English

Diolch am ymweld â gwefan Hwb, sy’n cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru (ni).  Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol pan fyddwch yn ymweld â'r wefan.  Pan fyddwn ni’n dweud ‘gwybodaeth bersonol’ yn yr hysbysiad hwn, rydyn ni’n golygu gwybodaeth sy’n ymwneud â chi ac y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi.

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau eraill y mae modd cael mynediad iddynt drwy wefan Hwb.  Rydym yn eich annog i ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd ar wefannau eraill rydych chi’n ymweld â nhw.

Mae gennych chi hawliau yng nghyswllt yr wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei chadw amdanoch chi,  sef:

  • Hawl i ofyn am fynediad i’r wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei chadw amdanoch chi. Gelwir hyn yn ‘gais i weld gwybodaeth’ weithiau.
  • Hawl i gywiro unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym ni amdanoch chi (Cywiriad).
  • Hawl i ddileu eich gwybodaeth (Dilead).
  • Hawl i ofyn bod eich data personol yn cael ei gyfyngu neu ei atal (Cyfyngu ar Brosesu).
  • Hawl i wrthwynebu yng nghyswllt defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol (Gwrthwynebiad).
  • Hawl i gael eich gwybodaeth mewn fformat cludadwy.
  • Hawl i wrthwynebu yng nghyswllt gwneud penderfyniadau amdanoch chi’n awtomatig.

Mae llawer o’r hawliau a restrir uchod wedi’u cyfyngu i amodau penodol, ac efallai na fyddwn yn gallu cydymffurfio’n llwyr â’ch cais.  Byddwn yn dweud wrthych chi os bydd hyn yn berthnasol.  Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn https://ico.org.uk/your-data-matters.

Os byddwch yn anfon cais atom, byddwn yn ymateb cyn pen mis calendr.  Ni fyddwn yn codi tâl am ddelio â’ch cais.

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion llawn yr holl agweddau ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn barod i ddarparu unrhyw wybodaeth neu eglurhad pellach os bydd hynny’n angenrheidiol.

Os hoffech chi wneud cais am ragor o wybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd, rhoi unrhyw un o'ch hawliau ar waith, neu wneud cwyn, anfonwch e-bost atom yn dataprotectionofficer@gov.wales neu ysgrifennu at:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau am wefan Hwb, anfonwch e-bost atom yn hwb@llyw.cymru neu ysgrifennu at:

Yr Uned Dysgu Digidol
Llywodraeth Cymru
Llys-y-ddraig
Parc Busnes Penlle'r-gaer
Abertawe
SA4 9NX

Rydyn ni’n ceisio cyrraedd y safonau uchaf pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol.  Am y rheswm hwn, rydyn ni’n croesawu eich adborth a byddwn yn cymryd unrhyw gwynion a gawn o ddifrif.  Rydyn ni’n annog pobl i ddweud wrthym ni os ydyn nhw o'r farn bod y modd rydyn ni’n casglu neu’n defnyddio eu gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n anaddas. 

Os byddwch chi’n cysylltu â ni, efallai y bydd angen i ni gysylltu ag adrannau eraill o’r llywodraeth er mwyn ymateb i’ch cwyn.  Os oes gennych chi gwestiwn technegol, efallai y bydd rhaid i ni ei basio ymlaen i’n cyflenwyr technoleg.

Nid ydym yn pasio unrhyw wybodaeth bersonol ymlaen pan fyddwn yn delio â’ch ymholiad, oni bai eich bod chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ar ôl i ni eich ateb chi, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.

Os bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn diweddaraf ar wefan Hwb.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol.

Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 23 Awst 2022.

Pan fyddwch yn defnyddio gwefan Hwb, byddwn yn casglu rhywfaint o wybodaeth bersonol dechnegol amdanoch chi, yn unol â’r hyn a nodir isod.

Mae’r wefan wedi’i strwythuro fel bod modd i chi ymweld â hi heb ddatgelu pwy ydych chi na datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.  Os byddwch yn penderfynu peidio â mewngofnodi i’r wefan, ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol sy’n datgelu pwy ydych chi.  Fodd bynnag, efallai y byddwn yn casglu rhywfaint o wybodaeth am eich sesiwn bori (yn unol â’r hyn a nodir isod).

Rydym yn casglu rhywfaint o wybodaeth amdanoch yn awtomatig pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan.  Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol, fel y cyfeiriad Protocol y Rhyngrwyd (IP) a ddefnyddiwyd i gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhyngrwyd, eich manylion mewngofnodi, y math o borwr a’i fersiwn, gosodiad y gylchfa amser, mathau o ategion y porwr a’u fersiynau, y llwyfan a’r systemau gweithredu.

Efallai y bydd yr wybodaeth bersonol hon yn cael ei defnyddio i sicrhau bod cynnwys ein gwefan wedi’i gyflwyno yn y modd sy’n fwyaf effeithiol i chi a’ch dyfais. 

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:

  • datblygu, profi a gwella ein systemau; 
  • sicrhau bod cynnwys ein gwefannau wedi’i gyflwyno yn y modd sy’n fwyaf effeithiol i chi a’ch cyfrifiadur;
  • gweinyddu ein gwefan ac at ddibenion gweithrediadau mewnol, gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwil, ystadegau ac arolygon; a/neu
  • cynnal dadansoddiadau ystadegol a dadansoddiadau o'r farchnad, gan gynnwys ymarferion meincnodi, er mwyn ein galluogi ni i’ch deall chi’n well a gwella ein gwasanaethau.

Bydd gwybodaeth bersonol sydd yn cael ei defnyddio i greu eich cyfrif unigryw yn cael ei chadw ar gyfer y cyfnod y bydd eich cyfrif yn parhau’n weithredol. Bydd y cyfnod hwn yn newid gan ddibynnu ar y math o gyfrif sydd gennych.

Mae cyfrifon ar gyfer dysgwyr a staff mewn ysgolion yn cael eu creu yn ddiofyn gan ddefnyddio data o System Gwybodaeth Reol eich ysgol, hy SIMS neu Ganolfan Athro. Cyfrifon  system gwybodaeth reoli yw'r rhain. Mae Cyfrifon System Gwybodaeth Reoli yn parhau yn weithredol cyhyd â bod eich manylion yn rhan o System Gwybodaeth Reoli eich ysgol. Pan fyddwch yn gadael yr ysgol, bydd eich cyfrif yn cael ei ddadweithredu yn ddiofyn ac yn cael ei ddileu* ar ôl 12 mis, oni bai ein bod yn cael cais i ail-weithredu’r cyfrif o fewn y cyfnod hwn.

