English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, myfyrwyr GAG, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Datblygwyd ystod o offer ar gyfer dysgu ac addysgu gan randdeiliaid Hwb, ar gyfer Hwb. Mae’r rhain yn cynnwys offer ar gyfer y canlynol:

  • creu a rhannu adnoddau
  • trefniadau cydweithio ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol a dysgwyr
  • creu aseiniadau

Yn ogystal, gallwch ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau trydydd parti gyda'ch cyfrif Hwb, gan gynnwys:

Mynediad at Offer Hwb

Wedi mewngofnodi, gellir cael mynediad at Offer Hwb yn uniongyrchol o Hwb.

Gwybodaeth

Bydd yn rhaid i athrawon ymuno â Chymuned Hwb cyn cael mynediad at holl Offer Hwb.


Mae ymuno â Chymuned Hwb yn eich galluogi i gael gafael ar adnoddau sydd wedi cael eu creu gan athrawon eraill yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i chi rannu’r hyn rydych chi wedi’i greu. Drwy ymuno â Chymuned Hwb rydych chi’n cael gweld yr amrywiaeth o adnoddau ac offer newydd sydd wedi cael eu creu gan ymarferwyr dysgu, ac ar eu cyfer. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn Rhwydweithiau Hwb pan fyddwch yn ymuno â Chymuned Hwb.

Gwybodaeth

Ni chaniateir mynediad i ddysgwyr i Gymuned Hwb.

Pan fydd y rhai nad ydynt yn ddysgwyr yn mewngofnodi i Hwb am y tro cyntaf, byddan nhw’n gweld blwch glas yn eu gwahodd i ymuno â Chymuned Hwb. Cliciwch drwyddo, a chytuno i’r telerau ac amodau ychwanegol i ymuno â Chymuned Hwb.

Os ydych chi wedi cau’r ffenestr naid las yn barod, gallwch ymuno â Chymuned Hwb drwy ddilyn y camau canlynol:

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a dewiswch Gweld Proffil.
  3. Cliciwch ar y ‘cog’ gosodiadau (ar ochr dde’r dudalen).
  4. Cliciwch ar y tab Arall.
  5. Cliciwch ar Ymuno â Chymuned Hwb.

Proffil defnyddiwr

Pan fyddwch chi’n ymuno â Chymuned Hwb am y tro cyntaf, gofynnir i chi gwblhau eich proffil defnyddiwr.

Gallwch weld a golygu eich proffil defnyddiwr ar unrhyw adeg drwy glicio ar eich enw yng nghornel dde uchaf y sgrin. Does dim rhaid i chi lenwi’r wybodaeth hon os nad ydych chi’n dymuno.


Mae Hwb yn dal ystorfa genedlaethol o fwy na 100,000 o adnoddau addysgol dwyieithog gyda’r ansawdd wedi’i sicrhau. Maen nhw’n cynnwys adnoddau sy’n benodol i bwnc ar draws yr holl gyfnodau allweddol a chyfres lawn o adnoddau diogelwch ar-lein. Drwy fewngofnodi i Hwb gallwch hefyd chwilio Britannica Digital Learning, ImageQuest (bron i 3 miliwn o ddelweddau, gyda hawliau ar gyfer defnydd addysgol) a Chymuned Hwb, lle gallwch ddod o hyd i adnoddau sydd wedi cael eu creu gan weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru sy’n defnyddio Hwb.

  • Mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau ar Hwb ar gael yn ddwyieithog, ac mae tîm Cynnwys Hwb yn gweithio’n gyson gyda phartneriaid cynnwys ledled Cymru i gael deunyddiau dwyieithog ychwanegol.

    Nid yw rhai o’r adnoddau trydydd parti, fel Britannica Digital Learning, ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

    Bydd yr adnoddau sydd wedi cael eu creu gan aelodau Cymuned Hwb yn eu dewis iaith.

    1. Ewch i https://hwb.gov.wales
    2. Cliciwch ar y deilsen Adnoddau.
    3. Gallwch chwilio’n gyflym am adnodd drwy deipio allweddair yn y bar Chwilio’r goeden wybodaeth (yn agos at frig y dudalen).

    Mae dewisiadau chwilio ychwanegol ar gael ar ôl i chi fewngofnodi, gan gynnwys Cymuned Hwb, Britannica Digital Learning, Image Quest a Chasgliad y Werin Cymru. Mae’r dewisiadau hyn ar gael uwchben y bar Chwilio’r goeden wybodaeth.

    Neu, gallwch chwilio o fewn maes addysgol penodol drwy ddefnyddio’r ddewislen Darganfod, neu o fewn cyfnod allweddol penodol drwy ddefnyddio’r ddewislen Canfod a defnyddio (ar hyd brig y dudalen adnoddau).

  • Ar ôl i chi fewngofnodi i Hwb, rydych chi’n gallu rhoi nod tudalen ar eich hoff adnoddau.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar y deilsen Adnoddau.
    3. Dewiswch yr adnodd yr hoffech roi nod tudalen arno.
    4. Cliciwch ar y symbol creu nod tudalen ar ochr chwith uchaf y dudalen.

    Gallwch ddod o hyd i’r adnoddau rydych wedi rhoi nod tudalen arnyn nhw drwy glicio Adnoddau > Dalenodau (ar hyd brig y dudalen nesaf at Creu a rhannu).

  • Bydd holl ddefnyddwyr Hwb, ar wahân i ddysgwyr, sydd wedi ymuno â Chymuned Hwb, yn gallu gweld yr adnoddau sy’n cael eu lanlwytho i Gymuned Hwb. Ni fydd dysgwyr, ac unrhyw un sydd heb ymuno â’r Gymuned, yn gallu eu gweld.

    Mae’r eicon hwn yn dangos mai aelod o Gymuned Hwb sydd wedi creu’r adnodd. Nid yw Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am ei ansawdd na’i gywirdeb.

    Rhannu adnoddau o Gymuned Hwb â dysgwyr

    Nid oes modd i ddysgwyr weld deunyddiau yng Nghymuned Hwb.

    Os mai dim ond dolen i wefan neu restr chwarae yw’r adnodd, gallwch rannu’r ddolen hon â dysgwyr drwy Dosbarthiadau Hwb, Office365, J2e neu G Suite for Education.

    Bydd yn rhaid lawrlwytho ffeiliau fel dogfennau Word neu PowerPoint o’r adnodd a sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael gafael arnyn nhw, eto drwy Dosbarthiadau Hwb, Office 365, J2e, G Suite for Education neu unrhyw system arall y mae’r ysgol yn ei defnyddio.

    Os mai rhestr chwarae yw’r adnodd, gallwch ddefnyddio’r nodwedd Copïo rhestr chwarae drwy glicio ar yr eicon rhannu (yng nghornel dde uchaf y rhestr chwarae). Yna gallwch ddod o hyd i’r rhestr chwarae yn y cyfleuster Rhestrau Chwarae.

    1. Cliciwch ar y Ddewislen (ar frig y dudalen).
    2. Cliciwch ar Rhestrau Chwarae.
    3. Cliciwch ar y Rhestr Chwarae berthnasol.
    4. Cliciwch ar Rhannu (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
    5. Gallwch gopïo’r ddolen a’i rhannu gyda dysgwyr gan ddefnyddio rhaglen arall neu, os ydych chi’n defnyddio Dosbarthiadau Hwb, cliciwch ar Grwpiau Hwb > Dewiswch y tab Dosbarthiadau > Cliciwch ar Rhannu i grwp nesaf at y Dosbarth perthnasol.
  • Mae defnyddwyr sydd wedi ymuno â Chymuned Hwb yn gallu lanlwytho adnoddau (gan gynnwys dolenni i wefannau), ac wedyn mae aelodau eraill o’r Gymuned yn gallu eu gweld.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar y deilsen Adnoddau.
    3. Cliciwch Creu a rhannu (o’r dewisiadau ar hyd brig y dudalen Adnoddau).
    4. Cliciwch + Adnodd newydd (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
    5. Os mai dolen yw eich adnodd, rhowch yr URL yn y bar Ychwanegwch gyfeiriad gwefan yma. Os mai ffeil yw eich adnodd, cliciwch Ffeil a llusgwch a gollwng eich ffeiliau o’ch storfa leol > Cliciwch Nesaf.
    6. Yn y ffenestr Cyhoeddi adnodd, gellir golygu unrhyw faes ag eicon pensil nesaf ato drwy glicio ar yr eicon.
    7. Ychwanegwch dagiau ar gyfer y pwnc, cyfnod(au) allweddol ac allweddeiriau (bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr eraill ddod o hyd i’ch adnodd ac fe fyddan nhw’n cael eu codi pan fydd rhywun yn defnyddio’r nodwedd chwilio ar Hwb).
    8. Pan fyddwch yn barod i gyhoeddi eich adnodd i Gymuned Hwb, cliciwch Cyhoeddi (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
  • Mae’n rhaid i chi fewngofnodi i Hwb cyn y gallwch chi sgorio adnodd neu ysgrifennu adolygiad amdano. Yna gallwch ddewis adnodd, clicio ar y tab Adolygiadau neu’r pum seren sy’n ymddangos ar frig y dudalen, a rhoi sgôr ac ysgrifennu adolygiad amdano. Pan fyddwch chi wedi cwblhau eich adolygiad, cliciwch ar Anfon.

  • Os oes problem gydag anodd defnyddiwch y tab Adroddwch ar yr adnodd i roi gwybod i dîm Cynnwys Hwb a fydd yn ymchwilio i’r mater.

  • Tagio yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r broses o ddefnyddio allweddeiriau ar gyfer adnoddau. Mae’r allweddeiriau hyn yn cael eu defnyddio wrth chwilio am adnoddau, ynghyd â gwybodaeth arall am yr adnodd, sy'n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano.

