English

Nod yr asesiadau hyn yw darganfod cryfderau plant a meysydd i’w gwella er mwyn i’w hathrawon allu eu helpu i ddatblygu eu sgiliau.

Ar ôl i’ch plentyn gwblhau asesiad personol, bydd ei athro/athrawes yn gallu gweld adborth ar ei sgiliau a’i gynnydd sy’n helpu’r athro/athrawes i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer addysgu eich plentyn.

Bydd ysgolion yn ystyried yr amseriad a'r dulliau mwyaf priodol ar gyfer rhannu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr, gan gynnwys yr adborth o asesiadau personol. Anogir ysgolion i rannu’r wybodaeth â rhieni/gofalwyr tra bod yr wybodaeth yn gyfredol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai ysgolion yn penderfynu aros tan yn hwyrach yn y flwyddyn ysgol, e.e. noson rieni, i drafod cynnydd eich plentyn yn seiliedig ar adborth o un neu fwy o asesiadau ac arsylwadau’r athro/athrawes o addysgu eich plentyn.

  • Gwneir yr asesiadau personol ar-lein ac maent yn addasol, sy'n golygu y caiff y cwestiynau eu dewis ar sail ymateb dysgwr i'r cwestiynau blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob dysgwr a bydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau drwy ddeall yr hyn y gallant ei wneud, yr hyn y mae angen iddynt ei wella, a'u camau nesaf.
  • Mae'r asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau dysgwyr unigol, grwpiau a dosbarthiadau cyfan.
  • Nid oes unrhyw adeg benodol o’r flwyddyn wedi’i phennu ar gyfer asesiadau personol na ‘ffenest asesu’, mae amseriad yn cael ei benderfynu gan yr ysgol.
  • Gall y dysgwyr sefyll yr asesiadau naill ai mewn grwpiau bach neu grwpiau mawr, yn dibynnu ar ddewisiadau a chyfleusterau'r ysgol.
  • Mae rhaid i ddysgwyr sefyll yr asesiadau unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion hefyd ddefnyddio'r asesiad unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd.
  • Offeryn y gall ysgolion ei ddefnyddio fel rhan o’u prosesau asesu ehangach o dan Cwricwlwm i Gymru yw’r asesiadau personol.