Nid yw cyfrifon ar gyfer defnyddwyr Hwb eraill yn cael ei creu'n ddiofyn o ddata System Gwybodaeth Reoli. Cyfrifon nad ydynt yn gyfrifon System Gwybodaeth Reoli yw'r rhain. Mae cyfrifon nad ydynt yn gyfrifon System Gwybodaeth Reoli yn cael eu creu gan weinyddwyr Hwb  (neu gan Hyrwyddwr Digidol ysgol) ar gyfer defnyddwyr nad oes ganddynt gofnod mewn System Gwybodaeth Reoli ysgol. Gallai'r defnyddwyr hyn gynnwys llywodraethwyr, athrawon cyflenwi, staff awdurdod lleol, staff consortia rhanbarthol, arolygwyr Estyn a staff ôl-16. Mae cyfrifon nad ydynt yn gyfrifon system gwybodaeth reoli yn cael eu gweithredu am gyfnod penodol o amser (er enghraifft, 1 mis, 3 mis), ond ni fydd y cyfnod hwn yn cael ei estyn y tu hwnt i ddiwedd blwyddyn academaidd (hy, 31 Awst). Mae cyfrifon nad ydynt yn gyfrifon System Gwybodaeth Reoli yn cael eu ddadweithredu ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd berthnasol a’u dileu ar ôl 12 mis, oni bai bod cais yn cael ei wneud i ail-weithredu’r cyfrif o fewn y cyfnod hwn.

*Pan fo cyfrif Hwb yn cael ei ddileu, mae'r holl wybodaeth bersonol sy'n gysylltiedig ag ef yn cael ei dileu. Mae hyn yn cynnwys, lle bo'n berthnasol, cyfrif Microsoft 365 defnyddiwr a chyfrif Google Workspace for Education Fundamentals.  I gael rhagor o wybodaeth am sut i weld a dileu’ch gweithgarwch ar Google ewch i Google Help Centre neu cysylltwch â’ch ysgol.

Ceir rhagor o wybodaeth am reoli cyfrifon a chyfnodau cadw cyfrifon yn ein Canolfan Cymorth.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol sy'n cael ei lanlwytho ar wefan Hwb drwy wasanaethau cysylltiedig yn parhau am gyfnod y contract rhwng Llywodraeth Cymru  a'r darparwr gwasanaeth perthnasol, neu caiff ei dileu yn unol â chyfnodau cadw data lleol sy'n cael eu gosod gan ysgolion lleol. Cysylltwch â'ch ysgol leol i gael mwy o wybodaeth.

Yn yr un modd â llawer o wefannau, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cwcis ar y wefan.  Darnau bach o wybodaeth y mae gweinydd gwe yn eu hanfon at borwr gwe yw cwcis, sy’n galluogi'r gweinydd i gasglu gwybodaeth o’r porwr.

Mae ein cwcis yn casglu darnau bach o wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cyfeiriad IP, eich system weithredu a sut rydych yn defnyddio ein gwefan.  Drwy barhau i bori drwy'r wefan, rydych chi’n rhoi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis.  Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, byddwn yn defnyddio’r cwcis angenrheidiol er mwyn eich galluogi chi i ddefnyddio’r wefan a’i nodweddion sylfaenol, fel cynnal manylion eich cyfrif drwy gydol y sesiwn.  Byddwn hefyd yn defnyddio cwcis i wella sut mae’r wefan yn gweithredu drwy, er enghraifft, storio unrhyw ddewisiadau y byddwch chi’n eu nodi.

Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics, sef y gwasanaeth mwyaf poblogaidd ar gyfer ystadegau gwefannau. Pan fyddwch yn ymweld â’n safle ni, bydd Google Analytics yn storio cwci ar eich cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol.  Wedyn, fe ddefnyddir y cwci i ddarparu data ynghylch defnydd i ni er mwyn gwella profiad ein defnyddwyr.  Mae hyn yn golygu y gallwn gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan a dadansoddi pa dudalennau yw'r rhai mwyaf poblogaidd.  Yn gyfnewid am y gwasanaeth mae’n ei ddarparu, gall Google gael mynediad at y data dadansoddol y mae'r cwci wedi’u storio.  Nid yw Google yn cael mynediad at wybodaeth sy’n datgelu pwy ydych chi, fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost neu’ch manylion mewngofnodi, drwy’r wefan hon.

Efallai y byddwch yn gwrthod derbyn cwcis drwy roi’r gosodiad sy’n caniatáu i chi wrthod cwcis ar waith ar eich porwr. Ewch i’r ddewislen Cymorth yn y bar dewislenni ar eich porwr ac fe ddylai roi amrywiaeth o opsiynau i chi yng nghyswllt cwcis.  Fodd bynnag, os byddwch chi’n dewis y gosodiad hwn, efallai na fydd modd i chi gael mynediad at rai rhannau o’r wefan.  Oni bai eich bod wedi addasu gosodiadau eich porwr i wrthod cwcis, bydd system Llywodraeth Cymru yn defnyddio cwcis pan fyddwch chi’n mewngofnodi i'r wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, ewch i https://ico.org.uk/your-data-matters/online/cookies/.

Mae'r wefan wedi cael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi unrhyw un i bori heb orfod mewngofnodi. 

Os byddwch chi’n dewis mewngofnodi, bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn modd gwahanol, yn ddibynnol ar a ydych chi’n ddysgwr, staff, llywodraethwr neu’n rhywun arall sy’n gweithio yn y sector addysg ehangach

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfrif Hwb unigryw a diogel i bob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, a bydd modd defnyddio’r rhain i gael mynediad at yr asesiadau wedi eu personoli a Gwasanaethau Ychwanegol Hwb.  I gael gwybod mwy am asesiadau wedi eu personoli, ewch i https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/asesiadau-darllen-a-rhifedd/asesiadau-personol.  Caiff eich cyfrif Hwb ei greu’n awtomatig a’i gadw’n gyfredol gan ddefnyddio gwybodaeth a gawn o System Gwybodaeth Reoli eich ysgol, sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan eich ysgol. 

Os hoffech chi ddefnyddio’r adnoddau a’r offer digidol ar gyfer dysgwyr ar y wefan, bydd angen i chi fewngofnodi. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol dysgwyr yn y ffyrdd a nodir isod:

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu amdanoch chi?

Bydd eich ysgol yn rhoi’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch chi i ni er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw:

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Enw(au) canol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Enw cyntaf sydd orau gennych chi
  • Cyfenw sydd orau gennych chi
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Enw eich ysgol a’i rhif AdAS
  • Grŵp blwyddyn, grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, grŵp cofrestru, grwpiau dosbarth a grwpiau pwnc
  • Nifer derbyn yr ysgol
  • Statws ymrestru e.e. a ydych chi’n ddysgwr presennol yn yr ysgol neu ydych chi wedi gadael yr ysgol
  • Statws cofrestru e.e. a ydych chi’n mynd i un ysgol neu i fwy nag un ysgol
  • Cod seiliedig ar eich rhif disgybl unigryw (h.y. rhif disgybl unigryw wedi'i amgryptio)
  • Eich rôl yn yr ysgol (h.y. dysgwr neu staff)

Rydyn ni’n defnyddio contractwr, SalamanderSoft Limited, i greu eich cyfrif, a phob tro y byddwch chi’n mewngofnodi, byddwn yn gwirio eich manylion drwy ddefnyddio dolen y mae ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited, yn ei darparu.  Mae’r wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw yn cael ei storio yng Nghwmwl Microsoft, mewn man diogel sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'i leoli o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae darparu gwefan ddiogel i ddysgwyr ei defnyddio yn rhan bwysig o’n gweledigaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae’n hanfodol defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn eich galluogi chi i fewngofnodi ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i wefan Hwb

Ar ôl i ni greu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i’r wefan i gael mynediad at yr asesiadau wedi eu personoli a Gwasanaethau Ychwanegol Hwb (gweler pwynt 5 am fanylion llawn).  

