English

DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R WEFAN HON

Mae’r telerau hyn yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar gyfer defnyddio https://hwb.llyw.cymru ac https://hwb.gov.wales (y Wefan).

Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni

Mae’r Wefan yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru ("Ni").

I gysylltu â ni, anfonwch ebost i hwb@llyw.cymru neu ysgrifennwch atom yn:

Yr Uned Dysgu Digidol, Yr Is-adran Dysgu Digidol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

Drwy ddefnyddio ein Gwefan rydych yn derbyn y telerau hyn

Drwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.

Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, peidiwch â defnyddio ein Gwefan.

Mae telerau eraill a allai fod yn gymwys i chi

Mae’r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol a ganlyn, sydd hefyd yn gymwys i’ch defnydd o’n Gwefan:

  • Ein Hysbysiad Preifatrwydd – i’w weld yma.
    • Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn nodi sut rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol ac yn rhoi manylion am eich hawliau mewn cysylltiad â’r data rydym yn eu casglu amdanoch.
  • Ein Polisi Defnydd Derbyniol – i’w weld yma.
    • Mae’r polisi hwn yn nodi rheolau yn ymwneud â sut y cewch ddefnyddio’r Wefan. Pan fyddwch yn defnyddio ein Gwefan, rhaid i chi gydymffurfio â’r Polisi Defnydd Derbyniol hwn.
  • Ein Polisi Cwcis – i’w weld yma.
    • Mae’r polisi hwn yn rhan o’n Hysbysiad Preifatrwydd ac mae’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â sut rydym yn defnyddio’r cwcis ar ein Gwefan.
  • Trwydded Microsoft 365: Cytundeb Campws ac Ysgol – i'w weld yma.
    • Rheolir eich defnydd o Gynhyrchion Microsoft 365 gan Delerau a Hawliau Defnyddio’r Cynnyrch (fel y’u diffinnir yn y Cytundeb Campws ac Ysgol) sydd i’w gweld yma http://www.microsoft.com/licensing/contracts.Ceir darpariaethau yn y telerau ac amodau hyn sy’n cynnwys cyfyngiadau ar rwymedigaeth, ymwadiad ar gyfer gwarantau a gwaharddiad ar unioni cam. Mae hefyd yn cadarnhau mai dim ond yn ystod y cyfnod trwyddedig y gellir defnyddio Microsoft 365 a rhaid ei ddileu unwaith y daw’r cyfnod hwn i ben neu pan ddaw’r Cytundeb Campws ac Ysgol i ben, pa un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
  • YouTube Telerau Gwasanaeth – i’w weld yma (mae'r API Client yn defnyddio YouTube API Services).

  • Er mwyn cael mynediad at recordiadau penodol yr Educational Recording Agency (ERA) drwy ein Gwefan, rydych yn cytuno i’r canlynol:

    • Eich bod yn cynrychioli sefydliad addysg perthnasol sydd â thrwydded ERA gyfredol.

    • Eich bod yn derbyn ein bod yn gweithredu fel trydydd parti a enwebwyd at ddibenion Cymal 2.2 Trwydded ERA eich sefydliad addysg ac rydych yn cytuno i gadw at delerau’r Drwydded ERA (Atodlen i'r drwydded ERA).

Diben y Wefan

Bwriadwyd i’r Wefan fod yn gymorth addysgu ac yn ffordd i sefydliadau addysgol yng Nghymru ddefnyddio technoleg ar y we at ddibenion addysgol rhyngweithiol yn unig.

Mae ein Gwefan ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru. Os ydych yn defnyddio’r cynnwys y tu allan i Gymru, mae’n bosibl na fydd y cynnwys yn briodol i chi. 

Mae’r Wefan hefyd yn cynnwys nodwedd sy’n caniatáu i unigolion gofrestru i fynd i ddigwyddiadau sy’n cael eu creu a’u rheoli gennym ni a chyrff eraill. Os byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn i archebu lle mewn digwyddiad, bydd angen i chi roi gwybodaeth i ni amdanoch chi eich hun er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Mae gwybodaeth ynglyn â sut rydym yn ymdrin â’r wybodaeth bersonol hon i’w gweld ar y wefan berthnasol ar gyfer archebu lle mewn digwyddiad.  Mae gan y gwasanaeth hwn hefyd ei delerau ac amodau ei hun sydd i’w gweld ar y wefan berthnasol ar gyfer archebu lle mewn digwyddiad.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r Wefan ac i’r telerau hyn

Rydym yn diweddaru ein Gwefan yn rheolaidd er mwyn gwella’r cynnwys ac adlewyrchu newidiadau i’n gwasanaethau. Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r telerau hyn o bryd i’w gilydd hefyd, felly darllenwch y telerau’n rheolaidd.