    Er enghraifft, gallai’r tagiau (allweddeiriau) canlynol gael eu cysylltu ag adnodd Saesneg am Macbeth William Shakespeare a ddefnyddir yng Nghyfnod Allweddol 4: William Shakespeare, English, language, Macbeth, king, the Scottish play, tragedy, Globe Theatre, prophecy, KS4, GCSE.

    Po fwyaf o dagiau sy’n gysylltiedig ag adnodd, yr hawsaf fydd dod o hyd iddo. Y rheswm am hynny yw am eich bod chi’n fwy tebygol o deipio term chwilio sy’n cyfateb i dagiau’r adnodd.

    Mae tagiau hefyd yn cael eu defnyddio i drefnu eitemau yn adran adnoddau’r wefan. Rydyn ni’n defnyddio’r tagiau sy’n gysylltiedig ag adnoddau i’w rhoi yn y categori, maes addysgol neu bwnc perthnasol fel ei bod hi’n hawdd dod o hyd iddyn nhw.

    Os ydych chi’n gweld bod tagiau ar goll, gallwch roi tagiau ychwanegol eich hun drwy fynd i’r tab Tagiau o fewn adnodd a theipio'r tag yn y bar Ychwanegu tag newydd.

  • Bydd y rhan fwyaf o’r adnoddau’n gweithio ar ystod eang o ddyfeisiau a phorwyr. Fodd bynnag, mae rhai o’r adnoddau hyn yn defnyddio Adobe Flash a does dim modd i rai dyfeisiau symudol ddelio ag ef. Rydym yn argymell eich bod chi bob amser yn profi adnodd i wneud yn siwr ei fod yn addas cyn ei ddosbarthu i ddysgwyr.

Darllewnch ein canllaw llawn i gyhoeddi adnodd ar Gymuned Hwb.


Britannica Digital Learning yw gwyddoniadur ar-lein diogel gydag adnoddau addas i oedran ar gyfer dysgwyr.

Mae modd chwilio Britannica Digital Learning yn adnoddau Hwb.

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Britannica Digital Learning.
  3. Teipiwch bwnc yn y bar Chwilio’r goeden wybodaeth a chliciwch ar yr eicon chwyddwydr i chwilio.
  4. Ar frig y rhestr canlyniadau mae dewis i Hidlo adnoddau. Gallwch hidlo yn ôl Sylfaen, Canolradd ac Uwch, gan ddibynnu ar y lefel ddarllen sydd ei hangen.
  5. Cliciwch ar y canlyniad chwilio perthnasol, a fydd yn agor yr erthygl mewn tab newydd yn eich porwr.

Dod o hyd i hafan Britannica Digital Learning

Pan fyddwch wedi mynd i adnodd yn Encyclopaedia Britannica o Hwb, gallwch ddod o hyd i’r hafan drwy glicio ar y testun Britannica School sy’n ymddangos yn y rhuban glas ar frig y dudalen. Oddi yma, gallwch fynd i’r hafan ar gyfer pob lefel gallu drwy glicio ar Foundation, Intermediate neu Advanced.


Mae Rhestrau Chwarae Hwb yn cynnig ffordd i holl ddefnyddwyr dilys Hwb goladu cynnwys o amrywiaeth o ffynonellau ar y we, ynghyd â'u deunyddiau eu hunain a chwestiynau cwis, mewn un adnodd y gellir ei rannu gyda defnyddwyr eraill. Mae modd hefyd troi'r rhain yn aseiniad, a fydd yn casglu sgoriau’r cwis gan unrhyw ddefnyddiwr sy'n cwblhau'r aseiniad, ac yn eu dangos i’r athro mewn llyfr marcio.

Darllenwch ein canllaw llawn ar greu Rhestrau Chwarae ac Aseiniadau.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar y deilsen Rhestrau Chwarae.
    3. Cliciwch ar + Ychwanegu eitem newydd (ar ochr dde’r dudalen) > Cliciwch ar Ychwanegu Rhestr Chwarae newydd.
    4. Rhowch enw ar eich Rhestr Chwarae > Cliciwch ar Creu.
    5. Pan fyddwch yn gweld eicon pensil, gallwch glicio ar yr eicon i olygu’r testun.
    6. Ar ochr dde’r dudalen fe welwch nifer o ddewisiadau cynnwys:
      • Chwilio yn Hwb (i ddod o hyd i adnoddau perthnasol yn Hwb)
      • Chwilio yn Google (i ddod o hyd i gynnwys perthnasol ar y we - mae chwilio diogel wedi’i alluogi yma)
      • Chwilio yn YouTube (i ddod o hyd i fideos perthnasol ar YouTube – mae chwilio diogel wedi'i alluogi yma)
      • Chwilio Encyclopaedia Britannica (i ddod o hyd i erthyglau Encyclopaedia Britannica perthnasol)
      • Chwilio ImageQuest (i ddod o hyd i ddelweddau heb freindaliadau at ddefnydd addysgol)
      • Ychwanegu URL (i ychwanegu eich URL eich hun)
      • Chwilio Casgliad y Werin Cymru (i ddod o hyd i adnoddau hanes Cymru).

    Pan fyddwch wedi dod o hyd i’ch cynnwys, ewch ati i’w lusgo a’i ollwng i’ch camau Rhestr Chwarae (i’r chwith, o dan Camau).

    1. I ychwanegu tudalen lle gallwch fewnosod eich cynnwys a’ch delweddau eich hun, cliciwch ar y botwm Ychwanegu math o dudalen (i’r dde o’r dewisiadau chwilio). Dewiswch y math o dudalen a’i lusgo a’i ollwng yn eich camau rhestr chwarae. Defnyddiwch yr eicon pensil (i’r dde o’r cam rhestr chwarae perthnasol) i olygu eich tudalennau.

    Gallwch aildrefnu camau rhestr chwarae drwy ddefnyddio’r saethau sy’n ymddangos nesaf at rif y cam pan fyddwch yn dal y cyrchwr drosto.

    Creu cwis mewn Rhestr Chwarae

    Gallwch ychwanegu cwis at eich Rhestr Chwarae drwy ddewis yr eicon Ychwanegu math o dudalen i ychwanegu math o dudalen newydd ac yna dewis un o ddewisiadau’r cwis. Os nad ydych chi’n siwr pa un i’w ddewis, daliwch y cyrchwr dros bob dewis a chliciwch ar yr i am ragor o wybodaeth am y mathau o gwis.

    Pan fyddwch wedi dewis y math o gwis, dylech ei lusgo a’i ollwng yn eich camau Rhestr Chwarae. I olygu eich cwis, gwnewch y canlynol.

    1. Cliciwch ar yr eicon pensil nesaf at y math o gwis yn eich camau Rhestr Chwarae.
    2. Teipiwch eich cwestiwn, eich atebion a’ch adborth (os oes angen).
    3. Naill ai cliciwch ar Cadw a chau, Cadw a gweld rhagolwg (i weld rhagolwg o sut y bydd eich cwis yn edrych i ddysgwyr) neu cliciwch ar y botwm + gwyrdd ar frig y dudalen i ychwanegu cwestiwn cwis arall.

    Mae botwm Rhagolwg yng nghornel dde uchaf y dudalen y gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw adeg i weld rhagolwg o’ch Rhestr Chwarae.

  • Mae sawl ffordd o rannu eich Rhestr Chwarae, ac mae pob un ohonyn nhw ar gael drwy fotwm Rhannu (yng nghornel dde uchaf y dudalen) eich rhestr chwarae.

    1. Drwy rannu’r ddolen bydd modd i unrhyw un sydd wedi mewngofnodi i Hwb weld eich Rhestr Chwarae.
    2. Bydd rhannu i Gymuned Hwb yn eich galluogi i greu Adnodd Cymuned Hwb o’ch Rhestr Chwarae. Yna bydd yr adnodd ar gael i holl ddefnyddwyr Cymuned Hwb (ni chaniateir mynediad i ddysgwyr).
    3. Bydd rhannu i Grwpiau Hwb yn agor rhestr o Rwydweithiau a Dosbarthiadau rydych chi’n aelod ohonyn nhw, ac yn eich galluogi i rannu eich rhestr chwarae i’r grwp hwnnw. Dyma’r ffordd a argymhellir ar gyfer rhannu eich rhestr chwarae gyda’ch Dosbarth.
    4. Bydd rhannu fel Aseiniad yn mynd â chi i dudalen lle gallwch drosi eich Rhestr Chwarae i Aseiniad ar gyfer eich dysgwyr.
  • Cyrchu'r nodwedd dolenni rhannu

    Er mwyn cyrraedd y nodwedd dolenni rhannu, cliciwch yn gyntaf ar Rhestrau Chwarae ar ddewislen offer Hwb yng nghornel dde uchaf y sgrin. Bydd hyn yn eich tywys i restr o'ch Rhestrau Chwarae a ffolderi.

    Cliciwch ar y gwymplen i'r dde o'r rhestr chwarae a ddewiswyd. Bydd yr opsiynau canlynol yn ymddangos.

    • Ailenwi – mae hyn yn eich galluogi i newid enw eich Rhestr Chwarae.
    • Symud i ffolder – mae hyn yn eich golygu i newid lleoliad eich rhestr chwarae.
    • Copïo – mae hyn yn creu copi arall o'ch Rhestr Chwarae.
    • Rheoli Dolenni Rhannu – dyma'r nodwedd y byddwn yn edrych arni yn y canllaw cymorth hwn.
    • Adroddiadau – yn yr adran hon, gallwch weld ystadegau am bob cwis a chwestiwn unigol.
    • Rheoli Cyfranwyr – mae hyn yn eich galluogi i reoli cyfranwyr a cheisiadau eich Rhestr Chwarae.
    • Dileu – gallwch ddefnyddio hwn i ddileu eich rhestr chwarae. Gofynnir i chi gadarnhau eich bod am ei dileu.

    Cliciwch ar 'Rheoli Dolenni Rhannu' a fydd yn mynd â chi i'r dudalen ganlynol.

    O'r fan hon, gallwch greu dolenni rhannu, yn ogystal â dirymu neu ailenwi unrhyw ddolenni rydych eisoes wedi'u creu.

    Creu dolen rhannu

    Cliciwch ar y botwm Creu dolen rhannu newydd yng nghornel dde uchaf y dudalen. Bydd blwch naid yn agor.

    Yma, gallwch wneud y canlynol:

    • ychwanegu Enw
    • addasu'r Gosodiadau Preifatrwydd os oes gennych ganiatâd, gan ddewis a ydych am i'r ddolen fod yn Gyhoeddus neu fod ar gael i ddefnyddwyr Awdurdodedig (sydd wedi mewngofnodi) yn unig
    • dewis p'un a ydych am Gofio cynnydd defnyddwyr, sy'n golygu y caiff sgoriau defnyddwyr eu cofio os byddan nhw'n gadael y rhestr chwarae. Cofiwch mai dim ond cynnydd ar weithgareddau llawn sydd wedi cael eu cwblhau a fydd yn cael ei gadw, ac na fyddwch yn cadw eich safle o fewn y gweithgaredd ei hun
    • dewis p'un a ydych am Ganiatáu i ddefnyddwyr olygu atebion arolwg, sy'n golygu y gall defnyddwyr olygu ac ailgyflwyno eu hatebion cynifer o weithiau ag yr hoffen nhw.

    Ar ôl i chi orffen golygu'r ddolen rhannu, gwasgwch Cadw a bydd eich dolen rhannu newydd sbon yn ymddangos yn y rhestr o ddolenni rhannu sydd gennych yn barod.

    Golygu dolenni rhannu

    Os byddwch am Ailenwi neu Dirymu eich dolen ar unrhyw adeg, cliciwch ar y gwymplen i'r dde o'ch dolen a chwiliwch am yr opsiwn priodol.

    Bydd clicio ar Ailenwi yn agor blwch naid lle gallwch gofnodi enw newydd y ddolen.

    Bydd clicio ar Dirymu dolen yn agor blwch naid a fydd yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am ddirymu'r ddolen. Bydd neges yn ymddangos i'ch atgoffa y bydd dirymu'r ddolen yn golygu na fydd unrhyw un sy'n gweld y rhestr chwarae yn gallu gweld y ddolen mwyach, ni waeth â phwy rydych wedi rhannu'r ddolen.

    I'r chwith o'r botwm Dolen rhannu mae cwymplen lle y gallwch newid a yw'ch Rhestr Chwarae yn weladwy i'r Cyhoedd neu ddefnyddwyr Awdurdodedig yn unig.

    Rhannu eich dolen

    Byddwch hefyd yn gweld botwm Rhannu dolen ar bob rhes.

  • Gallwch ychwanegu cynnwys mathemategol i’r Rhestrau Chwarae drwy ddefnyddio Mathquill. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn yma:

    Sut i ychwanegu cynnwys mathemategol

    Ceir rhestr o’r gorchmynion sydd ar gael i’w defnyddio o fewn Mathquill yma:

    Gorchmynion Mathquill

  • I wneud copi o un o’ch rhestrau chwarae, gwnewch y canlynol.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar y deilsen Rhestrau Chwarae.
    3. Cliciwch ar saeth y gwymplen i’r dde o’r Rhestr Chwarae berthnasol > Cliciwch ar Copïo.
    4. Yna bydd y copi yn ymddangos yn eich rhestr o restrau chwarae gyda’r enw ‘Copi o enw’r Rhestr Chwarae wreiddiol’.

    I wneud copi o restr chwarae rhywun arall, gwnewch y canlynol.

    1. Agorwch y rhestr chwarae.
    2. Cliciwch ar yr eicon 'cog' (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
    3. Cliciwch ar Cadw copi yn fy Rhestrau Chwarae.
    4. Wedyn byddwch yn gweld copi y gellir ei olygu yn eich llyfrgell rhestrau chwarae.
  • Mae’n rhaid i ddysgwyr fewngofnodi i Hwb i weld eich rhestrau chwarae. Mae angen URL penodol (cyfeiriad gwe) y rhestr chwarae arnyn nhw hefyd, sydd ar gael pan fyddwch yn clicio ar Rhannu yn eich Rhestr Chwarae.

  • Mae Rhestrau Chwarae yn cynnwys dolenni i’r we, nid ydyn nhw’n gwneud copïau o’r gwefannau/fideos a ddefnyddiwyd. Mae hynny’n golygu petai gwefan yn cael ei newid neu’n diflannu, neu petai fideo’n cael ei dynnu o YouTube, na fyddai modd i unrhyw un sy’n defnyddio’r Rhestr Chwarae gael gafael ar yr adnodd.


Gosod cwis fel Aseiniad

I osod cwis fel Aseiniad, agorwch y rhestr chwarae, cliciwch Rhannu > Aseiniadau. Wedyn bydd angen i chi ychwanegu’r gosodiadau ar gyfer eich aseiniadau:

  • Cynllun marcio: gallwch ddefnyddio un o’r dewisiadau sydd ar gael neu ychwanegu un eich hun.
  • URL yr aseiniad: bydd hwn wedi’i lenwi’n barod i chi, ond gallwch ei olygu os oes angen.
  • Amserlen (dewisol): gallwch chi bennu pryd bydd modd cychwyn ar yr aseiniad a phryd na fydd ar gael.
  • Terfyn amser (dewisol): mae hwn yn eich galluogi i gyfyngu faint o amser sydd gan y dysgwr i gwblhau’r aseiniad.
  • Aseinio i Grwpiau (dewisol): bydd hwn yn rhannu’r aseiniad i Ddosbarth Hwb.

Cliciwch ar Cadw (os nad ydych chi’n barod i’w rannu eto) neu Cadw a rhannu Aseiniad. Pan fyddwch chi’n cadw a rhannu eich aseiniad, byddwch yn cael dolen i’w rhannu gyda’ch dosbarth a chod QR i’w ddangos.

Mae’n rhaid i ddysgwyr fewngofnodi i Hwb pan fyddan nhw’n agor y ddolen. Bydd eu sgoriau’n cael eu casglu’n awtomatig yn y llyfr marcio ar gyfer yr aseiniad hwnnw.

Gallwch weld y llyfrau marcio ar gyfer pob aseiniad rydych wedi'i osod yn flaenorol o’ch proffil defnyddiwr. I weld eich proffil defnyddiwr, cliciwch ar eich enw yng nghornel dde uchaf y dudalen, ac yna dewiswch Gweld Proffil.

Darllenwch ein canllaw llawn ar greu Rhestrau Chwarae ac Aseiniadau.


Mae’n rhwydd sefydlu Rhwydweithiau Hwb, sef mannau cydweithio diogel ar-lein ar gyfer defnyddwyr Cymuned Hwb. Mae pob Rhwydwaith Hwb yn cynnwys fforwm trafod, man storio ffeiliau, datganiadau a lle i rannu rhestrau chwarae ac aseiniadau.

Gall aelodau danysgrifio i gael hysbysiadau e-bost er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ym mhob rhwydwaith. Pan fyddwch chi’n creu neu’n ymuno â rhwydwaith, byddwch yn cael eich tanysgrifio’n awtomatig i e-bost wythnosol sy’n crynhoi'r gweithgareddau, ond gallwch addasu pa mor aml rydych chi’n cael yr hysbysiadau hyn.

Nid yw Rhwydweithiau Hwb ar gael i ddysgwyr. Gweler Dosbarthiadau Hwb am yr hyn sy’n cyfateb i hynny ar gyfer dysgwyr.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar y deilsen Rhwydweithiau.
    3. Mae bar chwilio ar frig y dudalen i chi chwilio drwy’r rhwydweithiau neu gallwch sgrolio drwy’r rhwydweithiau sy’n ymddangos ar y dudalen.
    4. Cliciwch ar y Rhwydwaith yr hoffech chi ymuno ag ef.
    5. Cliciwch ar y botwm glas Ymuno â’r Rhwydwaith.

    Bydd eich cais yn cael ei anfon at weinyddwr y rhwydwaith, a bydd yn gallu caniatáu mynediad i chi. Gallwch hefyd gysylltu â pherchnogion rhwydwaith gan ddefnyddio’r dewis Cysylltu â ni (sy’n cael ei gynrychioli gan symbol amlen) ar dudalen drosolwg y rhwydwaith.

  • Gall pob defnyddiwr, ar wahân i ddysgwyr, greu Rhwydwaith Hwb.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar y deilsen Rhwydweithiau.
    3. Cliciwch ar + Creu Rhwydwaith newydd (ar frig y dudalen).
    4. Rhowch enw ar eich rhwydwaith a chliciwch ar Dechrau Rhwydwaith. Yna bydd eich rhwydwaith newydd yn agor.
    5. I ychwanegu gwybodaeth am eich rhwydwaith a delweddau (dewisol), cliciwch ar y ‘cog’ gosodiadau.
      • Ynglyn â’r Rhwydwaith: golygwch yr enw ac ychwanegwch ddisgrifiad.
      • Llun: ychwanegwch lun ar gyfer y rhwydwaith drwy glicio ar yr eicon mynyddoedd.
      • Baner: ychwanegwch ddelwedd baner ar gyfer y rhwydwaith.
      • Preifatrwydd: y gosodiad preifatrwydd diofyn ar gyfer rhwydwaith yw Anweithredol. Pan fyddwch chi’n barod i’ch rhwydwaith gael ei weld yn y canlyniadau chwilio, newidiwch hwn i Yn fyw.