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol (drwy Microsoft) i’ch adnabod chi ac i ganiatáu i chi ddefnyddio’r wefan.  Byddwn yn cadw cofnod o bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn. 

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch adnabod chi ac i wirio eich sesiynau pori yn rhan bwysig o sicrhau bod y wefan yn cael ei chadw’n ddiogel.  Mae hyn yn hanfodol ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio gwefan Hwb

Does dim angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni er mwyn defnyddio’r wefan.

Yn ddibynnol ar sut byddwch yn defnyddio’r wefan, efallai y byddwch yn dewis darparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni.  Er enghraifft, gallwch lwytho gwybodaeth i fyny, personoli eich tudalen proffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill.  Chi sy’n penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei llwytho i fyny.  Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei llwytho i fyny yn cael ei phrosesu ar eich rhan gan ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited.

Nodwch fod cyfraith diogelu data yn cydnabod rhai "categorïau arbennig" o wybodaeth bersonol, sef gwybodaeth sy’n datgelu tarddiad ethnig neu hil, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth ynghylch genynnau, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod unigolyn, gwybodaeth ynglŷn ag iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.   Caiff gwybodaeth ynglŷn â throseddau ac euogfarnau ei thrin mewn modd tebyg. 

PWYSIG: Nid ydym yn argymell eich bod yn llwytho gwybodaeth bersonol sy’n dod o dan y categorïau arbennig hyn i fyny.  Os byddwch chi’n dewis llwytho gwybodaeth o'r fath i fyny, mae’n bwysig eich bod yn deall efallai y bydd ar gael i ddefnyddwyr eraill y wefan ei gweld.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei llwytho i fyny i'r wefan yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru a’i chontractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi. 

Dim ond gwybodaeth bersonol rydych chi’n fodlon ei rhannu â defnyddwyr eraill gwefan Hwb, Llywodraeth Cymru a’i chontractwyr ddylech chi ei llwytho i fyny. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac fe wneir hynny er budd y cyhoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Canllaw Rheoli Gwybodaeth ar gyfer ysgolion.  Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyngor ac arweiniad i ysgolion yng nghyswllt storio gwybodaeth ar lwyfan Hwb ac ar y gwasanaethau allanol cysylltiedig.

4. Asesiadau Personol

Fel rhan o’n hymrwymiad i wella safonau addysg yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r defnydd o asesiadau personol mewn rhifedd a darllen ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd i ddysgwyr.  Mae asesiadau personol yn darparu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd a byddant yn cael eu cwblhau gan ddysgwyr ar wefan Hwb.  Bydd eich ysgol yn dweud wrthych chi pryd bydd angen cwblhau'r rhain ac yn rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i chi. 

Mae’r asesiadau personol yn cael eu datblygu gan gonsortiwm o bartneriaid, sy’n cael eu harwain gan AlphaPlus Consultancy Ltd, ar ran Llywodraeth Cymru.  Byddwn yn casglu eich adborth ar yr asesiad ac yn ei rannu â’ch ysgol.

Mae asesiadau personol yn wahanol i brofion traddodiadol gan fod y cwestiynau'n cael eu cynhyrchu ar sail ymateb y dysgwr i'r cwestiwn blaenorol. Mae hyn yn darparu profiad asesu unigol ac yn teilwra lefel yr her i bob dysgwr.  Bydd pob dysgwr yn cael asesiadau personol drwy fewngofnodi'n ddiogel i blatfform Hwb.

Ar gyfer asesiadau personol, caiff eich data eu casglu a’u cadw yn unol â hysbysiad preifatrwydd casglu data yr ysgol.

Dyma fanylion y data sy’n cael eu prosesu gan ein cyflenwr:

AlphaPlus Consultancy Ltd – Asesiadau Personol Ar-lein (gwasanaeth statudol)

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Dyddiad geni
  • Rhyw'r unigolyn
  • Enw eich ysgol a’i rhif AdAS
  • Grŵp blwyddyn, grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, grŵp cofrestru, grwpiau dosbarth a grwpiau pwnc
  • Nifer derbyn yr ysgol
  • Cod seiliedig ar eich rhif disgybl unigryw (h.y. rhif disgybl unigryw wedi'i amgryptio)
  • Eich rôl yn yr ysgol (h.y. dysgwr neu staff)

4.1 Treialu Asesiadau Personol

O bryd i’w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn treialu deunydd asesu newydd ar raddfa fawr lle gofynnir i ysgolion gymryd rhan. Diben y treialon hyn yw cefnogi datblygiad yr asesiadau personol ar-lein, gwirio bod y cwestiynau newydd yn gweithio fel y’u bwriadwyd, a chael adborth gan ddysgwyr ac athrawon. Caiff yr asesiadau eu datblygu a’u treialu gan gonsortiwm o bartneriaid, dan arweiniad AlphaPlus Consultancy Ltd, ar ran Llywodraeth Cymru. Gofynnir i ysgolion sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru ymlaen llaw.

Os yw eich ysgol chi'n cymryd rhan mewn proses dreialu, efallai y gofynnir i chi wneud asesiad gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ar gyfer Hwb. Bydd eich athro'n egluro sut i fynd at yr asesiad ac yn rhoi unrhyw gyfarwyddiadau penodol i chi.

Bydd eich atebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol ac yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall sut mae'r asesiadau yn gweithio. Bydd Llywodraeth Cymru'n cadw eich atebion am 18 mis ar ôl diwedd y treialon cyn bydd yr wybodaeth yn cael ei dinistrio. I gael rhagor o wybodaeth am yr asesiadau personol, ewch i https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022/asesiadau-darllen-a-rhifedd/asesiadau-personol.

Treialu cwestiynau unigol

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd eich asesiad yn cynnwys un cwestiwn ‘treialu’ ychwanegol ar y diwedd. Ni fydd eich ateb i’r cwestiwn yn effeithio ar ganlyniad eich asesiad nac yn cael ei gynnwys mewn unrhyw adroddiad.

Ffordd o gasglu data ar sut mae dysgwyr yn ateb y cwestiynau newydd yw ychwanegu cwestiwn treialu at asesiad, cyn iddynt gael eu hychwanegu at y banc cwestiynau asesu. Os cewch gwestiwn treialu, bydd yn gwestiwn sy’n gydnaws â’ch blwyddyn chi o fewn y cwricwlwm, a chaiff ei gynnwys fel cwestiwn olaf yr asesiad. Caiff eich ateb i’r cwestiwn treialu ei gadw ochr yn ochr â gweddill eich data asesu.

5. Gwasanaethau Ychwanegol Hwb

Pan fyddwch yn mewngofnodi bydd y wefan yn eich galluogi chi i gael mynediad at y gwasanaethau ychwanegol canlynol, a’u defnyddio, yn awtomatig:

  • Microsoft 365 (sy’n cynnwys Word, Excel ac E-bost Outlook), yn ogystal â Flipgrid a Minecraft: Education Edition, sy’n cael eu darparu gan Microsoft Corporation.

  • Casgliad o adnoddau ar-lein Google Workspace for Education Fundamentals (Gwasanaethau Craidd cymeradwy yn unig), sy’n cael eu darparu gan Google, Inc.

  • Casgliad o adnoddau Just2easy, sy’n cael eu darparu drwy Just2easy Ltd, is-gontractwr CDSM Interactive Solutions Ltd.

  • Adobe, sy’n cael eu darparu gan Adobe Systems Software Ireland Limited.

  • Apple School Manager, sy’n cael eu darparu gan Apple Inc.

Mae Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi ysgolion a dysgwyr, ond maent yn cael eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod.  Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn mewn modd diogel er mwyn caniatáu i chi gael mynediad at eu gwasanaethau.  Ein contractwyr, Microsoft Corporation, Google, Inc. a/neu Just2easy Ltd, Adobe Systems Software Ireland Limited a/neu Apple Inc. fydd yn delio ag unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych chi’n dymuno ei llwytho i fyny wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Oherwydd bod Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan ein contractwyr, bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â’r contractwyr hyn, ac efallai’n cael ei throsglwyddo’n ddiogel i leoliadau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.  Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydyn ni wedi rhoi'r mesurau diogelwch a gwarchod priodol ar gyfer contractau ar waith. Er enghraifft, byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod er mwyn sicrhau na all pobl eraill ei darllen.

Mae manylion ein cyflenwyr a'r data maent yn eu prosesu fel a ganlyn:

CDSM Interactive Solutions Ltd – llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS

Just2easy – Casgliad o adnoddau J2e

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Rhif AdAs yr ysgol
  • Grŵp cofrestru

Microsoft Corporation – Office 365

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Enw arddangos
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Rôl
  • Grwpiau cofrestru
  • Rhif AdAs yr ysgol

Google Inc. – Google Workspace for Education Fundamentals

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Grwpiau Dosbarth

Adobe Systems Software Ireland Limited – Adobe

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb

Apple Inc. – Apple School Manager

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS

6. Rhannu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru neu â'n sefydliadau partner, lle rydym yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion addysgol neu gysylltiedig sy'n gydnaws â'n defnydd ni o'ch gwybodaeth i ddarparu platfform Hwb.

Lle caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gallant ddefnyddio eich gwybodaeth, a'u bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Darllenwch hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny i weld sut y maen nhw yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

Cysylltwch â ni os hoffech fwy o fanylion am ein trefniadau rhannu data.

7. Os byddwch chi’n cysylltu â ni

Byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi os byddwch chi’n llenwi ffurflen ar-lein, neu’n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall.  Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n dewis ei ddarparu i ni.  Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i’ch ymholiad neu’ch cais yn unol â’ch caniatâd.

Mae crynodeb o'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar gyfer dysgwyr ar gael yn Atodiad I.

Darperir cyfrif Hwb i bob aelod staff mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, a bydd modd defnyddio’r rhain i gael mynediad at yr asesiadau wedi eu personoli a Gwasanaethau Ychwanegol Hwb.  Caiff eich cyfrif Hwb ei greu’n awtomatig a’i gadw’n gyfredol gan ddefnyddio gwybodaeth a gawn o System Gwybodaeth Reoli eich ysgol, sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan eich ysgol.

Er mwyn cael mynediad at yr holl adnoddau ac offer digidol sydd ar gael i staff a dysgwyr ar y wefan, bydd angen i chi fewngofnodi. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol staff yn y ffyrdd a nodir isod.

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu amdanoch chi?

Bydd eich ysgol yn rhoi’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch chi i ni er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw:

  • Enw cyntaf cyfreithiol
  • Cyfenw cyfreithiol
  • Enw cyntaf sydd orau gennych chi
  • Cyfenw sydd orau gennych chi
  • Teitl
  • Cod staff yr ysgol
  • ID aelod o staff
  • Enw eich ysgol a’i rhif AdAS
  • Grwpiau blwyddyn, cofrestru a dosbarth
  • Rôl enerig (h.y. dysgwr neu staff, ac athro neu unigolyn nad yw’n athro)
  • Eich rôl ar y staff (h.y. pennaeth, dirprwy brifathro, athro)

Rydyn ni’n defnyddio contractwr, SalamanderSoft Limited, i greu eich cyfrif, a phob tro y byddwch chi’n penderfynu mewngofnodi, byddwn yn gwirio eich manylion drwy ddefnyddio dolen y mae ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited, yn ei darparu.  Mae’r wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw yn cael ei storio yng Nghwmwl Microsoft, mewn man diogel sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'i leoli o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu cyfrif Hwb unigryw a diogel, y mae modd ei ddefnyddio i gael mynediad at yr asesiadau wedi eu personoli, i bob athro a dysgwr yng Nghymru (gweler Adran 4 isod). 

Mae darparu gwefan ddiogel i ddysgwyr ac athrawon ei defnyddio yn rhan bwysig o’n gweledigaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae’n hanfodol defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn eich galluogi chi i fewngofnodi ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i wefan Hwb

Ar ôl i ni greu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i’r wefan a chael mynediad at yr ardaloedd sydd ar gael i athrawon yn benodol. Eich dewis chi a’ch ysgol yw p’un ai a ydych chi’n dymuno mewngofnodi i'r wefan neu beidio. Fodd bynnag, bydd angen i chi fewngofnodi i’r wefan er mwyn cael mynediad at yr asesiadau wedi eu personoli (gweler Adran 4 isod).

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’r wefan am y tro cyntaf, byddwch yn gweld ein Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr (Hysbysiad Pwysig). Bydd hwn yn darparu dolenni i Delerau ac Amodau Hwb, a fydd yn rheoli eich defnydd o'r wefan, yn ogystal â Hysbysiad Preifatrwydd Hwb, sef y ddogfen hon.  Bydd gofyn i chi glicio i gadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau.  Os bydd y Telerau ac Amodau a/neu'r Hysbysiad Preifatrwydd yn newid, bydd gofyn i chi dderbyn y Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr eto. 

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol (drwy Microsoft) i’ch adnabod chi ac i ganiatáu i chi ddefnyddio’r wefan yn llawn.  Byddwn yn cadw cofnod o bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn.

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch adnabod chi ac i wirio eich sesiynau pori yn rhan bwysig o sicrhau bod y wefan yn cael ei chadw’n ddiogel.  Mae hyn yn hanfodol i sicrhau perfformiad ein tasg ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio gwefan Hwb

Does dim angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni er mwyn defnyddio’r wefan.

Yn ddibynnol ar sut byddwch yn defnyddio’r wefan, efallai y byddwch yn dewis darparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni.  Er enghraifft, gallwch lwytho gwybodaeth i fyny, personoli eich tudalen proffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill.  Chi sy’n penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei llwytho i fyny.  Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei llwytho i fyny yn cael ei phrosesu ar eich rhan gan ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited.

Nodwch fod cyfraith diogelu data yn cydnabod rhai "categorïau arbennig" o wybodaeth bersonol, sef gwybodaeth sy’n datgelu tarddiad ethnig neu hil, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth ynghylch genynnau, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod unigolyn, gwybodaeth ynglŷn ag iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.  Caiff gwybodaeth ynglŷn â throseddau ac euogfarnau ei thrin mewn modd tebyg. 

PWYSIG: Nid ydym yn argymell eich bod yn llwytho gwybodaeth bersonol sy’n dod o dan y categorïau arbennig hyn i fyny.  Os byddwch chi’n dewis llwytho gwybodaeth o'r fath i fyny, mae’n bwysig eich bod yn deall efallai y bydd ar gael i ddefnyddwyr eraill y wefan ei gweld.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei llwytho i fyny i'r wefan yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru a’i chontractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi. 

Dim ond gwybodaeth bersonol rydych chi’n fodlon ei rhannu â defnyddwyr eraill gwefan Hwb, Llywodraeth Cymru a’i chontractwyr ddylech chi ei llwytho i fyny. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac fe wneir hynny er budd y cyhoedd.

4. Asesiadau Personol

Fel rhan o’n hymrwymiad i wella safonau addysg yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r defnydd o asesiadau personol ar-lein ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd i ddysgwyr yng Nghymru. Darperir yr asesiadau personol gan ein contractwr, AlphaPlus, a chânt eu cymryd gan ddysgwyr drwy wefan Hwb.

Mae asesiadau personol yn wahanol i brofion traddodiadol gan fod y cwestiynau'n cael eu cynhyrchu ar sail ymateb y dysgwr i'r cwestiwn blaenorol. Mae hyn yn darparu profiad asesu unigol ac yn teilwra lefel yr her i bob dysgwr. Bydd pob dysgwr yn cael asesiadau personol drwy fewngofnodi'n ddiogel i blatfform Hwb.

Gall aelodau o staff sydd wedi cael mynediad perthnasol weld gwybodaeth sy'n deillio o asesiadau dysgwyr unigol, a gwybodaeth sydd ar gael i'w choladu ar lefel grŵp/dosbarth, blwyddyn ac ysgol.  Pennir lefel mynediad athrawon gan bennaeth yr ysgol.

Ar gyfer asesiadau personol, caiff data eich dysgwyr eu casglu a’u cadw yn unol â hysbysiad preifatrwydd casglu data yr ysgol.

Mae manylion ein cyflenwyr a'r data maent yn eu prosesu fel a ganlyn:

AlphaPlus Consultancy Ltd – Asesiadau Personol Ar-lein (gwasanaeth statudol)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Grwpiau Blwyddyn, Blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol, Cofrestru, Dosbarth a Phwnc
  • Rôl enerig (h.y. dysgwr neu staff, ac athro neu unigolyn nad yw’n athro)
  • Eich rôl ar y staff (h.y. pennaeth, dirprwy brifathro, athro)

4.1 Treialu Asesiadau Personol

O bryd i’w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn treialu deunydd asesu newydd ar raddfa fawr lle gofynnir i ysgolion gymryd rhan. Diben y treialon hyn yw cefnogi datblygiad yr asesiadau personol ar-lein, gwirio bod y cwestiynau newydd yn gweithio fel y’u bwriadwyd, a chael adborth gan ddysgwyr ac athrawon. Caiff yr asesiadau eu datblygu a’u treialu gan gonsortiwm o bartneriaid, dan arweiniad AlphaPlus Consultancy Ltd, ar ran Llywodraeth Cymru. Gofynnir i ysgolion sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru ymlaen llaw.

Os yw eich ysgol chi'n cymryd rhan mewn proses dreialu, efallai y gofynnir i chi drefnu asesiadau ar gyfer eich dysgwyr, gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ar gyfer Hwb. Dylech esbonio i’ch dysgwyr sut i gael gafael ar yr asesiadau a rhoi unrhyw gyfarwyddiadau penodol, yn unol â’r canllawiau a ddarparwyd.

Bydd atebion eich dysgwyr yn cael eu cadw'n gyfrinachol ac yn cael eu defnyddio i werthuso’r asesiadau. Bydd Llywodraeth Cymru'n cadw eu hatebion am 18 mis ar ôl diwedd y treialon cyn bydd yr wybodaeth yn cael ei dinistrio. I gael rhagor o wybodaeth am yr asesiadau personol, ewch i https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022/asesiadau-darllen-a-rhifedd/asesiadau-personol.

Treialu cwestiynau unigol

 O bryd i’w gilydd, efallai y bydd asesiad yn cynnwys un cwestiwn ‘treialu’ ychwanegol ar y diwedd. Ni fydd yr ateb i’r cwestiwn yn effeithio ar ganlyniad asesiad y dysgwr nac yn cael ei gynnwys mewn unrhyw adroddiad.

Ffordd o gasglu data ar sut mae dysgwyr yn ateb y cwestiynau newydd yw ychwanegu cwestiwn treialu at asesiad, cyn iddynt gael eu hychwanegu at y banc cwestiynau asesu. Os caiff dysgwr gwestiwn treialu, bydd yn gwestiwn sy’n gydnaws â’i flwyddyn o fewn y cwricwlwm, a chaiff ei gynnwys fel cwestiwn olaf yr asesiad. Caiff ateb eich dysgwr i’r cwestiwn treialu ei gadw ochr yn ochr â gweddill ei ddata asesu.

5. Gwasanaethau Ychwanegol Hwb

Mae’r wefan yn eich galluogi chi i gael mynediad at y gwasanaethau ychwanegol canlynol, a’u defnyddio, yn awtomatig: 

  • Microsoft 365 (sy’n cynnwys Word, Excel ac E-bost Outlook), yn ogystal â Flipgrid a Minecraft: Education Edition, sy’n cael eu darparu gan Microsoft Corporation.

  • Casgliad o adnoddau ar-lein Google Workspace for Education Fundamentals, gan gynnwys YouTube, sy’n cael eu darparu gan Google, Inc.

  • Casgliad o adnoddau Just2easy, sy’n cael eu darparu drwy Just2easy Ltd, is-gontractwr CDSM Interactive Solutions Ltd.

  • Adobe, sy’n cael eu darparu gan Adobe Systems Software Ireland Limited.

  • Apple School Manager, sy’n cael eu darparu gan Apple Inc.

  • Freshservice, sy’n cael eu darparu gan Freshworks Ltd.

Mae Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi defnyddwyr y wefan i'w defnyddio, ond maent yn cael eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod.  Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn mewn modd diogel er mwyn caniatáu i chi gael mynediad at eu gwasanaethau.  Ein contractwyr, Microsoft Corporation, Google, Inc., Just2easy Ltd, Adobe Systems Software Ireland Limited Apple Inc a/neu Freshworks Ltd. fydd yn delio ag unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych chi’n dymuno ei llwytho i fyny wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.  

Oherwydd bod Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan ein contractwyr, bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â’r contractwyr hyn, ac efallai’n cael ei throsglwyddo’n ddiogel i leoliadau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.  Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydyn ni wedi rhoi'r mesurau diogelwch a gwarchod priodol ar gyfer contractau ar waith.  Er enghraifft, byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod er mwyn sicrhau na all pobl eraill ei darllen.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn fod sicrhau bod Gwasanaethau Ychwanegol Hwb a restrir uchod ar gael i staff yn rhan bwysig o’n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru.  Mae’n hanfodol defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch galluogi chi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a’u defnyddio er mwyn sicrhau perfformiad y dasg hon, ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd. 

Mater i chi yw sut byddwch yn defnyddio Gwasanaethau Ychwanegol Hwb, ac mae’n dibynnu ar sut rydych chi a’ch ysgol yn dewis cyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol.  Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i chi gan eich ysgol, yn ogystal â thelerau ac amodau ein Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr.  Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei llwytho i fyny i’r gwasanaethau allanol hyn yn cael ei defnyddio gan ein contractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi. 

Mae manylion ein cyflenwyr a'r data maent yn eu prosesu fel a ganlyn:

CDSM Interactive Solutions Ltd – llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS

Just2easy – Casgliad o adnoddau J2e

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Grŵp cofrestru

Microsoft Corporation – Office 365

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw arddangos
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Rôl enerig
  • Grwpiau cofrestru
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Awdurdod lleol

Google Inc. – Google Workspace for Education Fundamentals (gan gynnwys YouTube)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Grwpiau Dosbarth

Adobe Systems Software Ireland Limited – Adobe

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb

Apple Inc. – Apple School Manager

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS

Freshworks Ltd - Freshservice

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Rôl enerig
  • Statws hyrwyddwr digidol/gweinyddwr
  • Awdurdod lleol

6. Rhannu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru neu â'n sefydliadau partner, lle rydym yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion addysgol neu gysylltiedig sy'n gydnaws â'n defnydd ni o'ch gwybodaeth i ddarparu platfform Hwb.

Lle caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gallant ddefnyddio eich gwybodaeth, a'u bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Darllenwch hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny i weld sut y maen nhw yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

Cysylltwch â ni os hoffech fwy o fanylion am ein trefniadau rhannu data.

7. Os byddwch chi’n cysylltu â ni

Byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi os byddwch yn llenwi ffurflen ar-lein, yn cofrestru ar gyfer digwyddiad (gweler Adran 4 isod) neu’n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall.  Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n dewis ei ddarparu i ni.  Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i’ch ymholiad neu’ch cais yn unol â’ch caniatâd.

Gellir darparu cyfrif Hwb i bob llywodraethwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.  Caiff y cyfrifon hyn eu dyrannu a’u cynnal gan bob ysgol yn uniongyrchol.  Os hoffech chi gael mynediad at yr holl adnoddau ac offer digidol sydd ar gael i lywodraethwyr ar y wefan, bydd angen i chi fewngofnodi. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol llywodraethwyr yn y ffyrdd a nodir isod:

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu amdanoch chi?

Bydd eich ysgol yn rhoi’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch chi i ni er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw: 

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Eich rôl
  • Rhif AdAs yr ysgol
  • Enw'r ysgol

Byddwn yn defnyddio contractwr, SalamanderSoft Limited, i greu eich cyfrif.  Bob tro y byddwch yn mewngofnodi, byddwn yn gwirio eich manylion drwy ddefnyddio dolen sy’n cael ei darparu gan ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited.  Mae’r wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw yn cael ei storio yng Nghwmwl Microsoft, mewn man diogel sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'i leoli o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae datblygu gwefan ddiogel i lywodraethwyr ei defnyddio yn rhan bwysig o’n gweledigaeth i wella safonau addysg yng Nghymru.  Mae’n hanfodol darparu manylion mewngofnodi unigryw a diogel i lywodraethwyr er mwyn sicrhau perfformiad y dasg hon, ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i wefan Hwb

Ar ôl i ni greu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i’r wefan a chael mynediad at yr ardaloedd sydd ar gael i lywodraethwyr yn benodol. Chi sy’n dewis p’un ai a ydych chi am fewngofnodi i’r wefan neu beidio.

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’r wefan am y tro cyntaf, byddwch yn gweld ein Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr (Hysbysiad Pwysig). Bydd hwn yn darparu dolenni i Delerau ac Amodau Hwb, a fydd yn rheoli eich defnydd o'r wefan, yn ogystal â Hysbysiad Preifatrwydd Hwb, sef y ddogfen hon.  Bydd gofyn i chi glicio i gadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau.  Os bydd y Telerau ac Amodau a/neu'r Hysbysiad Preifatrwydd yn newid, bydd gofyn i chi dderbyn y Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr eto. 

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol (drwy Microsoft) i’ch adnabod chi ac i ganiatáu i chi ddefnyddio’r wefan.  Byddwn yn cadw cofnod o bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn. 

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch adnabod chi ac i wirio eich sesiynau pori yn rhan bwysig o sicrhau bod y wefan yn cael ei chadw’n ddiogel.  Mae hyn yn hanfodol i sicrhau perfformiad ein tasg ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio gwefan Hwb

Does dim angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni er mwyn defnyddio’r wefan. 

Yn ddibynnol ar sut byddwch yn defnyddio’r wefan, efallai y byddwch yn dewis darparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni.  Er enghraifft, gallwch lwytho gwybodaeth i fyny, personoli eich tudalen proffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill.  Chi sy’n penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei llwytho i fyny.  Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei llwytho i fyny yn cael ei phrosesu ar eich rhan gan ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited. 

Nodwch fod cyfraith diogelu data yn cydnabod rhai "categorïau arbennig" o wybodaeth bersonol, sef gwybodaeth sy’n datgelu tarddiad ethnig neu hil, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth ynghylch genynnau, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod unigolyn, gwybodaeth ynglŷn ag iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.  Caiff gwybodaeth ynglŷn â throseddau ac euogfarnau ei thrin mewn modd tebyg.   

PWYSIG: Nid ydym yn argymell eich bod yn llwytho gwybodaeth bersonol sy’n dod o dan y categorïau arbennig hyn i fyny.  Os byddwch chi’n dewis llwytho gwybodaeth o'r fath i fyny, mae’n bwysig eich bod yn deall efallai y bydd ar gael i ddefnyddwyr eraill y wefan ei gweld. 

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei llwytho i fyny i'r wefan yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru a’i chontractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi.   

Dim ond gwybodaeth bersonol rydych chi’n fodlon ei rhannu â defnyddwyr eraill gwefan Hwb, Llywodraeth Cymru a’i chontractwyr ddylech chi ei llwytho i fyny. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac fe wneir hynny er budd y cyhoedd.

4. Gwasanaethau Ychwanegol Hwb

Mae’r wefan yn eich galluogi chi i gael mynediad at y gwasanaethau ychwanegol canlynol, a’u defnyddio, yn awtomatig: 

  • Casgliad o adnoddau ar-lein Microsoft 365, sy’n cael eu darparu gan Microsoft Corporation, e.e. Word, Excel ac Outlook (e-bost).

  • Casgliad o adnoddau ar-lein Google Workspace for Education Fundamentals, sy’n cael eu darparu gan Google, Inc.

  • Freshservice, sy’n cael eu darparu gan Freshworks Ltd.

Mae Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi i ddefnyddwyr y wefan eu defnyddio, ond maent yn cael eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod.  Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn mewn modd diogel er mwyn caniatáu i chi gael mynediad at eu gwasanaethau.  Ein contractwyr, Microsoft Corporation, Google, Inc a Freshworks Ltd, fydd yn delio ag unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych chi’n dewis ei llwytho i fyny wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Oherwydd bod Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan ein contractwyr, bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â’r contractwyr hyn, ac efallai’n cael ei throsglwyddo’n ddiogel i leoliadau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.  Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydyn ni wedi rhoi'r mesurau diogelwch a gwarchod priodol ar gyfer contractau ar waith.  Er enghraifft, byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod er mwyn sicrhau na all pobl eraill ei darllen. 

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn fod sicrhau bod Gwasanaethau Ychwanegol Hwb a restrir uchod ar gael i lywodraethwyr yn rhan bwysig o’n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru.  Mae’n hanfodol defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch galluogi chi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a’u defnyddio er mwyn sicrhau perfformiad y dasg hon, ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd. 

