English

Mae gan bob athro cyflenwi yr hawl i gael ei gyfrif Hwb Athrawon Cyflenwi cludadwy ei hun (sy’n cynnwys Office 365, yn ogystal â'ch cyfeiriad e-bost Hwb eich hun). Tîm Hwb sy'n creu cyfrifon Hwb Athrawon Cyflenwi.

Darperir cyfrifon Athro Cyflenwi Hwb i unigolion sydd wedi'u cofrestru gyda'r CGA gyda chategori Athro Ysgol. I gael cyfrif dylech weithio fel Athro Cyflenwi mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

Drwy gael cyfrif Hwb Athrawon Cyflenwi, rydych chi’n cytuno i gadw at delerau ac amodau Hwb. Rhaid i unrhyw beth rydych chi’n ei wneud ar Hwb gael pwrpas addysgol. Ni ddylech ystyried bod unrhyw rai o’ch gweithgareddau yn rhai preifat neu gyfrinachol. 

Rhowch eich manylion llawn oherwydd byddant yn cael eu gwirio yn erbyn cofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg.