhan o’u proses hunanwerthuso barhaus a’u bod yn cael eu defnyddio i fyfyrio ar eu proses o gynllunio’r cwricwlwm.

Rôl yr awdurdod lleol a chonsortia rhanbarthol

Mae gan yr awdurdod lleol a chonsortia rhanbarthol rôl bwysig o ran sicrhau bod pob ymarferydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol ystyrlon at ddibenion datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Dylai’r rôl hon fod yn gefnogol, gan adeiladu ar yr arferion sydd eisoes wedi’u sefydlu ar lefel ysgol a chlwstwr, ac ni ddylai ymwneud ag atebolrwydd allanol. Bydd ganddynt hefyd rôl bwysig wrth helpu i nodi a rhannu arferion da.

Dylai’r dysgwr fod yn ganolog i’r broses pontio. Mae pontio effeithiol yn golygu cefnogi
pob dysgwr ar hyd y continwwm dysgu, wrth iddynt symud rhwng gwahanol grwpiau, dosbarthiadau gwahanol, blynyddoedd gwahanol a lleoliadau gwahanol. Dylai sicrhau lles pob dysgwr fod yn rhan bwysig ac annatod o’r broses, gan gydnabod anghenion unigolion, a chefnogi parhad a chynnydd yn eu dysgu. Mae’r ddealltwriaeth a geir o bob dysgwr unigol drwy asesu yn hanfodol i gefnogi’r broses hon.

Cynllunio pontio

Dylai penaethiaid a chyrff llywodraethu sicrhau bod trefniadau pontio’n cael eu hystyried pan fydd cwricwla ysgol yn cael eu cynllunio. Mae hyn yn cynnwys datblygu a sefydlu proses gadarn ac effeithiol ar gyfer cefnogi dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16. Dylai hon fod yn broses barhaus, sy’n cydnabod anghenion amrywiol pob dysgwr ac sy’n cefnogi pob unigolyn yn ei daith ddysgu.

Er mwyn diwallu anghenion pob dysgwr o fewn eu clwstwr, rhaid i ysgolion gynllunio ar y cyd i gefnogi cynnydd dysgwyr, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu effeithiol rhwng ymarferwyr, dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr. Dylai hyn adeiladu ar unrhyw gynllunio ar gyfer cwricwlwm ac asesu sy’n digwydd ar draws y clwstwr.

I gefnogi’r broses hon a sicrhau lles dysgwyr:

  • dylai ysgolion cynradd ymgysylltu ag arweinwyr lleoliadau a ariennir nas cynhelir
  • dylai ysgolion cynradd ac uwchradd ymgysylltu â’i gilydd
  • dylai ysgolion cynradd ac uwchradd ymgysylltu ag arweinwyr unedau cyfeirio disgyblion.

Anogir ysgolion uwchradd hefyd i ymgysylltu ag arweinwyr lleoliadau ôl-16, e.e. sefydliadau addysg bellach.

Dylai gwybodaeth a rennir fel rhan o’r broses bontio ganolbwyntio ar anghenion a lles cyffredinol y dysgwr. Yn ogystal, dylid darparu darlun clir, holistaidd o gynnydd y dysgwr ar draws y cwricwlwm ysgol i gefnogi eu taith barhaus ar hyd y continwwm dysgu. Dylid darparu hyn ar y cyd â hanes unrhyw her neu gymorth ychwanegol a ddarperir.

Cynnwys y dysgwr

Dylai dysgwyr gael eu cynnwys yn y broses bontio er mwyn rhoi cipolwg ar yr hyn sy’n eu cymell, beth sy’n well ganyddynt, sut maent yn dysgu, pa rwystrau a all fod i’w dysgu, beth yw eu cryfderau a’r meysydd i’w datblygu, yn ogystal ag awgrymu camau nesaf posibl

Mae cyfathrebu’n effeithiol a pharhaus â rhieni/gofalwyr yn ffordd bwysig o feithrin perthnasoedd cadarnhaol er mwyn ymgysylltu a chynnal deialog bwrpasol ac ystyrlon. O’u gwneud yn dda, gall yr ymgysylltiadau hyn helpu i gynorthwyo cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni/gofalwyr i ddeall sut y gallant gefnogi dysgu o fewn amgylchedd yr ysgol a’r tu allan iddo. Dylid hefyd ystyried pobl eraill sy’n bwysig i ddysgwr, fel eu heiriolwr neu weithiwr cymdeithasol.