Mater i chi yw sut byddwch yn defnyddio Gwasanaethau Ychwanegol Hwb, ac mae’n dibynnu ar sut rydych chi a’ch ysgol yn dewis cyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol.  Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i chi gan eich ysgol, yn ogystal â thelerau ac amodau ein Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr.  Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei llwytho i fyny i’r gwasanaethau allanol hyn yn cael ei defnyddio gan ein contractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi. 

Mae manylion ein cyflenwyr a'r data maent yn eu prosesu fel a ganlyn:

CDSM Interactive Solutions Ltd – llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Rôl (h.y. Llywodraethwr)

Microsoft Corporation – Office 365

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Rôl (h.y. Llywodraethwr)

Google Inc. – Google Workspace for Education Fundamentals

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS

Freshworks Ltd - Freshservice

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Rôl (h.y. Llywodraethwr)
  • Statws hyrwyddwr digidol/gweinyddwr
  • Awdurdod lleol

5. Rhannu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru neu â'n sefydliadau partner, lle rydym yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion addysgol neu gysylltiedig sy'n gydnaws â'n defnydd ni o'ch gwybodaeth i ddarparu platfform Hwb.

Lle caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gallant ddefnyddio eich gwybodaeth, a'u bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Darllenwch hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny i weld sut y maen nhw yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

Cysylltwch â ni os hoffech fwy o fanylion am ein trefniadau rhannu data.

6. Os byddwch chi’n cysylltu â ni

Byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi os byddwch yn llenwi ffurflen ar-lein, yn cofrestru ar gyfer digwyddiad (gweler Adran 4 isod) neu’n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall.  Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n dewis ei ddarparu i ni.  Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i’ch ymholiad neu’ch cais yn unol â’ch caniatâd.

Yn ogystal â dysgwyr, staff a llywodraethwyr, gall Llywodraeth Cymru roi cyfrif Hwb i randdeiliaid eraill yn y byd addysg.  Caiff y cyfrifon hyn eu dyrannu a’u cynnal gan Lywodraeth Cymru.  Os hoffech chi gael mynediad at yr holl adnoddau ac offer digidol ar y wefan, bydd angen i chi fewngofnodi. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol rhanddeiliaid eraill yn y byd addysg yn y ffyrdd a nodir isod.

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu amdanoch chi?

Byddwch yn rhoi’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch chi i ni er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw:

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Eich rôl
  • Enw’r sefydliad 

Byddwn yn defnyddio contractwr, SalamanderSoft Limited, i greu eich cyfrif.  Bob tro y byddwch yn mewngofnodi, byddwn yn gwirio eich manylion drwy ddefnyddio dolen sy’n cael ei darparu gan ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited.  Mae’r wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw yn cael ei storio yng Nghwmwl Microsoft, mewn man diogel sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'i leoli o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae datblygu gwefan ddiogel i’r rheini sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru ei defnyddio yn rhan bwysig o’n gweledigaeth i wella safonau addysg yng Nghymru.  Mae’n hanfodol darparu manylion mewngofnodi unigryw a diogel i unigolion er mwyn sicrhau perfformiad y dasg hon, ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i wefan Hwb

Ar ôl i ni greu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i’r wefan a chael mynediad at yr ardaloedd sydd ar gael i randdeiliaid eraill o’r byd addysg.  Chi sy’n dewis p’un ai a ydych chi am fewngofnodi i’r wefan neu beidio.

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’r wefan am y tro cyntaf, byddwch yn gweld ein Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr (Hysbysiad Pwysig). Bydd hwn yn darparu dolenni i Delerau ac Amodau Hwb a fydd yn rheoli eich defnydd o'r wefan, yn ogystal â Hysbysiad Preifatrwydd Hwb, sef y ddogfen hon.  Bydd gofyn i chi glicio i gadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau.  Os bydd y Telerau ac Amodau a/neu'r Hysbysiad Preifatrwydd yn newid, bydd gofyn i chi dderbyn y Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr eto. 

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol (drwy Microsoft) i’ch adnabod chi ac i ganiatáu i chi ddefnyddio’r wefan.  Byddwn yn cadw cofnod o bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn.

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch adnabod chi ac i wirio eich sesiynau pori yn rhan bwysig o sicrhau bod y wefan yn cael ei chadw’n ddiogel.  Mae hyn yn hanfodol i sicrhau perfformiad y dasg hon a gwneir hyn er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio gwefan Hwb

Does dim angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni er mwyn defnyddio’r wefan. 

Yn ddibynnol ar sut byddwch yn defnyddio’r wefan, efallai y byddwch yn dewis darparu rhagor o wybodaeth bersonol i ni.  Er enghraifft, gallwch lwytho gwybodaeth i fyny, personoli eich tudalen proffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill.  Chi sy’n penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei llwytho i fyny.  Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei llwytho i fyny yn cael ei phrosesu ar eich rhan gan ein contractwr, CDSM Interactive Solutions Limited.

Nodwch fod cyfraith diogelu data yn cydnabod rhai "categorïau arbennig" o wybodaeth bersonol, sef gwybodaeth sy’n datgelu tarddiad ethnig neu hil, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth ynghylch genynnau, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod unigolyn, gwybodaeth ynglŷn ag iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.  Caiff gwybodaeth ynglŷn â throseddau ac euogfarnau ei thrin mewn modd tebyg. 

PWYSIG: Nid ydym yn argymell eich bod yn llwytho gwybodaeth bersonol sy’n dod o dan y categorïau arbennig hyn i fyny.  Os byddwch chi’n dewis llwytho gwybodaeth o'r fath i fyny, mae’n bwysig eich bod yn deall efallai y bydd ar gael i ddefnyddwyr eraill y wefan ei gweld.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei llwytho i fyny i'r wefan gennych chi yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru a’i chontractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi. 

Dim ond gwybodaeth bersonol rydych chi’n fodlon ei rhannu â defnyddwyr eraill gwefan Hwb, Llywodraeth Cymru a’i chontractwyr ddylech chi ei llwytho i fyny. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac fe wneir hynny er budd y cyhoedd.

4. Gwasanaethau Ychwanegol Hwb

Efallai y bydd y wefan yn eich galluogi chi i gael mynediad at y gwasanaethau ychwanegol canlynol, a’u defnyddio, yn awtomatig: 

  • Casgliad o adnoddau ar-lein Microsoft 365, sy’n cael eu darparu gan Microsoft Corporation, e.e. Word, Excel ac Outlook (e-bost).

  • Freshservice, sy’n cael eu darparu gan Freshworks Ltd.

Mae Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi i ddefnyddwyr y wefan eu defnyddio, ond maent yn cael eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod.  Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn mewn modd diogel er mwyn caniatáu i chi gael mynediad at eu gwasanaethau.  Ein contractwyr, Microsoft Corporation a Freshworks Ltd, fydd yn delio ag unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych chi’n dewis ei llwytho i fyny wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Oherwydd bod Gwasanaethau Ychwanegol Hwb yn cael eu darparu gan ein contractwyr, bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â’r contractwyr hyn, ac efallai’n cael ei throsglwyddo’n ddiogel i leoliadau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.  Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydyn ni wedi rhoi'r mesurau diogelwch a gwarchod priodol ar gyfer contractau ar waith.  Er enghraifft, byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod er mwyn sicrhau na all pobl eraill ei darllen.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn fod sicrhau bod Gwasanaethau Ychwanegol Hwb a restrir uchod ar gael i’r rheini sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru yn rhan bwysig o’n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru.  Mae’n hanfodol defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch galluogi chi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a’u defnyddio er mwyn sicrhau perfformiad y dasg hon, ac fe wneir hyn er budd y cyhoedd. 