    Mae canllaw llawn i Rwydweithiau Hwb yn Adnoddau Hwb. Chwiliwch am Canllaw Rhwydweithiau Hwb.

  • Gallwch roi rôl Rheolwr i aelodau eraill o'ch rhwydwaith:

    1. Yn eich rhwydwaith, cliciwch ar y rhestr Aelodau.
    2. Daliwch y cyrchwr dros yr aelod perthnasol a chliciwch ar saeth y gwymplen nesaf at ei enw > Dewiswch y blwch ticio Rheolwr.

    Wedyn bydd y rheolwyr yn gallu cymeradwyo aelodau newydd, gwneud cyhoeddiadau a bydd ganddyn nhw’r un hawliau â’r gweinyddwr/gweinyddwyr.

    Tynnu rhywun o Rwydwaith Hwb

    1. Yn eich rhwydwaith, cliciwch ar y rhestr Aelodau.
    2. Daliwch y cyrchwr dros yr aelod perthnasol a chliciwch ar saeth y gwymplen nesaf at ei enw > Cliciwch ar Tynnu defnyddiwr.

    Dileu Rhwydwaith Hwb

    Gallwch ddad-gyhoeddi rhwydwaith ar unrhyw adeg. Ar ôl i chi wneud hynny, ni fydd yn cael ei restru ar dudalen Rhwydweithiau Hwb a rhwystrir mynediad i’r holl aelodau presennol. 

    1. Yn eich Rhwydwaith, cliciwch ar y cog Gosodiadau.
    2. Cliciwch Preifatrwydd > Anweithredol > Cadw.

    Storio ffeiliau mewn rhwydwaith

    Mae man Ffeiliau ym mhob rhwydwaith. Bydd modd i aelodau eraill o’r rhwydwaith weld y ffeiliau, a gall aelodau Ailenwi, Symud neu Dileu ffeiliau a ffolderi.

    I ychwanegu ffeil newydd, cliciwch ar + Ychwanegu Eitem Newydd (ar ochr dde’r dudalen).

  • Ewch i’r rhwydwaith yr hoffech ei adael, cliciwch Wedi Ymuno > Gadael.

  • Gellir rhannu ffeiliau o fewn Rhwydwaith Hwb, ond nid oes modd i chi gydweithio mewn ‘amser real’ ar ffeil yn yr un modd ag y gallwch yn Office 365 a G Suite for Education. Os oes angen cydweithio mewn ‘amser real’, rydym yn argymell eich bod yn creu Office 365 Team neu Google Classroom ychwanegol i’r aelodau er mwyn hwyluso hynny.

  • Nid yw Rhwydweithiau Hwb yn cael eu cymedroli. Y nod yw i Rwydweithiau Hwb gael eu hunan-gymedroli gan weinyddwyr y rhwydweithiau a rheolwyr penodol. Mae rhwymedigaeth broffesiynol ar bob defnyddiwr i ymddwyn yn briodol wrth ddefnyddio Hwb, fel y nodwyd yn nhelerau ac amodau y wefan. Gellir adrodd am unrhyw ymddygiad amhriodol i Ddesg Gymorth Hwb: hwb@gov.wales | 03000 25 25 25.

  • Pan fyddwch chi’n creu neu’n ymuno â rhwydwaith, byddwch yn cael eich tanysgrifio’n awtomatig i e-bost wythnosol sy’n crynhoi'r gweithgareddau, ond gallwch addasu pa mor aml rydych chi’n cael yr hysbysiadau hyn.

    1. Agorwch y rhwydwaith perthnasol.
    2. Cliciwch ar saeth y gwymplen nesaf at Tanysgrifio a dewiswch pa mor aml yr hoffech chi gael hysbysiadau ar gyfer y rhwydwaith hwnnw.

Gall athrawon greu dosbarthiadau i ddysgwyr ymuno a rhyngweithio â’i gilydd mewn man diogel. Gall athrawon rannu ffeiliau a rhestrau chwarae, cychwyn trafodaethau a chreu cyhoeddiadau yn eu dosbarthiadau.

I greu Dosbarth Hwb newydd, gwnewch y canlynol.

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Dosbarthiadau Hwb.
  3. Cliciwch ar + Dosbarth Newydd (ar ochr dde’r dudalen).
  4. Rhowch enw ar eich dosbarth a chliciwch ar Creu Dosbarth.

Gwahodd dysgwyr i ymuno â’ch dosbarth

Yn eich dosbarth mae dolen o dan Rhannu’r Dosbarth hwn (ar ochr chwith y dudalen) y gallwch ei chopïo a'i rhannu gyda’ch dysgwyr. Gallwch reoli ceisiadau eich dysgwyr o dan y tab Ceisiadau yn eich dosbarth.

Pan fydd dysgwyr wedi ymuno â’ch dosbarth bydd modd iddyn nhw ychwanegu ffeiliau a chyfrannu at drafodaethau. Fodd bynnag, ni fydd modd iddyn nhw ddileu unrhyw gynnwys.