Efallai y byddwn yn atal ein Gwefan neu’n ei thynnu’n ôl

Mae ein Gwefan ar gael yn ddi-dâl. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein Gwefan, nac unrhyw gynnwys sydd arni, ar gael bob amser nac yn ddi-dor. Efallai y byddwn yn atal neu’n tynnu’n ôl neu’n cyfyngu ar argaeledd ein Gwefan gyfan neu unrhyw ran ohoni am resymau busnes a rhesymau gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol am unrhyw achos o atal y Wefan neu ei thynnu’n ôl, ond ni allwn wneud hynny bob amser.

Defnydd wedi’i awdurdodi o’n Gwefan a chadw manylion eich cyfrif yn ddiogel

Mae rhai rhannau o’n gwefan wedi’u cyfyngu i unigolion sydd wedi cael manylion mewngofnodi penodol, megis dysgwyr ac athrawon (Defnyddwyr Awdurdodedig).

Gall Defnyddwyr Awdurdodedig hefyd gynnwys sefydliadau addysgol, awdurdodau lleol a chonsortia addysgol rhanbarthol, eu cyflogwyr a’u hasiantau (gyda’i gilydd, Defnyddwyr sy’n Rhanddeiliaid).

Mae gan rai Defnyddwyr sy’n Rhanddeiliaid eu hardaloedd eu hunain o fewn y Wefan (Ardaloedd Rhanddeiliaid) sy’n cael eu gweithredu ganddynt hwy yn unig.

Oni bai eich bod yn Ddefnyddiwr Awdurdodedig, ni chewch ddefnyddio na cheisio cael mynediad at unrhyw ran gyfyngedig o’r Wefan. Os byddwch yn gwneud hynny, gallech fod yn cyflawni trosedd. Os ydych yn cael mynediad i rannau cyfyngedig o’r Wefan yn ddamweiniol, cysylltwch â ni yn hwb@llyw.cymru.

Os ydych wedi cael manylion mewngofnodi penodol, megis enw defnyddiwr a chyfrinair (neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch), rhaid i chi gadw’r wybodaeth hon yn ddiogel. Peidiwch â datgelu’r manylion i unrhyw drydydd parti. Os byddwn yn credu nad ydych wedi cydymffurfio â’r telerau hyn, gallwn analluogi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar unrhyw adeg.

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywun ar wahân i chi yn gwybod beth yw eich cod adnabod defnyddiwr neu eich cyfrinair, cysylltwch â ni ar unwaith yn hwb@llyw.cymru

Mae cynnwys y wefan at ddibenion addysgol yn unig

Darperir y cynnwys sydd ar ein Gwefan at ddibenion addysgol yn unig.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein Gwefan, ni allwn warantu bod yr holl gynnwys yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.

Nid yw cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn cael ei gymeradwyo gennym ni

Gall y Wefan gynnwys gwybodaeth a deunyddiau sy’n cael eu lanlwytho gan ddefnyddwyr eraill y Wefan. Nid yw’r wybodaeth hon a’r deunyddiau hyn wedi cael eu gwirio na’u cymeradwyo gennym ni. Nid yw unrhyw farn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein Gwefan yn adlewyrchu ein barn a’n gwerthoedd ni o reidrwydd.

Os ydych eisiau cwyno am wybodaeth a deunyddiau sydd wedi cael eu lanlwytho gan ddefnyddwyr eraill cysylltwch â ni drwy ddefnyddio hwb@llyw.cymru

Nid ydym yn gyfrifol am wefannau y mae dolennau yn arwain atynt

Mewn achosion lle mae ein Gwefan yn cynnwys dolenni sy’n arwain at wefannau ac adnoddau eraill sy’n cael eu darparu gan drydydd partïon, mae’r dolenni hyn yn cael eu darparu er gwybodaeth yn unig. Nid yw’r gwefannau allanol hyn wedi cael eu hadolygu gennym, nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo cynnwys y wefan y mae’r ddolen yn arwain ati, nid oes gennym reolaeth dros eu cynnwys ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Dim ond fel y nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Hawliau Eiddo Deallusol

Mae’r Wefan, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) testun, cynnwys, postiadau, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniadau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnach a deunyddiau eraill (Cynnwys) yn cael ei gwarchod gan hawlfreintiau, hawliau cronfeydd data, hawliau cynllunio, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae’r Cynnwys yn cwmpasu cynnwys sydd ym meddiant ac o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chynnwys sydd ym meddiant ac o dan reolaeth trydydd partïon ac a drwyddedwyd i ni. Gall y Cynnwys gwmpasu hefyd unrhyw gynnwys a gyflwynir o bryd i’w gilydd gan Ddefnyddwyr sy’n Rhanddeiliaid.