Mater i chi yw sut byddwch yn defnyddio Gwasanaethau Ychwanegol Hwb, ac mae’n dibynnu ar sut rydych chi a’ch sefydliad yn dewis cyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol.  Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i chi gan eich sefydliad, yn ogystal â thelerau ac amodau ein Cytundeb Trwyddedu i Ddefnyddwyr.  Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei llwytho i fyny i’r gwasanaethau allanol hyn yn cael ei defnyddio gan ein contractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi.

Mae manylion ein cyflenwyr a'r data maent yn eu prosesu fel a ganlyn:

CDSM Interactive Solutions Ltd – llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Rôl

 Microsoft Corporation – Office 365

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS
  • Rôl

Freshworks Ltd - Freshservice

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw’r ysgol a’i rhif AdAS (lle bo'n berthnasol)
  • Rôl
  • Statws hyrwyddwr digidol/gweinyddwr
  • Awdurdod lleol (lle bo'n berthnasol)

5. Rhannu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru neu â'n sefydliadau partner, lle rydym yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio'ch gwybodaeth at ddibenion addysgol neu gysylltiedig sy'n gydnaws â'n defnydd ni o'ch gwybodaeth i ddarparu platfform Hwb.

Lle caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gallant ddefnyddio eich gwybodaeth, a'u bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Darllenwch hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny i weld sut y maen nhw yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

Cysylltwch â ni os hoffech fwy o fanylion am ein trefniadau rhannu data.

6. Os byddwch chi’n cysylltu â ni

Byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi os byddwch yn llenwi ffurflen ar-lein, yn cofrestru ar gyfer digwyddiad (gweler Adran 4 isod) neu’n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall.  Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n dewis ei ddarparu i ni.  Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i’ch ymholiad neu’ch cais yn unol â’ch caniatâd.

Os byddwch chi’n dewis defnyddio eich cyfrif Hwb i gael mynediad at raglenni Trydydd Parti a/neu Apiau ac Estyniadau Google ar gyfer Chrome, yn cynnwys apiau a ddarparwyd trwy ‘managed Google Play’, ni fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu defnydd.  Eich cyfrifoldeb chi yw darllen a derbyn Telerau ac Amodau a Hysbysiadau Preifatrwydd pob rhaglen Trydydd Parti, apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome rydych chi’n dewis eu defnyddio.

Mae’r wefan yn cynnig gwasanaeth archebu ar gyfer digwyddiadau sy’n cael eu creu a’u rheoli gan Lywodraeth Cymru neu sefydliad arall (er enghraifft, South West Grid For Learning, Rhwydweithiau Celfyddydau Rhanbarthol, neu IntoFilm Cymru). Caiff y gwasanaeth archebu hwn ei weithredu ar ein rhan gan CDSM Interactive Solutions Limited a SmartSurvey Limited.

Os hoffech chi gofrestru ar gyfer digwyddiad, bydd angen i chi ddarparu eich manylion personol. Os ydych chi’n ddefnyddiwr awdurdodedig (mae gennych chi gyfrif Hwb eisoes), bydd hyn yn cael ei wneud yn awtomatig os ydych chi wedi mewngofnodi. Os nad ydych chi’n ddefnyddiwr awdurdodedig , bydd angen i chi roi eich manylion (gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost, enw eich sefydliad a’ch lleoliad).

[Bydd eich data personol yn cael eu rhannu â threfnydd y digwyddiad er mwyn gallu rheoli eich cofrestriad.  Trefnydd y digwyddiad fydd yn gyfrifol am ymdrin â’ch gwybodaeth yn unol â’r gofynion diogelu data.]

Llywodraeth Cymru yw rheolydd Rhwydwaith Seren.  Mae rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Seren ar gael yma https://beta.llyw.cymru/rhwydwaith-seren?_ga=2.25254014.235746958.1546860753-158554515.1545321964.

Bydd gwybodaeth am holl aelodau Rhwydwaith Seren yn cael ei chynnwys mewn cronfa ddata, a fydd ar gael i bob canolfan o fewn Rhwydwaith Seren. Mae pob canolfan yn cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, colegau addysg bellach a chonsortia addysg rhanbarthol.

Caiff cronfa ddata Rhwydwaith Seren ei rheoli gan ein contractwyr, CDSM Interactive Solutions Limited. Bydd Future First Alumni Limited, sy’n rhoi cymorth arbenigol i Lywodraeth Cymru a’r canolfannau, hefyd yn gallu cael mynediad at eich gwybodaeth, Mae rhagor o wybodaeth am Future First ar gael yn http://futurefirst.org.uk/.

Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti arall oni bai bod gofyn i ni wneud hynny yn unol ag adran ‘Datgelu’ yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i’ch gwahodd chi i ddigwyddiadau, i anfon manylion atoch chi ynglŷn â sut gallwch chi gymryd rhan, ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am weithgareddau Rhwydwaith Seren.

  • Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn dweud wrthych chi sut rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi a defnyddwyr eraill gwefan Hwb.
  • Ystyr eich ‘gwybodaeth bersonol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chi ac y mae modd ei ddefnyddio i ddatgelu pwy ydych chi.
  • Mae gan eich ysgol chi lawer o wybodaeth amdanoch chi ac mae’n rhannu rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol â Llywodraeth Cymru er mwyn i ni allu creu cyfrif Hwb ar eich cyfer.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
  • Mae gan bob dysgwr ac athro mewn ysgolion yng Nghymru gyfrif Hwb. Gallwch ei ddefnyddio i gael mynediad at adnoddau addysgol, yn ogystal â asesiadau o'r enw asesiadau wedi eu personoli ac efallai y bydd rhaid i chi sefyll y rhain.  Mae’r rhain yn asesu eich sgiliau darllen a rhifedd.
  • Bydd eich athrawon yn dweud wrthych chi pryd i ddefnyddio eich cyfrif Hwb i sefyll yr asesiadau (fel rheol pan fyddwch ym Mlwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 9).  Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ganiatáu i chi fewngofnodi i gwblhau’r asesiad yn ddiogel.
  • Mae gwefan Hwb hefyd yn caniatáu i chi fewngofnodi i wasanaethau addysgol eraill (er enghraifft, Microsoft Word, Excel, Outlook (e-bost), Flipgrid neu Google Workspace for Education Fundamentals). Wedyn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol â’n cyflenwyr er mwyn eich galluogi chi i ddefnyddio eu gwasanaethau. 
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth bersonol tra bydd eich cyfrif Hwb yn weithredol, ac am flwyddyn ar ôl iddo fod yn anweithredol. Byddwn yn cadw gwybodaeth am yr asesiadau am gyfnod hirach na hyn.
  • Mae gennych chi hawliau penodol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae popeth y mae angen i chi ei wybod ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/your-data-matters.