Fy Hwb yw eich dangosfwrdd personol sy’n eich galluogi i fynd i ble bynnag y mynnwch ar Hwb o un lle. I fynd i Fy Hwb:

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Dangosfwrdd Fy Hwb.

Mae Fy Hwb yn cyflwyno popeth y mae angen i chi ei wneud ar ffurf hysbysiadau, gan gynnwys ceisiadau Rhwydwaith a Dosbarth, ac Aseiniadau.

Gallwch ddewis dangos yr adnoddau diweddaraf ar sail y diddordebau rydych chi wedi’u dewis, ac mae botymau llwybr byr at offer defnyddiol.

Dangosfwrdd symlach yw My Hwb Lite, sy’n dangos Dosbarthiadau a dolenni i ddetholiad o offer Hwb yn unig, sy’n ddelfrydol i’r rhai sy’n dymuno cael llai o wybodaeth ar y sgrin, fel dysgwyr iau.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a dewiswch Gweld Proffil.
    3. Cliciwch Addasu (yn y bar gwyn yng nghanol y dudalen).
    4. Cliciwch Dangosfwrdd (o dan y dewis Addasu).
    5. Dewiswch naill ai Fy Hwb neu My Hwb Lite > Cliciwch Cadw.

    Gallwch newid hwn mor aml ag y dymunwch.

  • Pethau y mae angen i mi eu gwneud: 

    Mae Pethau y mae angen i mi eu gwneud yn cael ei lenwi’n awtomatig â’ch gweithgareddau ar Hwb. Gallwch hidlo’r tasgau sy’n ymddangos yma yn ôl dyddiad (Drwy’r Amser), yn ôl rhaglen (Pob hysbysiad) neu’r ddau. Os oes gennych chi lawer o dasgau gallwch wneud iddyn nhw i gyd ymddangos drwy glicio Dangos mwy. Gallwch hefyd guddio’r adran hon yn gyfan gwbl petaech yn dymuno.

    Adnoddau diweddaraf: 

    Mae modd addasu’r adnoddau diweddaraf yn ôl cyfnodau allweddol a phynciau. I ddewis beth hoffech ei weld yma, cliciwch Addasu.

    Rhwydweithiau Dan Sylw: 

    Mae’r ticiwr hwn yn dangos y Rhwydweithiau diweddaraf sydd wedi cael eu creu yn Hwb. 

    Newyddion Diweddaraf: 

    Cadwch lygad ar y newyddion i gael gwybod am ddatblygiadau a digwyddiadau diweddaraf Hwb.

    Y diweddaraf: 

    Dyma eich ffrwd gweithgareddau bersonol ar Hwb, sy’n cynnwys dolenni cyflym yn ôl i fannau rydych chi wedi bod yn gweithio arnyn nhw’n ddiweddar. I gael gweld golwg mwy cynhwysfawr o’ch ffrwd, cliciwch Gweld y ffrwd lawn.

  • Mae botymau llwybr cyflym defnyddiol i nifer o offer Hwb i lawr ochr chwith y dangosfwrdd. Os hoffech gael gafael ar ragor o offer a gwasanaethau hwb, cliciwch ar y Ddewislen (ar frig y dudalen).

    Gallwch fynd yn ôl i hafan Hwb drwy ddewis Hwb o’r Ddewislen (ar frig y dudalen).

  • Yn ogystal â newid rhwng gweddau’r dangosfwrdd, gallwch addasu’r hyn yr hoffech ei weld yn eich ticiwr Adnoddau diweddaraf yn Fy Hwb.

    1. Mewngofnodwch i Hwb.
    2. Cliciwch ar y deilsen Dangosfwrdd Fy Hwb.
    3. Nesaf at Adnoddau Diweddaraf, cliciwch Addasu.
    4. Defnyddiwch y blychau ticio i ddewis eich diddordebau > Cliciwch Cadw.

Gallwch weld gwybodaeth am asesiadau personol yn y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022.

Help, cymorth ac arweiniad

Mae cymorth ynghylch yr asesiadau personol, gan gynnwys trefnu a gwneud yr asesiadau a dod o hyd i adborth, ar gael ar y wefan asesiadau unwaith byddwch chi wedi mewngofnodi i Hwb:

  1. Mewngofnodi i Hwb
  2. Clicio ar y Ddewislen > Asesiadau personol

I gael cymorth ar yr asesiadau personol, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Asesiadau ar 029 2026 5099 neu help@personalisedassessments.wales.

I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cyfeiriwch at y canllaw hwn. Fel arall, cysylltwch â hwb@gov.wales neu 0300 0252525.


I gyrchu safle Hwb yn Gymraeg, dilynwch y ddolen yma https://hwb.llyw.cymru  neu dewiswch Cymraeg yn y bar llywio.


I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Hwb: Hwb@gov.wales | 03000 25 25 25.