Mae pob erthygl, adroddiad ac elfen arall o’r Wefan yn waith hawlfraint. Rydych yn cytuno i gydymffurfio â phob hysbysiad neu gyfyngiad hawlfraint ychwanegol a gynhwysir yn y Wefan.

Ni chewch ddefnyddio unrhyw rai o’n nodau masnach na’n henwau masnach heb ein caniatâd ni ac rydych yn cydnabod nad oes gennych unrhyw hawliau perchennog mewn cysylltiad ag unrhyw rai o’r enwau a’r nodau hynny. Rydych yn cytuno i roi gwybod i ni yn ddi-oed os deuwch i wybod am unrhyw ddefnydd diawdurdod o’n gwefan gan unrhyw barti neu am unrhyw honiad bod y wefan neu unrhyw Gynnwys yn torri unrhyw hawlfraint, nod masnach, neu unrhyw hawl arall sydd gan unrhyw barti o dan gontract, statud neu gyfraith gwlad. 

Nid ydym yn gyfrifol am feirysau a rhaid i chi beidio â’u cyflwyno

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein Gwefan yn ddiogel ac yn rhydd o fygiau neu feirysau.

Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich TG, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch platfform i gael mynediad i’n Gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd gwarchod rhag feirws eich hun.

Peidiwch â chyflwyno feirysau i’n Gwefan. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnydd gwaharddedig o’n Gwefan i’w gweld yn ein polisi Defnydd Derbyniol.

Rheolau yn ymwneud â dolenni sy’n arwain i’n Gwefan

Gallwch gynnwys dolen sy’n arwain i’n tudalen gartref, cyn belled eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon nad yw’n gwneud drwg i’ch enw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i’r wefan lle rydych yn gosod y ddolen gydymffurfio ym mhob ffordd â’r safonau cynnwys a amlinellir yn ein Polisi Defnydd DerbyniolRydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd yn ôl heb rybudd.

Fodd bynnag, ni chewch wneud y canlynol mewn unrhyw amgylchiadau:

  • gosod dolen yn arwain i’n Gwefan mewn ffordd sy’n gwneud rhan gyfyngedig o’r Wefan yn hygyrch i unrhyw un nad yw’n Ddefnyddiwr Awdurdodedig.
  • sefydlu dolen gyswllt mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gadarnhad ar ein rhan ni lle nad yw hynny’n bod.
  • sefydlu dolen gyswllt i’n Gwefan mewn unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.
  • fframio ein Gwefan ar unrhyw wefan arall, na chreu dolen gyswllt i unrhyw ran o’n Gwefan ar wahân i’r dudalen gartref.

Os ydych eisiau creu dolen gyswllt neu wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ar ein Gwefan ar wahân i’r hyn a nodwyd uchod, cysylltwch â hwb@llyw.cymru 

Hygyrchedd y Wefan

Rydym wedi ceisio gwneud y Wefan yn hygyrch i gynifer o bobl ag sy’n bosibl. Rydym wedi gwneud hyn drwy gydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn i helpu datblygwyr i wneud Gwefannau yn fwy hygyrch i bobl sydd ag anableddau.

Rydym wedi ceisio cydymffurfio â Blaenoriaethau 1 a 2 yn y canllawiau hyn ac rydym hefyd wedi cydymffurfio â llawer o’r materion ym Mlaenoriaeth 3.

Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglyn â hygyrchedd ein Gwefan, gallwch ein helpu i wneud y safle hyd yn oed yn fwy hygyrch drwy ebostio eich awgrymiadau i hwb@llyw.cymru

Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a ddioddefir gennych

Nid ydym yn cyfyngu ein cyfrifoldeb cyfreithiol oni bai fod gennym hawl i wneud hynny dan y gyfraith. 

Os byddwch yn dioddef niwed, colled neu ddifrod oherwydd y Wefan neu’r Cynnwys, ni fyddwn yn atebol (yn gyfrifol) mewn unrhyw ffordd. Ni fydd unrhyw ysgol neu Awdurdod Lleol yng Nghymru yn gyfrifol ychwaith.

Os nad ydych yn fodlon â’r Wefan, y telerau hyn neu unrhyw Gynnwys, peidiwch â defnyddio’r Wefan. Dyma eich unig rwymedi cyfreithiol.

Sylwer mai at ddibenion addysgol yn unig y darperir y Wefan. Peidiwch â defnyddio ein Gwefan at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes. Os byddwch yn gwneud ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes neu golli cyfleoedd busnes.

Cyfraith pa wlad sy’n gymwys i unrhyw anghydfod?

Mae’r telerau defnyddio hyn, eu pwnc a’u ffurfiad, yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr fel y’u cymhwysir yng Nghymru.

Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr sy’n eistedd yng Nghymru awdurdodaeth lwyr i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o’r telerau hyn neu sy’n gysylltiedig â hwy.