Dylai ysgolion ddatblygu a gweithredu prosesau i gefnogi cyfathrebu effeithiol dwyffordd ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr. Wrth ddatblygu’r prosesau hyn, dylid ystyried defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau cyfathrebu gwahanol, e.e. wyneb yn wyneb, digidol, ysgrifenedig, ac ati.

O ran gwybodaeth am ddysgwyr unigol, penderfyniad i ysgolion yw beth i’w rannu â rhieni/gofalwyr, a sut a phryd yn ystod y flwyddyn ysgol i wneud hynny. Fodd bynnag, dylid cymryd gofal i sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei darparu mewn modd amserol, agored a theg. Dylid hefyd rannu gwybodaeth am unrhyw gymorth, ymyriadau neu anghenion ychwanegol.

Cynnwys y dysgwyr

Dylai penaethiaid sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i gyfrannu at y broses gyfathrebu. Lle bo’n bosibl, dylid galluogi dysgwyr i gasglu enghreifftiau o’u dysgu, mynegi eu cynnydd a’u cyflawniadau eu hunain, a chyfleu eu dyheadau a’u safbwyntiau ar y camau nesaf yn eu dysgu. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod yn broses gyfathrebu tair ffordd rhwng y dysgwyr, eu rhiant(rhieni)/ gofalwr(gofalwyr) ac ymarferwyr.

Cynlluniau ychwanegol dysgwyr

Os oes gan ddysgwr gynllun dysgu unigol, gan gynnwys cynllun datblygu unigol (CDU) ffurfiol, dylai’r broses gyfathrebu ac ymgysylltu ystyried hyn a sicrhau bod y rhieni/gofalwyr yn ymwybodol o’r cynllun, ei gynnwys ac unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod angen iddynt ei ddarparu. Dylid creu CDU ffurfiol ar y cyd â’r dysgwr a/neu’r rhiant(rhieni)/gofalwr(gofalwyr).

Adrodd ar gynnydd dysgwyr

Fel rhan o’r broses gyfathrebu ac ymgysylltu hon, rhaid i ysgolion sicrhau eu bod yn adrodd yn ffurfiol i rieni/gofalwyr o leiaf unwaith y flwyddyn ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Dylid amseru hyn er mwyn gallu cynnal trafodaethau pellach rhwng ymarferwyr, y dysgwr a’u rhieni/gofalwyr ac er mwyn i’r camau nesaf gael eu rhoi ar waith.

Rhaid i’r adroddiad ffurfiol gynnwys yr wybodaeth ganlynol am bob dysgwr:

  • eu lles cyffredinol
  • eu cynnydd o ran dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan
  • y camau nesaf sydd eu hangen i gefnogi eu cynnydd
  • eu presenoldeb.

Gall ysgolion ddewis cyfathrebu’r wybodaeth uchod drwy fwy nag un adroddiad neu ar fwy nag un achlysur yn ystod y flwyddyn os dymunant.

Dylai’r wybodaeth a ddarperir gael ei theilwra’n unigol i’r dysgwr a dylai ganolbwyntio
ar gefnogi ei ddatblygiad a’i gynnydd. Ni ddylai gynnwys disgrifiadau o’r pynciau a’r gweithgareddau dysgu y mae’r dysgwr wedi’u cyflawni, oni bai bod hyn i ddarparu
cyd-destun. Er mwyn sicrhau bod y gynulleidfa darged yn gallu deall yr wybodaeth yn hawdd, dylai fod yn gryno ac yn rhydd o jargon.

Er bod darparu adroddiadau ar asesiadau personol i rieni/gofalwyr yn ofyniad statudol, elfen fach yn unig ydyw o’r hyn y gellir ei ddarparu, a dylid ei ystyried yng nghyd-destun y broses gyfathrebu ac ymgysylltu ehangach â rhieni/gofalwyr.